Ymgysylltu â defnyddwyr, amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth ac aelwydydd: gwybodaeth preifatrwydd i ymatebwyr
Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio data personol a gesglir gan yr ymchwil defnyddwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â defnyddwyr i gasglu eich barn ar ein cynlluniau presennol a dyfodol ar gyfer amcanestyniadau is-genedlaethol ac ystadegau poblogaeth ar gyfer Cymru.
Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein defnyddwyr yn well a sicrhau bod ein allbynnau yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn casglu, cadw a defnyddio eich data personol fel rhan o’r arolwg hwn.
Pa ddata sydd gennym ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â person adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd’.
Fel rhan o'r arolwg, efallai y byddwch yn dewis rhannu eich cyfeiriad e-bost a manylion eich sefydliad. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn ein galluogi i ailgysylltu â chi os bydd angen eglurhad arnom ar unrhyw un o'r atebion a roddwyd, a bydd manylion amdanoch chi neu eich sefydliad yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r mathau o ymatebwyr. Mae darparu'r wybodaeth hon yn wirfoddol.
Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o’r ymchwil, er enghraifft mewn blychau testun agored, ni fyddwn yn eich adnabod o’r ymatebion a roddwch, nac yn cysylltu eich hunaniaeth â nhw.
Wrth ymateb i’r ymarfer ymgysylltu â defnyddwyr hwn, Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych.
Bydd unrhyw wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio'n ddienw, ac ni fydd modd ei phriodoli yn gyhoeddus i chi oni bai ein bod yn gofyn am eich caniatâd.
Cesglir ymatebion gan ddefnyddio SmartSurvey. Mae SmartSurvey wedi rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni safonau GDPR y DU. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen y polisi preifatrwydd ar SmartSurvey.
Hawliau unigolion
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:
- i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Tîm Ystadegau Poblogaeth a Mudo
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru):
Churchill House
17 Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru