Ymgynghoriad ar Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 drafft
Hoffem gael eich barn ar ba swyddi a ddylai olygu bod yr unigolion sy’n eu dal yn anghymwys i fod yn aelodau o Senedd Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae adran 16(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Orchymyn yn y Cyngor (Gorchymyn Anghymhwyso) ddynodi swyddi penodol sy'n anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelod o'r Senedd, ond nid rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd.
Cyn pob etholiad i'r Senedd, gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n dirymu’r Gorchymyn blaenorol ac sy’n nodi rhestr newydd o swyddi sy’n anghymhwyso.
Meini prawf ar gyfer pennu pa swyddi ac aelodaeth o gyrff y dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft
Rydym yn cynnig bod Gorchymyn Anghymhwyso Senedd Cymru 2025 yn cymhwyso'r un meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer y Gorchymyn Anghymhwyso presennol. Mabwysiadwyd y rhain o'r egwyddorion yn ymchwiliad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd yn 2014 i drefniadau anghymhwyso.
Mae'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer y Gorchymyn presennol fel a ganlyn:
Egwyddorion cyffredinol a nodwyd yn Argymhelliad 1 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
- Egwyddor 1: mae hyrwyddo cyfranogiad democrataidd a’r hawl i sefyll fel Aelod o’r Senedd yn hollbwysig
- Egwyddor 2: dylai anghymhwyso person rhag bod yn aelod o Senedd Cymru gael ei gyfyngu i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl
- Egwyddor 3: mae gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol yng nghyswllt rhai dinasyddion er mwyn:
- diogelu annibyniaeth y broses etholiadol
- atal gwrthdaro buddiannau rhag codi adeg etholiad
- diogelu rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol
- Egwyddor 4: dylai gorchymyn anghymhwyso fod yn berthnasol i’r dinasyddion canlynol:
- y rhai y mae eu rôl yn gofyn iddynt fod yn gwbl ddiduedd, gan gynnwys y rhai y mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys y broses etholiadol ei hun
- y rhai sydd ag unrhyw swydd gyhoeddus sy'n dod â budd ariannol sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru
- y rhai sy'n dal swydd gyhoeddus ac yn y rôl honno yn rhoi cyngor ffurfiol i Lywodraeth Cymru
- y rheini sy’n dal unrhyw swydd gyhoeddus y mae’r Senedd yn craffu arni
- Egwyddor 5: os oes rhaid anghymhwyso, rhaid iddynt:
- gydymffurfio â'r egwyddorion hyn
- bod yn glir a diamwys
- bod yn gymesur
- Dylai'r swyddi a ddisgrifir yn Argymhelliad 12 o Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gael eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso oni bai eu bod eisoes wedi'u hanghymhwyso o dan Adran 16 neu Atodlen 1A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
- Dylai aelodau o dribiwnlysoedd barnwrol gael eu hanghymhwyso.
- Fel arfer, dylai personau a benodir gan Weinidogion Cymru gael eu hanghymhwyso, ond gall fod achosion lle na ddylid anghymhwyso personau o'r fath (ac os felly bydd ystyried y pum egwyddor y cyfeirir atynt uchod yn bwysig).
- Ni ddylid anghymhwyso staff cyhoeddus fel y disgrifir yn Argymhelliad 13 o Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (e.e. staff Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yr Heddlu, Tân ac Achub, staff Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru), mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gellir tybio'n ddiogel y byddai staff o'r fath yn rhoi'r gorau i'w cyflogaeth pe baent yn cael eu hethol, gan y byddai parhau â chyflogaeth o'r fath ar yr un pryd â chyflawni cyfrifoldebau Aelod o'r Senedd yn gwneud galwadau amhosibl ar yr unigolyn.
Swyddi a chyrff i'w cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025
Mae'r rhestr isod yn nodi'r cyrff a'r swyddi yr ydym yn bwriadu eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys ychydig iawn o newid yn unig o'r Gorchymyn presennol sef Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.
Mae'r swyddi hyn yn ychwanegol at y rhai sydd wedi'u gwneud yn swyddi anghymhwyso yn Atodlen 1A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a deddfwriaeth arall.
Nid oedd y Gorchymyn Anghymhwyso presennol yn gallu cynnwys unrhyw gyrff anstatudol. Roedd hyn oherwydd nifer o ystyriaethau cyfreithiol. Roedd y risg y byddai penodai i gorff anstatudol yn sefyll ar gyfer etholiad yn cael ei rheoli drwy eu telerau penodi. Cynigir, felly, fod y flaenoriaeth hon yn parhau, ac na ddylid cynnwys cyrff anstatudol yn y gorchymyn anghymhwyso arfaethedig.
Hyd eithaf ein gwybodaeth, rydym wedi sicrhau bod enwau'r cyrff y cyfeirir atynt isod yn gywir.
Rhestr o swyddi a chyrff i'w cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025
- Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Tribiwnlys a gyfansoddwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2005 ac Atodlen 3 iddi. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Tribiwnlys y cyfeirir ato ym mharagraff 10 o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Panel Dyfarnu Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y pwyllgor cynghori i Gymru a sefydlwyd o dan adran 5(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Holl aelodau’r Cyngor
- Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Comisiynydd/Comisiynwyr y Lluoedd Arfog. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Comisiynydd/Comisiynwyr
- Cyngor Celfyddydau Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Gronfa Loteri Fawr. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau a benodwyd o dan baragraff 1 o Atodlen 4A i Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 neu holl aelodau pwyllgor a sefydlwyd o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno
- Y Bwrdd Canolwyr Meddygol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau a benodwyd gan Weinidogion Cymru
- Y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Comisiynwyr a’r Ysgrifennydd
- Bwrdd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- British Council. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
- Awdurdod Twristiaeth Prydain. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru
- Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Swyddog Ardystio ac unrhyw swyddog ardystio cynorthwyol a chanddo swyddogaethau o dan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Swyddog Ardystio ac unrhyw Swyddog Ardystio Cynorthwyol
- Corff Llais y Dinesydd. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Aelodau anweithredol
- Cynghorau Cymuned a Thref. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Swyddog taledig sy'n gyfrifol, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, am weinyddu materion ariannol y cyngor cymuned; person sy'n dal swydd daledig y mae'r cyngor cymuned yn ei phennu am y tro cyntaf yn y rhestr a gynhelir yn unol ag is-adran (2) ac unrhyw gyfarwyddydau o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
- Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Holl aelodau’r Cyngor a phob pwyllgor rhanbarthol o’r Cyngor a sefydlwyd o dan adran 27A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991
- Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Corfforaeth Deledu Channel Four. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Banc Datblygu Cymru (Development Bank of Wales Public Limited Company) neu unrhyw is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr y cwmni hwnnw. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl Gyfarwyddwyr
- Tribiwnlys Addysg Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Cyngor y Gweithlu Addysg. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a’r Tribiwnlys Apelau Cyflogaeth. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Arolygydd neu Arolygydd Cynorthwyol a benodwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004
- Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Panel Cynghori
- Awdurdod y Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Dyfarnwr Annibynnol Awdurdodau Lleol Cymru
- Yr Archwilydd Achosion Annibynnol dros yr Adran Gwaith a Phensiynau. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr Archwilydd Achosion Annibynnol
- Y Rheoleiddiwr Pêl-droed Annibynnol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Gweinyddwr Annibynnol Cwynion Dŵr Daear a benodwyd o dan adran 21 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 a pharagraff 27 o Atodlen 7 iddi
- Yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer Cytundebau Hawliau Dinasyddion. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Comisiynydd Gwybodaeth
- Y Cyd-bwyllgor Comisiynu. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd
- Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Comisiynwyr
- Yr Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol
- Comisiwn y Gyfraith. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Comisiynwyr ac aelodau anweithredol y Bwrdd
- Y Bwrdd Cynghori ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd
- Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal yng Nghymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau, ac eithrio aelod sydd hefyd yn gyflogai i’r Bwrdd
- Y Sefydliad Rheoli Morol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Hybu Cig Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cyfarwyddwyr
- Corfforaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Gynilion Cyflogaeth. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae pob un o’i hysbytai, neu ei chyfleusterau eraill, neu rai ohonynt, yng Nghymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Anweithredol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr Ymddiriedolwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru
- Amgueddfa Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr Ymddiriedolwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru
- Corff Adnoddau Naturiol Cymru a adwaenir fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Prif Weithredwr, Y Cadeirydd a’r aelodau
- Y Swyddfa Gyfathrebiadau. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Yr Ombwdsmon Pensiynau a benodwyd o dan adran 145 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 ac unrhyw ddirprwy i’r Ombwdsmon hwnnw a benodwyd o dan adran 145A o’r Ddeddf honno
- Y Gronfa Diogelu Pensiynau. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau, a’r Ombwdsmon ar gyfer Bwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau a benodwyd o dan adran 209 o Ddeddf Pensiynau 2004 ac unrhyw ddirprwy i’r Ombwdsmon hwnnw a benodwyd o dan adran 210 o’r Ddeddf honno
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau, ac aelodau’r pwyllgorau a sefydlwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau o dan adran 9 o Ddeddf Pensiynau 2004
- Person sy’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a hynny mewn:
- awdurdod lleol yng Nghymru, o fewn ystyr y Rhan honno
- Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu fel y’i sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, ac unrhyw Ddirprwy a benodir gan y Comisiynydd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno
- Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Cymwysterau Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Pwyllgorau asesu rhenti ar gyfer ardal neu ardaloedd y mae pob rhan ohoni neu ohonynt yng Nghymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Holl aelodau panel a sefydlwyd o dan Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Comisiynwyr
- Sianel Pedwar Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Gofal Cymdeithasol Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n cyflawni swyddogaethau yn rhannol neu’n gyfan gwbl mewn cysylltiad â Chymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd a’r holl aelodau, ac eithrio aelod sydd hefyd yn gyflogai i’r Awdurdod
- Cyngor Chwaraeon Cymru a adwaenir fel Chwaraeon Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (Student Loans Company Limited). Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
- Trafnidiaeth Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cyfarwyddwyr
- Yr Uwch Dribiwnlys. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau, ac eithrio Barnwyr yr Uwch Dribiwnlys(oedd)
- Tribiwnlys Prisio Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Comisiynydd
- Swyddfa Archwilio Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl staff a’r archwilwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio i Swyddfa Archwilio Cymru neu Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Yr Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd
- Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Tribiwnlys y Gymraeg. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau
- Awdurdod Cyllid Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill
- Cynhwyswyd y swyddi canlynol yng Ngorchymyn Anghymhwyso 2020; fodd bynnag, rydym yn cynnig tynnu'r swyddi canlynol o'r Gorchymyn arfaethedig.
- Mae'r swyddi hyn wedi'u diddymu a'u disodli gan ddeddfwriaeth arall. Mae'r amnewidiadau yn rhan o'r Gorchymyn Anghymhwyso arfaethedig ac maent wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod.
- Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Y Cadeirydd a’r aelodau a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 34(1)(dd) o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010
- Cynghorau Iechyd Cymuned. Y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso: Yr holl aelodau a benodwyd o dan reoliadau 3(1), 6, 7 ac 8, a'r aelodau a gyfetholwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3(3A) o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010
Cwestiynau ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno y dylai’r swyddi a nodir yn y Gorchymyn Anghymhwyso drafft gael eu cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso nesaf?
Cwestiwn 2
A oes unrhyw swyddi eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Anghymhwyso drafft (nad ydynt wedi’u hanghymhwyso fel arall o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu ddeddfwriaeth arall) a ddylai gael eu hanghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd yn eich barn chi?
Cwestiwn 3
Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y Gorchymyn drafft er mwyn gwneud y canlynol:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Cwestiwn 4
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion perthnasol nad ydynt wedi cael sylw penodol gennym, nodwch nhw yn y gofod a ganlyn.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 25 Gorffennaf 2025, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost: etholiadau.ymgynghoriad@llyw.cymru
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i phostio i:
Yr Is-adran Etholiadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld.
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae'n debyg y bydd ymatebion i gynhelir yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i'ch ymateb aros yn ddienw, plis dywedwch wrthym.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif WG: WG52319
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
