Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i gysylltu â’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Bydd pob gweinidog yn ymdrin ag e-byst a llythyrau ar sail eu cyfrifoldebau.

Os hoffech godi materion o fwy nag un portffolio, ysgrifennwch at un gweinidog yn unig. Byddwch yn derbyn un ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn mynd i’r afael â’ch holl bryderon.

Ni fyddwch yn cael ymatebion ychwanegol, nac ymateb cyflymach, drwy gysylltu â mwy nag un gweinidog. Bydd eich holl ddarnau o ohebiaeth yn cael eu cyfuno a byddwch yn derbyn un ateb.

Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo hynny’n bosibl (hyd yn oed os byddwch wedi ysgrifennu atom ar ffurf copi caled). Efallai y byddwch am anfon eich gohebiaeth drwy e-bost yn unig.

Dylech hefyd edrych yn eich ffolder e-bost sothach a gwirio eich hidlyddion sbam wrth ddisgwyl ymateb. Efallai y byddwch am ychwanegu’r parth @llyw.cymru i’ch rhestr o barthau diogel er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn ein hymatebion e-bost.

Ein nod yw ymateb o fewn 17 o ddiwrnodau gwaith. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr ohebiaeth yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd, gallem gymryd mwy o amser na hyn.

Ni allwn ateb gohebiaeth ynghylch materion nad ydynt wedi eu datganoli. Llywodraeth y DU sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn. Gallwch gael manylion cyswllt adrannau perthnasol y DU yma.

Cael cymorth ar-lein

Gallai fod yn gyflymach ichi gael cymorth ar-lein, yn yr adrannau isod:

Effaith economaidd y coronafeirws

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws (COVID-19), o ran yr economi neu i gefnogi busnesau, darllenwch y wybodaeth sydd gyda ni ar-lein cyn ysgrifennu.

Sefydliadau eraill

Efallai y cewch ymateb yn gynt drwy gysylltu gyda'r sefydliadau yn uniongyrchol:

Cadw

Mae gwefan Cadw yn cynnwys gwybodaeth ar bob maes gwaith amgylchedd hanesyddol Cymru. Cyn i chi ysgrifennau at y Dirprwy Weinidog, gwiriwch y wefan i weld os oes ateb i'ch ymholiad yna. Mae peth o'r pynciau yn cynnwys:

Dylid cyfeirio gohebiaeth ar rai materion yn uniongyrchol at Cadw. Mae hyn yn cynnwys:

  • argymell eiddo i'w restru neu gofrestru
  • gwybodaeth ynghylch grantiau a chyllido
  • materion gweithredol ynghylch eiddo Cadw

Creative Wales

Mwy o wybodaeth am Creative Wales.

Amgueddfeydd

Mwy o wybodaeth ynghylch y gefnogaeth a'r cyngor sydd ar gael i amgueddfeydd.

Cyllid a chyngor sydd ar gael i amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth yn Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion - CGCC neu'r Gronfa Cyllido Treftadaeth.

Cyrff a noddir

Os hoffech gwyno am wasanaethau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru o fewn portffolio'r Dirprwy Weinidog, dylech gysylltu gyda'r sefydliad yn uniongyrchol.

Post

Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst.

Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb. ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.

Y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1NA

E-bost

Gohebiaeth.Dawn.Bowden@llyw.cymru