Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ystadegau diweddaraf am berfformiad y GIG, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos maint a graddfa’r cynnydd yn y galw sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd nifer y derbyniadau brys ar gyfer mis Mai y trydydd uchaf ym mis Mai ar gofnod. Mae nifer y derbyniadau brys ar gyfer mis Mai hefyd ymhlith yr uchaf ar gofnod ac mae’r pwysau ar gyfleusterau gofal brys yn dal i gynyddu; mae’r tueddiadau ar gyfer y tymor canolig yn dangos bod nifer y bobl sy’n eu mynychu wedi cynyddu 7.5% ers 2014.

Er bod elfennau cadarnhaol yn nata’r mis hwn, mae’n amlwg bod rhai meysydd lle mae’r GIG yng Nghymru’n wynebu heriau, gan gynnwys yr amseroedd aros ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu. 

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud yn glir wrth fyrddau ac ymddiriedolaethau GIG Cymru bod angen sicrhau gwelliannau cyflym o ran perfformiad. 

Yn y cyd-destun hwn o alw cynyddol, mae’n galonogol bod cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd:

  • Dechreuodd mwy o gleifion ar eu triniaeth am ganser o fewn yr amser targed yn y 12 mis diwethaf nag yn y 12 mis blaenorol. 
     
  • Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans GIG Cymru wedi bodloni’r amser targed ar gyfer ymateb gan ambiwlansys am y 42fed mis yn olynol er gwaetha’r ffaith bod mwy o alwadau’n cael eu gwneud.
     
  • Mae achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal i lawr 6% o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd. Dyma’r cyfanswm ail isaf eleni hyd yma, a’r cyfanswm ail isaf ym mis Mai a gofnodwyd yn ystod y 14 blynedd y bu data’n cael eu casglu a’u cyhoeddi ar gyfer y maes hwn.
     
  • Er gwaetha’r pwysau cynyddol, cafwyd gwelliant bach o 1.7 pwynt canran ers y mis diwethaf yn y perfformiad 4 awr.
     
  • Cafodd mwyafrif llethol y bobl a aeth i gael gofal mewn cyfleusterau brys eu brysbennu, eu hasesu, eu trin a’u hanfon adref o fewn 4 awr. Roedd yr amser safonol/cyfartalog a dreuliwyd mewn cyfleusterau gofal brys yn is na 2 awr 30 munud. 
     
  • Mae’r amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a’r amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella ers mis Ebrill y llynedd, gyda llai o bobl yn aros mwy nag 8 wythnos am ddiagnosteg a mwy nag 14 wythnos am wasanaethau therapi. Mae’r perfformiad 26 wythnos o ran atgyfeirio a thriniaeth wedi gwella - mae 0.4 pwynt canran yn uwch - ac roedd 25% yn llai o gleifion yn aros mwy na 36 wythnos o gymharu Ebrill 2019 ac Ebrill 2018. 

Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n aros mwy na 12 awr cyn cael gwely mewn ysbyty yn dal yn bryder ac mae angen camau gweithredu pellach ynglŷn â gofal heb ei drefnu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â hyn fel blaenoriaeth.