Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed, hyd at 30 Tachwedd 2020.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 30 Tachwedd 2020.

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Hydref 2020.

Prif bwyntiau

  • Ar 31 Hydref 2020, roedd 123,000 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 9%, s’yn debyg i’r gyfradd derbyn ledled y DU.
  • Mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo wedi cynyddu am y tro cyntaf ers mis Gorffennaf (mae’r data cyfres amser dros Cymru yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2020), gyda cynnydd o 12.2% (13,400) rhwng 30 Medi a 31 Hydref 2020. Er hynny, mae nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yn dal yn is nag ym mis Gorffennaf a mis Awst 2020.
  • Roedd 64,600 o fenywod a 58,400 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Hydref 2020, yn cyfrif am 53% a 47% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo, yn ôl eu trefn.
  • Mae CThEM yn cyhoeddi data i lefel yr awdurdod lleol. Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 8% i 13%.

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Hydref 2020 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 30 Tachwedd 2020.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.