Neidio i'r prif gynnwy
Jeremy Miles AS

Cyfrifoldebau Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Bywgraffiad

Cafodd Jeremy Miles ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais. Ac yntau'n siaradwr Cymraeg, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe a New College, Rhydychen lle bu'n astudio'r gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Yn ddiweddarach, bu'n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain ac wedyn bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol a masnachol mewn busnesau yn sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith teledu'r Unol Daleithiau a stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i Gymru sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sectorau darlledu a digidol.

Cafodd Jeremy ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer etholaeth Castell-nedd ym Mai 2016 fel yr ymgeisydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol, yn dilyn ymddeoliad Gwenda Thomas, AC. Ar 16 Tachwedd 2017 penodwyd Jeremy yn Gwnsler Cyffredinol ac ar 13 Rhagfyr 2018 fe’i penodwyd yn Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit. Penodwyd Jeremy yn Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 13 Mai 2021.

Mae ei ddiddordebau'n cynnwys datblygu economaidd a chymunedol, ac addysg a sgiliau. Mae hefyd yn mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, beicio, heicio a dilyn rygbi'n lleol.

Cyfrifoldebau

  • Llywodraethu ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
  • Safonau ysgolion, gwelliannau a chyrhaeddiad disgyblion, gan gynnwys y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
  • Cylch gwaith Estyn
  • Cyllido ysgolion
  • Y cwricwlwm ac asesu hyd at a chan gynnwys Safon Uwch
  • Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
  • Y Cyfnod Sylfaen
  • Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl, a disgyblion abl a thalentog
  • Cymorth i bobl â Dyslecsia
  • Diogelwch a chynhwysiant plant a phobl ifanc mewn ysgolion, gan gynnwys diogelwch ar y rhyngrwyd
  • Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
  • Cyflwyno a rheoli'r rhaglen addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif
  • Cymwysterau Cymru
  • Hyfforddi a datblygu'r gweithlu addysg, gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol athrawon ac addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Cyflogau ac Amodau Athrawon
  • Addysg Bellach
  • Cymorth i fyfyrwyr Addysg Bellach: y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
  • Polisi gwaith ieuenctid
  • Dysgu Oedolion yn y Gymuned
  • Y Fframwaith Credydau a Chymwysterau gan gynnwys cymwysterau sgiliau galwedigaethol, allweddol a hanfodol
  • Cyrsiau dysgu ar gyfer carcharorion
  • Polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch
  • Addysg Drydyddol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm ôl-16
  • Strategaeth a dysgu rhyngwladol, gan gynnwys y Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol a Chymru Fyd-eang
  • Addysg Feddygol (ac eithrio hyfforddiant ôl-radd)
  • Y Gymraeg (gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg)
  •  

Ysgrifennu at Jeremy Miles