Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn monitro tueddiadau yn y sector atyniadau twristiaeth yn 2019 a 2020 er mwyn darparu dealltwriaeth well o’r sector i sefydliadau diwydiant a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Prif ganfyddiadau

Gwnaed rhyw 22.3 miliwn o ymweliadau ag atyniadau a oedd yn cymryd rhan yn arolwg 2019, a gwnaed rhyw 6.2 miliwn o ymweliadau ag atyniadau a ymatebodd i arolwg 2020. 

Y Cyd-destun gweithredu

Ni wnaeth 15% o'r atyniadau a ymatebodd agor o gwbl yn ystod 2020. Agorodd 18% arall rywbryd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ond gwnaethant aros ynghau wedyn am weddill y flwyddyn. Felly, nid oedd traean ohonynt yn agored o gwbl rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020. Roedd eu capasiti gweithredu yn llai drwy gydol 2020. Dim ond 1 o bob 10 a agorodd yn llawn, ac agorodd dros hanner (56%) ohonynt lai na hanner capasiti.

Ymweliadau yn 2019 a 2020

Yn 2019, roedd 57% o’r ymweliadau a wnaed yn rhai ag atyniadau di-dâl, a 43% ag atyniadau â thâl, cyfrannau tebyg i 2018. Yn 2020, roedd 59% o'r ymweliadau ag atyniadau di-dâl a 41% ag atyniadau â thâl.

Roedd y 25 atyniad mwyaf poblogaidd a gymerodd ran yn yr arolwg yn cyfrif am bron hanner (49%) yr holl ymweliadau yr adroddwyd amdanynt yn 2019. Yn 2020, roedd y 25 atyniad uchaf yn cyfrif am 64%

Yn 2019, roedd 10% o’r ymwelwyr ag atyniadau twristiaeth yn dod o dramor, gan ostwng i 3% yn 2020.  Cynyddodd cyfran yr ymwelwyr o Gymru o 47% yn 2019 i 59% yn 2020.

Yn 2019, amgueddfeydd/orielau celf gafodd y gyfran fwyaf o ymweliadau (26%), ond gostyngodd y gyfran i 15% yn 2020. Cynyddodd y gyfran o ymweliadau â gwarchodfeydd bywyd gwyllt/natur a pharciau/gerddi gwledig i 45% yn 2020 o gymharu â 26% yn 2019.

Cymharu 2019 a 2020

Gwelodd yr atyniadau a gymerodd ran yn arolwg 2019 a 2020 ostyngiad o 68% ar gyfartaledd rhwng 2019 a 2020. Ni welodd y rheini a gyflwynodd adroddiadau yn 2018 a 2019 unrhyw newid yn nifer yr ymwelwyr.

Atyniadau tanddaearol welodd y gostyngiad mwyaf ac atyniadau awyr agored welodd y gostyngiad lleiaf rhwng 2019 a 2020.

Gwybodaeth bellach

I gymryd rhan mewn arolygon yn y dyfodol, cysylltwch â'r adran ymchwil twristiaeth drwy anfon e-bost at ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Adroddiadau

Ymweliadau ag atyniadau twristiaeth: 2019 a 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jen Velu

Rhif ffôn: 0300 025 0459

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.