Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar set ddrafft o reoliadau: Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024. Mae'r rhain yn diwygio'r tair set ganlynol o Reoliadau:

Nod y diwygiadau hyn yw egluro a chryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol o dan ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('y ddeddf'), gan ganolbwyntio'n benodol ar rôl a swyddogaethau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Mae cryfhau partneriaethau rhanbarthol yn elfen allweddol o raglen cydbwyso gofal a chymorth Llywodraeth Cymru.

Y cefndir

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth at ddibenion ymgynghori yn 2021. Roedd y Papur Gwyn yn diffinio 'ailgydbwyso' o safbwynt y newid rydym am ei weld yn y ffordd y mae gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn cael eu darparu o dan y ddeddf.

Ystyr ailgydbwyso yw…

  • …symud oddi wrth gymhlethdod, tuag at symleiddio
  • symud oddi wrth brisiau, tuag at ansawdd a gwerth cymdeithasol
  • symud oddi wrth gomisiynu ymatebol, tuag at reoli’r farchnad
  • symud oddi wrth arferion seiliedig ar dasgau, tuag at arferion seiliedig ar ganlyniadau
  • symud oddi wrth ffocws sefydliadol, tuag at bartneriaeth fwy effeithiol…

...er mwyn cydgynhyrchu canlyniadau gwell gyda phobl.

Yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyn, amlinellodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol y camau nesaf mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Hydref 2021. Mae'r camau hyn yn cael eu datblygu trwy'r rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth. Mae'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen yn cynnwys tri phrif faes: 

  • creu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru, a fyddai'n rhwymo comisiynwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Byddai’r fframwaith hwn yn gosod safonau ar gyfer arferion comisiynu, yn lleihau cymhlethdod ac yn ailgydbwyso prosesau comisiynu i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau
  • creu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno'r fframwaith cenedlaethol
  • cryfhau trefniadau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn sicrhau bod gweithio ar y cyd yn diwallu anghenion poblogaethau lleol; cefnogi gwaith partneriaeth cryfach ac integreiddio gwasanaethau a gwella'r broses o baratoi llwybr ar gyfer datblygu'r partneriaethau allweddol hyn yn y dyfodol

I gynorthwyo’r gwaith yn ymwneud â threfniadau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, aethom ati i sefydlu pum grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer rhanddeiliaid yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • gwasanaethau integredig
  • cynllunio a pherfformiad
  • llywodraethu a chraffu
  • ymgysylltu a llais
  • ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol

Cynhaliwyd ymgynghoriad arall ar elfennau amrywiol y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth rhwng 22 Mai a 14 Awst 2023. Roedd y broses hon yn cynnwys dau ddigwyddiad ymgynghori. Mae canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar ein tudalen we ar gyfer y rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yma

Yn dilyn hynny, cyflwynwyd cod ymarfer newydd ar y fframwaith cenedlaethol gerbron y Senedd ar 19 Mawrth 2024, ynghyd â fersiwn ddiwygiedig o'r cod ymarfer rhan 2 ar swyddogaethau cyffredinol. Disgwylir y bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Medi 2024. Bydd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno'r fframwaith cenedlaethol, a bydd yn cael ei sefydlu ar 1 Ebrill 2024.

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Cafodd cynigion manwl i ddiwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 ('rheoliadau 2015') eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar ailgydbwyso gofal a chymorth yn ystod haf 2023, ynghyd â fersiwn ddiwygiedig ac wedi'i diweddaru o'r canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth. Cafodd cynigion ar gyfer diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 eu cynnwys hefyd.

Roedd ymgynghoriad 2023 yn amlinellu ein bwriad i ddiwygio'r rheoliadau hyn. Mae'r ymgynghoriad presennol hwn yn gofyn am farn ar set ddrafft o reoliadau, sy'n amlinellu'r diwygiadau arfaethedig ac yn ymgorffori newidiadau a gafodd eu gwneud mewn ymateb i adborth ar ein cynigion cychwynnol. Bydd newidiadau eraill yn cael eu gwneud i'r canllawiau statudol er mwyn adlewyrchu ffurf derfynol y rheoliadau ac mewn ymateb i awgrymiadau a gafodd eu gwneud yn ystod ymgynghoriad 2023.

Hefyd, rydym wedi manteisio ar y cyfle hwn i wneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021, mewn perthynas ag amseriad adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Trafodwyd y diwygiadau hyn gyda rhanddeiliaid yn ystod y digwyddiadau ymgynghori.

Yn dilyn yr ymgynghoriad presennol hwn, byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau pellach sydd eu hangen cyn cyflwyno'r rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol diwygiedig gerbron y Senedd yn yr hydref. Bwriedir i'r rheoliadau newydd a'r canllawiau statudol ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2024.

Y Gymraeg

Lluniwyd holl gynnyrch yr ymgynghoriad hwn yng nghyd-destun safonau'r Gymraeg a’r fframwaith strategol mwy na geiriau.

Mae pobl sy'n derbyn gofal neu sy'n ceisio cael gafael ar ofal yn agored iawn i niwed fel arfer, felly mae bod yn hyderus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig. Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle mae gan y Gymraeg statws swyddogol. Mae safonau’r Gymraeg sy'n rhwymo'n gyfreithiol wedi'u gosod ar gyrff iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r safonau hyn yn ategu mwy na geiriau, sef ein cynllun i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae egwyddor "y cynnig Rhagweithiol" yn ganolog i mwy na geiriau gan roi cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach na bod y claf/defnyddiwr gwasanaeth yn gorfod gofyn amdanynt. Ein gweledigaeth ar gyfer mwy na Geiriau yw i’r Gymraeg berthyn a chael ei hymgorffori mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, fel bod unigolion yn derbyn gofal sy’n diwallu eu hanghenion iaith, gan arwain at ganlyniadau gwell heb orfod gofyn amdano.
 

Pennod 1

Diwygiadau i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015

Mae rhan 9 o'r ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn arfer eu swyddogaethau, gan gynnwys byrddau partneriaeth. Diben rhan 9 yw sicrhau bod partneriaid allweddol yn cydweithio'n effeithiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darparu gwasanaethau integredig.

Cafodd rheoliadau 2015 eu gwneud o dan adrannau 166 i 168 o'r Ddeddf. Maent yn amlinellu'r gofynion i bob bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol yn ei ardal gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth er mwyn cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig. Hefyd, mae rheoliadau 2015 yn darparu ar gyfer gweithredu a rheoli’r trefniadau partneriaeth, sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol, a sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun.

Mae trefniadau partneriaethau rhanbarthol wedi esblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r byrddau wedi dod yn fforwm pwysig ar gyfer hyrwyddo gweithio ac integreiddio rhanbarthol ledled y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Un o nodau allweddol ein rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth yw cryfhau'r trefniadau hyn a gwella swyddogaeth y byrddau.

Nod ein diwygiadau arfaethedig i reoliadau 2015 yw galluogi'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i weithredu'n fwy effeithiol oddi mewn i’r maes cynllunio a darparu gwasanaethau integredig sy’n esblygu.

Yn wahanol i fyrddau iechyd lleol, nid yw byrddau partneriaeth rhanbarthol yn endidau cyfreithiol corfforaethol, sy'n gosod terfynau ar eu swyddogaethau a sut maen nhw'n eu cyflawni. Dangosodd adborth o ymgynghoriad y Papur Gwyn nad oes llawer o gefnogaeth, yn enwedig ymysg cyrff partneriaeth, i gynigion i newid statws cyfreithiol byrddau partneriaeth rhanbarthol. Fodd bynnag, wrth i'r partneriaethau esblygu ac aeddfedu, mae wedi dod yn amlwg bod y fframwaith cyfreithiol presennol yn rhy gyfyngedig i alluogi'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i wireddu eu potensial yn llawn fel sbardunau newid gwirioneddol, ac y bydd angen diwygio rheoliadau 2015 er mwyn cryfhau a grymuso'r byrddau i gael goruchwyliaeth effeithiol o'r trefniadau partneriaeth. Mae'r diwygiadau yn cwmpasu amcanion byrddau partneriaeth rhanbarthol, eu haelodau, a’r broses o lunio eu hadroddiadau blynyddol, yn ogystal â darpariaethau newydd yn ymwneud â hunanasesu a chynlluniau blynyddol. Nid ydynt yn newid statws cyfreithiol byrddau partneriaeth rhanbarthol, ond yn gweithio oddi mewn i'r fframwaith cyfreithiol presennol a nodir yn rhan 9 o'r ddeddf.

Yn dilyn ceir disgrifiad byr o'r darpariaethau allweddol yn y rheoliadau drafft.

Rheoliad 4

Amcanion byrddau partneriaeth rhanbarthol

Bwriad rheoliad 4 yw ychwanegu at ac ymestyn amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol er mwyn cryfhau goruchwyliaeth y bwrdd o'r trefniadau partneriaeth yn ei ranbarth. Mae'n diwygio ac yn ychwanegu at amcanion Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a nodir yn Rheoliad 10 o Reoliadau 2015.

Dyma amcanion presennol byrddau partneriaeth rhanbarthol:

  • sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a gweithredu'r cynllun ardal ar y cyd
  • sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y trefniadau partneriaeth
  • hyrwyddo cydgomisiynu a sefydlu cronfeydd cyfun lle y bo'n briodol

Mae rheoliad 4 yn ychwanegu bod amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol hefyd yn cynnwys sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd er mwyn:

  • ymateb i'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei lunio a'i gyhoeddi o dan adran 144B o'r ddeddf
  • rhoi sylw dyladwy i ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 16 o'r ddeddf i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector wrth ymateb i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ac wrth weithredu cynllun ardal, neu gynllun ardal ar y cyd
  • hyrwyddo datblygu trefniadau integredig o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cael eu llunio ar sail ranbarthol mewn partneriaeth â'r byrddau iechyd, ac maen nhw'n ategu'r asesiad o anghenion y boblogaeth i ddarparu tystiolaeth sydd angen ei hystyried wrth lunio'r cynllun ardal ar y cyd. Trwy ychwanegu amcan bod yn rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd i ymateb i'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, bydd modd cryfhau rôl byrddau partneriaeth rhanbarthol wrth sicrhau bod cyrff y bartneriaeth yn atebol am waith comisiynu a chynllunio strategol.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd o dan adran 16 o'r ddeddf i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector. Mae hyn yn dod o fewn y rhestr o swyddogaethau awdurdodau lleol sydd i'w cyflawni drwy drefniadau partneriaeth o dan atodlen 1 o reoliadau 2015. Trwy ychwanegu elfen o graffu ar arfer y ddyletswydd hon yng nghyd-destun y trefniadau partneriaeth at amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol, bydd modd cryfhau dull partneriaeth ranbarthol o ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol trwy hyrwyddo'r modelau a'r dulliau hyn. Hefyd, bydd yn helpu i gefnogi'r fforymau rhanbarthol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu sefydlu o dan ran 2 o'r cod ymarfer (swyddogaethau cyffredinol).

Bwriad ychwanegu amcan newydd i hyrwyddo integreiddio yw sicrhau bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael mwy o effaith wrth sbarduno system gofal cymunedol integredig i Gymru. Yn benodol, bydd yn ein galluogi i gynnwys gofyniad yn rhan 9 o'r canllawiau statudol i'r byrddau helpu i ddatblygu a gwreiddio'r chwe model integredig cenedlaethol o ofal sy'n sylfaen i weithgarwch a ariennir gan brosiectau o dan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae'r canllawiau statudol diwygiedig yn cynnwys diffiniad newydd o integreiddio a sut mae modd cyflawni integreiddio trwy sicrhau bod gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn gweithio gyda'i gilydd ar dair lefel: macro (lefel strategol sy'n canolbwyntio ar systemau), meso (integreiddio lefel sefydliadol / gwasanaeth), a micro (darparu gofal a chymorth integredig i'r unigolyn); a'r cysylltiad rhwng y tair lefel. Hefyd, mae'r canllawiau statudol yn darparu 'glasbrint' amlinellol ar gyfer system iechyd a gofal integredig, ac mae'n disgrifio ein bwriad i osod safonau ar gyfer integreiddio sydd i'w defnyddio gan reoleiddwyr wrth arolygu gwasanaethau yn y dyfodol.

Hefyd, mae rheoliad 4 yn ychwanegu bod amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys y canlynol:

  • monitro sut mae awdurdod lleol yn arfer ei ddyletswydd o dan adran 12 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 mewn perthynas ag arfer y trefniadau partneriaeth
  • gweithio gyda chorff llais y dinesydd i hyrwyddo ymglymiad pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr, yng ngwaith y trefniadau partneriaeth

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r byrddau datblygu rhanbarthol wedi canolbwyntio mwy ar ofal a chymorth integredig ar gyfer plant a phobl ifanc, gan roi pwyslais cynyddol ar ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. O dan adran 12 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i wneud trefniadau y maent yn eu hystyried yn addas i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad gan blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt. Byddai'r rheoliad drafft hwn yn creu amcan i fyrddau partneriaeth rhanbarthol fonitro arfer y ddyletswydd hon mewn perthynas â'r trefniadau partneriaeth. Er mwyn caniatáu hyn, mae’r rheoliad 8 drafft (isod) yn ychwanegu adran 12 at atodlen 1 i reoliadau 2015, sy'n rhestru swyddogaethau'r awdurdod lleol sydd i'w harfer mewn partneriaeth.
  
Ers mis Ebrill 2023, mae corff llais y dinesydd newydd (a elwir yn Llais) yn cynrychioli lleisiau a barn pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llais yn annibynnol ar y llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol ond mae’n gweithio gyda nhw ac eraill i gefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae Llais mewn sefyllfa dda i gynorthwyo cyrff y partneriaethau a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymgysylltu'n fwy effeithiol â dinasyddion, gan gynnwys y rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr, yng ngwaith y partneriaethau rhanbarthol. Hefyd, bydd gan Llais statws sylwedydd annibynnol ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol (gweler y rheoliad drafft 5 isod).

Rheoliad 5

Aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol

Mae rheoliad 5 yn ychwanegu at y rhestr o aelodau o fyrddau partneriaeth rhanbarthol a nodir yn rheoliad 11 o reoliadau 2015, ac mae'n darparu ar gyfer aelod-sylwedyddion annibynnol.

Mae rheoliadau 2015 yn cynnwys rhestr o aelodau gofynnol byrddau partneriaeth rhanbarthol. Hefyd, maen nhw'n caniatáu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gyfethol eraill i fod yn aelodau fel y bo’n briodol yn eu barn nhw, ac yn caniatáu i'r cyrff partneriaeth wneud taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i aelodau'r bwrdd. Mae’r rheoliad 5 drafft yn ychwanegu'r canlynol at y rhestr o aelodau gofynnol bwrdd partneriaeth rhanbarthol:

  • cynrychiolydd i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • o leiaf un person i gynrychioli buddiannau darparwyr gofal sylfaenol yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol
  • o leiaf un person i gynrychioli buddiannau gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol
  • o leiaf un person i gynrychioli'r cynghorau gwirfoddol sirol sy'n cynrychioli'r ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol

Mae aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol yn adlewyrchu natur amlsector y bartneriaeth ranbarthol. Yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff y bartneriaeth a chyrff cyhoeddus eraill, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys aelodau sy'n ddinasyddion cyffredin (defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl) a'r rhai sy'n cynrychioli sefydliadau'r trydydd sector, darparwyr gofal a'r sector tai. Yn y canllawiau statudol rhan 9 diwygiedig, rydym wedi ceisio egluro rôl holl aelodau'r bwrdd, gan eu trefnu ar sail tri safbwynt penodol:

  • partneriaid â phrofiad bywyd
  • partneriaid darparu gwasanaethau
  • phartneriaid comisiynu strategol

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisoes wedi'i chyfethol yn aelod o'r rhan fwyaf o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, felly mae'r diwygiad hwn yn ffurfioli'r aelodaeth hon. Dylai ychwanegu darparwyr gofal sylfaenol at y rhestr er mwyn helpu i gynyddu cysondeb ac ymgysylltiad rhwng gwaith y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, clystyrau a grwpiau cynllunio clystyrau cyfan. Bydd ychwanegu'r cyngor gwirfoddol cymunedol yn helpu i gryfhau presenoldeb y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol, sydd eisoes yn gorfod cynnwys o leiaf ddau berson i gynrychioli buddiannau sefydliadau'r trydydd sector yn eu rhanbarth.

Yn ystod ymgynghoriad 2023 cawsom sylwadau gan TUC Cymru, undebau llafur a chyrff proffesiynol y dylai aelodaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol gynnwys llais gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, ochr yn ochr â llais defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr di-dâl, y trydydd sector a sefydliadau darparwyr. Er nad yw byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi’u cynnwys yn y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, nid yw ymrwymiad Gweinidogion Cymru i bartneriaeth gymdeithasol wedi'i gyfyngu i'r ddeddf honno, ac o ystyried bod y cyrff partneriaeth wedi'u rhwymo gan y ddyletswydd mae'n ymddangos yn briodol i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol gael llais o amgylch bwrdd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol. Felly, mae’r gweinidogion wedi penderfynu ychwanegu gofyniad newydd i'r byrddau datblygu rhanbarthol gael o leiaf un aelod sy'n gallu cynrychioli llais y gweithwyr. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn trafod gyda'r byrddau undebau llafur, TUC Cymru a'r undebau llafur perthnasol sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol, o ystyried amrywiaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a'r ffaith bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol eisoes yn fyrddau mawr. Byddai canllawiau pellach wedyn yn cael eu cynnwys yn y canllawiau statudol rhan 9 diwygiedig.

Yn ogystal, mae’r rheoliad 5 drafft yn ei gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth rhanbarthol wahodd cynrychiolydd o gorff llais y dinesydd (Llais) i fod yn aelod sylwedydd annibynnol o'r bwrdd, ac yn rhoi’r grym i’r bwrdd wahodd personau eraill i fod yn aelod-sylwedyddion annibynnol o'r bwrdd fel y bo’n briodol ym marn y bwrdd. Hefyd, mae'r rheoliad drafft yn diffinio aelod sylwedydd annibynnol fel un nad yw'n gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y bwrdd ac un na ddylid ei gyfrif yn y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r bwrdd. Gwneir hyn er mwyn diogelu rôl Llais fel llais annibynnol ar gyfer dinasyddion, a chaniatáu i gynrychiolwyr Llais wneud sylwadau a chymryd rhan lawn mewn trafodaethau o amgylch y bwrdd. Mae'r rheoliad drafft yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dymuno gwahodd cyrff eraill i fod yn sylwedyddion annibynnol, ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. Gan eu bod yn aelodau (er yn aelod-sylwedyddion annibynnol heb unrhyw hawliau pleidleisio), bydd gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol y pŵer i wneud taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i'w haelod-sylwedyddion annibynnol yn yr un modd ag ar gyfer aelodau eraill.

Rheoliad 6

Mae’r rheoliad 6 drafft yn ymdrin â nifer o faterion, gan gynnwys cyrff partneriaeth yn enwebu person i fod yn gyfrifol am arwain a sicrhau cydweithrediad yn nhrefniadau'r bartneriaeth; swyddogaethau gweinyddol amrywiol byrddau partneriaeth rhanbarthol sydd â'r nod o gefnogi aelodau yn well; a hunanasesiadau bob dwy flynedd. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u mewnosod yn rheoliadau 2015 fel rheoliadau newydd 11A, B ac C.

Personau cyfrifol

Mae’r rheoliad 6 drafft yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff partneriaeth benodi person cyfrifol i hwyluso'r trefniadau partneriaeth a hyrwyddo cydweithrediad rhwng corff y bartneriaeth, pob un o'r cyrff partneriaeth eraill sy'n rhan o'r trefniant partneriaeth, a'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol. Mae'n pennu bod yn rhaid i awdurdod lleol benodi'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i gyflawni'r rôl hon; a bod yn rhaid i fwrdd iechyd benodi'r aelod gweithredol a benodir yn aelod o'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol i gyflawni'r rôl hon. Mae'r rheoliad drafft yn nodi mai rôl y person cyfrifol yw annog cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth oddi mewn i'r corff partneriaeth; arwain y gwaith o hyrwyddo cyfraniad y corff partneriaeth at gyflawni amcanion y bwrdd partneriaeth rhanbarthol; ac adrodd yn ôl ar waith y bwrdd partneriaeth rhanbarthol i gabinet neu fwrdd ei gorff partneriaeth.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, ac aelod gweithredol y bwrdd iechyd sy'n aelod o'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn barod, ond diben y rheoliad drafft newydd yw ffurfioli'r trefniadau hyn yn y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

Swyddogaethau gweinyddol byrddau partneriaeth rhanbarthol

Hefyd, mae’r rheoliad 6 drafft yn cyflwyno gofynion gweinyddol newydd ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol mewn perthynas â rolau, recriwtio a chymorth i aelodau. Yn benodol, rhaid i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol wneud y canlynol:

  • cyhoeddi disgrifiadau o rôl a chyfrifoldebau pob categori o aelodaeth y bwrdd (fel y'u nodir yn rheoliad 11 o reoliadau 2015)
  • sefydlu a hysbysebu'r weithdrefn ar gyfer recriwtio aelodau o'r bwrdd sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl
  • darparu cymorth ac arweiniad i gynorthwyo aelodau'r bwrdd, yn enwedig yr aelodau sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a sefydliadau'r trydydd sector

Mae'r darpariaethau hyn wedi'u hychwanegu at reoliadau 2015, a hynny’n bennaf er mwyn egluro a chefnogi rôl aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n ddinasyddion, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad bywyd fel defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr di-dâl, ac aelodau sy'n cynrychioli'r trydydd sector. Mae'r rheoliadau drafft newydd hyn yn darparu bachyn ar gyfer canllawiau estynedig ar sut y dylid recriwtio a chefnogi aelodau o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, fel y'u nodir yn y canllawiau statudol rhan 9 diwygiedig. Roedd hwn yn un o argymhellion allweddol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ymgysylltu a Llais.

Hunanasesu

Hefyd, mae’r rheoliad 6 drafft yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gwblhau hunanasesiad bob dwy flynedd er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd perfformiad y bwrdd wrth gyflawni ei amcanion. Rhaid cwblhau'r hunanasesiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2026, a phob dwy flynedd wedyn, a chyflwyno adolygiad rhwng y blynyddoedd hyn (hynny yw'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 a phob dwy flynedd wedyn). Rhaid i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol gyhoeddi crynodeb o ganlyniadau'r hunanasesiad neu'r adolygiad blynyddol yn ei adroddiad blynyddol.

Mae'r rheoliad drafft hwn yn adlewyrchu gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i gyd-ddylunio a threialu adnodd hunanasesu, sy'n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ar draws y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Bydd cymhwyso'r adnodd hwn yn darparu llinell sylfaen ar gyfer hunanasesiadau statudol yn y dyfodol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Rheoliad 7

Adroddiadau

Mae rheoliad 7 yn mewnosod darpariaeth newydd yn rheoliad 12 o reoliadau 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol lunio adroddiadau blynyddol. Mae'r ddarpariaeth newydd ym mharagraff (4) yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ei chynnwys yn eu hadroddiadau blynyddol. Hefyd, mae'r rheoliad drafft yn pennu bod yn rhaid cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar wefannau cyrff y bartneriaeth. Mae'r gofyniad i gyflwyno'r adroddiadau blynyddol hyn i Weinidogion Cymru yn parhau.

Yr eitemau sydd i'w cynnwys yn yr adroddiadau blynyddol yw:

  • disgrifiad o ddiben, rôl, aelodaeth, strwythur gweithredu, a blaenoriaethau allweddol y bwrdd
  • gwybodaeth am sut y mae'r trefniadau partneriaeth wedi ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ac i weithredu’r cynllun ardal ar y cyd
  • manylion am sut y defnyddiwyd adnoddau
  • gwybodaeth am y ffyrdd y mae’r bwrdd wedi cynorthwyo o ran integreiddio trefniadau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • gwybodaeth am sut y mae'r bwrdd wedi cynorthwyo o ran darparu gwasanaethau yn well er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl
  • cyfrif o sut y mae’r bwrdd wedi ymgysylltu â dinasyddion (yn enwedig pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr, plant a phobl ifanc) yn ei waith
  • cyfrif o sut y mae’r bwrdd wedi hyrwyddo ymglymiad dinasyddion yn ei waith, ac asesiad o’r effaith y mae hynny wedi ei chael ar wella canlyniadau llesiant ar gyfer pobl yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol
  • gwybodaeth am unrhyw weithgarwch comisiynu ar y cyd a’r defnydd o gronfeydd cyfun yn y trefniadau partneriaeth
  • gwybodaeth am sut y mae’r cyrff partneriaeth wedi ymgysylltu â mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a sefydliadau’r trydydd sector yn y trefniadau partneriaeth
  • gwybodaeth am flaenoriaethau’r bwrdd ar gyfer y 12 mis nesaf
  • crynodeb o ganlyniadau'r hunanasesiad neu'r adolygiad blynyddol cysylltiedig, ac unrhyw gamau gwella sy'n deillio o hynny

Rheoliad 8

Mae rheoliad 8 yn diwygio atodlen 1 o reoliadau 2015, drwy fewnosod swyddogaethau awdurdod lleol o dan adran 12 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn y rhestr o swyddogaethau sydd i'w cyflawni mewn partneriaeth. Bydd hyn yn ein galluogi i ychwanegu’r angen i fonitro sut mae awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaeth hon (mewn perthynas â threfniadau'r bartneriaeth) at y rhestr o amcanion y bwrdd partneriaeth rhanbarthol. (Gweler rheoliad 2 uchod.)

Pennod 2

Diwygiadau i Reoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017

Rheoliad 9

Cynlluniau cyflawni blynyddol

Mae rheoliad 9 yn rhoi dau reoliad newydd yn lle rheoliad 7 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017 ('rheoliadau 2017’). Mae'r rheoliad cyntaf (rheoliad 7) yn ymwneud â llunio a chyhoeddi cynllun cyflawni blynyddol. Mae'r ail reoliad (rheoliad 8) yn ymwneud â monitro a gwerthuso'r cynllun ardal ar y cyd a'r cynlluniau cyflawni blynyddol.

Mae adran 14 o'r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd sydd wedi cwblhau asesiad o anghenion y boblogaeth ar y cyd lunio a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd mewn ymateb. Un o amcanion y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yw sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i ymateb i’r asesiad o anghenion y boblogaeth a chyflwyno'r cynllun ardal ar y cyd. Roedd rheoliadau 2017 wedi ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r cynlluniau cyntaf erbyn 1 Ebrill 2018, a chyhoeddi'r cynlluniau dilynol flwyddyn ar ôl cwblhau pob asesiad o anghenion y boblogaeth - hynny yw bob pum mlynedd. Cyhoeddwyd y cynlluniau ardal diweddaraf yn 2023. Ar hyn o bryd, mae rheoliadau 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff perthnasol gymryd camau priodol i fonitro a gwerthuso'r gwasanaethau a chamau eraill a nodir yn y cynllun ardal ar y cyd; a bod y cynllun yn cael ei adolygu, a'i ddiwygio os oes angen, os cyhoeddir adendwm i'r asesiad o anghenion y boblogaeth yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.

Byddai'r rheoliad 7 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd sydd wedi llunio a chyhoeddi cynllun ardal ar y cyd lunio cynllun cyflawni blynyddol i gefnogi'r gwaith o roi’r cynllun ardal ar y cyd ar waith dros y deuddeg mis nesaf – hynny yw cynllun cyflawni blynyddol ym mhob un o'r pum mlynedd a gwmpesir gan y cynllun ardal ar y cyd. Bydd angen cyflwyno'r cynlluniau cyflawni blynyddol cyntaf erbyn 1 Ebrill 2028. Wrth lunio’r cynlluniau hyn, bydd y cyrff partneriaeth yn ystyried casgliadau'r adolygiad blynyddol o'r cynllun ardal ar y cyd. Rhaid cyhoeddi'r cynlluniau cyflawni blynyddol ar wefannau'r cyrff partneriaeth, a chyflwyno copi i Weinidogion Cymru.

Byddai'r rheoliad 8 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff partneriaeth gymryd camau priodol i fonitro a gwerthuso effaith darparu gwasanaethau a'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol â'r cynllun ardal ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau adolygiad blynyddol o'r cynnydd sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r cynllun ardal yn unol â'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun cyflawni blynyddol. Bydd canlyniadau'r adolygiad blynyddol hwn yn cael eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

Rhaid i gynlluniau cyflawni blynyddol (ar wahân i'r cynllun cyntaf) ystyried casgliadau'r adolygiad blynyddol o'r cynllun ardal ar y cyd.

Pennod 3

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

Rheoliad 10

Cyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 4 Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 ('rheoliadau 2021'), sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Bydd y diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r adroddiadau nesaf ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Medi 2027 (yn hytrach na 1 Mehefin 2027), ac erbyn 1 Medi bob pum mlynedd wedi hynny.

Mae'r diwygiad drafft hwn i reoliadau 2021 wedi'i ysgogi gan ystyriaethau ymarferol yn ymwneud ag amseru adroddiadau yn y dyfodol. Pan gyhoeddwyd yr adroddiadau cyntaf yn 2022, daeth yn amlwg bod llawer o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi cael trafferth cael cymeradwyaeth gorfforaethol gan eu cyrff partneriaeth mewn pryd i gyhoeddi'r adroddiadau erbyn 1 Mehefin, oherwydd amseriad yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai'r flwyddyn honno. Roedd hyn yn deillio o'r penderfyniad i ohirio'r etholiadau llywodraeth leol am flwyddyn er mwyn osgoi gwrthdaro ag etholiad y Senedd, a oedd wedi'i ohirio ei hun oherwydd pandemig COVID-19. Gan fod y cylch pum mlynedd ar gyfer adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn gysylltiedig â'r cylch llywodraeth leol, mae'r broblem hon yn debygol o barhau oni bai bod y dyddiad cyhoeddi yn cael ei newid. Yn ogystal, mae rheoliadau 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu hadroddiadau dilynol 'bob 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad’. Wrth i'r adroddiadau cyntaf gael eu cyhoeddi ar wahanol adegau drwy gydol haf 2022, daeth yn amlwg na fydd y gofyniad hwn yn bodloni'r bwriad gwreiddiol i gyhoeddi adroddiadau dilynol union bum mlynedd o’r dyddiad gwreiddiol.

Dylai'r diwygiad sicrhau bod gan y cyrff partneriaeth ddigon o amser i gael cymeradwyaeth ffurfiol ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol, ac mae'n cryfhau'r gofyniad i gyhoeddi adroddiadau dilynol er mwyn sicrhau cysondeb.

Pennod 4

Asesiadau effaith

Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cael ei lunio fel rhan o'r memorandwm esboniadol i gyd-fynd â chyflwyno'r rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol rhan 9 diwygiedig yn yr hydref.

Mae asesiad effaith integredig yn cael ei lunio hefyd gyda'r nod o alluogi Llywodraeth Cymru i ystyried, mewn ffordd strwythuredig, effaith y polisïau a'r camau arfaethedig ar bobl Cymru. Bydd hwn yn cynnwys asesiad o'r effaith ar hawliau Plant, asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ac asesiad o'r effaith ar y Gymraeg.

Bydd y rheoliadau drafft yn effeithio'n bennaf ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r cyrff partneriaeth. Maent wedi'u cynllunio i hwyluso gweithio mewn partneriaeth ranbarthol a chryfhau rôl y byrddau partneriaeth rhanbarthol fel bwrdd strategol allweddol sy'n goruchwylio'r trefniadau partneriaeth.

Ni chredir y bydd y rheoliadau drafft yn gosod unrhyw feichiau sylweddol ychwanegol ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol na'r cyrff partneriaeth. Maent wedi'u cynllunio i egluro ac ategu trefniadau partneriaeth presennol, gan adlewyrchu arferion da sydd wedi'u datblygu ers i reoliadau 2015 ddod i rym ac wrth i'r trefniadau partneriaeth a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol aeddfedu. Hefyd, bydd y diwygiadau hyn yn ein galluogi i gryfhau a diweddaru'r gofynion a'r canllawiau yng nghanllawiau statudol rhan 9, gan ymgorffori'r gwaith a gafodd ei wneud gan y pum grŵp gorchwyl a gorffen.

Dylai'r rheoliadau drafft gael effaith gadarnhaol ar ddinasyddion a sefydliadau'r trydydd sector hefyd. Mae hyn yn cynnwys trefniadau i weithio gyda corff llais y dinesydd (Llais) i sicrhau cyfraniad dinasyddion at y trefniadau partneriaeth, a rhagor o gymorth ar gyfer aelodau sy'n llais cynrychioliadol ar y byrddau i ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a sefydliadau'r trydydd sector. Hefyd, dylent helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol i fonitro cyfraniad plant a phobl ifanc at drefniadau'r bartneriaeth.

I grynhoi, mae ein hasesiad rhagarweiniol o effeithiau penodol y diwygiadau i reoliadau 2015 fel a ganlyn.

Mae rheoliad 4 yn ehangu amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol, gan sicrhau bod ganddynt rôl fwy eglur wrth oruchwylio'r trefniadau partneriaeth. Mae'n diweddaru'r amcanion i gynnwys y broses o oruchwylio ymateb cyrff y bartneriaeth i adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad (a ddaeth i rym yn 2021), gan gynnwys datblygu dulliau nid-er-elw o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol. Mae'n adlewyrchu sefydlu corff llais y dinesydd (Llais) yn 2023 trwy ei gwneud yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol weithio gyda Llais i hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion yn y trefniadau partneriaeth. Mae'n cyflwyno amcan newydd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu trefniadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, gyda'r effaith arfaethedig o ddatblygu system gofal cymunedol integredig yng Nghymru. Hefyd, mae'n sicrhau bod gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol rôl yn y gwaith o fonitro sut mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo ac yn hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y trefniadau partneriaeth.

Mae rheoliad 5 yn cryfhau aelodaeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol trwy gynnwys Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a chynrychiolwyr o ddarparwyr gofal sylfaenol a'r cynghorau gwirfoddol sirol. Mae hyn yn adlewyrchu trefniadau presennol y rhan fwyaf o fyrddau partneriaeth rhanbarthol, a bydd yn cryfhau llais y trydydd sector a'r maes gofal sylfaenol ar y bwrdd. Bydd effaith y gofyniad newydd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol gynnwys o leiaf un aelod i gynrychioli buddiannau gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol yn destun trafodaethau pellach yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae rheoliad 6 yn ceisio cryfhau a hwyluso'r ddyletswydd i gydweithredu trwy sicrhau bod uwch berson penodol ym mhob corff partneriaeth yn gyfrifol am hwyluso'r trefniadau partneriaeth ac adrodd yn ôl. Y bwriad yw 'ffurfioli' trefniadau presennol y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Hefyd, mae rheoliad 6 yn cyflwyno gofynion gweinyddol newydd ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol mewn perthynas â'r rolau, recriwtio a chymorth i aelodau, a dylai'r gofynion hyn gael effaith gadarnhaol iawn ar aelodau sy'n llais cynrychioliadol i ddinasyddion neu sy'n cynrychioli'r trydydd sector. Hefyd, mae'n rhoi statws statudol ac ailadroddus i'r broses hunanasesu newydd ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol sydd eisoes wedi'i threialu a'i chyflwyno ledled y partneriaethau rhanbarthol.

Mae rheoliad 7 yn egluro'r hyn sydd angen ei gynnwys yn adroddiadau blynyddol y byrddau partneriaeth rhanbarthol ac mae'n adlewyrchu arferion da presennol. Mae'n canolbwyntio'n benodol ar effaith y trefniadau partneriaeth wrth hyrwyddo a sicrhau canlyniadau da ar gyfer unigolion a chymunedau.

Bwriad y diwygiadau i reoliadau 2017 yw cryfhau'r trefniadau ar gyfer cyflwyno camau gweithredu'r cynlluniau ardal ar y cyd bob pum mlynedd, drwy ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff partneriaeth lunio cynllun cyflawni blynyddol ar gyfer pob blwyddyn o oes y cynllun ardal, a chwblhau adolygiad blynyddol o gynnydd. Mae hyn yn adlewyrchu arferion da presennol yn y partneriaethau rhanbarthol.

Nod y mân ddiwygiadau i reoliadau 2021 ar adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yw hwyluso'r broses o gyhoeddi adroddiadau yn amserol yn y dyfodol trwy newid y dyddiad cyhoeddi.

Rhestr termau a byrfoddau

Defnyddir y termau a'r byrfoddau canlynol yn y ddogfen hon drwyddi draw.

Y ddeddf

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rheoliadau 2015

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.

Y rheoliadau drafft

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024, sef testun yr ymgynghoriad hwn.

Cyrff partneriaeth

Y bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol mewn rhanbarth y mae'n ofynnol iddynt sefydlu trefniadau partneriaeth o dan ran 9 o'r ddeddf.

Byrddau partneriaeth rhanbarthol

Y saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol sydd wedi'u sefydlu gan y cyrff partneriaeth ledled Cymru.

Byrddau iechyd

Y saith bwrdd iechyd lleol (neu BILl). Mae ffiniau'r ardal a gwmpesir gan fwrdd iechyd yn cyfateb i un neu fwy o awdurdodau lleol. Mae 'ôl troed' y bwrdd iechyd yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen i'r saith bwrdd partneriaeth ranbarthol.

Canllawiau statudol rhan 9

Canllawiau statudol rhan 9 ar drefniadau partneriaeth, sy'n amlinellu'r gofynion a'r canllawiau ar gyfer y cyrff partneriaeth, mewn perthynas â'r trefniadau partneriaeth rhanbarthol. Fe’u diweddarwyd yn 2019, a bydd fersiwn ddiwygiedig yn dod i rym ochr yn ochr â Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024, ar 31 Rhagfyr 2024.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1:

Beth yw eich barn am Reoliadau (drafft) Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024? A yw’r darpariaethau yn glir ac wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n hwyluso'r bwriadau a nodir yn y ddogfen ymgynghori hon?

Cwestiwn 2:

Beth yw eich barn am effaith debygol y rheoliadau drafft ar sefydliadau neu sectorau penodol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol? A oes unrhyw feysydd penodol lle rydych yn teimlo y bydd effaith gadarnhaol neu negyddol ar sectorau neu sefydliadau penodol?

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi?

Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 3:

Beth yw eich barn am effaith debygol y rheoliadau drafft ar grwpiau penodol o bobl, yn enwedig y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? A oes unrhyw feysydd penodol lle rydych yn teimlo y bydd effaith gadarnhaol neu negyddol ar grwpiau penodol?

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi?

Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 4:

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y rheoliadau drafft ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn 5:

Yn eich barn chi, a ellid llunio'r rheoliadau drafft neu eu newid er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 6:

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i roi gwybod amdanynt.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno’ch sylwadau erbyn 9 Gorffennaf 2024, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

Partneriaethau ac Integreiddio
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Y Grŵp Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, a Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma’r manylion cyswllt i gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru a’i defnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data y DU:

Swyddog diogelu data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarparwch fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan y staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn eu trafod neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Lle y bo Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â gwaith dadansoddi pellach ar ymatebion yr ymgynghoriad, yna mae’n bosibl y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i’w gynnal gan drydydd parti awdurdodedig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghoriaeth). Gwneir unrhyw waith o’r fath o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata gennych a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cadw am ddim mwy na tair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.