Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ethnigrwydd, statws anabledd, statws priodasol a chrefydd wedi gynhyrchu o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol ar gyfer 2015 i 2017.

Prif bwyntiau

Ethnigrwydd

  • Mae 95.6% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn. Roedd hyn yn amrywio fesul rhanbarth o 97.8% o'r boblogaeth yn y Gogledd i 94.3% yn ne-ddwyrain Cymru.
  • Mae 4.4% o'r boblogaeth yn disgrifio eu hunain fel Asiaidd, Du, 'Grwpiau ethnig cymysg/lluosog neu 'Grwpiau ethnig eraill'. Y rhai sy'n disgrifio eu grŵp ethnig fel Asiaidd yn grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru (2.1% o'r boblogaeth).

Anabledd

  • Nodwyd un pumed o'r boblogaeth 16 i 64 oed ei bod yn anabl. Fodd bynnag, roedd nodwyd cyfran uwch o fenywod na dynion eu bod yn anabl (23.0% o'i gymharu â 18.8%). Cynyddodd cyfran y bobl sy'n nodi eu bod yn anabl yn ôl grŵp oedran ar gyfer dynion a menywod.

Crefydd

  • Nododd dros hanner y boblogaeth yng Nghymru eu bod yn Cristnogol (52.8%). Tra dywedodd 42.7% o'r boblogaeth nid oedd ganddynt unrhyw grefydd. Fodd bynnag, mae'r ffigurau hyn yn amrywio fesul rhanbarth. Yng Ngogledd Cymru, nododd 60.0% o'r boblogaeth eu bod yn Cristnogol a 36.9% nid oedd ganddynt unrhyw grefydd. Mae hyn yn cymharu â 48.6% a 46.1% o bobl yn Ne Ddwyrain Cymru yn y drefn honno.
  • Mae bron 50,000 o bobl (1.6% o'r boblogaeth) yn uniaethu fel Fwslimaidd. Mae dros ddwy ran o dair (69%) o'r boblogaeth Fwslimaidd yng Nghymru yn byw yn Ne Ddwyrain Cymru.
  • Mae cyfran uwch o fenywod na dynion y uniaethu bod ganddynt grefydd (61% o gymharu â 53%) a mae’r chyfran o bobl sy'n uniaethu bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn ôl grŵp oedran. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â cyfran y bobl sy'n uniaethu bod nad oedd ganddynt unrhyw grefydd sydd nodedig yn gostwng wrth fynd yn hŷn.

Statws priodasol

  • Mae bron i hanner y boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru yn briod neu mewn partneriaeth sifil tra bod traean o'r boblogaeth yn sengl. Mae cyfran ychydig yn is o boblogaeth De-ddwyrain Cymru yn briod (47.3%) o gymharu ag Canolbarth/Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru (49.0% a 50.1% yn y drefn honno).
  • Roedd cyfran uwch o ddynion yn briod na menywod (50.2% o'i gymharu â 46.7%). Fodd bynnag, mae cyfran uwch o fenywod yn weddw neu bartneriaeth sifil sy’n fyw na dynion (9.9% o'i gymharu â 3.8%).

Gwybodaeth bellach

Mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) yn samplu tua 18,000 o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gellir maint y samplau ar gyfer pobl â 'nodweddion gwarchodedig' fod yn cymharol fach (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010). Felly, i wella'r dystiolaeth ar bobl sydd â 'nodweddion gwarchodedig', lluniwyd dadansoddiad mwy manwl o set ddata cyfun sy'n cyfuno 3 blynedd o ddata APB. Gellir darganfod y dadansoddiad hwn ar ein gwefan StatsCymru (gweler tab 'Data' isod).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099