Ymgynghoriad ar ddiwygio'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru 2025
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio eich barn ar gynigion i ddiwygio'r ffordd y caiff awdurdodau tân ac achub eu llywodraethu a'u hariannu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pennod 1: yr achos dros newid
Mae'r bennod hon yn nodi'r trefniadau presennol ar gyfer rheoli a darparu gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, a pham mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylent newid.
Mae nifer y tanau a’r bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu yn sgil tanau wedi bod yn gostwng yn sylweddol ers i'r cyfrifoldeb dros wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli yn 2004. Mae hyn, yn rhannol, yn adlewyrchu gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub o ran atal tanau a hyrwyddo diogelwch tân, gan lwyddo i leihau nifer y tanau glaswellt sy’n cael eu cynnau’n fwriadol. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y duedd honno bellach wedi aros ar yr un lefel, ac mae'r Gwasanaeth wedi bod yn araf i fynd i'r afael â phryderon am ei berfformiad, er enghraifft, o ran ymatebion i larymau ffug a chyfyngu tanau yn y tarddle.
Mae angen i'r Gwasanaeth Tân ac Achub sicrhau ei fod yn gallu ymateb i newidiadau hirdymor mewn patrymau risg. Mae newidiadau o'r fath yn deillio o, er enghraifft, poblogaeth sy’n heneiddio, newid yn yr hinsawdd, datblygiadau technolegol a newidiadau mewn deunyddiau ac arferion adeiladu. Gellir disgwyl i unrhyw un o'r rhain fod angen newidiadau mewn hyfforddiant, offer ac arferion a gweithdrefnau diffoddwyr tân. Er mwyn sicrhau hyn, mae angen i'r Gwasanaeth gael ei lywodraethu a'i ariannu mewn ffordd fodern, atebol a chynaliadwy.
Mae nifer o arolygiadau a gynhaliwyd gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru (CFRAI), ac adroddiadau annibynnol ar y diwylliant ym mhob un o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub, wedi nodi pryderon difrifol ynghylch diwylliant, arweinyddiaeth a darpariaeth weithredol gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru.
Roedd adolygiad Fenella Morris CB o’r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (SWFRS) ac adolygiadau Crest Advisory o’r diwylliant yn Awdurdodau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru yn tynnu sylw at bryderon difrifol am ddiwylliant ac arweinyddiaeth, gan gynnwys bwlio ac aflonyddu. Mae Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru wedi nodi materion o bwys sy'n ymwneud â diogelwch diffoddwyr tân a'r cyhoedd, gan gynnwys defnyddio tactegau hen ffasiwn wrth ymateb i danau mewn cartrefi, diffygion mewn hyfforddiant ac arferion gweithio annigonol. Mewn adroddiad arolygu gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025 nodwyd rhagor o faterion yn ymwneud â pherfformiad ar draws ystod o swyddogaethau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae angen i'r gwasanaeth tân ac achub allu deall ac ymateb i risgiau presennol a heriau hirdymor sy'n dod i'r amlwg, a gwneud hynny mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu cyd-destun ehangach darparu gwasanaethau cyhoeddus. Credwn nad yw'r trefniadau llywodraethu presennol yn addas i sicrhau'r nodau hyn ac mae angen eu diwygio ar frys. Mae cydnabyddiaeth eang bod diffyg trefniadau llywodraethu cadarn wedi cyfrannu at wasanaeth tân ac achub ledled Cymru nad yw wedi cael ei baratoi’n ddigonol i ddelio â pherfformiad ac arferion gwael. Mae diffyg eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau rhwng uwch swyddogion ac aelodau Awdurdodau Tân ac Achub, a diffyg atebolrwydd allanol yn gwaethygu’r sefyllfa.
Mewn ymateb i'r dystiolaeth gynyddol a nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar opsiynau i ddiwygio drwy is-ddeddfwriaeth yn y tymor hwn yn y Senedd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r uchod trwy ddarparu opsiynau i wella arweinyddiaeth a phenderfyniadau Awdurdodau Tân ac Achub, i gyflwyno tryloywder wrth osod cyllidebau, ac i feithrin gwelliant parhaus trwy brosesau arolygu cadarn.
Y trefniadau presennol a beth sydd angen ei newid
Ers 1995, mae gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru wedi cael eu darparu gan dri Awdurdod Tân ac Achub. Mae pob Awdurdod, yn ôl y gyfraith, yn awdurdod cyfun, sy'n golygu ei fod yn cael ei ffurfio fel cyfuniad o'r awdurdodau lleol yn ei ardal, er bod yr Awdurdod Tân ac Achub yn endid ar wahân ynddo'i hun. Mae'r awdurdodau lleol cyfansoddol hynny yn eu tro yn gyfrifol am aelodaeth a chyllid yr Awdurdod Tân ac Achub.
Aelodaeth
Mae pob awdurdod lleol yn enwebu nifer penodol o gynghorwyr i fod yn aelodau o'r Awdurdod Tân ac Achub. Mae'r nifer hwnnw'n adlewyrchu’n fras poblogaeth yr awdurdod lleol fel cyfran o boblogaeth ardal yr Awdurdod Tân ac Achub. Mae'r dull hwn yn golygu bod gan Awdurdodau Tân ac Achub aelodaeth fawr ac anhylaw.
Y dewis o ran aelodau yw un ar gyfer pob awdurdod lleol ond yn gyffredinol daw aelodau'r Awdurdodau Tân ac Achub o blith cynghorwyr nad oes ganddynt gyfrifoldebau eraill fel bod yn aelodau o weithrediaeth cyngor neu gadeiryddion pwyllgorau craffu neu archwilio. Mae cynghorwyr o'r fath yn chwarae rhan amhrisiadwy yn eu hawdurdodau o ran cynrychioli pryderon lleol a chyflawni eu mandadau etholiadol. Maent hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion dinasyddion a chymunedau yn cael eu hadlewyrchu’n deg ym mhenderfyniadau awdurdodau lleol am flaenoriaethau ar draws yr ystod eang ac amrywiol o wasanaethau y maent yn eu darparu (addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cynnal priffyrdd ac ati). Fodd bynnag, nid yw rôl aelod o Awdurdod Tân ac Achub yn galw am y priodoleddau hyn yn benodol. Mae arweinyddiaeth effeithiol y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnwys sefydlu dull gweithredu strategol i helpu i wneud yn siŵr bod y risg o dân ac argyfyngau eraill mewn cymunedau yn cael ei rheoli'n effeithiol, gan sicrhau bod y Gwasanaeth yn barod i ymateb i newid mewn modd diogel ac effeithiol, ac yn gallu gwneud hynny, a sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn effeithlon ac yn rhoi gwerth am arian. Mae angen i aelodau ddarparu arweinyddiaeth strategol i'r Gwasanaeth, a chefnogi a herio uwch swyddogion o ran cyflawni.
Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i aelodau fod yn glir ynghylch eu rôl a rôl uwch swyddogion a chael yr adnoddau a'r hyfforddiant priodol i gyflawni'r rôl honno yn effeithiol.
Credwn y dylai llywodraethu ar lefel Aelod gael ei strwythuro mewn ffordd sy’n creu system arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth effeithlon ac effeithiol, ac y dylai aelodau gael eu grymuso a meddu ar y sgiliau addas i bennu cyfeiriad strategol clir ar gyfer y Gwasanaeth ac i ddal swyddogion i gyfrif am gyflawni’r cyfeiriad hwnnw. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod ar draul gwybodaeth ac atebolrwydd lleol.
Ochr yn ochr â'r cynigion a nodir ym Mhennod 1 ynghylch newidiadau i nifer yr aelodau a'r drefn ar gyfer penodi aelodau, mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio adolygiad o hyfforddiant a datblygiad aelodau. Mae'r rhaglen hyfforddi a datblygu newydd yn un o bedair elfen allweddol pecyn cymorth sydd eisoes ar y gweill i gefnogi pob Awdurdod Tân ac Achub ar ôl cyhoeddi'r adolygiadau o ddiwylliant yn Awdurdodau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru ym mis Chwefror 2025. Bydd yr ymgynghoriad hwn, sy'n cael ei datblygu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn ffurfio rhan annatod o'n cynlluniau cyffredinol i wella trefn lywodraethu'r gwasanaeth tân ac achub. Ond nid ydym yn ymgynghori yn y ddogfen hon ar y cynigion anstatudol hyn yr ydym yn credu sy'n angenrheidiol waeth beth fo'r newidiadau llywodraethu eraill a gyflwynir.
Bydd y rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr yn cynnwys y canlynol:
- eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau aelodau Awdurdodau Tân ac Achub a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl yn effeithiol
- datblygu model trosfwaol o hyfforddiant a chefnogaeth i aelodau sy'n adlewyrchu'r uchod ac a fydd yn cwmpasu diwylliant sefydliadol ac ymgysylltu â'r gweithlu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cyd-destun strategol a blaenoriaethau'r gwasanaethau tân ac achub, yn ogystal â llywodraethu da, atebolrwydd, egwyddorion rheoli arian cyhoeddus, a safonau ymddygiad
- cynlluniau hyfforddi manwl i lenwi'r bylchau rhwng yr hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd a'r hyn sy'n ofynnol
- offeryn asesu perfformiad aelodau sy'n adlewyrchu'r uchod
- hyfforddiant i swyddogion ar gefnogi a gweithio gydag aelodau Awdurdodau Tân ac Achub
Darparu adnoddau
Mae bron y cyfan o gyllid Awdurdodau Tân ac Achub yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol ar ffurf cyfraniadau y mae pob Awdurdod Tân ac Achub yn eu cyfrifo a'u codi ar bob un o'i gynghorau cyfansoddol. Pennir swm y cyfraniad gan bob Awdurdod Tân ac Achub unigol. Yn ymarferol, nod Awdurdodau Tân ac Achub yw codi cyfraniadau sy'n seiliedig yn fras ar gyfran pob Awdurdod Tân ac Achub o'r boblogaeth leol, cyfyngu ar gynnydd mewn cyllid i'r isafswm y mae'r Awdurdod Tân ac Achub yn credu sy'n angenrheidiol, a darparu ar gyfer unrhyw amheuon neu sylwadau a wneir gan awdurdodau lleol, ond nid oes dim sy'n mynnu eu bod yn gwneud hynny.
Nid oes gan awdurdodau lleol na Llywodraeth Cymru unrhyw hawl i herio'r cyfraddau hynny. Mewn cyferbyniad â hyn, mae awdurdodau lleol yn cael y mwyafrif o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei thro angen cymeradwyaeth y Senedd i osod cyllideb; mae'r rhan fwyaf o falans cyllid pob awdurdod lleol yn cael ei godi o'r Dreth Gyngor, ac mae'r awdurdod a'i aelodau yn atebol yn uniongyrchol i'r etholwyr am hynny. Mae diffyg unrhyw fath o reolaeth allanol dros gyllidebau Awdurdodau Tân ac Achub yn unigryw yn sector cyhoeddus y DU. Mae'r trefniadau presennol yn golygu ad oes ffyrdd digonol o wirio neu herio penderfyniadau cyllidebol Awdurdodau Tân ac Achub. Mae sbardun pwerus posibl i sicrhau gwerth am arian yn absennol.
Mae'r gwasanaethau brys yn wahanol i'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus eraill. Rhaid iddynt bob amser fod ar gael i unrhyw un sydd eu hangen, ac ni all y rhai sy'n darparu’r gwasanaethau ragweld y galw'n llawn na'i reoli drwy ddefnyddio rhestrau aros neu debyg. Mae hynny'n effeithio'n sylweddol ar adnoddau a chyllidebau, sy’n gorfod darparu ar gyfer y galw mwyaf ar unrhyw adeg benodol. Dylai unrhyw ddiwygio gydnabod hynny, yn ogystal ag ystyried yr angen am lywodraethu a thryloywder priodol yng nghyswllt arian cyhoeddus. Credwn y dylai mecanweithiau cyllido roi gwerth amlwg am arian, ac y dylent fod yn deg ac yn dryloyw, yn enwedig yng ngoleuni pwysau ehangach ar gyllid cyhoeddus. Dylai diwygio greu atebolrwydd allanol ar gyfer penderfyniadau ynghylch cyllidebau a gwariant Awdurdodau Tân ac Achub, gan gydnabod nodweddion penodol darparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau brys.
Atebolrwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y trefniadau hyn yn golygu nad yw Awdurdodau Tân ac Achub mor atebol ag y dylent fod. Nid yw aelodau'n cael eu hethol yn uniongyrchol (fel y mae awdurdodau lleol neu aelodau'r Senedd) ac nid yw Awdurdodau Tân ac Achub yn atebol yn ffurfiol ac yn glir i gyrff o'r fath.
Er bod aelodau Awdurdodau Tân ac Achub yn gynghorwyr etholedig, nid yw'r cynghorwyr hynny'n atebol i'w cyngor 'cartref' am eu gweithredoedd fel aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub. Wrth weithredu fel aelodau o'r Awdurdod Tân ac Achub, mae dyletswydd arnynt yn hytrach i weithredu er budd yr Awdurdod fel cyfangorff. Nid yw penderfyniadau Awdurdodau Tan ac Achub yn seiliedig ar unrhyw fath o fandad democrataidd, ac nid yw aelodau Awdurdodau yn atebol i'r etholwyr am y penderfyniadau hynny ychwaith.
Ar yr un pryd, nid yw Awdurdodau Tân ac Achub yn gwbl atebol i Lywodraeth Cymru, nac i Senedd Cymru drwyddi chwaith. Er bod Llywodraeth Cymru yn gosod cyfeiriad strategol eang ar ffurf y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub, dim ond canllawiau y mae'n rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub 'roi sylw' iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau yw'r rhain; Awdurdodau Tân ac Achub yn unig sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau strategol a gweithredol.
Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn agored i archwilio ac arolygu gan Archwilio Cymru, yn yr un modd â phob corff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae hynny'n allanol, yn annibynnol ac yn dryloyw; ond mae wedi'i gyfyngu gan gylch gwaith statudol a methodoleg archwilio Archwilio Cymru. Er enghraifft, nid yw archwilwyr byth yn herio sylwedd penderfyniadau polisi neu benderfyniadau gwario unrhyw sefydliad nac yn dadlau dros opsiynau eraill. Dim ond y ffordd y cafodd y penderfyniadau hynny eu gweithredu a'u hadlewyrchu yng nghyfrifon y sefydliad y maent yn gallu ei hystyried.
Arolygu a rheoli perfformiad
Mae trefniadau rheoli perfformiad presennol Awdurdodau Tân ac Achub wedi'u nodi ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Mesur 2009). Yn fras, mae Mesur 2009 yn gosod gofyniad cyffredinol ar Awdurdodau Tân ac Achub i 'wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus' wrth arfer eu swyddogaethau. Rhaid i drefniadau rheoli perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub gynnwys y canlynol:
- ffurfio ac ymgynghori ar 'amcanion gwella' blynyddol, h.y. blaenoriaethau ar gyfer gwella yn y flwyddyn i ddod
- casglu data perfformiad meintiol a mathau eraill o wybodaeth sy'n dangos i ba raddau y mae'r amcanion hynny'n cael eu cyflawni
- adrodd yn gyhoeddus ar ôl diwedd y flwyddyn ynghylch cynnydd o ran cyflawni amcanion gwella
- archwiliad blynyddol gan Archwilio Cymru i weld i ba raddau y mae'r Awdurdod Tân ac Achub wedi cydymffurfio â'r Mesur
Lluniwyd y trefniadau hyn yn bennaf ar gyfer awdurdodau lleol sy'n wynebu heriau gwahanol iawn i Awdurdodau Tân ac Achub. Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddiwygiadau i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, gan roi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno gofynion adrodd ar berfformiad mewn perthynas ag arfer swyddogaethau Awdurdodau Tân ac Achub, gan gynnwys adrodd ar gynlluniau ac asesu perfformiad. Bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio cyn gynted ag y caiff y Fframwaith Cenedlaethol newydd ei gyflwyno.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r rhaglen arolygu ar gyfer Cymru wedi canolbwyntio ar gyfres o “adolygiadau thematig” sy'n edrych yn bennaf ar elfennau penodol o swyddogaethau gweithredol y gwasanaethau tân ac achub. Bob blwyddyn, mae Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, mewn trafodaeth â Llywodraeth Cymru, ac ar sail unrhyw fater arwyddocaol sy'n berthnasol bryd hynny, yn penderfynu ar bwnc pob adolygiad, er enghraifft yr adolygiad thematig a gynhaliwyd yn 2021 ar ôl cyhoeddi adroddiad Cam 1 Ymchwiliad Tŵr Grenfell i asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y tri Awdurdod Tân ac Achub yn erbyn ei argymhellion. Fodd bynnag, mae'r adroddiadau annibynnol ar ddiwylliant Awdurdodau Tân ac Achub wedi datgelu materion sy'n mynd y tu hwnt i faterion gweithredol. Er bod materion diwylliannol tebyg wedi'u canfod mewn Awdurdodau Tân ac Achub y tu allan i Gymru, serch bod rhaglenni arolygu ehangach ar waith mewn mannau eraill, credwn y gallai fod gwerth mewn proses arolygu annibynnol fwy cyfannol sy'n cwmpasu rôl a holl swyddogaethau Awdurdodau Tân ac Achub, gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethu, diwylliant, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub ar bob lefel ac ar draws pob swyddogaeth yn cyfrannu at ddarparu gwell gwasanaethau i'r cyhoedd, gan gadw'r cyhoedd a staff Awdurdodau Tân ac Achub yn ddiogel. Mae'n bwysig bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn unrhyw raglen arolygu.
Credwn y dylai Awdurdodau Tân ac Achub fod yn atebol, mewn modd clir ac agored, i awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, ac y dylent groesawu a gweithredu ar graffu, herio a beirniadaeth adeiladol.
Rydym hefyd yn credu y dylai archwilio ac arolygu fod yn annibynnol, nodi arferion da a drwg yn y sector yn gyson ac yn glir, a dylai arwain at argymhellion y mae'n rhaid i Awdurdodau naill ai eu derbyn neu gynnig rhesymau cymhellol dros gymryd camau amgen.
Amcanion diwygio
Felly, ein prif amcanion ar gyfer diwygio yw'r canlynol:
- Dylai llywodraethu ar lefel aelodau gael ei strwythuro mewn ffordd sy’n creu system arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth effeithlon ac effeithiol.
- Dylai aelodau gael eu grymuso a meddu ar y sgiliau addas i bennu cyfeiriad strategol clir ar gyfer y Gwasanaeth ac i ddal swyddogion i gyfrif am gyflawni’r cyfeiriad hwnnw.
- Dylai mecanweithiau cyllido roi gwerth amlwg am arian, a dylent fod yn deg ac yn dryloyw, yn enwedig yng ngoleuni pwysau ehangach ar gyllid cyhoeddus.
- Dylai Awdurdodau Tân ac Achub fod yn atebol, mewn modd clir ac agored, i awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, ac y dylent groesawu a gweithredu ar graffu, herio a beirniadaeth adeiladol.
- Dylai archwilio ac arolygu fod yn annibynnol, nodi arferion da a drwg yn y sector yn gyson ac yn glir, a dylai arwain at argymhellion y mae'n rhaid i Awdurdodau naill ai eu derbyn neu gynnig rhesymau cymhellol dros gymryd camau amgen.
Cyfyngiadau ar y newid y gellir ei gyflwyno o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y cynigion hynny y gellir eu cyflwyno’n gyflym drwy is-ddeddfwriaeth a newid polisi. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau i'r trefniadau llywodraethu rydym yn disgwyl y byddant yn esgor ar welliannau ystyrlon yn gyflym a heb darfu ar wasanaethau rheng flaen. Rydym am weld trefniadau newydd ar waith cyn gynted â phosibl.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer diwygio trefniadau llywodraethu mewn partneriaeth gymdeithasol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ar y materion hyn gan gynnwys Cadeiryddion Awdurdodau Tân ac Achub a Phrif Swyddogion Tân, Comisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Undebau Llafur perthnasol, awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'r trafodaethau hyn wedi ein helpu i lunio'r opsiynau ar gyfer diwygio sydd wedi'u nodi yn y ddogfen ymgynghori hon.
Pennod 2: cynigion ar gyfer newid aelodaeth
Fel y nodwyd yn yr achos dros newid, credwn y dylai llywodraethu ar lefel Aelod gael ei strwythuro mewn ffordd sy’n creu system arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth effeithlon ac effeithiol. Dylai aelodau gael eu grymuso a meddu ar y sgiliau addas i bennu cyfeiriad strategol clir ar gyfer y Gwasanaeth ac i ddal swyddogion i gyfrif am gyflawni’r cyfeiriad hwnnw.
Ein nod yw lleihau cymhlethdodau ac oedi wrth wneud penderfyniadau effeithiol a hwyluso aelodaeth sydd ag arbenigedd ehangach i wella'r gwaith o bennu cyfeiriad strategol, gwneud penderfyniadau a chraffu ar gynigion a gyflwynir i’r Awdurdodau Tân ac Achub. Rydym yn cynnig gwneud hyn drwy sicrhau set ehangach o sgiliau, arbenigedd ac amrywiaeth ar draws aelodau Awdurdodau Tân ac Achub.
Ffynonellau aelodaeth
Fel arfer, mae aelodau o gyrff cyhoeddus (ac eithrio'r rheini sy'n cael eu hethol yn uniongyrchol) yn cael eu henwebu neu eu penodi i'w swyddi gan sefydliadau neu ddeiliaid swyddi eraill. Mae dau opsiwn eang drwy is-ddeddfwriaeth ar gyfer hynny yng nghyswllt Awdurdodau Tân ac Achub, sef:
- Gallai awdurdodau lleol barhau i enwebu cynghorwyr i fod yn aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub.
- Gellid cymysgu aelodaeth gyda rhai aelodau yn cael eu henwebu gan awdurdodau lleol a rhai yn cael eu penodi’n annibynnol ar sail teilyngdod, ar ôl cystadleuaeth deg ac agored. Mae nifer o ddulliau posibl o ddefnyddio model o'r fath:
- Gallai Gweinidogion Cymru benodi aelodau annibynnol yn uniongyrchol ar ôl cystadleuaeth deg ac agored.
- Gallai awdurdodau lleol barhau i enwebu cynghorwyr, ond hefyd benodi rhai aelodau'n uniongyrchol, ar ôl cystadleuaeth deg ac agored.
- Gallai Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol benodi aelodau annibynnol yn uniongyrchol.
Er bod cadw'r dull presennol yn cadw arweinyddiaeth wleidyddol Awdurdodau Tân ac Achub ar ei lefel leol bresennol, byddai aelodaeth gymysg yn cyflwyno set ehangach o arbenigedd ac amrywiaeth, gydag aelodau a benodir yn uniongyrchol yn cynnig her a safbwynt gwahanol.
Nifer a math o aelodau
Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru aelodaeth fawr ac anhylaw. Ar hyn o bryd mae gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru 28 aelod, mae gan Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 25 aelod a, cyn ymyrraeth Llywodraeth Cymru, roedd gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru 24 aelod. Mae hyn yn aelodaeth fwy nag unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol ac nid yw’n llawer llai nag aelodaeth ein hawdurdodau lleol llai, er mai cyfran fach iawn o gyllidebau cyrff o'r fath sydd gan Awdurdodau Tân ac Achub. Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yw'r Awdurdod mwyaf yn y DU o ran aelodaeth er ei fod yn un o'r lleiaf o ran poblogaeth a wasanaethir.
Yn gyffredinol, mae aelodaeth o bob awdurdod lleol cyfansoddol yn seiliedig ar boblogaeth a faint o gyllid y mae pob un yn ei gyfrannu. Er enghraifft, mae Cyngor Sir Abertawe yn enwebu saith aelod i eistedd ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn enwebu dau.
Mae'n ofynnol i aelodau Awdurdodau Tân ac Achub weithredu er budd gorau'r Gwasanaeth Tân ac Achub fel cyfangorff yn hytrach na buddiannau eu hawdurdod lleol cyfansoddol, a chredwn y dylai hynny barhau. Nid oes cysylltiad rhwng rôl aelod ar yr Awdurdod Tân ac Achub a'r ward y mae'n ei chynrychioli yn yr awdurdod lleol. Felly, mae hyn yn taflu amheuon ar ddefnyddio cynrychiolaeth sy'n gymesur â phoblogaeth yr awdurdod lleol. Mae aelodaeth rhy fawr yn cymhlethu ac yn llesteirio gwneud penderfyniadau effeithiol ac yn arwain at gostau ychwanegol ar ffurf cyflogau a threuliau aelodau.
Credwn y byddai'n well i aelodau Awdurdodau Tân ac Achub fod yn llai o ran nifer, ond dylent gael cylch gwaith sydd wedi'i ddiffinio'n gliriach a'r gallu i'w gyflawni. Rydym wedi nodi o'r blaen fod aelodau presennol Awdurdodau Tân ac Achub bron bob amser yn cael eu henwebu o rengoedd cynghorwyr 'meinciau cefn', h.y. y rhai nad ydynt yn aelodau o weithrediaeth cyngor neu gadeiryddion pwyllgorau craffu neu archwilio. Mae'r dull hwn yn gwahanu trefniadau llywodraethu gwasanaethau tân ac achub oddi wrth wasanaethau lleol eraill i bob pwrpas.
Un opsiwn fyddai bod yn rhaid i bob aelod o'r Awdurdodau Tân ac Achub sydd wedi’u henwebu fod yn aelodau o gabinet eu cyngor, sydd wedi'u penodi gan yr Arweinydd fel arfer. Byddent yn dod at ei gilydd fel Awdurdodau Tân ac Achub sy'n gwneud penderfyniadau gweithredol, gan ymgymryd â'r rolau a arferwyd ganddynt yn eu hawdurdod 'cartref'. Byddai hyn yn cryfhau arweinyddiaeth strategol a chysylltiadau â gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, mae gennym bryderon am allu aelodau'r cabinet i gyflawni rôl aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub o ystyried y cap statudol presennol ar y nifer a all fod yn aelod o gabinet awdurdod lleol.
Fel arall, gallai pob awdurdod lleol enwebu un aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub, beth bynnag fo'i boblogaeth, gyda phenodiadau uniongyrchol annibynnol yn ategu hyn. Gall aelodau annibynnol ddod â'u profiad o lywodraethu, archwilio, trawsnewid, meddu ar wybodaeth strategol, meddwl yn arloesol a'r profiad sydd ganddynt o weithio mewn sectorau eraill. O dan y ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae Gweinidogion Cymru yn gallu penodi hyd at 49% o aelodaeth yr Awdurdod Tân ac Achub yn uniongyrchol. Nid oes cyfyngiad o'r fath ar Awdurdodau Lleol. Gallai traean o aelodaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub felly fod yn benodiadau annibynnol. Byddai hynny'n bodloni ein nod o leihau maint aelodaeth Awdurdodau Tân ac Achub ac yn cyflwyno ystod ehangach o arbenigedd, gan gadw arweinyddiaeth wleidyddol Awdurdodau Tân ac Achub ar lefel leol ar yr un pryd.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn am leihau nifer yr aelodau a enwebir gan awdurdodau lleol i un fesul awdurdod lleol, a phenodi traean o'r aelodau yn annibynnol, neu ddulliau gweithredu eraill.
Craffu a herio
Mewn awdurdodau lleol, mae atebolrwydd yn cael ei gryfhau drwy rannu cyfrifoldebau rhwng cabinet, sy'n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau pwysig, a phwyllgorau craffu, sy'n dal y cabinet i gyfrif. Nid yw'r drefn hon yn bodoli'n ffurfiol mewn Awdurdod Tân ac Achub oherwydd mae'n dibynnu ar aelodau’n cael eu hethol ar sail mandad gwleidyddol. Mae cabinet awdurdod lleol fel arfer yn cynnwys grŵp o’r blaid sy'n rheoli neu'r glymblaid, gyda phwyllgorau craffu’n cael eu ffurfio i roi cynrychiolaeth deg i bleidiau eraill. Hyd yn oed o dan fodel lle roedd aelodaeth Awdurdod Tân ac Achub yn dod o gabinet awdurdod lleol, gallai aelodau unigol fod yn destun craffu yn eu hawdurdodau 'cartref', ond ni fyddai hynny o reidrwydd yn cynnwys eu rolau fel aelodau o Awdurdod Tân ac Achub, ac ni fyddai'n berthnasol i'r Awdurdodau Tân ac Achub cyfan.
Mae angen ffordd arall o ddal yr Awdurdod Tân ac Achub i gyfrif a chyflwyno her adeiladol i'w benderfyniadau. Yn ei adroddiad ar lywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub, 'Seinio'r Larwm' a gyhoeddwyd yn 2024, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn awgrymu bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn gweithredu fel y weithrediaeth gyda gweddill aelodau'r Awdurdod yn gweithredu mewn rôl graffu. Byddai hynny’n golygu bod y weithrediaeth (hy y cadeirydd a’r is-gadeirydd) yn cael eu penodi gan y rheini sydd wedi cael y dasg o graffu arnynt. Nid yw'n glir sut y gallai Awdurdod Tân ac Achub heb ei ethol fynd ati'n rhesymol i wneud penodiad o'r fath, na sut y byddai rolau gweithredol a rolau craffu yn cael eu gwahanu'n ymarferol. Mewn awdurdodau lleol, er bod yr Arweinydd yn cael ei benodi'n ffurfiol gan y Cyngor llawn, mae hynny bob amser yn adlewyrchu canlyniad yr etholiad, gyda'r blaid fwyafrifol neu'r glymblaid yn cyflenwi'r Arweinydd a'r Cabinet. Rydym yn poeni y byddai'r dull hwn yn ychwanegu cymhlethdod at brosesau enwebu Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer y rolau hynny. Efallai bod penodi aelodau annibynnol mewn rôl anweithredol yn opsiwn mwy ymarferol. Ni fyddai aelodau anweithredol o'r fath yn gwneud penderfyniadau; yn hytrach, eu rôl fyddai darparu cyngor a her i'r rhai sy'n gwneud hynny. Fel arfer, penodir aelodau anweithredol oherwydd yr wybodaeth neu'r arbenigedd penodol y byddent yn ei chyfrannu at y rôl ac at y sefydliad yn ei gyfanrwydd. Credwn y gallai'r dull hwn weithio'n dda yng nghyswllt Awdurdodau Tân ac Achub. Byddai'n darparu swyddogaeth graffu ac yn herio heb beryglu rheolaeth leol.
Fodd bynnag, mae achos yr un mor gryf dros gynnwys mwy o gydbwysedd yn y broses o wneud penderfyniadau o'r cychwyn cyntaf drwy roi statws cyfartal i aelodau a benodir yn uniongyrchol ag i'r aelodau hynny sy’n cael eu henwebu gan awdurdodau lleol i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau'n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r cymunedau a wasanaethir gan yr Awdurdod Tân ac Achub cyfan. Byddai rhoi statws cyfartal i bob aelod yn agor y potensial ar gyfer penodi Cadeiryddion annibynnol i gryfhau gwrthrychedd a didueddrwydd ymhellach ym mhroses gwneud penderfyniadau yr Awdurdod Tân ac Achub. O dan y cynnig hwn, byddai cyfanswm nifer yr aelodau annibynnol yn aros yn draean o'r aelodau cyffredinol i gynnal y cydbwysedd yr ydym wedi cyfeirio ato ym mharagraff 39 uchod. Byddai hynny'n golygu, er enghraifft, fod gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru Gadeirydd Annibynnol a phedwar aelod annibynnol arall, a 10 aelod o Gyngor Awdurdod Lleol.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn ymatebwyr ar y rôl fwyaf priodol ar gyfer aelodau annibynnol Awdurdodau Tân ac Achub, gan gynnwys eu barn am benodi Cadeiryddion annibynnol.
Gall awdurdodau lleol cyfansoddol benodi aelodau annibynnol (gan gynnwys Cadeirydd annibynnol). Fodd bynnag, byddem o'r farn bod angen proses a chyfres o feini prawf y cytunwyd arnynt gan Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau lleol cyfansoddol i wneud hynny. Y dull symlaf yn ôl pob tebyg fyddai i Weinidogion Cymru benodi aelodau annibynnol ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Ni fyddai hynny'n gwneud Awdurdodau Tân ac Achub yn rhy atebol i Lywodraeth Cymru, gan fod yn rhaid i aelodau etholedig o blith aelodaeth awdurdodau lleol cyfansoddol ffurfio o leiaf 51% o'r aelodaeth gyfan a'n cynnig uchod yw y dylai aelodau annibynnol ffurfio traean o'r aelodaeth gyfan. Fodd bynnag, byddai'n sicrhau cysondeb ledled Cymru a gallai ddenu mwy o ymgeiswyr o galibr uwch. Mae gennym ddiddordeb ym marn ymatebwyr ar bwy ddylai benodi aelodau annibynnol i'r Awdurdodau Tân ac Achub.
Ym Mhennod 1 rydym yn cyfeirio at waith ar wahân sy'n cael ei wneud i ddatblygu rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr ar gyfer aelodau. Bydd hyn yn cynnwys eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau aelodau a'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl yn effeithiol. Mae'n hanfodol mai dyma'r sail i broses enwebu'r awdurdod lleol, ac unrhyw broses benodi uniongyrchol a gyflwynir. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r disgwyliad a'r ddealltwriaeth honno gydag awdurdodau lleol drwy ein gwaith gyda CLlLC.
Pennod 3: cynigion ar gyfer newid cyllid
Credwn y dylai mecanweithiau cyllido roi gwerth amlwg am arian, ac y dylent fod yn deg ac yn gytbwys, o gofio’r pwysau ehangach ar gyllid cyhoeddus. Ein nod yw darparu atebolrwydd priodol am gyllidebau a gwariant, gan gynnal lefel y cyllid sydd ei angen i ddarparu ymateb brys effeithiol a'r ystod lawn o wasanaethau hanfodol eraill a ddarperir gan y Gwasanaethau Tân ac Achub.
Ffynonellau cyllid
Rydym wedi nodi tri dull posibl o ariannu Awdurdodau Tân ac Achub yn y dyfodol, sef:
- Cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai'r llwybr cyllido presennol drwy awdurdodau lleol yn dod i ben. Byddai'n rhaid i gyllid gael ei 'frigdorri’ o grant cynnal refeniw'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf. Byddai hyn yn sicrhau atebolrwydd i Lywodraeth Cymru a'r Senedd ac yn cyd-fynd yn fras â chyllid ar gyfer asiantaethau mewn meysydd fel iechyd. Byddai'n dileu'r angen i awdurdodau lleol dalu arian i Awdurdodau Tân ac Achub ond byddai'n dileu atebolrwydd lleol. Credwn y byddai cyllid gan Lywodraeth Cymru yn unig yn anghyson â'r model llywodraethu lleol ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub a gynigiwyd yn y bennod flaenorol.
- Cyflwyno praesept y Dreth Gyngor, h.y. tâl ychwanegol ar filiau Treth Gyngor lleol a bennir gan yr Awdurdod Tân ac Achub, i dalu am wasanaethau tân ac achub, dull sy'n cael ei ffafrio gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, byddai model o'r fath angen amser arwain sylweddol hirach heb o reidrwydd ddarparu unrhyw fantais sylweddol dros yr opsiynau eraill ac felly nid yw'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Byddai'r cynnig hwn hefyd yn rhoi'r pŵer i gyrff anetholedig godi trethi. Mae pob corff arall yng Nghymru sy'n codi treth neu'n codi praesept yn cael ei ethol yn uniongyrchol ac yn atebol i'r etholwyr am y trethi y maent yn eu codi.
- Cyfraniadau gan awdurdodau lleol, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond gyda rhyw fath o reolaeth allanol ar lefel cyfraniadau o'r fath, neu gytundeb yn eu cylch. Byddai hyn yn cynnal atebolrwydd lleol am gyllidebau a gwariant.
Byddai addasu’r system bresennol yn rhoi mwy o atebolrwydd a rheolaeth os yw'n ofynnol i Awdurdodau Tân ac Achub gytuno ar lefel y cyllid bob blwyddyn gyda'u hawdurdodau lleol cyfansoddol. Byddai gwneud hynny hefyd yn gosod cyllid Awdurdodau Tân ac Achub yn fwy amlwg mewn cyd-destun ehangach o ran ariannu gwasanaethau lleol eraill a byddai'n ysgogi trafodaeth ehangach. Felly, rydym yn cynnig y dylai fod yn ofynnol i Awdurdodau Tân ac Achub wneud y canlynol:
- ymgynghori â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol, yn y modd a'r dull a bennir gan yr awdurdodau lleol eu hunain gyda golwg ar ddod i gytundeb ar eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod
- cytuno ag awdurdodau lleol cyfansoddol ar y dystiolaeth y bydd ei hangen i gefnogi'r broses ymgynghori honno. Dylai hyn gynnwys y canlynol o leiaf:
- asesiad o unrhyw waith y mae'r Awdurdod Tân ac Achub wedi'i wneud i sicrhau ei fod yn effeithlon ac yn effeithiol ar draws rhychwant ei swyddogaethau a'i ddyletswyddau
- asesiad o sut y bydd y gyllideb arfaethedig yn rheoli’n effeithiol y risg a nodwyd yng Nghynlluniau Rheoli Risg Cymunedol yr Awdurdod Tân ac Achub, a sut y bydd yr Awdurdod yn monitro ac yn mesur hynny
Rydym yn credu y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar unwaith.
Pennod 4: cynigion ar gyfer newid rheoli ac arolygu perfformiad
Fel y nodwyd ym Mhennod 1, credwn y dylai Awdurdodau Tân ac Achub fod yn atebol, mewn modd clir ac agored, i awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, ac y dylent groesawu a gweithredu ar graffu, herio a beirniadaeth adeiladol.
Rydym hefyd yn credu y dylai archwilio ac arolygu nodi arferion da a drwg yn y sector yn gyson ac yn glir ac y dylai arwain at argymhellion y mae'n rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub naill ai eu derbyn neu gynnig rhesymau cymhellol dros gymryd camau amgen.
Rheoli perfformiad
Mae'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yn darparu gweledigaeth strategol Cymru-gyfan Gweinidogion Cymru ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub. Dylai fod wrth wraidd eu trefniadau rheoli perfformiad. Mae Pennod 1 yr ymgynghoriad hwn yn nodi bod gan Weinidogion Cymru bellach bwerau i gyflwyno gofynion adrodd ar berfformiad ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub y gellir eu cysylltu’n benodol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru. Canllaw yw'r Fframwaith Cenedlaethol, ond mae'n rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub ei ystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau, a byddai methu gweithredu yn unol ag ef yn berthnasol i bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru.
Mae’r Fframwaith Cenedlaethol presennol wedi bod ar waith ers 2016. Er bod llawer ohono'n dal yn ddilys, nid yw'n mynd i'r afael â materion sydd wedi codi neu wedi cynyddu o ran amlygrwydd ers hynny, fel yr argyfwng hinsawdd, tân Tŵr Grenfell a'r datgeliadau am ddiwylliannau camweithredol yn y gwasanaeth tân ac achub. Felly, ein cynllun yw datblygu ac ymgynghori ar Fframwaith Cenedlaethol newydd gyda golwg ar ei gyflwyno erbyn diwedd 2025 i 2026.
Byddwn wedyn yn datblygu trefniadau perfformiad sy'n canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau y mae'n eu nodi. Bydd y trefniadau manwl hyn yn destun ymgynghoriad pellach maes o law. Felly, yn syml iawn, cyfeirir at ein cynigion ar gyfer cyflwyno Fframwaith newydd a'r trefniadau perfformiad ategol hyn yn yr ymgynghoriad hwn er mwyn rhoi darlun cliriach o sut bydd holl elfennau amrywiol y diwygio yn gweithio gyda'i gilydd.
Byddem yn croesawu barn gynnar gan ymgyngoreion ynghylch sut y dylid adrodd yn erbyn y Fframwaith Cenedlaethol ac i bwy y dylid adrodd.
Arolygu
Mae elfen Arolygydd rôl Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru (CFRAI) yn cael ei benodi gan y Goron o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac mae'n cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae’r sawl sy’n cael ei benodi gan y Goron hefyd yn gyfrifol yn gyfreithiol am archwilio diogelwch tân yn holl safleoedd y Goron nad ydynt yn rhai milwrol yng Nghymru. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau hefyd i benodi arolygwyr cynorthwyol.
Yn Lloegr, mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub yn annibynnol ac yn yr Alban, mae Arolygiaeth Gwasanaeth Tân Ei Fawrhydi (HMFSI) yn gweithredu dan arweiniad Prif Arolygydd EF Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban. Yn hanesyddol, mae Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi comisiynu ei swyddogaeth arolygiaeth gan Arolygiaeth Gwasanaeth Tân EM.
Fel y nodir ym Mhennod 1, mae'r rhaglen arolygu ar gyfer Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf wedi canolbwyntio'n bennaf ar elfennau penodol o swyddogaethau gweithredol y Gwasanaethau Tân ac Achub, gyda phwnc pob adolygiad yn cael ei benderfynu'n flynyddol. Credwn fod angen newid hyn er mwyn darparu ar gyfer rhaglen arolygu ehangach a chryfach sy'n rhan annatod o drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cyffredinol Awdurdodau Tân ac Achub.
Credwn fod yr egwyddorion amlinellol canlynol yn allweddol i gyflawni swyddogaeth arolygu effeithiol:
- mae angen i'r swyddogaeth archwilio fod yn eang ac yn drylwyr
- dylai’r arolygiadau eu hunain a'u canlyniadau a'u hargymhellion fod yn annibynnol
- dylai Awdurdodau Tân ac Achub weithredu ar ganfyddiadau adroddiadau arolygu
- mae angen i ganfyddiadau arolygiadau fod yn hawdd i'r cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb eu deall
- dylai archwiliadau fod yn rheolaidd ac wedi'u rhaglennu, ond yn ddigon hyblyg i gwmpasu risgiau a heriau sy'n dod i'r amlwg yn y sector
Yn ein barn ni, mae hynny'n golygu bod angen:
- Rhaglen arolygu sy'n cwmpasu holl ddyletswyddau a swyddogaethau Awdurdodau Tân ac Achub, a ddylai gynnwys pobl a diwylliant, dyletswyddau cydraddoldeb ac amrywiaeth, llywodraethu, cyfeiriad strategol a rheoli risg cymunedol yn ogystal ag effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gwerth am arian a chyflawni gweithredol.
- Cynllun arolygu tymor canolig a meini prawf archwilio safonol ynghyd â deunydd i gefnogi'r rhaglen adolygu er mwyn rhoi eglurder i Awdurdodau Tân ac Achub a rhanddeiliaid eraill a chynorthwyo dull hunanwella parhaus.
- Trafod unrhyw gynllun arolygu gydag Awdurdodau Tân ac Achub a chytuno arno gyda Gweinidogion Cymru cyn ei gyhoeddi a'i gyflwyno.
- Cyhoeddi adroddiadau arolygu a dylent ddarparu dadansoddiad syml a thryloyw o berfformiad Awdurdodau Tân ac Achub sy'n hawdd i'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ei ddeall, drwy ddyfarniadau graddedig mae'n debyg. Byddai hyn hefyd yn darparu ar gyfer cymharu ar draws y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru ac, i ryw raddau, mewn mannau eraill.
- Dylai canfyddiadau arolygiadau fod yn elfen annatod o'r broses rheoli perfformiad ac adrodd ar berfformiad ym mhob Awdurdod Tân ac Achub a dylent fod yn rhan o daith wella pob Awdurdod.
- Mae angen darparu adnoddau ar gyfer unrhyw raglen arolygu er mwyn cyflawni'r uchod.
Modelau
Mae Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn darparu ar gyfer penodi arolygwyr gan Ei Fawrhydi y Brenin drwy Orchymyn y Cyfrin Gyngor, ac ar gyfer penodi arolygwyr cynorthwyol a swyddogion eraill gan Weinidogion Cymru er mwyn cael gwybodaeth ynghylch y modd y mae awdurdodau tân ac achub yn cyflawni eu swyddogaethau a materion technegol sy'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny. Mae nifer o opsiynau ar gyfer cyflawni swyddogaeth arolygu yng Nghymru, sy’n cynnwys y rhai sydd wedi’u nodi isod. Pa un bynnag o'r modelau hyn rydym yn ei ddefnyddio, bydd y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub newydd yn cynnwys disgwyliad clir y bydd Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithredu yn unol â holl ganfyddiadau’r arolygiadau a chanfyddiadau annibynnol. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ofyniad yn y trefniadau rheoli perfformiad cysylltiedig y cyfeirir atynt uchod i Awdurdodau Tân ac Achub adrodd ar eu cynnydd ar sail yr holl argymhellion arolygu ac adolygu. Bydd y Fframwaith a'r trefniadau rheoli perfformiad yn destun ymgynghoriad pellach maes o law.
- Gweinidogion Cymru yn penodi arolygwyr a swyddogion eraill i ymgymryd â rhaglen arolygu fwy cynhwysfawr: mae Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru eisoes wedi'i benodi ac yn ei swydd. Byddai'r opsiwn hwn yn darparu'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i gyflwyno rhaglen arolygu gynhwysfawr, i ddatblygu a rhannu deunydd arolygu safonol, ac i adroddiadau gael eu cyhoeddi mewn fformat sy'n addas i'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
- Dull arall o gaffael neu gomisiynu gwasanaethau gan ddarparwr sydd â chymwysterau addas: gallai'r model hwn ddefnyddio nifer o ddulliau, yn amrywio o gaffael ffurfiol, comisiynu neu drefniant partneriaeth. Gallai, er enghraifft, adeiladu ar yr ymgysylltu cadarnhaol sy’n bodoli eisoes rhwng yr arolygiaethau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallai gynnwys cysoni rhaglenni arolygu, prosesau, meini prawf arolygu a dulliau o raddio perfformiad rhwng Cymru a Lloegr.
Nid ydym wedi diystyru newid mwy radical i'r broses arolygu yn y tymor hwy, ond gallai hynny alw am ddeddfwriaeth sylfaenol yn dibynnu ar y dull y penderfynir ei fabwysiadu. Bydd y diwygiadau llywodraethu a bennir drwy'r ymgynghoriad hwn yn cael eu monitro a'u gwerthuso a bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ystyried y gofyniad am ragor o ddiwygiadau.
Cwestiynau ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno bod yr amcanion ar gyfer diwygio yn briodol ac yn bwysig?
Cwestiwn 2
A oes amcanion eraill y dylai'r rhaglen ddiwygio eu dilyn?
Cwestiwn 3
Ydych chi'n credu y dylid lleihau aelodaeth Awdurdodau Tân ac Achub er mwyn darparu proses gwneud penderfyniadau sy'n symlach ac yn fwy effeithlon ac effeithiol?
Cwestiwn 4
Ydych chi'n credu y dylai awdurdodau lleol enwebu un aelod o Awdurdod Tân ac Achub yr un?
Cwestiwn 5
Ydych chi'n credu y dylai Awdurdodau Tân ac Achub gael aelodau a benodir yn annibynnol hefyd?
Cwestiwn 6
Ydych chi'n credu y dylai aelodau annibynnol o Awdurdodau Tân ac Achub gael eu penodi gan Weinidogion Cymru?
Cwestiwn 7
Ydych chi'n cytuno y dylai aelodau annibynnol ffurfio traean o aelodaeth gyffredinol Awdurdodau Tân ac Achub?
Cwestiwn 8
Ydych chi'n credu y dylid penodi aelodau annibynnol i weithredu fel aelodau llawn o'r Awdurdodau Tân ac Achub?
Cwestiwn 9
Ydych chi’n credu y dylai Awdurdodau Tân ac Achub gael Cadeiryddion annibynnol, ac os felly pwy ddylai eu penodi?
Cwestiwn 10
Ydych chi'n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Awdurdodau Tân ac Achub ymgynghori'n ffurfiol gyda’r bwriad o ddod i gytundeb ag awdurdodau lleol ar lefel cyllid Awdurdodau Tân ac Achub bob blwyddyn?
Cwestiwn 11
A oes gennych chi unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch sut y dylid adrodd yn erbyn y Fframwaith Cenedlaethol ac i bwy y dylid adrodd?
Cwestiwn 12
Ydych chi'n cytuno â'r egwyddorion a'r gofynion ar gyfer rhaglen arolygu i Gymru fel y nodir ar dudalen 19 y ddogfen ymgynghori?
Cwestiwn 13
Ydych chi'n cytuno bod angen mynd ati mewn ffordd wahanol i arolygu'r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru? Os felly, pa agweddau ar yr opsiynau yn y papur hwn y dylid bwrw ymlaen â nhw?
Cwestiwn 14
Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion polisi uchod yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 15
Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y cynigion polisi er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 16
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am lywodraethu, cyllid, rheoli perfformiad ac arolygu Awdurdodau Tân ac Achub. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb gael sylw penodol gennym, mae croeso i chi ddefnyddio’r lle gwag hwn i'w nodi:
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 24 Hydref 2025, drwy un o'r ffyrdd canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i he-bostio i fire@llyw.cymru
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i phostio i:
Y Gangen Gwasanaethau Tân
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Y camau nesaf
Pennir cyfnod ymgynghori o 8 wythnos i sicrhau y gellir cyflwyno is-ddeddfwriaeth i gyflwyno unrhyw newid arfaethedig sy'n deillio o'r ymgynghoriad hwn erbyn diwedd 2025 i 2026. Bydd hyn yn sicrhau bod trefniadau newydd ar waith pan fydd yr ymyrraeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dod i ben. Mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol cyn yr ymgynghoriad hwn eisoes wedi digwydd.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data
- (o dan amgylchiadau penodol) i ofyn i'ch data gael eu 'dileu’
- (o dan amgylchiadau penodol) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG52625
Gallwch weld y ddogfen hon yn ieithoedd eraill. Os oes ei angen arnoch mewn fformat gwahanol, os gwelwch yn dda Cysylltu â ni.
