Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio rhywfaint o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng yn 2017/18 o 6,870 i 6,205. Mae’r rhan fwyaf o’r gostyngiad hwn i’w wled ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Brifysgol wedi datgan bod eu darpariaeth wedi lleihau ers hynny a bod llawer o’r gostyniad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i’w briodoli i hyn.
  • Addysg oedd y pwnc mwyaf poblogaidd a addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 5 o fyfyrwyr yr oedd rhywfaint o'u haddysgu yn Gymraeg yn astudio Addysg. 
  • Roedd traean o'r myfyrwyr yng Nghymru sy'n ystyried eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 15 o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf (120 credyd yn Gymraeg).
  • Mae nifer y staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu 38% dros y 6 blynedd diwethaf, ond mae hyn 9% yn llai o’i gymharu â’r llynedd.
  • Ni welwyd llawer o newid yn y nifer sy’n addysgu mewn gwirionedd. Mae nifer y staff Cymraeg wedi aros yr un peth. Hynny er gwaetha'r ffaith bod y Coleg Cymraeg wedi darparu llai o gyllid drwy ei gynllun staffio eleni, sy'n awgrymu bod y sefydliadau'n ariannu'r swyddi eu hunain.

Cyhoeddi’r ystadegau hyn yn y dyfodol

Rydym yn y broses o ddiweddaru’r ffordd y bydd yr ystadegau hyn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol, ac fe fyddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych.

Adroddiadau

Y iaith Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch, Medi 2017 i Awst 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 763 KB

PDF
763 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Y gymraeg mewn addysg uwch, Medi 2017 i Awst 2018: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 226 KB

PDF
226 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 062 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.