Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.

Siart yn dangos faint mae myfyrwyr wedi’i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru. Roedd nifer y bobl a oedd yn cael rhywfaint o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu, ond mae wedi lleihau ar bob lefel eleni.

Prif bwyntiau

  • Cafodd targed 2016/17 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr yn astudio o leiaf 5 o gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg, ei gyrraedd. Ond, ni lwyddwyd i gyrraedd y targed ar gyfer myfyrwyr yn astudio o leiaf 40 o gredydau.  Noder bod y targedau wedi'u pennu drwy ddefnyddio methodoleg ychydig yn wahanol i'r bwletin hwn (ar dudalen dau).
  • Gwelwyd gostyngiad mawr yn nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio o leiaf 5 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2016/17. Mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio rhywfaint o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng yn 2016/17 o 7,780 i 6,870. Mae'r rhan fwyaf o'r gostyngiad hwn i'w weld ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant, sy'n ei briodoli i lai o fyfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant i athrawon a darpariaeth is o lawer o gyrsiau Cymraeg byr oherwydd diffyg staff, cyllid ac adnoddau.
  • Addysg oedd y pwnc mwyaf poblogaidd a addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 2 ym mhob 5 o fyfyrwyr yr oedd rhywfaint o'u haddysgu yn Gymraeg yn astudio Addysg, ac roedd tua chwarter y myfyrwyr Addysg yn astudio rhan o'u gradd yn Gymraeg.
  • Mae nifer y myfyrwyr ôl-raddedig llawn amser sy'n astudio rhywfaint o'u cwrs yn Gymraeg wedi treblu ers 2008/09.
  • Roedd traean o'r myfyrwyr yng Nghymru sy'n ystyried eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 15 o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf (120 credyd yn Gymraeg).
  • Mae nifer y staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu 52% dros y 5 blynedd diwethaf, ond ni welwyd llawer o newid yn y nifer sy'n addysgu yn y Gymraeg mewn gwirionedd.
  • Mae nifer y staff Cymraeg wedi aros yr un peth. Hynny er gwaetha'r ffaith bod y Coleg Cymraeg wedi darparu llai o gyllid drwy ei gynllun staffio eleni, sy'n awgrymu bod y sefydliadau'n ariannu'r swyddi eu hunain.

Adroddiadau

Y iaith Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch, Medi 2016 i Awst 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 901 KB

PDF
901 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Y gymraeg mewn addysg uwch, Medi 2016 i Awst 2017: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 399 KB

PDF
399 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.