Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Fedi 2021.

Mae’r dadansoddiad isod yn ymwneud â’r cyfnodau 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, yr effeithiwyd ar y ddau gyfnod gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 5,994 o danau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 4%.
  • Roedd 2,055 o brif danau yng Nghymru, gostyngiad o 1%.
  • Roedd 3,852 o danau eilaidd yng Nghymru, gostyngiad o 6%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt. 
  • Roedd 1,585 o danau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 11%.

Anafusion

  • Roedd 13 o farwolaethau tân yng Nghymru, 1 yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 70 o anafiadau yn y cyfnod hwn, 7 yn fwy na yn y flwyddyn flaenorol.
  • Derbyniodd 175 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn 24 yn fwy na'r nifer yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Galwadau ffug

  • Roedd 7,766 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 4% yn llai nag a adroddwyd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 204 o alwadau ffug maleisus, 34% yn fwy nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.