Neidio i'r prif gynnwy

Wrth ysgrifennu at y Gweinidogion gofynnir i gynrychiolwyr etholedig ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost Gweinidogol sydd wedi’u sefydlu yn benodol i dderbyn gohebiaeth Weinidogol. Mae’r rhain i’w cael ar ein tudalen Ysgrifennu at y Gweinidogion. Peidiwch â defnyddio’r cyfeiriadau e-bost sydd gan y Gweinidogion fel Aelodau o'r Senedd i anfon gohebiaeth sy’n cael ei hanfon atynt yn rhinwedd eu swydd fel Gweinidog. Mae gwneud hynny’n golygu bod mwy o amser yn mynd heibio cyn iddynt allu ymateb gan fod yr ohebiaeth yn gorfod cael ei hanfon ymlaen i Lywodraeth Cymru cyn i ni allu dechrau ymdrin â hi.

Er bod Gweinidogion unigol yn gallu mynd ati yn wahanol, ar y cyfan pan gawn ohebiaeth Weinidogol mae’n cael ei throsglwyddo i’r adran bolisi berthnasol. Yno, bydd gweision sifil yn paratoi cyngor i’r Gweinidog ar dermau ymateb. Mae hyn yn galluogi’r Gweinidog i ystyried y llythyr yng nghyd-destun yr holl wybodaeth gefndir berthnasol a chyfoes sydd ar gael. O ddefnyddio’r dull hwn bydd y Gweinidogion fel rheol yn gweld gohebiaeth am y tro cyntaf pan gaiff ei chyflwyno iddynt ynghyd â’r wybodaeth a’r cyngor cefndir perthnasol. Os bydd staff y Gweinidogion yn penderfynu bod angen i’r Gweinidog roi sylw personol ar unwaith i ohebiaeth gallant sicrhau bod y Gweinidog yn ei gweld cyn i’r gweision sifil baratoi eu cyngor.

Mae’r Gweinidogion yn anelu at ymateb yn bersonol i’r holl ohebiaeth a ddaw i law oddi wrth gynrychiolwyr etholedig. Maent yn ceisio gwneud hynny o fewn targed Lywodraeth Cymru o 17 diwrnod gwaith. Yn aml, anfonir ymateb yn llawer cynt na hyn. Fe gewch gydnabyddiaeth yn nodi erbyn pa ddyddiad y gallwch ddisgwyl ateb.