Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer a gwerth yr hawliadau a wnaed ar gyfer hyd at 15 Awst 2021.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi cyhoeddi nifer yr hawliadau a wnaed i’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) hyd at 15 Awst 2021.

Mae'r ystadegau hyn yn nodi gwybodaeth am bumed grant y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (CCIH) a agorodd ar gyfer hawliadau ar 29 Gorffennaf 2021 a mi fydd yn cau ar 30 Medi 2021.

Prif bwyntiau

  • Hyd at 15 Awst 2021, cafwyd 29,000 o hawliadau llwyddiannus ar gyfer y pumed CCIH yng Nghymru, sef 21% o’r boblogaeth gymwys.
  • Mae'r nifer sy'n manteisio hyd yma wedi bod yn is na'r pedwerydd grant, ac mae data'n dangos tuedd sy'n gostwng yn y nifer sy’n manteisio ar y CCIH o’r grant cyntaf i'r pumed.
  • Cyfanswm y gwerth ar gyfer pob hawliad yng Nghymru o’r pumed grant hyd at 15 Awst 2021 oedd £62 miliwn.
  • Pobl hunangyflogedig sy'n gweithio yn y maes adeiladu yng Nghymru oedd â'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r holl hawliadau (34%).

Nodyn

Bydd y cyfnod hawlio ar agor tan ddiwedd mis Medi 2021, felly nid yw'r data'n derfynol ar gyfer y pumed grant.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.