Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pryd a sut i gysylltu â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd pob gweinidog yn ymdrin ag e-byst a llythyrau ar sail eu cyfrifoldebau.
Ni all y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd mewn achosion na chwynion unigol am wasanaethau GIG.
Os hoffech godi materion o fwy nag un portffolio, ysgrifennwch at un gweinidog yn unig. Byddwch yn derbyn un ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn mynd i’r afael â’ch holl bryderon.
Ni fyddwch yn cael ymatebion ychwanegol, nac ymateb cyflymach, drwy gysylltu â mwy nag un gweinidog. Bydd eich holl ddarnau o ohebiaeth yn cael eu cyfuno a byddwch yn derbyn un ateb.
Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo hynny’n bosibl (hyd yn oed os byddwch wedi ysgrifennu atom ar ffurf copi caled). Efallai y byddwch am anfon eich gohebiaeth drwy e-bost yn unig.
Dylech hefyd edrych yn eich ffolder e-bost sothach a gwirio eich hidlyddion sbam wrth ddisgwyl ymateb. Efallai y byddwch am ychwanegu’r parth @llyw.cymru i’ch rhestr o barthau diogel er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn ein hymatebion e-bost.
Ein nod yw ymateb o fewn 17 o ddiwrnodau gwaith. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr ohebiaeth yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd, gallem gymryd mwy o amser na hyn.
Ni allwn ateb gohebiaeth ynghylch materion nad ydynt wedi eu datganoli. Llywodraeth y DU sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn. Gallwch gael manylion cyswllt adrannau perthnasol y DU yma.
Gwneud cwyn neu fynegi pryder am wasanaeth yn GIG Cymru
Ni all y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd mewn achosion na chwynion unigol am wasanaethau GIG.
Os ydych am wneud cwyn neu fynegi pryder am wasanaeth yn GIG Cymru, dylech gysylltu â’r bwrdd neu’r ymddiriedolaeth iechyd sy’n darparu’r gwasanaeth.
- cysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol
- cwyno am amseroedd aros am ambiwlans
- cwyno am wasanaethau’r GIG neu feddygon teulu
Enw’r broses ar gyfer gwneud cwyn neu fynegi pryder yn GIG Cymru yw Gweithio i Wella.
Gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai
Ni all y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd mewn achosion unigol am amseroedd aros ysbytai.
Gallwch gael gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai yma (yn 111.gig.cymru). Dylid defnyddio’r wybodaeth hon fel canllaw yn unig. Nid yw’r data’n gallu dweud wrthych ble rydych chi ar y rhestr aros.
Darperir yr wybodaeth i’ch helpu i ddarganfod pa mor hir mae pobl yn eich Bwrdd Iechyd Lleol yn aros am wasanaethau GIG.
Cael cymorth ar-lein
Gallai fod yn gyflymach ichi gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar-lein:
Iechyd
- Cymorth a chyngor gan GIG 111 Cymru
- Sut i gael at wasanaethau iechyd meddwl y GIG a ble i gael cymorth brys (yn nhs.uk)
- Sut i gael y gofal GIG cywir yn y lle cywir (Helpwch Ni i’ch Helpu Chi)
- Gwybodaeth am frechu ac imiwneiddio
COVID-19
Cymorth
Polisi a chanllawiau
- Sut y byddwn yn lleihau rhestrau aros y GIG
- Sut y byddwn yn gwella mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng
- Yr holl bolisïau, canllawiau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn LLYW.CYMRU
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gennym, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Sut i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Os ydych, ar ôl darllen yr wybodaeth hon, yn dal i fod angen ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gallwch wneud hynny drwy’r post neu e-bost.
Post
Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst.
Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb, ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.