Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2021 a diwedd mis Mawrth 2022. Dylai'r data a gyflwynir yma gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gostyngodd gweithgarwch yn ymwneud â wiriadau diogelwch tân yn y cartref a sgyrsiau diogelwch tân mewn ysgolion yn sylweddol yn ystod 2020-21 oherwydd y pandemig COVID-19 lle bu cyfnodau o reolau cadw pellter cymdeithasol yn cyfyngu ar fynediad i gartrefi neu pan oedd ysgolion ar gau.

Yn ystod 2021-22 tra bod rhai o’r gweithgareddau hyn wedi ailddechrau, mae’n bosibl bod mesurau sydd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 ar adegau yn ystod y flwyddyn wedi effeithio ar y ffigurau o hyd.

Adroddiad blynyddol yn cyflwyno gwybodaeth am weithwyr, iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân.

Gweithwyr yr Awdurdodau Tân ac Achub

Roedd 2,183 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,279 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2022 o gymharu â 2,176 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,244 o staff yn ôl galw ar 31 Mawrth 2021.

O’r 2,183 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,474) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

Yn ystod 2021-22, collwyd 12.3 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn a 24.2 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.

Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân yn ôl galw 103 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

Yn ystod 2021-22 deliodd staff rheoli tân gyda dros 70,000 o alwadau yng Nghymru, cynnydd o 9% ar 2020‑21.

Diogelwch tân

Yn ystod 2021-22, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 1,876 archwiliad diogelwch tân mewn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

Yn ystod 2021-22, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 30,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref; mewn 83% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.

Yn ystod 2021-22, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 7,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Gwnaeth tua 170 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.