Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Oherwydd pryderon ansawdd data, rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) cafodd data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) eu hatal dros dro ym mis Tachwedd 2025. Roedd hyn yn dilyn pryderon am anomaleddau o ran meintiau'r rhestrau aros yr adroddwyd arnynt ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol. Yn dilyn adolygiad o brosesau BIPBC, mae data diwygiedig, wedi'u diweddaru, bellach ar gael. Yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystadegau gael eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn barod a rhyddhau diwygiadau'n brydlon,cyhoeddir ffigurau wedi'u diweddaru ar gyfer Cymru a BIPBC yma, cyn y diweddariad nesaf a drefnwyd ar berfformiad a gweithgaredd y GIG ar 22 Ionawr 2026.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ffigurau Cymru ar gyfer mis Hydref, ffigurau dros dro ar gyfer mis Tachwedd, ac yn crynhoi effaith diwygiadau data BIPBC ar ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Mae'r data cyflawn ar gael ar StatsCymru.

Adolygiad data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o brosesau data BIPBC ym mis Rhagfyr, gan gynnwys Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ystadegwyr Llywodraeth Cymru, a bwrdd iechyd cymheiriaid. Archwiliodd yr adolygiad y trefniadau casglu data, sicrhau ansawdd a llywodraethiant. 

Sefydlodd yr adolygiad mai achos sylfaenol y mater oedd methiant i adrodd am garfan benodol o lwybrau cleifion, yn bennaf y rhai a oedd wedi'u dyrannu i ddarparwyr annibynnol. Yn anfwriadol, nid oedd y cod ar gyfer y grŵp hwn o gleifion wedi'i gynnwys yng nghyflwyniad data cyfanredol y bwrdd iechyd. Mae'r llwybrau hyn bellach wedi'u nodi a'u cynnwys mewn data diwygiedig ar gyfer mis Ebrill i fis Awst 2025 a data'r misoedd dilynol.

Canfuwyd bod gwendidau mewn sicrhau ansawdd a goruchwylio yn lleol yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at y methiant i ganfod y broblem. Mae'r bwrdd iechyd wedi mynd i'r afael â'r rhain mewn ymateb i'r adolygiad. Yn fwy eang, ac ar wahân i'r mater data sy'n hysbys, mae'r bwrdd iechyd wedi dangos cydymffurfiaeth â safonau data gorfodol ar gyflawnrwydd a chywirdeb adrodd ar RTT. Ynghyd â chadarnhad bod y llwybrau coll bellach wedi'u cynnwys, mae hyn yn darparu'r sicrwydd angenrheidiol i adfer adrodd yn llawn ar RTT ar gyfer Cymru.

Bydd sicrwydd ansawdd terfynol gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn asesu cydlyniant data swyddogol â gwybodaeth weithredol berthnasol, gan helpu i leihau'r risg y gall materion tebyg godi yn y dyfodol. 

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar ddata ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Efallai y bydd angen diwygiadau pellach i ddata hanesyddol BIPBC cyn Ebrill 2025, ond disgwylir i unrhyw newidiadau fod yn llai na'r rhai a gyflwynir yma.

Rydym wedi cael sicrwydd nad yw mater data BIPBC yn effeithio ar fyrddau iechyd eraill oherwydd bod yr anghysondebau rhwng data a adroddwyd a gwybodaeth weithredol yn cael eu cymhwyso yn BIPBC yn unig ac mae'r broses godio a arweiniodd at y broblem yn benodol i'r bwrdd iechyd hwn. 

Rhaid i ystadegau swyddogol fodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r camau a gymerwyd wedi canolbwyntio ar adfer adroddiadau cywir a dibynadwy cyn gynted â phosibl i sicrhau bod yr ystadegau hyn yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Ceir dadansoddiad o effaith y diwygiadau data ar gyfer Cymru a BIPBC isod.

Prif bwyntiau

Ym mis Hydref roedd ychydig dros 781,200 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o tua 9,200 ers mis Medi. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol sy'n aros, oherwydd bod gan rai pobl sawl llwybr agored. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog y prif ystadegydd.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 599,800 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth.

Cynyddodd cyfran y llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos i 58.1% ym mis Hydref. Gostyngodd nifer y llwybrau sy'n aros yn hirach na 36 wythnos i ychydig o dan 241,200.

Roedd ychydig dros 7,300 o lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd, 89.6% yn is na'r brig ond cynnydd o 655 (9.8%) ers y mis blaenorol. Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ddiwedd mis Hydref 0.6 wythnos yn llai na'r mis blaenorol, sef 19.9 wythnos.

Mae data dros dro ar gyfer mis Tachwedd yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm y llwybrau sy'n aros a'r rhai sy'n aros mwy na dwy flynedd.

Roedd ychydig yn llai na 49,300 o lwybrau yn aros yn hirach na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf ym mis Hydref, gostyngiad o tua 10,400 (17.4%) ers y mis blaenorol, a 52.0% yn llai na'r brig ym mis Awst 2022. 

Caeodd ychydig yn llai na 138,900 o lwybrau ym mis Hydref, cynnydd o tua 9,800 ers mis Medi a'r ffigwr uchaf sydd wedi'i gofnodi.

Yn dilyn yr adolygiad o brosesau data yn BIPBC, cymhwyswyd diwygiadau i ffigurau ar gyfer BIPBC a Chymru sy'n cwmpasu Ebrill i Awst 2025. Ar gyfer Awst 2025, mae cyfanswm y llwybrau sy'n aros yng Nghymru (795,400) wedi cynyddu tua 4,800 o'i gymharu â'r ffigur a gyhoeddwyd yn wreiddiol (790,600). Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 2,600 o lwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn a 145 o lwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd.

Mae graddfa'r diwygiadau yn lleihau ar gyfer misoedd cynharach oherwydd bod llai o weithgarwch gan ddarparwyr annibynnol. Er enghraifft, ar gyfer mis Ebrill 2025 mae cynnydd o 1,150 o lwybrau i gyd, y mae 194 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn a 25 yn aros mwy na dwy flynedd. O fis Awst, roedd arian ar gael i fyrddau iechyd i 'fewnoli' rhagor o ymgyngoriadau gan ddarparwyr annibynnol.

Cyfanswm llwybrau sy'n aros a llwybrau sy'n aros un a dwy flynedd

Ffigur 1: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, mis Tachwedd 2020 i fis Tachwedd 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell sy'n dangos gostyngiad diweddar mewn llwybrau sy'n aros. Mae'r nifer sy'n aros mwy na blwyddyn yn gyfnewidiol ac mae'r nifer sy'n aros dwy flynedd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae'r ffigurau yn yr ardal wedi’i chysgodi ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hwn yn rhai dros dro a gallant newid. Mae'r gyfres ddata swyddogol yn dod i ben yn y mis blaenorol.

Ym mis Hydref roedd ychydig dros 781,200 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad ers mis Medi (790,400). Roedd ychydig dros 142,200 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn ym mis Hydref, gostyngiad o tua 5,800 o'r mis blaenorol. Roedd ychydig dros 7,300 yn aros mwy na dwy flynedd, 9.8% yn uwch nag ym mis Medi ond bron i 90% yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua saith wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, yn sgil y diddordeb yn y rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynt. Felly, rydym yn darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod. 

Mae data dros dro yn dangos bod cyfanswm o tua 757,900 o lwybrau yn aros ar ddiwedd mis Tachwedd, gyda 133,700 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn a 6,900 yn aros mwy na dwy flynedd. Gall yr amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i'r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Tachwedd gael eu rhyddhau ar 22 Ionawr.

Nid yw'r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ar draws y DU yn gymharol. Mae gwahaniaethau mawr yn yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy'n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Gyda Lloegr, gellir cynhyrchu nifer cymharol ar gyfer Cymru drwy gael gwared ar rai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. 

Ar y sail honno, mae tua 701,200 o lwybrau agored ar lwybrau dan arweiniad meddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy'n cyfateb i 22 o lwybrau i bob 100 o bobl. Ar gyfer Lloegr, y ffigwr ym mis Hydref oedd 13 llwybr am bob 100 o bobl. Mae'r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach ym mlog y Prif Ystadegydd

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol sy'n aros, oherwydd bod gan rai pobl sawl llwybr agored. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 599,800 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru. Gellir dod o hyd i amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy'n aros i ddechrau triniaeth gan fwrdd iechyd yn Rhestrau aros y GIG: set ddata amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.

Llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos a mwy na 36 wythnos

Ffigur 2: canran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos, yn ôl mis

Image

Disgrifiad o ffigur 2: mae siart linell sy'n dangos canran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos wedi bod rhwng 50% a 60% yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

O'r ychydig dros 781,200 o lwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ym mis Hydref, roedd 58.1% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn uwch nag ym mis Medi (56.9%).

Ffigur 3: llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, yn ôl mis

Image

Disgrifiad o ffigur 3: mae siart linell sy'n dangos nifer y llwybrau sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Hydref, roedd ychydig o dan 241,200 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn tua 8,600 yn is nag yn y mis blaenorol ac mae'n cynrychioli 30.9% o'r holl lwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth. 

Yr amser aros canolrifol ar gyfer dechrau triniaeth ym mis Hydref oedd 19.9 wythnos, 0.6 wythnos yn llai na'r mis blaenorol.

Llwybrau caeedig

Ffigur 4: llwybrau cleifion caeedig, yn ôl mis

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart linell sy'n dangos tuedd ar i fyny yn nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: llwybrau caeedig rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Roedd nifer y llwybrau cleifion a gaewyd ym mis Hydref ychydig yn llai na 138,900, cyfartaledd o 5,869 y diwrnod gwaith a'r ffigur uchaf sydd wedi'i gofnodi. Roedd hyn yn golygu bod 169 yn fwy o lwybrau cleifion (neu 2.9%) wedi cau bob diwrnod gwaith o'r mis blaenorol.

Effaith adolygiadau data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Yn dilyn yr adolygiad o brosesau data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mae'r bwrdd iechyd wedi darparu data diwygiedig rhwng mis Ebrill a mis Awst 2025. Achos sylfaenol y mater oedd methiant i adrodd am garfan o lwybrau cleifion a oedd wedi'u dyrannu i ddarparwyr annibynnol. Cyflwynir effaith y diwygiadau hyn ar fesurau pwysig ar gyfer Cymru a BIPBC isod.

Ffigur 5: cyfanswm y llwybrau sy'n aros yng Nghymru, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill 2025 i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-2025790,459791,6071,1480.1%
Mai-2025796,679798,1801,5010.2%
Meh-2025794,543796,3961,8530.2%
Gor-2025793,058795,4332,3750.3%
Awst-2025790,576795,3604,7840.6%

Disgrifiad o ffigur 5: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ar gyfer cyfanswm y llwybrau sy'n aros.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ffigur 6: llwybrau sy'n aros am flwyddyn yng Nghymru, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill 2025 i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-2025159,549159,7431940.1%
Mai-2025162,958163,2342760.2%
Meh-2025157,027157,3252980.2%
Gor-2025156,143156,7225790.4%
Awst-2025156,188158,7482,5601.6%

Disgrifiad o ffigur 6: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ar gyfer llwybrau sy'n aros un flwyddyn.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ffigur 7: llwybrau sy'n aros am ddwy flynedd yng Nghymru, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill 2025 i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-20259,6259,650250.3%
Mai-202510,25410,338840.8%
Meh-20257,4477,5501031.4%
Gor-20258,0058,1101051.3%
Awst-20258,7038,8481451.7%

Disgrifiad o ffigur 7: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ar gyfer y llwybrau sy'n aros dwy flynedd.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ar gyfer mis Awst 2025, mae cyfanswm y llwybrau sy'n aros yng Nghymru wedi cynyddu tua 4,784 (0.6%) o'i gymharu â'r ffigur gwreiddiol a gyhoeddwyd. Mae hyn yn cynnwys tua 2,560 o lwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn (cynnydd o 1.6%) a 145 o lwybrau sy'n aros dros mwy na dwy flynedd (cynnydd o 1.7%). Mae graddfa'r diwygiadau yn lleihau ar gyfer misoedd cynharach oherwydd bod llai o weithgarwch gan ddarparwyr annibynnol. Er enghraifft, ar gyfer mis Ebrill mae cynnydd o 1,148 o lwybrau i gyd (0.1%), y mae 194 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn a 25 yn aros mwy na dwy flynedd. O fis Awst, roedd arian ar gael i fyrddau iechyd i 'fewnoli' rhagor o ymgyngoriadau gan ddarparwyr annibynnol.

Ffigur 8: cyfanswm y llwybrau sy'n aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-2025198,696199,8441,1480.6%
Mai-2025200,594202,0951,5010.7%
Meh-2025199,744201,5971,8530.9%
Gor-2025200,466202,8412,3751.2%
Awst-2025199,131203,9154,7842.4%

Disgrifiad o ffigur 8: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer cyfanswm y llwybrau sy'n aros.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ffigur 9: llwybrau sy'n aros am flwyddyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-202553,67053,8641940.4%
Mai-202554,86655,1422760.5%
Meh-202552,88353,1812980.6%
Gor-202552,64853,2275791.1%
Awst-202551,84454,4042,5604.9%

Disgrifiad o ffigur 9: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer llwybrau sy'n aros blwyddyn.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ffigur 10: llwybrau sy'n aros am ddwy flynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig, Ebrill i Awst 2025
MisGwreiddiolDiwygiedigNewid% newid
Ebr-20256,1066,131250.4%
Mai-20256,5306,614841.3%
Meh-20255,3825,4851031.9%
Gor-20255,3995,5041051.9%
Awst-20255,4655,6101452.7%

Disgrifiad o ffigur 10: tabl sy'n dangos y ffigurau gwreiddiol a diwygiedig a gyhoeddwyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer llwybrau sy'n aros dwy flynedd.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau sy'n aros i ddechrau triniaeth, tabl cryno, o fis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ar gyfer BIPBC mae'r diwygiadau yn fwy nag ar gyfer Cymru fel cyfran o'r ffigurau gwreiddiol a gyhoeddwyd. Ar gyfer mis Awst cynyddodd y ffigurau diwygiedig 2.4%, 4.9% a 2.7% ar gyfer cyfanswm y llwybrau sy'n aros, yn aros ers blwyddyn ac yn aros ers dwy flynedd yn y drefn honno. Mae graddfa'r diwygiadau yn lleihau ar gyfer misoedd cynharach. Ar gyfer Ebrill 2025, mae'r cynnydd yn 0.6%, 0.4% a 0.4% ar gyfer cyfanswm llwybrau sy'n aros, yn aros ers blwyddyn ac yn aros es dwy flynedd yn y drefn honno.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn ar gael yn crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Ionawr 2012. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Caiff ystadegau swyddogol achrededig (SRY) eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y swyddfa sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Cesglir data gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a'u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ar lefel bwrdd iechyd ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch-ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Dibenion y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG a meintiau rhestrau aros yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: ‌Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i'r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysbyty
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image