Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghori yn ein helpu i ddeall sut y gallai pethau fel polisi neu gyfraith newydd effeithio arnoch chi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam rydyn ni'n ymgynghori

Mae ymgynghori yn ein helpu i ddeall sut y gallai pethau fel polisi neu gyfraith newydd effeithio arnoch chi. Mae deall yn well drwy glywed eich syniadau a'ch awgrymiadau yn ein helpu i wneud polisïau yn fwy effeithiol.

Mae ymgynghori yn ffordd fwy ffurfiol o gasglu barn. Mae'n ffordd i Weinidogion geisio ystod eang o safbwyntiau ar ddull gweithredu neu bolisi arfaethedig. Rydym hefyd yn defnyddio technegau eraill i'ch cynnwys mewn penderfyniadau. Rydym am ddeall safbwyntiau a barn wahanol am yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ac mae eich mewnbwn yn helpu i wella gwasanaethau'r llywodraeth.

Mewn rhai achosion, mae'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i ni ymgynghori ag unigolion, grwpiau neu bartneriaid y gellid effeithio arnynt.

Pwy rydyn ni'n ymgynghori â hwy

Ein nod yw cyrraedd cymaint o randdeiliaid â phosibl. Rydym yn targedu grwpiau a chymunedau nad ydynt fel arfer yn ymateb. Rydyn ni eisiau eu safbwyntiau.

Mae deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn  dweud bod yn rhaid i ni gynnwys ystod amrywiol o bobl yn ein penderfyniadau.

Sut rydyn ni yn ymgynghori

Pan fydd ymgynghoriad newydd yn cael ei lansio, rydym yn sicrhau bod y dogfennau perthnasol ar gael ar ein gwefan fel y gall unrhyw un eu darllen a chyfrannu.

Fel arfer, rydym yn caniatáu o leiaf 12 wythnos i randdeiliaid ymateb i ymgynghoriad, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Bydd dyddiad dechrau a gorffen clir i bob ymgynghoriad. 

Sut rydyn ni yn defnyddio eich gwybodaeth

Unwaith y bydd ymgynghoriad wedi'i gwblhau, mae angen amser arnom i ystyried yr ymatebion. Gall yr amser y mae hyn yn ei gymryd amrywio yn dibynnu ar nifer a chymhlethdod yr ymatebion a dderbynnir. Ein nod yw cyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion ar ein gwefan. Mae hyn fel arfer o fewn 12 wythnos i ddyddiad cau'r ymgynghoriad. Rydym yn gwirio ac yn dadansoddi'r holl ymatebion cyn gwneud penderfyniad.

Byddwn yn cyhoeddi'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein gwefan yn yr iaith y gwnaethom eu derbyn.

Mae trin a phrosesu ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael ei reoli gan y gofynion ar gyfer Data Personol. Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) Bydd pob ymgynghoriad yn cynnwys esboniad o sut mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol. Rydym yn dilyn cyfreithiau diogelu data ar drin ymatebion. Mae ein hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru yn esbonio mwy.

Sut allwch chi chwarae eich rhan