Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 31 Hydref 2020.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 31 Hydref 2020.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Medi 2020.

  • Ar 30 Medi 2020, roedd 95,700 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 7%, yn debyg i’r gyfradd derbyn ledled y DU.
  • Mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yn parhau i ostwng, gyda gostyngiad o 32.2% (45,500) rhwng 31 Awst a 30 Medi.
  • Roedd 49,000 o fenywod a 46,700 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 30 Medi, yn cyfrif am 51% a 49% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo.

Cyflogaethau yn flaenorol ar ffyrlo’n parhau ar y gyflogres (data a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2020).

  • Yng Nghymru, roedd 90% o'r gweithwyr a adawodd y cynllun ffyrlo CCSC rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf yn dal i fod ar eu cyflogres wreiddiol ym mis Awst, gan awgrymu eu bod yn parhau i weithio i'w cyflogwr gwreiddiol.

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Medi ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 31 Hydref 2020. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Medi yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am ail grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 17 Awst 2020.

  • I fyny at 31 Hydref 2020, cafwyd 97,000  o hawliadau llwyddiannus ar gyfer yr ail CCIH yng Nghymru, sef 69% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru i fyny at 31 Hydref oedd £228 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o'r holl hawliadau (32%) ac roedd ganddo un o'r cyfraddau derbyn uchaf (76%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.