Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws (CCSC) hyd at 15 Mawrth 2021.

Mae'r diweddariad hwn yn rhoi cipolwg ar y rhai a oedd ar ffyrlo ar 28 Chwefror 2021.

Prif bwyntiau

  • Ar 28 Chwefror 2021, roedd 175,200 o gyflogaethau yng Nghymru wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy’r cynllun CCSC; mae hyn yn gyfradd derbyn o 13%, ychydig yn is na’r gyfradd derbyn ledled y DU sydd yn 15%.
  •  Roedd gostyngiad o 4% yn nifer y cyflogaethau ar ffyrlo yng Nghymru rhwng Ionawr 31 a Chwefror 28 2021, er fod nifer y cyflogaethau ar ffyrlo wedi aros ar level tebyg i’r lefel yn gynnar ym mis Awst 2020.
  • Roedd 93,100 o fenywod a 82,100 o ddynion wedi eu rhoi ar ffyrlo trwy CCSC ar 28 Chwefror 2021, yn cyfrif am 53% a 47% o’r holl gyflogaethau ar ffyrlo, yn ôl eu trefn.
  • Mae CThEM yn cyhoeddi data i lefel yr awdurdod lleol. Roedd cyfradd y niferoedd sy'n manteisio ar gyflogaethau ar ffyrlo ledled Cymru yn amrywio o 10% (Blaenau Gwent) i 19% (Conwy).

Nodyn

Mae data CCSC yn cynnwys y rhai a oedd ar ffyrlo ar 28 Chwefror 2021 ac y cyflwynwyd hawliadau ar eu cyfer i CThEM erbyn 15 Mawrth 2021. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Chwefror yn rhai cychwynnol ac maent yn debygol o gael eu diwygio yn y dyfodol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.