Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder i gefnogi bioamrywiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr argyfwng natur

Rydyn ni mewn argyfwng natur. Mae ein bywyd gwyllt yn dirywio ac mae angen inni weithredu nawr i'w achub.

Gallwn ni wneud ymylon ffyrdd, parciau a mannau gwyrdd eraill yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Efallai y bydd glaswellt wedi'i dorri'n fyr yn edrych yn daclus ond nid yw fawr o fudd i fywyd gwyllt. Mae gadael i laswellt dyfu a chael rhagor o ardaloedd tebyg i ddolydd gyda blodau gwyllt yn helpu bywyd gwyllt.

Image
Comparison between letting grass grow into meadow-like area with wildflowers and mown meadow (on right)

Mae anifeiliaid a phlanhigion ar eu hennill os oes ganddyn nhw ardaloedd gwyrdd tebyg i ddolydd

Planhigion

Mae blodau gwyllt, gan gynnwys blodau gwyllt prin, yn tyfu ac yn cynhyrchu hadau, gan ganiatáu iddyn nhw gynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Infertebratau

Mae blodau gwyllt a glaswellt yn darparu bwyd i bryfed, gan gynnwys:

  • cacwn
  • pryfed hofran
  • chwilod
  • glöynnod byw
  • gwyfynod
  • sioncod y gwair

Mae glaswellt hir yn rhoi lloches fel y gallan nhw ddodwy eu hwyau a chwblhau eu cylchoedd bywyd. Mae priddoedd dolydd yn cynnwys niferoedd uchel o bryfed genwair. 

Mamaliaid

Mae ystlumod, llygod maes, llygod y gwair, llygon a draenogod yn bwyta'r planhigion a'r infertebratau a geir mewn dolydd.

Amffibiaid

Mae brogaod a llyffantod yn bwyta infertebratau.

Ymlusgiaid

Hefyd, mae neidr defaid a madfallod yn bwyta infertebratau, ac mae nadroedd y gwair yn bwyta brogaod. 

Adar

Mae adar bach fel nicos yn bwyta hadau o flodau gwyllt. Mae adar eraill fel gwenoliaid a gwenoliaid du’n bwyta pryfed. Mae cudyllod cochion, bwncathod a thylluanod gwynion yn bwydo ar famaliaid bach.

Image
gwenyn yn casglu paill ar ymyl glaswellt

Achub bywyd gwyllt yw diben newid y ffordd rydyn ni'n torri glaswellt, nid lleihau costau

Gall newid y ffordd rydyn ni'n torri glaswellt greu rhagor o ddolydd blodau gwyllt brodorol. Hyd yn oed os yw rhai o'r lleiniau hyn yn fach, gyda'i gilydd byddan nhw'n gwneud arwynebedd mawr. Wrth i gynefinoedd blodau gwyllt gael eu cysylltu, bydd bywyd gwyllt yn gallu symud o un i’r llall.

Ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder: cefnogi pobl

Yn ogystal â chefnogi bywyd gwyllt, mae pobl yn mwynhau gweld blodau gwyllt. Mae pandemig COVID-19 wedi dangos inni bwysigrwydd natur i'n lles. Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Mae llawer o bobl yn gwybod y gall coed a mawndiroedd storio carbon. Gall hyn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae llai o bobl yn gwybod bod priddoedd glaswelltiroedd hefyd yn gallu storio carbon. Mae glaswelltir sy'n llawn gwahanol rywogaethau'n storio mwy o garbon na glaswelltir lle mae prinder rhywogaethau. Mae dolydd sy'n llawn gwahanol rywogaethau:

  • ar hyd ein ffyrdd 
  • mewn parciau, ac
  • mewn mannau gwyrdd

yn gallu ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd.  

Mae torri glaswellt yn llai aml yn atal pridd rhag mynd yn rhy gywasgedig. Mae priddoedd mwy llac yn caniatáu i wreiddiau planhigion ddatblygu'n well. Mae hyn yn helpu pridd i amsugno dŵr ac yn lleihau effeithiau llifogydd a sychder.

Pwy sy'n Rheoli Ymylon Ffyrdd a Glaswelltir Amwynder?

Rydyn ni'n gweithio gydag Asiantau Cefnffyrdd i ofalu am ein rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd. Mae cefnffyrdd a thraffyrdd yn ffyrdd prysur iawn. Maent yn cysylltu dinasoedd, trefi a phorthladdoedd mawr. Mae'r M4, yr A470 a'r A55 yn rhai enghreifftiau. Dyma ragor o wybodaeth am ymylon ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd.

Awdurdodau lleol sy'n rheoli'r rhan fwyaf o ymylon ffyrdd eraill. Gall ymylon o amgylch pentrefi ac mewn ardaloedd preswyl dderbyn gofal gan:

  • gynghorau cymuned a thref, a
  • chymdeithasau tai

Mae glaswelltir amwynder sy'n eiddo cyhoeddus yn derbyn gofal gan:

  • awdurdodau lleol
  • cynghorau cymuned a thref
  • cymdeithasau tai, a
  • grwpiau cymunedol

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth. Gall torri ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder mewn ffordd sy’n gwella bioamrywiaeth helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae sefydliadau sy'n amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer rheoli glaswelltir yn hyrwyddo gweithredu:

  • drwy gynlluniau cymorth a rheoli corfforaethol
  • drwy ymrwymo i'r cynllun Caru Gwenyn

Mae hyn yn annog gweithluoedd i weithio gyda'i gilydd a mabwysiadu dulliau newydd.

Mae Plantlife wedi cynhyrchu rheoli glaswellt ar ymylon ffyrdd: canllaw arfer da (gweler yr adran adnoddau yn https://roadverges.plantlife.org.uk). Roedd hyn mewn cydweithrediad â phartneriaid, gan ein cynnwys ni ein hunain.

Mae Natur Wyllt (monlife.co.uk) wedi datblygu cod gweithredu. Mae hyn yn cynnwys dulliau amgen o reoli glaswelltiroedd. Mae Natur Wyllt:

  • yn rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (on monlife.co.uk)
  • ac yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig
  • ac yn cael ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant

Torri a chasglu

Mae torri a chasglu yn ddull sy'n efelychu ffyrdd traddodiadol o reoli dolydd gwair. Mae'n golygu casglu'r glaswellt ar ôl iddo gael ei dorri. Mae hyn yn bwysig oherwydd:

  • ei fod atal llystyfiant, sy'n gallu mygu planhigion bregus marw, rhag cronni
  • ei fod yn gadael rhagor o dir agored i ganiatáu i hadau dyfu
  • ei fod yn lleihau ffrwythlondeb pridd. Mae hyn yn arafu twf glaswellt sy'n hoff o faethynnau, sy'n tagu blodau gwyllt a glaswellt mân
Image
Torri a chasglu peiriant torri gwair ar laswelltir amwynder

Diogelwch ar y ffyrdd

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cadw ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr. Er mwyn sicrhau y gall defnyddwyr ffyrdd weld, bydd angen inni reoli rhai ardaloedd i sicrhau diogelwch. Efallai y byddwn ni'n torri'r rhain yn amlach:

  • cyffyrdd
  • ffiniau ymylon
  • cylchfannau

Y ffordd rydyn ni'n cefnogi newidiadau

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw ein menter i greu natur ar garreg eich drws. Mae'n cynnig grantiau cyfalaf i brynu offer fel peiriannau torri a chasglu. Mae'r rhain yn helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i:

  • newid eu harferion torri glaswellt
  • ehangu'r ardaloedd lle gallan nhw wella bioamrywiaeth

Yn 2021–22 cafodd pob awdurdod lleol yng Nghymru gymorth o'r ffynhonnell hon. Maen nhw'n newid eu harferion torri glaswellt. Rydyn ni am i ragor o sefydliadau gymryd rhan er mwyn creu rhagor o ddolydd i fywyd gwyllt.

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn parhau i wella ardaloedd glaswelltir ar gyfer bioamrywiaeth. Mae'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf i’r rhai sy’n rheoli tir yn ddielw yng Nghymru, er enghraifft:

  • awdurdodau lleol
  • cynghorau cymuned a thref
  • cymdeithasau tai
  • ysgolion
  • y GIG
  • eraill sy'n rheoli glaswelltir yn ddielw

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cydgysylltydd Partneriaeth Natur Lleol. Mae ganddyn nhw arbenigedd a gwybodaeth werthfawr. Gallan nhw roi cyngor ar sut i gynyddu natur mewn cymunedau lleol.

Mae Swyddog Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Rachel Carter, yn cefnogi Cynghorau Cymuned a Thref. Mae Rachel yn rhoi cyngor a chymorth i ddod o hyd i gyllid. Mae hefyd yn cynnig cymorth cyffredinol gyda chynlluniau bioamrywiaeth.

Mae gennyn ni brosiectau wedi'u hariannu gan grantiau i gynyddu maint ein dolydd sy'n llawn blodau gwyllt:

Iddyn Nhw

Ymgyrch yw ‘Iddyn Nhw’ sy’n dysgu pobl mai diben newid y drefn torri porfa yw achub natur.

Mae torri’r borfa’n llai aml ar ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd yn creu cynefin ‘Iddyn Nhw’:

  • blodau gwyllt
  • infertebratau
  • adar
  • mamaliaid
  • amffibiaid
  • ymlusgiaid

Os ydych chi’n gyfrifol am ymylon ffyrdd neu fannau gwyrdd cyhoeddus, hoffem i chi ymuno â ni.  Mae angen eich cefnogaeth arnon ni i’w helpu ‘Nhw’ i lwyddo.  Rydyn ni wedi creu pecyn o adnoddau i’ch helpu.  Ychwanegwch eich logos a’ch manylion eich hun at:

  • templed y ffeithlun
  • templedi arwyddion y gallwch eu printio
  • taflen fer gyda rhai cwestiynau cyffredin

Hoffwn ichi fynd â’r gair ar led am ‘Iddyn Nhw’.  Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.  Rhannwch y negeseuon ar eich cyfryngau cymdeithasol.  Gyda’ch cymorth, gallwn annog mwy o bobl i dorri porfa’n llai aml a helpu i achub natur.

Iddyn Nhw: pecyn cymorth i randdeiliad

Astudiaethau achos