Dawn Bowden AS Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cynnwys

Cyfrifoldebau Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cynnwys
Bywgraffiad
Cafodd Dawn Bowden ei enni ym Mryste ac addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Bernadette a Choleg Technegol Soundwell. Gweithiodd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng 1979 a 1982, ac i Gyngor Dinas Bryste rhwng 1982 a 1983. Ym 1989, symudodd i dde Cymru i ddod yn Swyddog Ardal benywaidd cyntaf ac ieuengaf yr ardal. Cododd drwy rengoedd ei hundeb i ddod yn Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, swydd y bu ynddi hyd at ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Mae hi'n cyfrif arwain y trafodaethau a gyflwynodd y Cyflog Byw i GIG Cymru yn 2014 ymysg ei llwyddiannau mwyaf balch.
Etholwyd Dawn yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful a Rhymney ym mis Mai 2016. Yn nhymor diwethaf y Senedd, roedd Dawn yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; y Pwyllgor Diwylliant Iaith a Chyfathrebu Cymraeg; y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol; Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chydraddoldeb a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau. Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd a chynrychioli Senedd Cymru yng Nghyngres Rhanbarthau Ewrop ac roedd yn Aelod o Dasglu'r Cymoedd.
Ar 13 Mai 2021 penodwyd Dawn yn Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ac yn Brif Chwip.
Cyfrifoldebau
- Darparu cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu, neu ddatblygu (gan gynnwys cymorth allforio)
- Cefnogaeth ar gyfer Mewnfuddsoddi
- Polisi Masnachu Ryngwladol
- Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
- Banc Datblygu Cymru
- Paneli Cynghori Economaidd
- Cyngor Datblygu'r Economi a'r Grŵp Strategaeth Partneriaeth Gymdeithasol
- Hyrwyddo Cymru fel lleoliad i wneud busnes ac i fuddsoddi ynddo
- Bargeinion Dinesig Caerdydd a Bae Abertawe
- Bargeinion Twf Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru
- Rheoli asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
- Gwasanaethau sgiliau busnes a datblygu busnes
- Polisi Gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG)
- Polisi ar brentisiaethau, a chyflenwi hynny
- Polisi ar gyflogadwyedd ieuenctid ac oedolion, a chyflenwi'r polisi
- Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- Sgiliau sector
- Datblygu sgiliau'r gweithlu
- Rhaglenni Ewropeaidd mewn perthynas â sgiliau a chyflogaeth
- Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- Fframwaith rheoleiddio ar gyfer arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd
- Yr Economi Sylfaenol
- Menter Gymdeithasol a'r economi gymdeithasol
- Economi gydweithredol
- Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt o ddydd i ddydd â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru a'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol
- Gwyddorau Bywyd
- Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; manteisio i’r eithaf ar incwm ymchwil ac arloesi; a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
- Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
- Polisi a Strategaeth Ddigidol a Pholisi a Strategaeth Data Trawslywodraethol
- Digwyddiadau Mawr
- Diwylliant, creadigrwydd a’r celfyddydau, gan gynnwys Cymru Greadigol
- Polisi darlledu
- Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i gylch gwaith
- Twristiaeth yng Nghymru ac i Gymru
- Lletygarwch
- Amgylchedd hanesyddol Cymru
- CADW a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Datblygu Archif Genedlaethol Cymru
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Chwaraeon Elît
- Chwaraeon cymunedol, gweithgareddau corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru
- Rhaglen a Thasglu'r Cymoedd
- Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020
- Y Gronfa Ffyniant Gyffredin / Cronfa Adfywio Cymunedol