Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i weithredu’r gyfundrefn newydd ar gyfer caffael cyhoeddus a sefydlwyd gan y Bil Caffael. Ymgynghoriad technegol yw hwn, wedi’i rannu’n ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf hon o’r ymgynghoriad yn cyfeirio’n bennaf at feysydd yn y Bil sy’n mynnu bod rhestrau, cyfrifiadau neu ddiffiniadau pellach yn cael eu defnyddio’n ymarferol ac yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  1. Cwmpas Contractau Cyfundrefn Cyffyrddiad Ysgafn a Gwasanaethau Cyffyrddiad Ysgafn Neilltuadwy
  2. Contractau Esempt: Cyfrifiadau ar gyfer Gweithgareddau Fertigol a Llorweddol
  3. Contractau Esempt: Cyfrifiadau Trosiant o Fewn Grŵp Cyfleustodau
  4. Profion Trosiant a Chyflenwi o ran Cyfleustodau
  5. Caffael o fewn y DU
  6. Diffiniadau o ‘Awdurdod Llywodraeth Ganolog’ a ‘Gwaith’ ar gyfer Trothwyon
  7. Datgymhwyso adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988
  8. Y Gymraeg

Mae Cwestiynau Gorfodol yn ceisio deall a yw manylion technegol y fersiwn ddrafft yn gywir ac yn briodol a byddant yn defnyddio graddfeydd o ‘Gytuno’n gryf’ i ‘Anghytuno’n gryf’.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos ar ddatblygu eu hofferynnau statudol eu hunain i sicrhau bod y deddfwriaethau mor gyson â phosibl ac i leihau unrhyw risg o wahaniaethau posibl. Mae hefyd yn bwysig bod yr amserlenni ar gyfer gosod yr offerynnau statudol yn cyd-fynd, a dyma un o’r prif resymau dros adlewyrchu amseriad yr ymgynghoriad hwn ag ymgynghoriad Llywodraeth y DU.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn defnyddio’r offeryn statudol drafft a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei baratoi gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r darpariaethau yn offeryn statudol Llywodraeth y DU cymaint ag y bo modd, ac eithrio yn yr ychydig feysydd lle ceir rhanddirymiadau neu wahaniaethau sy’n benodol i Gymru. Hefyd, bydd yr offeryn statudol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dylid nodi’r meysydd allweddol sy’n wahanol ac sy’n benodol i Gymru yn y rheoliadau, sy’n cael sylw yn y rhan gyntaf hon o’r ymgynghoriad, sef:

  • Ni fydd Rhan 7 o offeryn statudol drafft Llywodraeth y DU sy’n ymwneud â “Datgymhwyso mewn perthynas â Chaffael y GIG” yn rhan o offeryn statudol Llywodraeth Cymru. Mae’r rhan hon o offeryn statudol Llywodraeth y DU yn ymwneud â’r GIG yn Lloegr yn benodol ac, o’r herwydd, dylai ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn ddiystyru’r adran hon o’r offeryn statudol drafft.
  • Ni fydd offeryn statudol Llywodraeth Cymru yn cynnwys rheoliadau ar gaffael o fewn y DU oherwydd y bydd offeryn statudol Llywodraeth y DU yn caniatáu i awdurdodau datganoledig yn yr Alban gael mynediad at drefniadau caffael, gan gynnwys fframweithiau a marchnadoedd deinamig, a gyflawnir gan bob awdurdod sy’n dod o dan y Bil Caffael. Felly, dylai ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn ystyried Rhan 5 ac Atodlen 2 o offeryn statudol Llywodraeth y DU.
  • Nid yw’r rhestr o Awdurdodau Llywodraeth Ganolog sydd ynghlwm wrth offeryn statudol Llywodraeth y DU yn Atodlen 3 yn berthnasol i Gymru gan nad yw’n cynnwys unrhyw Awdurdodau Contractio yng Nghymru. Mae manylion yr Awdurdodau Llywodraeth Ganolog sy’n Awdurdodau Contractio yng Nghymru i’w gweld yn Atodiad 1 y ddogfen hon.

Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 19 Mehefin ac yn dod i ben ar 28 Gorffennaf am 23.45.

Cefndir y ddeddfwriaeth

Mae dros £8 biliwn yn cael ei wario ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn, sy’n cyfrif am bron i draean o holl wariant y sector cyhoeddus. Gall gwella’r ffordd y mae caffael cyhoeddus yn cael ei reoleiddio sbarduno arloesedd a chydnerthedd, a sicrhau manteision ar hyd a lled Cymru drwy gefnogi ein heconomi leol ac arbed arian i’r trethdalwyr.

Mae caffael yn un o’r dulliau pwysicaf sydd gennym i gefnogi Cymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy llewyrchus, fel yr ydym i gyd am ei gweld dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r Bil Caffael yn helpu i gyflawni dyheadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chaffael, gan roi sicrwydd a sefydlogrwydd i sefydliadau sy’n cynnal busnes ar draws y ffiniau.

Bydd y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno o ganlyniad i’r Bil Caffael yn gwneud caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch i fusnesau, gan gynnwys ein busnesau bach a chanolig. Byddant hefyd yn darparu mwy o werth am arian i drethdalwyr Cymru, ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i Gymru.

Bydd y gyfundrefn newydd yn disodli’r rheolau presennol ar gyfer caffael cyhoeddus drwy wneud y canlynol:

  • Creu system fasnachol symlach a mwy hyblyg sy’n diwallu anghenion ein gwlad yn well ac yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau rhyngwladol ar yr un pryd.
  • Agor caffael cyhoeddus yng Nghymru i newydd-ddyfodiaid fel busnesau bach a mentrau cymdeithasol er mwyn iddynt allu gwneud cais am ragor o gontractau cyhoeddus.
  • Cymryd camau llymach ar gyflenwyr sy’n tanberfformio a sicrhau bod cyflenwyr sy'n peri risgiau annerbyniol yn cael eu heithrio.
  • Sicrhau tryloywder drwy gydol y cylch bywyd masnachol er mwyn gallu craffu’n briodol ar sut mae arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario.

Dyma brif fanteision y gyfundrefn newydd:

  • Sicrhau mwy o werth am arian.
  • Hyrwyddo arloesi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr deilwra caffael i’w hanghenion penodol, gan adeiladu fesul cam, fel arddangosiadau a phrofi prototeipiau.
  • Ei gwneud yn haws cynnal busnes gyda’r sector cyhoeddus drwy greu cyfleoedd ymgeisio mwy cystadleuol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru, a gwella’r rheolau talu’n brydlon.
  • Cyflawni uchelgeisiau polisi caffael Cymru drwy awdurdodau contractio yng Nghymru yn rhoi sylw i Ddatganiad Polisi Caffael Cymru.
  • Cymryd camau llymach ar gyflenwyr sy’n tanberfformio gan ei gwneud yn haws eithrio cyflenwyr sydd wedi tanberfformio ar gontractau eraill.
  • Bydd creu system agored a thryloyw yn cryfhau atebolrwydd a chyfleoedd posibl i gydweithio.
  • Caffael brys effeithiol sy’n caniatáu prosesau cystadlu cyflymach a mwy tryloyw ar gyfer prynu mewn argyfwng.
  • Mae gwarchod diogelwch gwladol yn cynnwys darpariaethau i eithrio cyflenwyr o brosesau caffael os ydynt yn fygythiad i ddiogelwch gwladol.
  • Cryfhau rhesymau dros eithrio sy’n caniatáu i gyflenwyr gael eu heithrio os oes tystiolaeth o gaethwasiaeth fodern.
  • Masnach Ryngwladol yn sicrhau bod busnesau’r DU yn gallu parhau i gystadlu’n llwyddiannus am gontractau cyhoeddus mewn gwledydd eraill ar draws y byd.

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am adborth ar yr is-ddeddfwriaeth sy’n rhan o’r Bil Caffael ac sy’n gwireddu llawer o’i ddarpariaethau. Mae’r ymgynghoriad wedi’i rannu’n ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf hon o’r broses yn canolbwyntio ar feysydd polisi sy’n gofyn am fanylion penodol mewn is-ddeddfwriaeth. Mae’r ail ran yn canolbwyntio ar y darpariaethau tryloywder a’r hysbysiadau y bydd Awdurdodau Contractio Cymru yn eu defnyddio i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol o dan y Bil.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechnegol iawn ac mae gofyn deall y gyfundrefn bresennol ar gyfer caffael. Ni ofynnir am farn ar fwriad y polisi ei hun, sydd eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad drwy’r Papur Gwyrdd ac sydd wedi’i sefydlu gan y Bil, ond a yw’r wybodaeth a ddarperir wedi’i hadlewyrchu’n briodol yn y rheoliadau drafft.

Bydd Cwestiynau Gorfodol yn gofyn i ymatebwyr nodi i ba raddau maent yn cytuno neu’n anghytuno â’r cwestiwn a ofynnir o dan bob adran. Mae wyth cwestiwn o’r math hwn. Pan fydd ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf bod y bwriad fel y’i nodir yn cael ei gyflawni drwy’r fersiwn ddrafft, maent yn cael cyfle i egluro pam eu bod yn credu hynny. Dylid cyfyngu sylwadau i a yw’r bwriad hwn wedi’i drosi i’r offeryn statudol ac a yw’r fersiwn ddrafft yn achosi unrhyw anghysondebau, bylchau neu’n gorgyffwrdd â darpariaethau mewn mannau eraill yn y Bil neu’r offeryn statudol.  Yn ogystal, mae dau gwestiwn Gorfodol yn ymwneud â’r Gymraeg.

Y camau nesaf

Yn dilyn hyn a’r ymgynghoriad nesaf ar Ran 2, bydd fersiwn derfynol yr is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi o leiaf chwe mis o rybudd ynghylch rhoi’r gyfundrefn newydd ar waith, ac rydym yn disgwyl mai adeg gosod yr is-ddeddfwriaeth fyddai’r cynharaf y byddai’r rhybudd hwn yn cael ei roi.

Pynciau

1. Cyffyrddiad Ysgafn – cwmpas contractau cyffyrddiad ysgafn a gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy (Rhan 4 o’r Offeryn Statudol)

Mae contractau cyffyrddiad ysgafn yn adlewyrchu’r ffaith bod angen trin rhai gwasanaethau’n wahanol, yn enwedig rhai sy’n canolbwyntio ar unigolion, ar ardal leol neu ar gymuned. Mae Adran 9 o’r Bil yn nodi’r pethau y mae’n rhaid eu hystyried wrth bennu gwasanaethau fel gwasanaethau cyffyrddiad ysgafn; mae hyn yn cynnwys i ba raddau:

  • mae cyflenwyr o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn debygol o fod eisiau cystadlu am gontractau i gyflenwi’r gwasanaethau
  • mae’r gwasanaethau yn cael eu cyflenwi er budd unigolion (er enghraifft, gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol) neu'r gymuned yn gyffredinol
  • mae agosrwydd rhwng y cyflenwr a’r sawl sy’n derbyn y gwasanaethau yn angenrheidiol neu’n fanteisiol er mwyn cyflenwi’r gwasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’r offeryn statudol, yn Rhan 4 ac yn Atodlen 1, yn defnyddio codau’r Eirfa Caffael Gyffredin i bennu’r gwasanaethau y gellir eu caffael fel contract cyffyrddiad ysgafn at ddibenion y Bil. Mae codau’r Eirfa Caffael Gyffredin yr un fath â’r rhai y cyfeirir atynt yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ond maent hefyd yn ymgorffori rhai codau penodol i Amddiffyn a oedd yn wasanaethau Rhan B o dan Reoliadau Contractau Amddiffyn a Diogelwch 2011 (dim ond i gontractau amddiffyn a diogelwch y bydd y rhain yn berthnasol o hyd). Mae Amddiffyn yn fater a gedwir yn ôl ac felly ni fydd manylion codau penodol i Amddiffyn i'w gweld yn rheoliadau Cymru.

Mae hyn yn adlewyrchu’r ymateb blaenorol i’r ymgynghoriad a oedd yn cadarnhau y byddem yn cadw dull gweithredu cyffyrddiad ysgafn ar gyfer rhai gwasanaethau yn unol â’r rheini a gafodd eu trin felly o dan y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.

Mae’r offeryn statudol drafft hefyd yn nodi’n glir pa wasanaethau sy’n ‘wasanaethau cyffyrddiad ysgafn neilltuadwy’ o dan y Bil. Mae’r rhain yn wasanaethau y gellir eu dyfarnu o dan adran 33 drwy weithdrefn hyblyg gystadleuol, lle mae maes cyflenwyr wedi’i gyfyngu i gwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus. Er mwyn parhau i gydnabod y manteision a ddaw gan y sefydliadau hyn, mae cwmpas llawn y gwasanaethau neilltuadwy (a nodir gan godau’r Eirfa Caffael Gyffredin) yn unol â rheoliad 77 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, wedi cael ei gynnal.

Cwestiynau ymgynghori

1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod codau’r Eirfa Caffael Gyffredin a nodir yn yr offeryn statudol yn cyfleu’n gywir y gwasanaethau hynny y gellir eu cyflenwi drwy gontract cyffyrddiad ysgafn o dan y gyfundrefn newydd?

1a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, nodwch pa wasanaethau y dylid eu cynnwys neu eu heithrio, neu esboniwch unrhyw faterion ymddangosiadol eraill gyda’r rhestr, fel anghysondebau â rhannau eraill o’r Bil neu’r offeryn statudol.

2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr offeryn statudol yn cyfleu’n gywir y gwasanaethau hynny ddylai fod yn ‘neilltuadwy’ ar gyfer cwmnïau cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus o dan y gyfundrefn newydd?

2a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, nodwch pa wasanaethau y dylid eu cynnwys neu eu heithrio, neu esboniwch unrhyw faterion ymddangosiadol eraill gyda’r rhestr, fel anghysondebau â rhannau eraill o’r Bil neu’r offeryn statudol.

2. Contractau Esempt: Cyfrifiadau ar gyfer gweithgareddau fertigol a llorweddol (Rhan 2 o'r Offeryn Statudol)

Mae’r ‘esemptiad fertigol’ ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i’r Bil yn atgynhyrchu’r esemptiad yn rheoliad 12(1) - 12(6) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (y cyfeirir ato’n aml fel esemptiad “Teckal”). Mae’r esemptiad hwn yn caniatáu i awdurdod contractio sy’n awdurdod cyhoeddus ddyfarnu contract i endid sy’n gysylltiedig “yn fertigol” â’r awdurdod contractio, hynny yw, â chorff sydd â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân ond sydd o dan ei reolaeth, ar yr amod bod gwahanol brofion yn cael eu bodloni. Bydd canllawiau’n cael eu darparu i helpu awdurdodau contractio i roi’r darpariaethau hyn ar waith.

Y prif brawf sydd i'w fodloni, fel y nodir yn Atodlen 2, yw bod yn rhaid i'r awdurdod contractio “reoli” yr endid arall. Mae Atodlen 2 paragraffau 2(2) a 2(3) yn nodi ystyr y ‘rheoli’ hyn.

Mae’r prawf yn cynnwys ‘trothwy gweithgaredd’. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r endid rheoledig gyflawni mwy nag 80% o’i weithgareddau ar gyfer yr awdurdod (neu’r awdurdodau) contractio neu unigolion eraill sydd hefyd yn cael eu rheoli gan yr awdurdod (neu’r awdurdodau) contractio.

Mae’r ‘esemptiad llorweddol’ ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Bil yn atgynhyrchu’r esemptiad yn rheoliad 12(7) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (y cyfeirir ato’n aml fel esemptiad ‘Hamburg’). Mae’r esemptiad hwn yn caniatáu i awdurdod contractio ddyfarnu contract i awdurdod contractio arall ar yr amod bod gwahanol brofion yn cael eu bodloni.

Y prawf cyntaf yw bod y partïon wedi ymrwymo i drefniant gyda’r nod o gyflawni amcanion cyffredin wrth gyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus a bod y trefniant er budd y cyhoedd yn unig.

‘Trothwy gweithgaredd’ yw’r prawf arall. Mae hyn yn golygu na fwriedir i fwy nag 20% o’r gweithgareddau y mae’r trefniant yn eu hystyried gael eu cyflawni at ddibenion eraill (nad ydynt yn rhai cyhoeddus).

Mae Rhan 2 o’r offeryn statudol yn pennu sut cyfrifir y ‘trothwy gweithgaredd’ ar gyfer yr esemptiadau llorweddol a fertigol, a ddylai atgynhyrchu effaith rheoliad 12(8) a (9) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus. Mae hyn yn allweddol gan y bydd awdurdodau contractio yn elwa o barhad yn yr agwedd dechnegol hon ar y gyfundrefn gaffael.

Cwestiynau ymgynghori

3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y fethodoleg ar gyfer cyfrifo canrannau’r trothwyon gweithgaredd, a nodir yn yr offeryn statudol, yn glir ac yn bodloni bwriad y polisi i esemptio caffael llorweddol a fertigol o ofynion y Bil?

3a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam eich bod yn credu nad yw’r cyfrifiad yn glir neu nad yw’n bodloni bwriad y polisi fel arall.

3. Contractau Esempt: Cyfrifiadau trosiant o fewn grŵp cyfleustodau (Rhan 2, Rheoliad 6 o’r Offeryn Statudol)

Mae cyfleustodau, fel llawer o sefydliadau, weithiau’n dibynnu ar endidau ar wahân yn eu grŵp i gyflawni rhai gweithgareddau wrth gyflawni contract. Gall hyn fod o fewn trefniant grŵp “traddodiadol” neu o fewn trefniant menter ar y cyd a gall gwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, fel gwasanaethau “swyddfa gefn” neu wasanaethau technegol arbenigol. Gall y trefniant hwn fod am resymau treth neu reoli. Cyfeirir at hyn fel trefniant rhwng personau “ymgysylltiedig” ac mae esemptiad o’r gyfundrefn gaffael ar gael pan fydd cyfleustod perthnasol yn dyfarnu contract cyfleustodau i berson ymgysylltiedig perthnasol ar yr amod bod y “prawf trosiant” yn cael ei fodloni. Mae’r esemptiad ar gael pan fydd cyfleustod yn dyfarnu contract i berson ymgysylltiedig neu, os yw’r cyfleustod yn fenter ar y cyd, i berson sy’n ymgysylltiedig ag unrhyw aelod o’r fenter ar y cyd ac mae’n adlewyrchu’r esemptiad sy’n bodoli ar hyn o bryd yn rheoliad 29 y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau.

Mae’r prawf trosiant yn mynnu bod y person ymgysylltiedig sy’n cael y contract yn cael dros 80% o’i drosiant perthnasol drwy gyflenwi’r cyfleustod sy’n dyfarnu’r contract iddo.

Mae’r offeryn statudol, yn Rhan 2, Rheoliad 6, yn nodi’r camau sydd i’w cymryd i gyfrifo canran trosiant y person ymgysylltiedig o’r cyflenwad i’r cyfleustod a chyfanswm ei drosiant er mwyn penderfynu a yw’n bodloni’r prawf trosiant. Dyma’r amodau i’w bodloni er mwyn i’r esemptiad fod yn berthnasol:

  • mewn perthynas â chontractau gwasanaeth, rhaid i o leiaf 80% o gyfanswm trosiant cyfartalog ymgymeriad ymgysylltiedig dros y tair blynedd flaenorol, gan ystyried yr holl wasanaethau a ddarparwyd gan yr ymgymeriad hwnnw, ddeillio o ddarparu gwasanaethau i’r cyfleustod neu un neu ragor o’i ymgymeriadau ymgysylltiedig
  • mewn perthynas â chontractau cyflenwi, rhaid i o leiaf 80% o gyfanswm trosiant cyfartalog yr ymgymeriad ymgysylltiedig dros y tair blynedd flaenorol, gan ystyried yr holl gyflenwadau a ddarparwyd gan yr ymgymeriad hwnnw, ddeillio o ddarparu cyflenwadau i’r cyfleustod neu un neu ragor o’i ymgymeriadau ymgysylltiedig
  • mewn perthynas â chontractau gwaith, rhaid i o leiaf 80% o gyfanswm trosiant cyfartalog yr ymgymeriad ymgysylltiedig dros y tair blynedd flaenorol, gan ystyried yr holl waith a ddarparwyd gan yr ymgymeriad hwnnw, ddeillio o ddarparu gwaith i’r cyfleustod neu un neu ragor o’i ymgymeriadau ymgysylltiedig.

O ran ymgymeriad ymgysylltiedig sy’n llai na thair blwydd oed, bydd yn ddigon i’r ymgymeriad hwnnw ddangos bod y trosiant yn gredadwy drwy gyfrwng amcanestyniadau busnes.

Mewn perthynas â mwy nag un ymgymeriad ymgysylltiedig sy’n darparu gwasanaethau, gwaith neu nwyddau tebyg neu’r un fath, mae hwn yn ffurfio grŵp economaidd y mae’r cyfrifiad trosiant yn berthnasol iddo.

Cwestiynau ymgynghori

4. I ba raddau ydych chi’n cytuno bod y fethodoleg ar gyfer cyfrifo canrannau’r prawf trosiant i bersonau ymgysylltiedig, fel y nodir yn yr offeryn statudol, yn glir ac yn bodloni bwriad y polisi i esemptio contractau i bersonau ymgysylltiedig fel y disgrifir yn Atodlen 2, paragraff 6?

4a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam nad ydych chi’n credu y bydd y cyfrifiad yn cyflawni bwriad y polisi.

4. Profion Trosiant a Chyflenwi o ran Cyfleustodau (Rhan 3 o'r Offeryn Statudol)

Mae’r darpariaethau isod yn gyson â deddfwriaeth Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 sy’n bodoli eisoes, yn enwedig y cyfrifiadau y mae’n rhaid i sefydliad eu defnyddio i bennu a yw’r nwyddau y mae’n eu cynhyrchu yn ddarostyngedig i reolau’r gyfundrefn newydd neu a ellir eu hesemptio.

Gwerthu nwy neu wres i rwydwaith lle mae’r nwy neu’r gwres a werthir yn sgil-gynnyrch gweithgaredd arall

Mae Atodlen 4, paragraff 1(2) o’r Bil yn esemptio cyfleustod preifat neu ymgymeriad cyhoeddus (y gweithredwr), o ddarpariaethau’r Bil, rhag cyflenwi nwy neu wres i rwydwaith os yw’r nwy neu’r gwres yn sgil-gynnyrch anochel o gyflawni gweithgaredd nad yw’n weithgaredd penodedig ym mharagraff 7 o’r Atodlen. Er enghraifft, gall stêm neu ddŵr poeth a gynhyrchir gan losgydd gwastraff gael eu cyflenwi i rwydwaith gwresogi ardal i wresogi cartrefi. Mae’r esemptiad ar gael dim ond ar yr amod nad yw swm y nwy neu’r gwres a gyflenwir i’r rhwydwaith gan y gweithredwr yn fwy nag 20% o swm ei drosiant.

Pwrpas yr offeryn statudol yw nodi sut mae cyfrifo 20% o swm trosiant y gweithredwr er mwyn penderfynu a yw’r cyflenwad nwy neu wres yn gyfystyr â gweithgarwch cyfleustodau ac felly a ddylai prosesau caffael ar gyfer contractau sy’n ymwneud â’r gweithgarwch hwnnw fod yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn gaffael newydd neu a ydynt wedi’u hesemptio.

Wrth bennu sut i gyfrifo swm trosiant y gweithredwr, mae’r offeryn statudol yn nodi y dylid cyfrifo’r swm drwy gyfeirio at swm cyfartalog dros gyfnod penodedig. Y cyfnod a bennir yn yr offeryn statudol yw’r tair blynedd ariannol lawn flaenorol, gan gynnwys y flwyddyn gyfredol.

Gwerthu trydan i rwydwaith lle mae’r trydan sy’n cael ei werthu yn drydan dros ben nad yw wedi’i ddefnyddio

Mae Atodlen 4, paragraff 2(2) o’r Bil yn esemptio cyfleustod preifat neu ymgymeriad cyhoeddus (y gweithredwr) rhag cyflenwi trydan i rwydwaith pan fo’r cyflenwad yn ddim ond y trydan dros ben y mae wedi’i gynhyrchu er mwyn gwneud rhywbeth nad yw’n weithgaredd penodedig ym mharagraff 7 o’r Atodlen ond nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Er enghraifft, gall porthladd gynhyrchu ei drydan ei hun gan ddefnyddio tyrbinau gwynt i gyflawni gwahanol weithgareddau’r porthladd, fel gweithio peiriannau penodol, a chyflenwi’r gweddill i rwydwaith y grid cenedlaethol. Dim ond ar yr amod nad yw swm y trydan a gyflenwir yn fwy na 30% o’r ynni a gynhyrchir gan y gweithredwr y mae’r esemptiad ar gael.

Pwrpas yr offeryn statudol yw nodi sut mae cyfrifo faint o drydan sy’n cael ei gyflenwi er mwyn penderfynu a yw’r cyflenwad trydan yn gyfystyr â gweithgarwch cyfleustodau ac felly a ddylai prosesau caffael ar gyfer contractau sy’n ymwneud â’r gweithgarwch hwnnw fod yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn gaffael newydd neu a ydynt wedi’u hesemptio.

Wrth bennu sut i gyfrifo faint o drydan a gyflenwir, mae’r offeryn statudol yn nodi y dylid cyfrifo’r swm drwy gyfeirio at swm cyfartalog dros gyfnod penodedig. Y cyfnod a bennir yn yr offeryn statudol yw’r tair blynedd ariannol lawn flaenorol, gan gynnwys y flwyddyn gyfredol.

Mae’r offeryn statudol yn nodi y bydd yr asesiad yn ystyried y canlynol ar gyfartaledd:

  1. yr ynni a gynhyrchwyd, a
  2. y trydan a gynhyrchwyd ac a gyflenwyd i’r rhwydwaith cyhoeddus

am y tair blynedd flaenorol o’r pwynt asesu yn y flwyddyn gyfredol. Os nad yw’r cyfan neu ran o’r ffigurau ar gyfer ynni a/neu drydan ar gael am y tair blynedd dan sylw, dim ond dangos ei bod yn rhesymol disgwyl nad yw’r cyflenwad trydan i’r rhwydwaith cyhoeddus wedi bod yn fwy na 30% o gyfanswm cynhyrchu ynni’r endid y mae gofyn i’r cyfleustod ei wneud. Gallai hyn ddefnyddio pa bynnag wybodaeth fesur sy’n bodoli a/neu amcanestyniadau busnes o weithgareddau yn y blynyddoedd presennol a’r blynyddoedd i ddod.

Gwerthu dŵr yfed i rwydwaith lle mae’r dŵr sy’n cael ei werthu yn ddŵr dros ben nad yw wedi cael ei yfed

Mae Atodlen 4, paragraff 3(4) yn esemptio cyfleustod preifat neu ymgymeriad cyhoeddus (y gweithredwr) rhag cyflenwi dŵr yfed i rwydwaith (fel y disgrifir yn is-baragraff 3(1)(b) yr Atodlen) pan fo’r cyflenwad yn ddim ond y dŵr yfed dros ben y mae wedi’i gynhyrchu er mwyn gwneud rhywbeth nad yw’n weithgaredd penodedig ym mharagraff 7 o’r Atodlen ond nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Er enghraifft, gall porthladdoedd gynhyrchu dŵr yfed er mwyn cyflenwi llongau pan fyddant yn y porthladd a chyflenwi’r gweddill i rwydwaith dŵr yfed. Dim ond ar yr amod nad yw swm y dŵr yfed a gyflenwir yn fwy na 30% o’r dŵr yfed a gynhyrchir gan y gweithredwr y mae’r esemptiad ar gael.

Pwrpas yr offeryn statudol yw nodi sut mae cyfrifo faint o ddŵr yfed sy’n cael ei gyflenwi er mwyn penderfynu a yw’r cyflenwad o ddŵr yfed yn gyfystyr â gweithgarwch cyfleustodau ac felly a ddylai prosesau caffael ar gyfer contractau sy’n ymwneud â’r gweithgarwch hwnnw fod yn ddarostyngedig i’r gyfundrefn gaffael newydd neu a ydynt wedi’u hesemptio.

Wrth bennu sut i gyfrifo faint o ddŵr yfed a gyflenwir, mae’r offeryn statudol yn nodi y dylid cyfrifo’r swm drwy gyfeirio at swm cyfartalog dros gyfnod penodedig. Y cyfnod a bennir yn yr offeryn statudol yw’r tair blynedd ariannol lawn flaenorol, gan gynnwys y flwyddyn gyfredol.

Ar yr adeg asesu, byddem yn disgwyl i’r cyfleustod edrych yn ôl o’r pwynt hwnnw dros y tair blynedd diwethaf, penderfynu ym mhob un o’r tair blynedd hynny faint o ddŵr yfed y mae’n ei gyflenwi i’r rhwydwaith cyhoeddus, yna ychwanegu’r tri chyfanswm hynny at ei gilydd a rhannu â thri i gael cyfartaledd. Yna, bydd y ffigur cyflenwad cyfartalog hwn yn cael ei gymharu â’r cyfartaledd o faint o ddŵr yfed y mae’r cyfleustod wedi’i gynhyrchu ar sail y tair blynedd diwethaf.

Cwestiynau ymgynghori

5. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y fethodoleg i wneud y cyfrifiadau priodol ar gyfer yr esemptiadau perthnasol ym mharagraffau 1(2), 2(2) a 3(4) o Atodlen 4 yn glir ac yn bodloni bwriad y polisi i esemptio cyflenwi nwy, gwres, trydan a dŵr yfed pan fo’r amodau perthnasol yn gymwys?

5a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam eich bod yn credu nad yw’r cyfrifiad yn glir neu nad yw’n bodloni bwriad y polisi fel arall.

5. Caffael o fewn y DU (Rhan 5 ac Atodlen 2 o’r Offeryn Statudol)

Gan fod yr Alban wedi dewis cadw ei rheolau caffael presennol, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu parhau i gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau rhwng y pedair gwlad.

Mae’r Bil yn cynnwys pŵer (adran 114) i wneud rheoliadau i ganiatáu mynediad o fewn y DU at offer masnachol fel fframweithiau, ac i reoli prosesau caffael ar y cyd gan awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth yr Alban a’r DU. Bwriad y pŵer hwn yw sicrhau bod cyrff sy’n ddarostyngedig i reoliadau’r Alban yn gallu parhau i fanteisio ar drefniadau masnachol a sefydlwyd gan gyrff - a chyda cyrff - sy’n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth sy’n weithredol ledled gweddill y DU.

Bydd hyn, er enghraifft, yn sicrhau y bydd awdurdodau contractio yr Alban yn parhau i gael mynediad at fframweithiau a marchnadoedd deinamig a sefydlwyd o dan y gyfundrefn newydd ac fel arall. Mae diddordeb cyffredin mewn sicrhau bod cydweithio o’r fath yn gallu parhau at ddibenion cydweithredu a sicrhau gwerth am arian; ac nad yw mynediad at offer masnachol o’r fath yn cael ei gyfyngu gan ba gyfundrefn y mae’r awdurdod contractio yn ddarostyngedig iddi.

Mae’r rheoliad, sydd wedi’i gynnwys yn Rhan 5 o’r offeryn statudol, yn caniatáu i awdurdodau datganoledig yn yr Alban gaffael ar y cyd o dan y Bil a/neu ddefnyddio offeryn masnachol a sefydlwyd o dan ei ddarpariaethau.

Bydd Llywodraeth yr Alban hefyd yn cyflwyno ei hofferyn statudol ei hun i ddatgymhwyso, lle bo’n briodol, deddfwriaeth yr Alban lle mae caffael gan awdurdodau datganoledig yn cael ei reoleiddio o dan y rheoliadau hyn. Bydd hefyd yn deddfu i sicrhau bod awdurdodau mewn meysydd a gedwir yn ôl, cyrff datganoledig yng Nghymru, a chyrff trosglwyddedig yng Ngogledd Iwerddon yn gallu cael gafael ar adnoddau a phrosesau caffael a sefydlwyd o dan reoliadau’r Alban.

Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno eu rheoliadau eu hunain yn y maes hwn oherwydd y bydd rheoliadau Llywodraeth y DU yn caniatáu i awdurdodau datganoledig yn yr Alban gael mynediad at drefniadau caffael, gan gynnwys Fframweithiau a Marchnadoedd Deinamig, a gyflawnir gan bob awdurdod sy’n dod o dan y Bil Caffael.

Cwestiynau ymgynghori

6. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y rheoliad yn bodloni bwriad y polisi o ganiatáu i awdurdodau datganoledig yn yr Alban gaffael ar y cyd neu gydweithio ag awdurdodau eraill ledled y DU o dan nawdd y Bil Caffael?

6a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam nad ydych chi’n meddwl y bydd y rheoliad yn rhoi’r cyfle hwn i awdurdodau datganoledig yn yr Alban.

6. ‘Awdurdod Llywodraeth Ganolog’ a ‘Gwaith’ ar gyfer trothwyon (Rhan 8 ac Atodlenni 3 a 4 o’r Offeryn Statudol)

Mae’r Bil Caffael yn nodi bod rhai rhwymedigaethau o dan y Bil yn cael eu rhoi ar waith ar drothwyon ariannol penodol. Mae llawer o drothwyon yn y Bil. Mae rhai ohonynt yn deillio o ymrwymiadau masnach rhyngwladol, tra bo eraill yn bolisïau sy’n fwy lleol sy’n cefnogi blaenoriaethau presennol y llywodraeth fel gwella tryloywder a hwyluso busnesau bach a chanolig i gael mynediad at gyfleoedd caffael cyhoeddus. Gall y trothwy ar gyfer rhwymedigaeth benodol, fel cyhoeddi hysbysiad penodol, neu, yn wir, benderfynu a yw caffael yn gaffael sy’n dod o dan brif ddarpariaethau’r Bil, amrywio yn ôl cwmpas y contract arfaethedig a chategori’r awdurdod contractio sy’n ymgymryd â’r caffael.

Mae gan y ‘prif’ drothwyon ariannol (hynny yw, y rhai sy’n deillio o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan y Llywodraeth ac sy’n penderfynu a yw caffael yn gaffael sy’n dod o dan brif ddarpariaethau’r Bil ai peidio) un trothwy sy’n berthnasol i ‘Awdurdodau Llywodraeth Ganolog’ ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau (sef £138,760 ar hyn o bryd) ac un arall ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau gan lywodraeth leol a chyrff sector cyhoeddus ehangach (£213,477 ar hyn o bryd). Mae’n ofynnol i brosesau caffael nwyddau a gwasanaethau sy’n arwain at gontractau dros y trothwyon hyn gydymffurfio â darpariaethau llawn y Bil oni bai fod unrhyw eithriadau/esemptiadau’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod yn gorfod hysbysebu’r cyfle am gontract yn gyhoeddus i’r farchnad ar lwyfan ar-lein y DU, Find-A-Tender, sy’n cael ei gyhoeddi drwy GwerthwchiGymru ar gyfer contractau Cymru. Yn yr un modd, mae trothwy penodol yn berthnasol i brosesau caffael ar gyfer ‘Gwaith’ (£5,336,937 ar hyn o bryd) sy’n adlewyrchu’r gwerthoedd ariannol uchel, yn gyffredinol, sy’n gysylltiedig â chaffael adeiladu. Mae’r trothwy ar gyfer gwaith yr un fath, ni waeth a yw’r corff yn awdurdod is-ganolog neu Lywodraeth Ganolog.

Mae Atodlen 1 i’r Bil Caffael yn darparu y bydd y diffiniadau o ‘Awdurdod Llywodraeth Ganolog’ a ‘Gwaith’ yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Mae pennu’r rhestrau hyn (sy’n aml yn hir) mewn rheoliadau yn hytrach nag yn y Bil ei hun yn golygu eu bod yn haws eu diweddaru; mae angen diweddaru o bryd i’w gilydd wrth i gyrff gael eu creu, eu diddymu a’u hailenwi. Sylwch nad yw’r rhestr o Awdurdodau Llywodraeth Ganolog sydd ynghlwm wrth offeryn statudol Llywodraeth y DU yn Atodlen 3 yn berthnasol i Gymru gan nad yw’n cynnwys unrhyw Awdurdodau Contractio yng Nghymru. Mae manylion yr Awdurdodau Llywodraeth Ganolog sy’n Awdurdodau Contractio yng Nghymru i’w gweld yn Atodiad 1 y ddogfen hon.

Nid yw’r cysyniadau eu hunain yn newid o’r rhai sy’n berthnasol o dan y gyfundrefn bresennol, er y bu rhai addasiadau mewn iaith lle bo hynny’n briodol, ee addasu’r geiriad yn unol ag arferion drafftio cyfreithiol y DU a newidiadau i gyfeirio at ‘Ei Fawrhydi’ yn hytrach nag ‘Ei Mawrhydi’.

Mae’n bwysig bod y rhestr yn adlewyrchu’r ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud o dan Gytundeb Caffael y Llywodraeth a Chytundebau Rhyngwladol eraill ynghylch pa gyrff sy’n cael eu cynnwys; o’r herwydd, bydd y rhestr a gyhoeddir yn Rheoliadau Cymru yn cynnwys awdurdodau yng Nghymru nad ydynt yn bodoli mwyach neu sydd ar fin cael eu disodli (fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru), ond mae’n sicrhau bod swyddogaethau’r awdurdodau hynny, lle bynnag y maent ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys at ddibenion Cytundeb Caffael y Llywodraeth.

Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu, fel sy’n wir mewn cynlluniau rheoleiddio blaenorol, y bydd:

  • diffiniad cyffredinol o ‘Awdurdodau Llywodraeth Ganolog’ a gefnogir gan restr o gyrff a fydd yn cael eu diweddaru o bryd i’w gilydd, a
  • diffiniad cyffredinol o waith / contractau gwaith, wedi’i ategu gan restr o godau Geirfa Caffael Gyffredin perthnasol sy’n cynrychioli’r gwir weithgareddau sy’n waith.

Cwestiynau ymgynghori

7. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y dull hwn yn cyflawni amcan y polisi o sicrhau dull clir, cyson a chyfarwydd o ddiffinio Awdurdodau Llywodraeth Ganolog a Gwaith?

7a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam nad ydych chi’n credu bod y diffiniadau’n glir, yn gyson a/neu’n gyfarwydd.

7. Datgymhwyso Adran 17 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Rhan 6 o'r Offeryn Statudol)

O dan y gyfundrefn bresennol, mae Awdurdodau Contractio Cymru yn gallu manteisio ar bolisi’r llywodraeth (fel y nodir yn Nodyn Polisi Caffael Cymru 05/21) sy’n caniatáu iddynt neilltuo contractau o dan y trothwy i leoliad daearyddol penodol ac (os yw’r awdurdod contractio’n dewis gwneud hynny) i fusnesau bach a chanolig neu fentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw llywodraeth leol ac awdurdodau eraill sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 yn gallu gweithredu’r polisi hwn ar hyn o bryd, gan fod adran 17 o’r ddeddfwriaeth honno’n eu hatal rhag dyfarnu contractau caffael ar sail ‘ystyriaethau anfasnachol’, gan gynnwys lleoliad y cyflenwr.

Mae’r Bil Caffael wedi’i gynllunio i wella gallu busnesau bach a chanolig i wneud cais am gontractau’r llywodraeth ac mae’n cynnwys pŵer (yn adran 115) i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddatgymhwyso adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 pan fo angen.

Mae’r rheoliad hwn wedi’i gynnwys yn Rhan 6 o’r offeryn statudol. Ei bwrpas yw defnyddio’r pŵer hwn er mwyn i lywodraeth leol ac awdurdodau eraill sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 fanteisio ar y polisi ar gyfer contractau o dan y trothwy a rhoi hwb i gyflenwyr y DU neu leol ac annog busnesau bach a chanolig/mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol i gymryd rhan mewn caffael cyhoeddus. Mae’r darpariaethau wedi’u drafftio i ddatgymhwyso adran 17(5)(e) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 yn benodol, sef y rhan sy’n atal awdurdodau contractio rhag ystyried lleoliad y cyflenwr wrth ddyfarnu contractau. Dim ond i gontractau o dan y trothwy sy’n cael eu caffael o dan Ran 6 o’r Bil Caffael neu ar ôl i’r gyfundrefn newydd o dan y Ddeddf ddod i rym y bydd hyn yn berthnasol.

Bydd Nodyn Polisi Caffael Cymru 05/21: Canllawiau ar neilltuo contractau caffael sydd o dan y trothwy ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu diweddaru pan ddaw’r rheoliadau i rym i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r polisi.

Cwestiynau ymgynghori

8. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y rheoliadau’n caniatáu i awdurdodau lleol a chyrff eraill sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llywodraeth Leol 1998 fanteisio ar bolisi ar neilltuo contractau sydd o dan y trothwy ar gyfer cyflenwyr mewn lleoliad daearyddol penodol ac (os yw’r awdurdod contractio’n dewis gwneud hynny) sy’n fusnesau bach a chanolig neu’n sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol?

8a. Os ydych chi’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf, esboniwch pam nad ydych chi’n meddwl y bydd y rheoliadau’n caniatáu i’r polisi o dan y trothwy gael ei ddefnyddio gan awdurdodau sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llywodraeth Leol 1988.

8. Y Gymraeg

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd statudol wrth ymgynghori i geisio eich barn am effeithiau ein polisïau, ein deddfwriaeth a’n mentrau ar y Gymraeg. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw effaith a gaiff ein polisïau ar, yn gyntaf, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac yn ail, hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â’n gweledigaeth (fel y nodir yn y strategaeth iaith Gymraeg, Cymraeg 2050), i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg a mwy o ddefnydd o’r iaith.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos ar ddatblygu eu hofferynnau statudol eu hunain i sicrhau bod y deddfwriaethau mor gyson â phosibl ac i leihau unrhyw risg o wahaniaethau posibl. Er bod yr ymgynghoriad hwn yn defnyddio’r offeryn statudol drafft sydd wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU, bydd offeryn statudol Cymru (pan gaiff ei gyhoeddi) ar gael yn ddwyieithog yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru.

Cwestiynau ymgynghori

9. Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai’r Is-ddeddfwriaeth arfaethedig yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau hyn yn eich barn chi?  Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

10. Eglurwch hefyd, sut rydych chi’n credu y gall manylion technegol arfaethedig y fersiwn ddrafft gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu gynyddu effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Sut mae ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 28 Gorffennaf 2023, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu

Yr Is-adran Caffael Masnachol
Tîm Diwygio’r Broses Gaffael
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludo data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i roi cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan reoliad GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a thros unrhyw ddata personol rydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthyl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Mewn ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu gyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd adroddiadau o’r fath a gaiff eu cyhoeddi yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif WG: 47704

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Atodiad 1: Rhestr o Awdurdodau Llywodraeth Ganolog (Cymru)

  • Gweinidogion Cymru
  • Pwyllgorau Cynghori Anhedd-dai Amaethyddol (Cymru)
  • Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
  • Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru)
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Tribiwnlysoedd Prisio Cymru
  • Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Byrddau Iechyd Lleol Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Gofal Cymru*
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru*
  • Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru*
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Cyrff GIG Cymru

* Sylwch ein bod yn ymwybodol bod enwau’r Awdurdodau Llywodraeth Ganolog hyn wedi newid ers cael eu hychwanegu at y rhestr hon. Ni allwn newid y manylion hyn yn unol â’r Rhwymedigaethau Rhyngwladol Cyfredol. Rhoddir gwybodaeth am hyn yn Adran 6 uchod.