Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 14 Mai 2021 a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 9 Mai 2021.

Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Ebrill 2021.

  • Ar 30 Ebrill 2021, roedd 131,900 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 10%; ychydig yn is na’r gyfradd derbyn ledled y DU sydd yn 12%.
  •  Roedd gostyngiad o 19% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng Mawrth 31 ac Ebrill 30 2021, ac mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo wedi aros ar lefel debyg i’r lefel ddiwedd Tachwedd 2020.
  • Roedd 66,500 o fenywod a 65,400 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 30 Ebrill 2021, a hyn yn y ddau achos yn cyfrif am oddeutu 50% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo.
  • Mae CThEM yn cyhoeddi data i lefel yr awdurdod lleol. Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 8% (Blaenau Gwent, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot) i 15% (Conwy).

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 30 Ebrill 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Mai 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Ebrill yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bedwerydd grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 22 Ebrill 2020.

  • Hyd at 9 Mai 2021, cafwyd 66,000  o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pedwerydd CCIH yng Nghymru, sef 47% o’r boblogaeth gymwys.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru hyd at 9 Mai 2021 oedd £173 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (32%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.