Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 30 Medi 2020.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 30 Medi 2020.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Awst 2020.

  • Ar 31 Awst 2020, roedd 130,400 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 10%, yn debyg i’r gyfradd derbyn ledled y DU.
  • O'i gymharu â 31 Gorffennaf 2020, gostyngodd nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru gan 80,200 (38.1%)
  • Roedd 68,100 o fenywod a 62,300 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Awst, yn cyfrif am 52% a 48% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo.

Cyflogaethau yn flaenorol ar ffyrlo’n parhau ar y gyflogres.

  • Yng Nghymru, roedd 90% o'r gweithwyr a adawodd y cynllun ffyrlo CCSC rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf yn dal i fod ar eu cyflogres wreiddiol ym mis Awst, gan awgrymu eu bod yn parhau i weithio i'w cyflogwr gwreiddiol.

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Awst ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 30 Medi 2020. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Awst yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am ail grant y CCIH a agorodd ar gyfer hawliadau ar 17 Awst 2020.

  • I fyny at 30 Medi 2020, cafwyd 93,000  o hawliadau llwyddiannus ar gyfer yr ail CCIH yng Nghymru, sef 66% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru i fyny at 30 Medi oedd £218 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o'r holl hawliadau (29%) ac roedd ganddo un o'r cyfraddau derbyn uchaf (74%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.