Ystadegau rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT): Hydref 2025
Data sy'n dangos gwybodaeth am nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn 26 wythnos i ddyddiad derbyn llythyr atgyfeirio yn yr ysbyty ar gyfer Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Oherwydd pryderon am ansawdd y data, mae data ar restrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u hatal dros dro. Roedd hyn yn dilyn pryderon am anomaleddau o ran meintiau'r rhestrau aros yr adroddwyd arnynt ac anghysondebau o ran lefelau gweithgarwch gweithredol. Mae adolygiad o brosesau casglu a dilysu data wedi sefydlu nad oedd carfan o gleifion - y rhai y dyrannwyd eu llwybrau i ddarparwyr annibynnol - wedi'u cynnwys mewn ffurflenni data. Nodwyd rhai mân faterion eraill gyda'r data hefyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio i gywiro'r materion hyn ar frys, ac rydym yn disgwyl y bydd adrodd ar gyfer y Bwrdd Iechyd a Chymru gyfan yn ailddechrau ym mis Ionawr 2026.
Yn y cyfamser, bydd ystadegau RTT yn cael eu cyhoeddi ac eithrio'r data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r data RTT diweddaraf, hyd at fis Hydref, ar gyfer y chwe bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Ni ddarperir cyfansymiau ar gyfer Cymru. Mae'r adroddiad ystadegol misol rheolaidd ynghylch perfformiad a gweithgaredd y GIG, sy'n cwmpasu meysydd eraill o ofal eilaidd, yn cael ei gyhoeddi ar wahân.
Mae'r prif ystadegydd wedi cyhoeddi blog sy'n disgrifio'r sefyllfa bresennol o ran y data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion.
Mae'r ystadegau a grynhoir yma yn cael eu cyhoeddi'n llawn ar StatsCymru.
Canllawiau ar ddehongli'r data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymru
Although we recognise some recent months may be impacted by the BCU data quality issues, we have retained the BCU and Wales data in the online StatsWales datasets up to August. Evidence from the BCU review does not suggest there are significant issues with the data up to this point. Following the review and the correction of any data issues, some revisions may be made to the historic BCU data, however these are not expected to be substantial. Some caution should be exercised when using the recent BCU statistics, and by extension, the Wales totals. When using Wales-level data, note that recent monthly figures may be revised in future, so avoid drawing firm conclusions from short-term fluctuations. For small groups, such as patients waiting two years, figures may change more noticeably because of their size. Any revisions will have a greater impact on BCU than Wales overall, but long-term patterns for both should be broadly reliable.
Prif bwyntiau
- Ym mis Hydref, gwelodd pob un o'r chwe bwrdd iechyd a gwmpesir gan yr adroddiad hwn ostyngiad yng nghyfanswm nifer y llwybrau RTT sy'n aros, o'i gymharu â'r mis blaenorol.
- Gwelodd pum bwrdd iechyd gynnydd yng nghyfran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos, tra gwelodd bwrdd iechyd Powys ostyngiad bach.
- Gwelodd pedwar o'r byrddau iechyd ostyngiad yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am driniaeth, tra gwelodd bwrdd iechyd Powys a bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro gynnydd bach.
- Nid oedd gan fwrdd iechyd Bae Abertawe unrhyw lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Medi a mis Hydref. O'i gymharu, nid oedd gan fwrdd iechyd Powys unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo un llwybr yn aros ym mis Hydref. Gwelodd y pedwar bwrdd iechyd arall gynnydd yn y nifer sy'n aros mwy na dwy flynedd.
- Nid oedd gan fwrdd iechyd Bae Abertawe unrhyw lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf ym mis Medi a mis Hydref. Nid oedd gan fwrdd iechyd Hywel Dda unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo chwe llwybr yn aros ym mis Hydref. O'i gymharu, nid oedd gan fwrdd iechyd Powys unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo un llwybr yn aros ym mis Hydref. Gwelodd y tri bwrdd iechyd arall ostyngiad yn y nifer sy'n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf.
- Nid yw nifer y llwybrau cleifion yn hafal i nifer y cleifion unigryw sy'n aros, oherwydd bod gan rai cleifion sawl llwybr agored. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod pump o'r byrddau iechyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion unigryw sy'n aros ym mis Hydref, ond bod bwrdd iechyd Powys wedi gweld cynnydd bach.
Cyfanswm y llwybrau sy'n aros
Ffigur 1: Llwybrau RTT sy'n aros, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 1: siart far sy'n dangos gostyngiad mewn llwybrau sy'n aros ar gyfer pob un o'r chwe bwrdd iechyd ym mis Hydref, o'i gymharu â'r mis blaenorol.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ar gyfer bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae modd priodoli rhywfaint o'r gostyngiad a adroddwyd ym mis Hydref i lwybrau yn cael eu symud i ganolfan ranbarthol newydd ar gyfer cataractau yn y De-ddwyrain. Mae ffigurau ar gyfer y rhanbarth ar gael ar StatsCymru.
Cyfran y llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos
Ffigur 2: Canran y llwybrau RTT sy'n aros llai na 26 wythnos, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy'n dangos cynnydd yng nghyfran y llwybrau sy'n aros llai na 26 wythnos ym mis Hydref ar gyfer pump allan o'r chwe bwrdd iechyd.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae data ar gyfer llwybrau sy'n aros mwy na 36 wythnos ar gael ar StatsCymru.
Llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am driniaeth
Ffigur 3: Llwybrau cleifion RTT sy'n aros mwy na blwyddyn, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 3: siart far sy'n dangos bod pedwar o'r chwe bwrdd iechyd wedi adrodd gostyngiad yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am driniaeth ym mis Hydref, tra bod bwrdd iechyd Powys a bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro wedi adrodd cynnydd bach iawn.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ar gyfer bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, efallai y gellir priodoli rhywfaint o'r gostyngiad a adroddwyd ym mis Hydref i lwybrau yn cael eu symud i ganolfan ranbarthol newydd ar gyfer cataractau yn y De-ddwyrain. Mae ffigurau ar gyfer y rhanbarth ar gael ar StatsCymru.
Llwybrau cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth
Ffigur 4: Llwybrau cleifion RTT sy'n aros mwy na dwy flynedd, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 4: siart far sy'n dangos nad oedd unrhyw lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mwrdd iechyd Bae Abertawe ym mis Medi a mis Hydref. Nid oedd gan fwrdd iechyd Powys unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo un llwybr yn aros ym mis Hydref. Gwelodd pob un o'r pedwar bwrdd iechyd arall gynnydd yn y nifer sy'n aros mwy na dwy flynedd ym mis Hydref.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf
Ffigur 5: Llwybrau cleifion RTT sy'n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 5: siart far sy'n dangos nad oedd unrhyw lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf ym mwrdd iechyd Bae Abertawe ym mis Medi a mis Hydref. Nid oedd gan fwrdd iechyd Hywel Dda unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo chwe llwybr yn aros ym mis Hydref. O'i gymharu, nid oedd gan fwrdd iechyd Powys unrhyw lwybrau yn aros ym mis Medi ac roedd ganddo un llwybr yn aros ym mis Hydref. Adroddodd pob un o'r tri bwrdd iechyd arall gynnydd yn y nifer sy'n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf ym mis Hydref.
Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ar gyfer bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, efallai y gellir priodoli rhywfaint o'r gostyngiad a adroddwyd ym mis Hydref i lwybrau yn cael eu symud i ganolfan ranbarthol newydd ar gyfer cataractau yn y De-ddwyrain. Mae ffigurau ar gyfer y rhanbarth ar gael ar StatsCymru.
Cleifion unigryw sy'n aros
Ffigur 6: Cleifion RTT unigryw sy'n aros, Medi a Hydref 2025
Disgrifiad o ffigur 6: siart far sy'n dangos bod pump o'r chwe bwrdd iechyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion unigryw sy'n aros ym mis Hydref, tra bod bwrdd iechyd Powys wedi gweld cynnydd bach.
Ffynhonnell: Byrddau iechyd lleol Cymru
Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw, o fis Mawrth 2022 ymlaen, ar StatsCymru
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgaredd y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain. Cawsant eu hadolygu’n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Ionawr 2012. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig (OSR) eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y swyddfa sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Cesglir data gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a'u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru, sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ansawdd
Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion y System Ystadegol Ewropeaidd o ran ansawdd allbynnau ystadegol.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ar lefel bwrdd iechyd ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch-ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Dibenion y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG a meintiau rhestrau aros yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i'r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
