Cysylltu â gweinidogion Llywodraeth Cymru
Manylion cyswllt y gweinidogion. Esbonio sut mae eich gohebiaeth yn cael ei thrin.
Cynnwys
Cyfathrebu gyda gweinidogion
Gallwch gysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru drwy e-bost neu drwy'r post. Nid oes angen defnyddio'r ddwy ffordd. Sylwer y bydd yn cymryd mwy o amser inni ymateb i ymholiadau drwy'r post. Felly, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio e-bost i gael ymateb yn gynt. Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, byddwn yn ymateb drwy e-bost yn unig, hyd yn oed os gwnaethoch gysylltu â ni drwy'r post i ddechrau.
Gellir trosglwyddo eich gohebiaeth i arbenigwr pwnc i'w hateb ar ran ysgrifennydd y cabinet neu'r gweinidog.
Efallai na fyddwn yn gallu darparu ymateb os yw eich gohebiaeth:
- yn cynnwys iaith anweddus, neu o natur ymosodol neu dreisgar.
- yn aneglur neu na ellir ei darllen/deall.
- yn gwerthu neu'n hyrwyddo cynnyrch.
- yn ymwneud â mater sydd heb ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru neu nad yw'n gofyn unrhyw gwestiynau i Lywodraeth Cymru.
- yn cynnwys dolen yn unig. Oherwydd pryderon yn ymwneud â seibergadernid, bydd negeseuon e-bost nad ydynt ond yn cynnwys dolenni neu gyfarwyddiadau i wylio fideos yn cael eu dileu yn awtomatig.
- yn ohebiaeth a anfonwyd atom fel copi (na chaiff ond ei darllen, ei ffeilio a'i chadw fel arfer)
Osgoi:
- gofynion afresymol a dyfalbarhad - amodau afresymol a cheisiadau tebyg dro ar ôl tro yn ei gwneud hi'n anodd i ni ddarparu gwasanaeth i chi'ch hun ac i eraill.
Amser ymateb
Byddwn yn anelu at eich ateb cyn pen 17 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, os yw eich gohebiaeth yn gymhleth neu'n cael ei hanfon ar adeg pan ddaw nifer uchel o ohebiaeth i law, gall gymryd mwy o amser. I gael gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r canlynol, edrychwch ar ein tudalennau canllaw cyn cysylltu â ni, gan y gallant ateb eich cwestiynau yn barod.
- Cymorth i helpu gyda chostau byw
- Help yn ystod ac ar ôl llifogydd
- COVID-19
- Cwricwlwm i Gymru
- Cael help gyda chostau byw
- Diwygio'r flwyddyn ysgol
- Terfynau cyflymder 20mya
- cynigion datblygu cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio
Polisi un ymateb
Cofiwch mai un ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru. Felly, anfonwch eich e-bost at un Gweinidog yn unig i sicrhau eich bod yn cael ymateb cynhwysfawr ac amserol. Bydd yr ymateb yn dod o'r swyddfa sy'n dal y prif gyfrifoldeb portffolio/eu swyddogion ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau allweddol
Mae tudalen pob Gweinidog yn rhestru'r meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r tudalennau hyn o dan bennawd pob Gweinidog isod. Ar gyfer materion sydd heb eu datganoli, cysylltwch â'r adrannau perthnasol yn Llywodraeth y DU.
Cysylltu â’r Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth
Os hoffech gysylltu â gweinidog yn ei rôl fel Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth, cewch ei fanylion cyswllt ar wefan Senedd Cymru.
E-bost
Prif Weinidog Cymru
Rhun ap Iorwerth: Cyswllt
Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Sioned Williams: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Elin Jones: Cyswllt
Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Heledd Fychan: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
Dafydd Trystan Davies: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mabon ap Gwynfor: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Adam Price: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Anna Brychan: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Llyr Gruffydd: Cyswllt
Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Siân Gwenllian: Cyswllt
Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Nerys Evans: Cyswllt
Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Delyth Jewell: Cyswllt
Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
Mark Hooper: Cyswllt
Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Cefin Campbell: Cyswllt
Darpar Gwnsler Cyffredinol
Elfyn Llwyd: Cyswllt
Neu drwy’r post
Gweinidog Cabinet / Y Dirprwy Weinidog...
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN
