Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o ddiwygiadau i'r system ardrethi annomestig yng Nghymru, yn ystod tymor y Senedd bresennol. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r uchelgais i sicrhau Cymru decach, wyrddach a chryfach. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i unrhyw newidiadau posibl i'r system ardrethi annomestig. Rydym wedi datblygu cynigion er mwyn helpu i gymell buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac, yn ei dro, gyfrannu at y gwaith o gyflawni ein nodau o ddatgarboneiddio a sicrhau Cymru sero net.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i esemptio peiriannau a pheirianwaith adnewyddadwy cymwys rhag cael eu cynnwys mewn ymarferion prisio ar gyfer ardrethi annomestig a darparu rhyddhad ar gyfer rhwydweithiau gwres carbon isel, o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae'n gymwys i Gymru yn unig, ond mae cynigion tebyg hefyd wedi cael eu datblygu gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr. 

Peiriannau a pheirianwaith adnewyddadwy

Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 yn nodi'r peiriannau a'r peirianwaith y tybir eu bod yn rhan o eiddo a gaiff ei brisio at ddibenion ardrethi annomestig ac yn darparu ar gyfer rhai esemptiadau. Peiriannau a pheirianwaith “Dosbarth 1” yw peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir yn bennaf neu'n yn unig mewn cysylltiad â chynhyrchu pŵer, storio pŵer, y newid pŵer cyntaf neu'r prif drosglwyddiad pŵer yn yr eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid newid y rheoliadau er mwyn eithrio’r canlynol rhag Dosbarth 1 os ydynt yn gymwys: peiriannau a pheirianwaith i storio, newid neu drosglwyddo pŵer ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle neu ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan. Bydd yr esemptiadau arfaethedig yn sicrhau bod peiriannau a pheirianwaith cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy ar y safle yn cael eu trin yn union yr un ffordd â’r rhai a ddefnyddir i allforio ynni i'r grid (lle mae esemptiad eisoes yn bodoli) ac, ar ben hynny, yn darparu cymorth ar gyfer storio ynni a ddefnyddir i bweru cerbydau trydan.

Diffinnir peiriannau a pheirianwaith esempt fel peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio i gynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo pŵer, lle mae'r ffynonellau ynni neu'r technolegau y dibynnir arnynt yn cynnwys, yn bennaf neu'n unig:

  • biomas
  • biodanwyddau
  • bio-nwy
  • celloedd tanwydd
  • systemau ffotofoltäig
  • dŵr (gan gynnwys tonnau a llanwau)
  • y gwynt
  • pŵer solar
  • systemau geothermol
  • wres o aer, dŵr neu'r ddaear.

Bydd yr esemptiad ar gyfer peiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy yn ymestyn i gynnwys y cyfarpar cysylltiedig a fyddai, fel arall, yn ardrethadwy o dan Ddosbarth 1 hefyd, gan gynnwys cyfarpar a ddefnyddir i storio, newid a throsglwyddo pŵer. Mae hyn yn golygu y caiff cyfarpar ategol, megis newidyddion, dynamoau, ceblau a dargludyddion, eu cynnwys yn yr esemptiad hefyd.

Mae'n bosibl na fydd rhai peiriannau a rhai eitemau o beirianwaith yn gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy yn unig. Er mwyn cael budd o'r esemptiad arfaethedig, rhaid bod y peiriannau a'r peirianwaith yn cael eu defnyddio i gynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo pŵer, lle y daw'r ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn gyfan gwbl neu'n bennaf. Er enghraifft, os bydd gan eiddo ddwy ffynhonnell o ynni, un sy'n ffynhonnell adnewyddadwy ac un nad yw'n ffynhonnell adnewyddadwy, bydd yr esemptiad yn gymwys i'r rhannau hynny o'r system sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i gynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo ynni o'r ffynhonnell adnewyddadwy.

Diffinnir peiriannau a pheirianwaith gwefru cerbydau trydan esempt fel peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio'n bennaf neu'n unig i storio, newid neu drosglwyddo pŵer ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan ac sy'n perthyn i’r categorïau canlynol yn Nosbarth 1:

  • batris storio â standiau ac ynysyddion, switshys rheoli, cyfnerthyddion a chysylltiadau sy'n rhan o unrhyw gyfarpar o'r fath
  • newidyddion sefydlog; awtonewidyddion; generaduron modur; trawsnewidyddion modur; trawsnewidyddion cylchdro; newidyddion traws; unionwyr; trawsnewidyddion gwedd; newidyddion tonfedd

I osgoi amheuaeth, mae’n bosibl y bydd eitemau mawr iawn neu bethau fel adeiladau neu strwythurau yn dal i fod yn ardrethol o dan "Ddosbarth 4" y rheoliadau. Ar gyfer ynni adnewyddadwy, nid oes disgwyl i lawer mwy na’r sylfaen, er enghraifft, fod yn ardrethol, ac mewn llawer o achosion bydd y peiriannau a’r peirianwaith gweddilliol yn cael eu colli wrth i brisiad gael ei dalgrynnu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid darparu ar gyfer yr esemptiadau a nodir uchod tan 31 Mawrth 2035. Byddai angen deddfwriaeth bellach pe penderfynid ymestyn yr esemptiad y tu hwnt i 1 Ebrill 2035.

Rhyddhad rhwydweithiau gwres

Ar 5 Ebrill 2023, cyhoeddoddd Llywodraeth Cymru fod Bil Ardrethi Annomestig Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno diwygiadau penodol cyn gynted â phosibl. Mae'r diwygiadau hyn yn cynnwys rhyddhad newydd ar gyfer rhwydweithiau gwres, y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid ei ddarparu er mwyn helpu i hybu twf yn y rhan carbon isel o'r sector hwn.

Mae rhwydweithiau gwres yn cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i ddefnyddwyr, drwy rwydwaith o bibellau. Maent yn amrywio'n fawr o ran eu maint a'r defnydd a wneir ohonynt, o system wresogi gyffredin mewn adeilad amlfeddiannaeth i rwydweithiau annibynnol mawr sy'n darparu gwres neu bŵer i lawer o gwsmeriaid ac adeiladau ar draws ardal fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid darparu rhyddhad llawn (100%) ar gyfer hereditamentau annomestig a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwres sy'n darparu ynni thermol a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel. Esbonnir yr amodau cymhwyso yn fanylach yn yr adrannau nesaf.

Prin yw'r rhwydweithiau gwres carbon isel yng Nghymru ar hyn o bryd a chydnabyddir y bydd cymhwystra cychwynnol i gael y rhyddhad arfaethedig yn gyfyngedig iawn. Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi datblygiad a thwf y sector hwn a ragwelir dros y degawd nesaf, drwy helpu i leihau'r rhwystrau ariannol i sefydlu rhwydweithiau. Bwriedir i hyn helpu i gefnogi'r broses o symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil a datgarboneiddio gwres.

I ddechrau, bydd yn bosibl darparu rhyddhad rhwydweithiau gwres tan 31 Mawrth 2035, o dan y ddarpariaeth alluogi. Os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ymestyn y rhyddhad y tu hwnt i 1 Ebrill 2035, gall ddeddfu i newid y dyddiad dod i ben hwnnw.

A ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwres

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid diffinio ystyr rhwydwaith gwres sy'n gymwys i gael y rhyddhad mewn rheoliadau. At ddibenion y rhyddhad, mae rhwydwaith gwres yn gyfleuster sy'n cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog i gwsmeriaid, drwy rwydwaith o bibellau, at ddibenion gwresogi gofod, oeri gofod neu ddŵr poeth domestig. Ni fydd rhwydweithiau sy'n darparu gwres yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddiben arall (megis proses ddiwydiannol) yn gymwys.

Rhaid i'r hereditament (uned o eiddo annomestig ag asesiad ardrethu ar wahân) yn ei gyfanrwydd ateb y diffiniad hwn ac ni fydd rhyddhad rhwydweithiau gwres ar gael ar gyfer rhan o hereditament. Mae llawer o rwydweithiau gwres yn rhan o'r gwasanaethau i eiddo a ddefnyddir at ddiben ehangach ac nid oes ganddynt asesiad ardrethu ar wahân. Ni fydd eiddo o'r fath yn gymwys i gael y rhyddhad.

Bydd rhwydweithiau gwres sy'n cael eu rhedeg fel busnes ar wahân ac sy'n hereditament annomestig yn eu rhinwedd eu hunain yn gymwys i gael y rhyddhad. Mae rhwydweithiau o'r fath yn osgoi'r angen am foeleri neu wresogyddion trydan unigol ym mhob adeilad a gyflenwir ganddynt. Felly, gallent leihau biliau ac allyriadau carbon o systemau gwresogi. Mae rhwydweithiau gwres yn unigryw oherwydd gallant ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni a adferwyd ar raddfa fawr megis gwres o wastraff, afonydd a mwyngloddiau.

Mae a wnelo'r amod hwn ag ynni thermol, nid dibenion cynhyrchu trydan. O ganlyniad, ni ddisgwylir i hereditamentau sy'n cynnwys gorsafoedd pŵer a system adfer gwres a rhwydwaith fod yn gymwys i gael y rhyddhad. Petai system adfer gwres a rhwydwaith sy'n cael gwres o orsaf bŵer mewn hereditament gwahanol i'r orsaf bŵer, gallai fod yn gymwys o hyd. Ni fyddai cyfleuster gwres a phŵer cyfunol sy'n cynhyrchu mwy o drydan na gwres yn gymwys i gael y rhyddhad.

Bydd ystyriaethau tebyg yn gymwys lle y daw'r gwres o losgydd neu safle a ddefnyddir i gynhyrchu ynni o wastraff. Os bydd y rhwydwaith gwres yn rhan o'r un hereditament â'r llosgydd neu'r safle, oni bai ei fod wedi'i ddynodi'n benodol yn rhwydwaith gwres, mae'n annhebygol o fodloni'r amod hwn. Ei brif ddiben fydd llosgi gwastraff neu gynhyrchu pŵer, yn ôl pob tebyg. Os bydd y rhwydwaith gwres yn ffurfio ei hereditament ar wahân ei hun, gallai fod yn gymwys o hyd.

Gwres a gynhyrchir o ffynhonnell carbon isel

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid gosod amod cymhwystra ychwanegol, sef bod yr ynni thermol a gyflenwir gan y rhwydwaith gwres yn cael ei gynhyrchu o ffynhonnell carbon isel. Ystyrir bod hon yn ffynhonnell sy'n cynhyrchu o leiaf:

  • 50% o ynni adnewyddadwy
  • 50% o wres gwastraff
  • 75% o wres a gydgynhyrchir o un broses sy'n cynhyrchu ynni thermol a thrydanol neu fecanyddol
  • 75% o ynni sy'n gyfuniad o'r uchod

Ystyrir bod ynni a gynhyrchir o ffynhonnell adnewyddadwy yn dod yn bennaf neu'n unig o'r un ffynonellau a thechnolegau â'r peiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy y cynigir y dylid eu hesemptio rhag cael eu cynnwys mewn ymarferion prisio ardrethi annomestig, fel y nodir uchod.

Mae gwres gwastraff yn cynnwys ynni thermol na ellir osgoi ei gynhyrchu fel sgil-gynnyrch proses arall, a fyddai'n cael ei wastraffu pe na byddai'n cael ei ddefnyddio at ddibenion rhwydwaith gwresogi ardal. Gall hyn gynnwys gwres a gynhyrchir drwy losgi gwastraff. Fodd bynnag, ni fyddai hereditamentau a ddefnyddir yn bennaf i losgi gwastraff yn bodloni'r amod bod hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwres.

Gallai gwres wedi'i gydgynhyrchu gael ei gynhyrchu o ffynonellau gwres a phŵer cyfunol, ond byddai'n rhaid i'r hereditament hefyd fod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel rhwydwaith gwres. Ni fyddai hereditamentau a ddefnyddir, er enghraifft, yn bennaf i gynhyrchu a gwerthu trydan, gydag ynni thermol yn cael ei gydgynhyrchu fel sgil-gynnyrch, yn bodloni'r amod hwnnw.

Mae'r diffiniad arfaethedig o ffynhonnell carbon isel yn seiliedig ar baramedrau y mae Llywodraeth Cymru ar ddeall eu bod yn cael eu cydnabod yn eang yn y sector rhwydweithiau gwres a'u defnyddio at ddibenion eraill (e.e. y Prosiect Buddsoddi mewn Rhwydweithiau Gwres). Felly, disgwylir i weithredwyr rhwydweithiau gwres cymwys allu deall y diffiniad hwn a darparu tystiolaeth ddibynadwy eu bod yn ateb y diffiniad. Cynigir y dylai'r awdurdod bilio lleol perthnasol geisio datganiad gan y talwr ardrethi i gadarnhau a yw wedi bodloni'r amod carbon isel.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r cynnig i esemptio peiriannau a pheirianwaith ar gyfer ynni adnewyddadwy a gwefru cerbydau trydan rhag cael eu cynnwys mewn ymarferion prisio ardrethi annomestig? 

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno y byddai’r rhyddhad ar gyfer rhwydweithiau gwres yn helpu i hybu twf yn y sector carbon isel?

Cwestiwn 3

A fydd y diffiniadau a gynigir yn sicrhau bod y rhyddhad rhwydweithiau gwres yn cael ei dargedu'n iawn?

Cwestiwn 4

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion polisi neu'r ffordd y cânt eu rhoi ar waith yn ymarferol?

Cwestiwn 5a

Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai'r cynigion eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

  • cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Cwestiwn 5b

Eglurwch hefyd sut y gellid datblygu'r polisi, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau:

  • effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • nad yw'n cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg nac ar drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

Y camau nesaf

Mae'r ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, caiff yr holl ymatebion eu dadansoddi a chânt eu defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylid rhoi'r rhyddhad gwelliannau arfaethedig ar waith.

Mae'r ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych hynny, gall eich ymateb aros yn ddienw.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 15 Awst 2023, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Y Gangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CardiffCF
10 3NQ

E-bostiwch: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif WG: WG47671

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.