Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddiwrnod etholiad, mae'r pennawd hwn yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 7 Mai yn hytrach nag ar ddiwrnod yr etholiad. Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) fel arfer ar 6 Mai.

Mae CThEM wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 14 Ebrill 2021.

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Mawrth 2021.

Prif bwyntiau

  • Ar 31 Mawrth 2021, roedd 159,600 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 13%, ychydig yn is na’r gyfradd derbyn ledled y DU sydd yn 14%.
  • Roedd gostyngiad o 10% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng Chwefror 28 a Mawrth 31 2021, er fod nifer y cyflogaethau ar ffyrlo wedi aros ar lefel tebyg i’r lefel yn ddiwedd Awst 2020.
  • Roedd 83,500 o fenywod a 76,200 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 31 Mawrth 2021, yn cyfrif am 52% a 48% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo, yn ôl eu trefn.
  • Mae CThEM yn cyhoeddi data i lefel yr awdurdod lleol. Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 10% (Blaenau Gwent, Caerffili y Castell-nedd Port Talbot) i 18% (Conwy).

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 31 Mawrth 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 14 Ebrill 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Mawrth yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.