Ystadegau Peilot Incwm Sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru: Awst 2022 i Gorffennaf 2023
Gwybodaeth reoli am y rhai sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Awst 2022 a mis Gorffennaf 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Daeth y peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru i rym o 1 Gorffennaf 2022 (gweler cefndir a chyd-destun). Mae'r data hyn yn diweddaru’r datganiad a gyhoeddwyd ar 19 Medi 2023 a oedd yn adlewyrchu diwedd blwyddyn gofrestru ffurfiol y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru, ac mae'n adlewyrchu statws y derbynyddion cymwys a gofnodwyd ar 31 Gorffennaf 2024, yn ogystal â'r rhai a dynnodd yn ôl o'r peilot ar ôl cofrestru.
Nid yw’r wybodaeth reoli hon wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio’r data yn y dyfodol.
Prif bwyntiau
- Mae 644 o bobl wedi derbyn incwm sylfaenol fel rhan o'r peilot hwn. Roedd 638 derbynnydd gweithredol yn cael incwm sylfaenol ar 31 Gorffennaf 2024.
- Mae chwech o bobl ifanc wedi dewis tynnu'n ôl neu wedi cael eu tynnu'n ôl o'r peilot. Mae eu gwybodaeth ddemograffig yn cael ei chadw yn y set ddata gyfun hon gan eu bod wedi derbyn o leiaf un taliad incwm sylfaenol.
- Cadarnhaodd un ar ddeg o bobl ifanc gymwys eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan yn y cynllun peilot, gan gwblhau'r ffurflenni i nodi nad ydynt am gymryd rhan. Rydym yn ymwybodol o eraill a gadarnhaodd ar lafar wrth awdurdodau lleol nad oeddent am gymryd rhan, ond heb gyflwyno ffurflenni yn nodi nad ydynt am gymryd rhan (naw arall). Nid oes unrhyw ddata pellach wedi ei gofnodi ar gyfer pobl nad ydynt yn cymryd rhan.
- Gan ystyried y wybodaeth uchod, y gyfradd fanteisio dros dro ar gyfer y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yw 97%.
- Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, mae 365 o’r derbynyddion gweithredol (57%) yn cael eu taliad yn fisol, ac mae’r 273 (43%) sy’n weddill wedi dewis cael taliadau ddwywaith y mis.
- Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, mae 135 o’r derbynyddion gweithredol (21%) wedi dewis i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid.
Gwybodaeth ddemograffig
Fe wnaeth 340 o'r derbynyddion (53%) nodi eu hunaniaeth genedlaethol fel Cymreig. Nodir hunaniaeth genedlaethol unigolion eraill yn y tabl isod.
Hunaniaeth genedlaethol [Nodyn 1] | Nifer sy'n derbyn cymorth | Canran sy'n derbyn cymorth |
---|---|---|
Cymreig (gan gwmpasu hunaniaeth Gymreig a hunaniaeth arall) | 340 | 53% |
Prydeinig (gan gwmpasu hunaniaeth Brydeinig a hunaniaeth arall) | 127 | 20% |
Seisnig (gan gwmpasu hunaniaeth Seisnig a hunaniaeth arall) | 66 | 10% |
Y Dwyrain Canol | 32 | 5% |
Affricanaidd | 19 | 3% |
Asiaidd | 17 | 3% |
Ewropeaidd | 14 | 2% |
Amhenodol/Dim ymateb/Hunaniaeth arall | 29 | 5% |
[Nodyn 1] Mae'r hunaniaethau cenedlaethol a ddefnyddir uchod wedi'u grwpio gan addasu categorïau Cyfrifiad 2021 (UK Data Service).
Fe wnaeth 508 o’r rhai sy’n derbyn cymorth (79%) nodi eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’, dywedodd 24 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig cymysg, dywedodd 26 ohonynt (4%) eu bod o grŵp ethnig Asiaidd, dywedodd 17 ohonynt (3%) eu bod o grŵp ethnig Ddu, dywedodd 48 ohonynt (7%) eu bod o grŵp Ethnig Lleiafrifol arall, ac ni chafwyd ymateb gan 21 ohonynt (3%).
Mae ychydig dros hanner y rhai sy'n derbyn cymorth (331; 51%) yn ddynion, mae 281 (44%) yn fenywod, ac ni chafwyd ymateb gan 32 (5%).
Dywedodd 582 (90%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth fod eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, nododd 18 (3%) nad oedd eu hunaniaeth rhywedd yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd iddynt pan gawsant eu geni, ac fe wnaeth 44 (7%) naill ai beidio ag ateb neu nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud.
Fe wnaeth 449 (70%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth nodi eu bod yn ‘heterorywiol neu syth’, nododd 26 (4%) eu bod yn ‘ddeurywiol’, a nododd 16 (2%) eu bod yn ‘hoyw neu lesbiaidd’. Fe wnaeth yr 153 (24%) sy’n weddill naill ai beidio ag ateb, dweud nad oeddent yn gwybod neu nodi cyfeiriadedd rhywiol arall.
Dywedodd 415 (64%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth nad oes ganddynt gred grefyddol. O’r 229 (36%) arall, roedd 52 (8%) yn Gristnogion (pob enwad) ac roedd 55 (9%) yn Fwslimiaid. Roedd 122 (19%) naill ai yn perthyn i grefyddau eraill neu heb roi ateb, yn nodi ei bod yn well ganddynt beidio â dweud neu'n nodi nad oeddent yn gwybod.
Pobl anabl
Wrth gofrestru, darparwyd y diffiniad o'r model cymdeithasol o anabledd i bawb sy'n derbyn cymorth, ynghyd â'r diffiniad a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Yn dilyn hyn, datganodd 89 o'r rhai sy'n derbyn cymorth (14%) eu bod yn bobl anabl yn ôl y naill ddiffiniad neu'r llall, nid oedd 526 (82%) yn ystyried eu hunain yn anabl ac ni ymatebodd 29 (5%).
Statws iechyd a hunangofnodwyd
- Nododd 146 (23%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod ganddynt gyflwr hirdymor y mae disgwyl iddo bara am 12 mis neu fwy, nododd 443 (69%) nad oes ganddynt gyflwr o’r fath, ac roedd 55 (9%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb.
- Nododd 541 (84%) o’r rhai sy’n derbyn cymorth bod eu hiechyd naill ai’n ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’, nododd 71 (11%) bod eu hiechyd yn ‘weddol’, nododd 8 (1%) bod eu hiechyd yn ‘wael’ neu'n 'wael iawn', ac roedd 24 (4%) naill ai ddim yn gwybod neu wedi peidio ag ateb.
Lle byw
Ar sail y data cofrestru, roedd 146 o'r rhai sy'n derbyn cymorth (23%) yn byw mewn tai â chymorth ar adeg cofrestru, ac roedd o leiaf 93 (14%) o unigolion yn byw mewn lleoliad "Pan fyddaf yn barod" (SYLWER: Ni chofnodwyd gwybodaeth am y math hwn o leoliad cyn mis Ionawr 2023, felly mae'n debygol bod mwy o unigolion yn byw yn y math hwn o leoliad wrth gofrestru).
Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, roedd 13 (2%) o’r derbynyddion gweithredol yn ddigartref neu heb gartref sefydlog.
Mae'r cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru yn caniatáu i'r rhai sy'n byw y tu allan i Gymru gymryd rhan cyhyd â'u bod yn parhau i fod yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae rhai unigolion yn byw y tu allan i Gymru, felly. O ran gwlad breswyl, fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024 roedd 574 (90%) o’r derbynyddion gweithredol yn byw yng Nghymru, a 61 (10%) arall yn byw yn Lloegr. Mae tri pherson arall yn byw mewn mannau eraill.
Amgylchiadau penodol eraill
Gofynnwyd am ddatganiadau o amgylchiadau penodol eraill wrth gofrestru er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn cael ei deilwra i anghenion penodol ac i sicrhau ei bod mor hwylus â phosibl i gymryd rhan.
Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, roedd gan 14 (2%) o’r derbynyddion gweithredol unigolyn a benodwyd / dirprwy sy'n gweithredu ar eu rhan.
Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, yn ystod cyfnod y peilot mae 25 unigolyn wedi cael eu hatal dros dro am o leiaf un mis calendr neu wedi methu â chymryd rhan oherwydd cysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol.
Mae rhai a arferai fod yn blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches, sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd safonol ar gyfer y peilot (sef unigolyn 'Categori 3' sy'n gadael gofal sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru) wedi gallu cymryd rhan yn y peilot. Fel yr oedd pethau ar 31 Gorffennaf 2024, roedd 74 (11%) o'r holl rai sy'n derbyn cymorth yn (neu arfer bod yn) blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches ar adeg cofrestru.
Daeth cyfanswm o 70 cais hwyr i law a’u derbyn yn ystod y cynllun peilot.
Cefndir a chyd-destun
Mae’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yn rhoi cyfle i garfan o bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 gael £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o 24 mis. Nod y cyllid hwn yw eu galluogi i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau ac i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn. I ddarllen ymhellach, mae casgliad o dudalennau ar y we am y cynllun peilot ar gael.
Ffynhonnell y data
Cymerir y ffigurau o’r wybodaeth reoli weithredol am y cynllun peilot nad yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol. Gwahoddwyd pobl ifanc cymwys i lenwi ffurflen gofrestru os oeddent yn bwriadu ymuno â’r Cynllun, a gofynnwyd i’r rhai a ddewisodd beidio â manteisio ar y cyfle lenwi ffurflen peidio â chymryd rhan. Roedd awdurdodau lleol yn cyflwyno’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru bob mis yn ystod y flwyddyn gofrestru er mwyn sicrhau bod pobl ifanc wedi cofrestru ar y rhaglen i gael eu talu. Mae'r data a gyflwynir yma wedi'i grynhoi ar gyfer Cymru gyfan ac yn seiliedig ar y wybodaeth reoli weithredol ar 31 Gorffennaf 2024.
Nodyn am ddehongli
Mae'r holl ganrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.
‘Derbynyddion gweithredol’ yw’r rhai a oedd yn rhan weithredol o'r peilot ar 31 Gorffennaf 2024. Mae hyn yn cynnwys y rhai y mae eu cyfranogiad wedi'i atal ar hyn o bryd. Mae data sy'n ymwneud â 'phob derbynnydd' yn cynnwys yr holl dderbynyddion gweithredol yn ogystal â'r rhai sydd wedi tynnu'n ôl yn ystod y peilot. Yn y blynyddoedd adrodd yn y dyfodol, bydd 'yr holl dderbynyddion' yn cynnwys y rhai sydd wedi gadael y peilot ar ôl cwblhau eu cyfranogiad o 24 mis.
Mae'r set ddata hon yn adlewyrchu'r wybodaeth a gofnodwyd ar gyfer yr holl dderbynyddion fel y cofnodwyd ar 31 Gorffennaf 2024. Casglwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth wrth gofrestru (er enghraifft gwybodaeth ddemograffig, statws iechyd) ac mae data eraill wedi’u diweddaru yn ystod y cynllun peilot (er enghraifft, newidiadau yn lle maen nhw'n byw, pa mor aml maen nhw'n cael eu taliadau a dewis taliadau uniongyrchol i’r landlord). Mae’r data yn gipolwg ar gyfnod penodol o amser ac yn parhau i gael eu diweddaru os bydd statws unigolyn yn newid.
Roedd y rhai sy'n derbyn cymorth yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Cynllun ar unrhyw adeg cyn mis eu pen-blwydd yn 18 oed ac yn ystod y mis hwnnw, a chael y taliad incwm sylfaenol y mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Felly, y mis cofrestru cyntaf oedd mis Gorffennaf 2022 a’r mis talu cyntaf oedd mis Awst 2022. Roedd y rhai a oedd yn troi’n 18 oed ym mis Awst 2022 yn gymwys i gael eu taliad cyntaf o fis Medi 2022 ymlaen, ac yn y blaen.
At ddibenion monitro data, cofnodir y mis talu cyntaf fel y mis y mae unigolyn ifanc yn ymuno â’r Cynllun. Mae hyn yn caniatáu inni gyfrif unrhyw ymgeiswyr hwyr.
Mae unrhyw ymgeiswyr hwyr (a ddiffinnir fel y rhai sy'n ymuno yn hwyrach na'r mis ar ôl iddynt droi'n 18 oed) wedi cael caniatâd i ymuno â'r peilot ar ôl ystyried eu hachos yn unigol i sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael manteisio ar y cynllun, a'u bod yn cael eu trin yn deg pan fo'r rhesymau dros beidio â gallu cofrestru oherwydd materion y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae 'Pan fyddaf yn barod' yn galluogi pobl ifanc mewn gofal maeth i barhau i fyw gyda'u gofalwyr maeth ar ôl troi'n 18 oed. Mae'n caniatáu iddynt aros mewn amgylchedd teuluol sefydlog sy'n eu meithrin hyd at 21 oed, neu hyd at 25 oed os ydynt yn cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Nia Jones (ymholiadau am y data)
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099