Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynlluniwyd y broses casglu data a bydd yn cael ei datblygu ymhellach mewn ymgynghoriad â holl sefydliadau'r GIG. Gan fod hwn yn gasgliad data newydd sydd dal mewn datblygiad, ystadegau yn y datganiad hwn yn arbrofol.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn gan fod diddordeb eang o du'r cyhoedd ac rydym yn croesawu adborth ar eu haddasrwydd a'u hansawdd wrth i'r broses newydd hon ymwreiddio ar draws sefydliadau'r GIG.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar nifer y swyddi gwag ar ddiwrnod olaf y chwarter diweddaraf yn unig. Dylai unrhyw ddadansoddiad newid dros amser gymharu'r un dyddiad ym mhob blwyddyn oherwydd yr amrywiadau tymhorol mewn recriwtio staff. Ar hyn o bryd cynhyrchir amcangyfrifon yn ôl grŵp staff ar lefel Cymru, er y bwriedir cyhoeddi data ar lefel sefydliadol yn chwarteri'r dyfodol.

Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys swyddi gwag ar gyfer staff a fyddai’n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru yn unig. Nid ydynt yn cynnwys contractwyr gofal sylfaenol megis Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol.
Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ar 31 Mawrth 2023, y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar draws pob grŵp staff yn GIG Cymru oedd 4,277. Y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig oedd 4.5%.

Ffigur 1: Cyfradd swyddi gwag yn ôl grŵp staff, ar 31 Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far yn dangos bod y gyfradd swyddi gwag yn amrywio o 9.7% yn y grŵp meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion) i 2.5% yn y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol. 

[Nodyn 1] Yn eithrio hyfforddeion meddygol a deintyddol, hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl meddygol a deintyddol a hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl fferylliaeth. 

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn yn ôl pob grŵp staff oedd: 

  • 475 mewn staff meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion), gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 9.7%
  • 2,290 mewn staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 8.4%
  • 510 mewn staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 3.9%
  • 115 yn y grŵp staff ambiwlans, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 3.4%
  • 412 yn y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 2.5%
  • 475 yn y grwpiau cyfunol o ‘weinyddiaeth ac ystadau’, a ‘chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill’, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 1.6%.

Amlygir nifer o faterion ansawdd data yn yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg isod. Tra bod effaith rhai o'r materion yw goramcangyfrif nifer y swyddi gwag, credir bod y materion sy'n tanamcangyfrifo nifer y swyddi gwag yn cael effaith fwy. Felly, mae'n debygol bod yr ystadegau hyn yn tanamcangyfrif nifer y swyddi gwag y GIG.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

At ddibenion y datganiad ystadegol hwn, diffinnir ‘swydd wag’ fel y gwahaniaeth rhwng nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) a ariennir fel y'i cofnodir ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid, a nifer y staff FTE sydd yn eu swydd fel y'i cofnodir ar y Cofnod Staff Electronig y GIG (ESR) ar bwynt mewn amser. Y gyfradd swyddi gwag yw nifer y swyddi gwag wedi'u rhannu â nifer y swyddi FTE a ariennir sydd wedi'u cofnodi ar y cyfriflyfr cyffredinol.

Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer ei radd. Ceir diffiniad pellach o FTE yn yr Adroddiad Ansawdd Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG

Mae grwpiau staff yn cael eu pennu gan y cod goddrychol sy'n eitem ddata yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a'r ESR. Mae ganddo'r un rhestr ddiffiniedig o werthoedd y dylid eu cymhwyso'n gyson rhwng y ddwy ffynhonnell.

Ansawdd data

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau arbrofol. Mae hyn yn golygu eu bod yn y cyfnod profi ac nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.
Nodir nifer o faterion ansawdd data isod y byddwn yn gweithio arnynt yn ystod y misoedd nesaf.

  1. Mae'r fethodoleg wedi'i chymhwyso'n gyson ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r GIG. Nid yw un bwrdd iechyd lleol wedi gallu darparu nifer y swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid hyd yma. Ar gyfer y data a ddarparwyd sy'n cyfeirio at 31 Mawrth 2023, mae data ar gyfer y grŵp staff meddygol a deintyddol a'r staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig wedi'u cyflenwi yn seiliedig ar 'reolaeth sefydlu' trwy'r ESR. Mae'r dull hwn yn debyg i gael swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol ac mae'n debygol o fod yn gymharol debyg i'r dull a ddefnyddir mewn sefydliadau GIG eraill. Darparwyd data ar gyfer swyddi a ariennir ar gyfer pob grŵp staff arall trwy ofyn i'r adrannau yn uniongyrchol, sy'n annhebygol o fod yn gyson â'r dull a ddefnyddir ym mhob sefydliad GIG arall.
  2. Mewn dau fwrdd iechyd arall cafodd y dull casglu data y cytunwyd arno ei weithredu ond mae wedi arwain at y ddau yn adrodd nifer isel iawn o swyddi gwag ar draws rhai grwpiau staff. Rydym yn parhau i ymchwilio i'r rhesymau dros hyn ond mae'n debygol bod nifer y swyddi gwag yn cael eu tanadrodd yn y ddau fwrdd iechyd hyn.   
  3. Nid yw unrhyw staff a gofnodir fel meddygon o dan hyfforddiant, deintyddion o dan hyfforddiant, neu fferyllwyr cyn-gofrestru, wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn. Mae cymhlethdodau wrth gyfrif ‘swyddi gwag’ o'r mathau hyn gan fod gan y byrddau iechyd lleol gyllideb i'r staff hyn ond bydd y mwyafrif yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy'r cynllun Cyflogwr Arweiniol Sengl. Gall byrddau iechyd hefyd gyflogi staff sydd wedi'u codio fel hyfforddeion yn uniongyrchol, heb iddynt fod yn hyfforddeion ffurfiol drwy'r Cyflogwr Arweiniol Sengl. Bydd mesur swyddi gwag o'r mathau hyn o staff yn cael eu datblygu yn y misoedd i ddod.
  4. Gall fod nifer negyddol o swyddi gwag neu gyfradd swyddi gwag os yw'r nifer o staff mewn swydd ar ESR yn fwy na'r nifer a gyllidebwyd o staff trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Gall hyn ddigwydd pan fo un o sefydliadau'r GIG yn gor-recriwtio yn wybodus a/neu lle nad yw rhywfaint o gyllid anghylchol neu dymor byr penodol wedi'i gynnwys yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Lle bo cyllid ar gyfer swyddi yn bodoli nad yw wedi'i recordio ar y cyfriflyfr cyffredinol a lle mae staff wedi'u cyflogi trwy'r cyllid hwnnw, byddai nifer y swyddi gwag yr adroddir arnynt yn tanamcangyfrif o nifer gwirioneddol y swyddi gwag yn y cyfnod cyfeirio.
  5. Efallai y bydd nifer y swyddi gwag yn y grŵp staff meddygol a deintyddol yn cael ei oramcangyfrif oherwydd gwahaniaethau o ran sut mae FTEs yn cael eu cyfrif rhwng y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ESR. Gall aelod llawn amser o'r grŵp staff hwn gyfrif fel 1 FTE ar ESR trwy eu contract a ddiffinnir fel 10 sesiwn yr wythnos. Er hynny, yn ymarferol gall rhai staff weithio 12 sesiwn yr wythnos a gellir eu cofnodi fel 1.2 FTE ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Byddai hyn yn creu ‘swydd wag’ o 0.2 drwy'r broses hon o gasglu data, ond yn ymarferol nid oedd swydd wag gan fod yr aelod o staff yn gweithio'n hirach na'u horiau wedi'u contractio.
  6. Fel arfer, nid yw staff FTE mewn swydd ar ESR yn cynnwys staff banc, asiantaeth, contractwyr neu staff eraill nad ydynt ar y gyflogres. Gall hyn arwain at oramcangyfrif bach o nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag gan y gallai staff fod yn darparu gwasanaethau ond heb gael eu cofnodi ar ESR ar y dyddiad cyfeirio.
  7. Mae swyddi gwag ar gyfer ‘gweinyddiaeth ac ystadau’, a ‘chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill’ wedi'u cyhoeddi fel grŵp staff cyfun gan y gallai fod rhai anghysondebau o ran sut mae rhai rolau staff yn cael eu codio rhwng y ddau grŵp staff hyn ar draws sefydliadau'r GIG. 
  8. Nid yw'r data ar gyfer 31 Mawrth 2023 yn cynnwys yr Uned Cyflawni Ariannol na Chydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru (a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), lle'r oedd ychydig o dan 180 o staff FTE yn cael eu cyflogi. Bwriedir i'r unedau hyn cael eu cynnwys mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol hwn yn y dyfodol. 
  9. Wrth i staff symud swyddi, gall diweddariadau i FTEs fesul cod goddrychol fod yn fwy amserol ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid nag ydynt i niferoedd y staff mewn swydd trwy ESR. Felly, efallai y bydd anghysondeb bach yn nifer y swyddi gwag yr adroddir amdanynt a nifer gwirioneddol y swyddi gwag ar y dyddiad cyfeirio. 
  10. Nid yw pob gwasanaeth o fewn byrddau iechyd lleol yn anelu at recriwtio'r nifer llawn o staff FTE sydd wedi'u cyllidebu. Gall rhai gwasanaethau ddewis defnyddio cyllideb eu staff yn hyblyg i gyflawni eu blaenoriaethau a/neu gallant ddewis defnyddio eu cronfa o staff dros dro (banc nyrsys, staff locwm, asiantaeth) yn hyblyg drwy gydol y flwyddyn wrth i'r galw ar y gwasanaeth newid. Felly, mae nifer bach o'r ‘swyddi gwag’ yr adroddwyd arnynt wedi'u cynllunio mewn rhai amgylchiadau. 
  11. Mae dyrannu staff i god goddrychol yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ar ESR yn cynnwys prosesau llaw a gall arwain at gamgymhariad bach o godau goddrychol rhwng y ddwy ffynhonnell. 
  12. Mae'n debygol y bydd effeithiau tymhorol ar nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag, sy'n effeithio'n benodol ar grwpiau staff ‘meddygol a deintyddol’ a ‘nyrsys, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig’ wrth i staff sydd newydd gymhwyso raddio (a dod ar gael i'w recriwtio) ar adegau penodol o'r flwyddyn. 
  13. Mae ystadegau ar swyddi gwag y GIG yn cael eu cyhoeddi gan wledydd eraill y DU: ystadegau swyddi gwag GIG Lloegr; ystadegau gweithlu GIG yr Alban; ac ystadegau swyddi gwag Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Mae pedair gwlad y DU yn defnyddio dulliau casglu data gwahanol i gynhyrchu'r ystadegau hyn, gan adlewyrchu'r her gymhleth o gynhyrchu ystadegau swyddi gwag, ac felly nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol. Mae GIG Lloegr yn cynhyrchu pedwar dull gwahanol i gyfrifo swyddi gwag a safbwyntiau ar wybodaeth recriwtio ar gyfer GIG Lloegr. O'r holl ddulliau a ddefnyddir yn nhair gwlad arall y DU, dull GIG Lloegr (NHSE) yw’r mwyaf tebyg i'r ffordd y casglwyd y data yng Nghymru ac mae mwy o waith wedi'i gynllunio i asesu'r gymhariaeth rhwng y ddau ddull hyn.

Mae data am Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ac Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Sylwch fod gwahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng y datganiadau hyn.
Nid yw data'r gweithlu ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol y GIG yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.  

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 66/2023