Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 31 Rhagfyr 2020.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 14 Ionawr 2021.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC)

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Rhagfyr 2020.

  • Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd 155,500 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 12%, sy’n debyg i’r gyfradd derbyn ledled y DU.
  • Mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo wedi bod yn cynyddu yn gyffredinol ers mis Hydref 2020 (mae’r data cyfres amser ar gyfer Cymru yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2020), gyda chynnydd o 24.4% (30,500) rhwng 30 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2020. Er hynny, mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yn dal yn is nag ym mis Gorffennaf a mis Awst 2020.
  • Roedd 78,700 o fenywod a 76,800 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Rhagfyr 2020, yn cyfrif am 51% a 49% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo, yn ôl eu trefn.
  • Mae CThEM yn cyhoeddi data i lefel yr awdurdod lleol. Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 10% i 17%

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Rhagfyr 2020 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Ionawr 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Rhagfyr yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH)

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am drydydd grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 30 Tachwedd 2020.

  • I fyny at 31 Rhagfyr 2020, cafwyd 78,000  o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y trydydd CCIH yng Nghymru, sef 56% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru i fyny at 31 Rhagfyr oedd £204 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (34%).

Nodyn

Mae CThEM hefyd wedi cyhoeddi data ar y cynllun Eat Out, Help Out yng Nghymru sydd yn cynnwys pob hawliad dan y cynllun hyd at 30 Medi 2020.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.