Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae ystadegau hyn yn ymwneud y gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Mawrth 2021. Dylai'r data a gyflwynir yma gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gostyngodd gweithgarwch yn ymwneud â wiriadau diogelwch tân yn y cartref a sgyrsiau diogelwch tân mewn ysgolion yn sylweddol yn ystod 2020-21 oherwydd y pandemig COVID-19 lle bu cyfnodau o reolau cadw pellter cymdeithasol yn cyfyngu ar fynediad i gartrefi neu pan oedd ysgolion ar gau.

Gweithwyr yr Awdurdodau Tân ac Achub

  • Roedd 2,176 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,240 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2021 o gymharu â 2,147 o staff amser llawn a 1,332 o staff wrth gefn ar 31 Mawrth 2020.
  • O’r 2,176 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,454) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

  • Yn ystod 2020-21, collwyd 8.6 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn ac 21.8 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân wrth gefn 95 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Yn ystod 2020-21 deliodd staff rheoli tân gyda bron i 65,000 o alwadau yng Nghymru, gostyngiad o 10% ar 2019‑20.

Diogelwch tân

  • Yn ystod 2020-21, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 1,162 archwiliad diogelwch tân yn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 1% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

  • Yn ystod 2020-21, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru dros 18,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref, mewn 82% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
  • Yn ystod 2020-21, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub dros 6,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Gwnaeth bron i 800 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.
  • Derbyniodd dros 5,000 o blant a phobl ifanc sgwrs tân a diogelwch yn yr ysgol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yn ystod 2020-21.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.