Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Fedi 2019.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 6,383 o danau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 23%.
  • Roedd 2,243 o brif danau yng Nghymru, gostyngiad o 10%.
  • Roedd 4,062 o danau eilaidd yng Nghymru, gostyngiad o 29%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt. 
  • Roedd 1,703 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 49%. 

Anafusion

  • Roedd 7 o farwolaethau tân yng Nghymru, 3 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 96 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 3 yn llai na yn y flwyddyn flaenorol.
  • Derbyniodd 123 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 32%.

Galwadau ffug

  • Roedd 7,502 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 4% yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 202 o alwadau ffug maleisus, 9% yn fwy na'r adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.