Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu pedwar chwarter blwyddyn ariannol 2022-23 (Ebrill 2022 i Fawrth 2023). Daeth rhaglen Twf Swyddi Cymru+ i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn dod o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. I gael gwybod mwy am y rhaglen, gweler y cefndir a’r cyd-destun isod.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2022-23, roedd 5,330 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ ar waith. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 2,115 o raglenni yn parhau.
  • Daeth 3,220 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ i ben yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, a chwblhawyd 2,140. O'r rhaglenni a ddaeth i ben, cafodd 58% o'r rhai a adawodd ganlyniad cadarnhaol o ran cyrchfan o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen.
  • Ymgysylltu oedd yr elfen fwyaf poblogaidd, â 3,195 o raglenni wedi’u dechrau, sy’n 60% o'r rhaglenni a ddechreuwyd.
  • Merched a ddechreuodd 47% o raglenni Twf Swyddi Cymru+ yn 2022-23. Cafodd 57% o ferched ganlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen o'i gymharu â 59% o ddynion.
  • Yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23, dysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol oedd 6% o’r rhai a ddechreuodd raglenni Twf Swyddi Cymru+, a gorffennodd 58% o'r rhain â chanlyniad cadarnhaol.
  • Roedd 24% o'r rhai a ddechreuodd raglenni yn ddysgwyr anabl a/neu roedd ganddynt anhawster dysgu ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Cafodd 53% o’r dysgwyr a oedd ag anabledd a/neu anhawster dysgu ganlyniad cadarnhaol.

Elfennau Twf Swyddi Cymru+

Ffigur 1: Cyfanswm nifer y rhaglenni a ddechreuwyd yn ystod y flwyddyn, yn ôl elfen Twf Swyddi Cymru+, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Ymgysylltu oedd yr elfen fwyaf poblogaidd, â 3,195 o raglenni wedi’u dechrau, sef 60% o'r holl raglenni a ddechreuwyd. Yr elfen leiaf poblogaidd oedd Cyflogaeth, â 60 yn dechrau yn ystod 2022-23. Ar draws pob elfen, dechreuwyd 5,330 o raglenni yn 2022-23.

Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl rhyw, elfen a mesur ar StatsCymru

Roedd y canlyniadau cadarnhaol ymhlith dysgwyr a oedd yn gadael eu rhaglen Twf Swyddi Cymru+, ar sail eu cyrchfan o fewn pedair wythnos, yn amrywio rhwng yr elfennau. Y gyfradd oedd 57% ar gyfer Ymgysylltu, 59% ar gyfer Datblygu a 76% ar gyfer Cyflogaeth, â chyfradd gyffredinol o 58%.

Ffigur 2: Cyrchfan y rhai a adawodd Twf Swyddi Cymru+ o fewn pedair wythnos, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Y categori mwyaf yw 'Ceisio gwaith/di-waith', ac yna 'Dysgu – lefel uwch' ar 31%. Gweler y nodyn ar Ganlyniadau Cadarnhaol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r categorïau hyn yn cyfrannu at gyfrifo cyfraddau canlyniadau cadarnhaol.

Rhyw

Ffigur 3: Cyfran y rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ a ddechreuwyd yn ôl rhyw’r dysgwr, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Merched a ddechreuodd 47% o raglenni yn 2022-23.

Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl rhyw, elfen a mesur ar StatsCymru

Dechreuodd cyfanswm o 2,785 o ddynion raglenni Twf Swyddi Cymru+, daeth 1,680 ohonynt i ben yn ystod y flwyddyn a chwblhawyd 1,180. O ran merched, dechreuodd 2,495, daeth 1,510 ohonynt i ben a chwblhawyd 945.

Cafodd 57% o ferched ganlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen, a 59% o fechgyn.

Ethnigrwydd

Ffigur 4: Cyfran y rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ a ddechreuwyd yn ôl ethnigrwydd y dysgwr, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Dechreuwyd 6% o raglenni gan ddysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl grŵp ethnig a mesur ar StatsCymru

O’r rhaglenni a ddechreuwyd gan ddysgwyr ethnig leiafrifol, dechreuwyd y rhan fwyaf o raglenni (100) gan y rhai a nododd eu bod yn perthyn i’r categori ‘Grŵp ethnig arall’, ac wedyn gan y rhai a nododd eu bod yn Ddu neu o ethnigrwydd cymysg. Ar gyfer pob grŵp ethnig leiafrifol, dechreuwyd 310 o raglenni Twf Swyddi Cymru+, daeth 185 ohonynt i ben a chwblhawyd 120.

Cafodd 55% o ddysgwyr Asiaidd, 61% o ddysgwyr Du, 55% o ddysgwyr Cymysg, a 58% o ddysgwyr Gwyn ganlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen; cafodd 43% o ddysgwyr a nododd eu bod yn perthyn i grŵp ethnig arall ganlyniad cadarnhaol.

Anhawster Dysgu ac Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd ag amhariad neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, ffynhonnell data’r adroddiad hwn, yn cofnodi data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd (nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd). Yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, gofynnir i ddysgwyr a oes ganddynt anabledd a/neu anhawster dysgu – defnyddir y data hyn yma.

Ffigur 5: Cyfran y rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ a ddechreuwyd gan ddysgwyr ag anabledd a/neu anhawster dysgu, Ebrill 2022 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Dechreuwyd 24% o raglenni gan ddysgwyr ag anawsterau dysgu neu a ddisgrifiodd eu hunain yn anabl mewn rhyw ffordd a/neu a ddywedodd fod ganddynt anhawster dysgu.

Dysgwyr Twf Swyddi Cymru Plws yn ôl prif anabledd dysgu a mesur ar StatsCymru

O’r dysgwyr a oedd ag anabledd a/neu anhawster dysgu, dechreuwyd y rhan fwyaf o'r rhaglenni hyn gan y rhai â dyslecsia (310), ac yna rhai ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig (245) ac anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol (190). Dechreuwyd cyfanswm o 1,270 o raglenni gan ddysgwyr ag anabledd a/neu anhawster dysgu, daeth 750 ohonynt i ben a chwblhawyd 440.

Cafodd 53% o ddysgwyr ag anabledd a/neu anhawster dysgu ganlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen, o'i gymharu â 60% o'r rhai heb anabledd a/neu anhawster dysgu.

Gweithgareddau dysgu a gyflawnir fel rhan o raglenni Twf Swyddi Cymru+

Mae gweithgareddau dysgu fel arfer yn gymwysterau, cyrsiau neu nodau dysgu penodol y mae’r dysgwr yn ymgymryd â nhw. Gall rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ gwmpasu un neu fwy o weithgareddau dysgu.

Roedd y 5,330 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ a oedd ar waith yn 2022-23 yn cynnwys 12,495 o weithgareddau dysgu. O'r rhain, roedd 3,455 ohonynt yn gymwysterau wedi’u rheoleiddio a restrir ar gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru. Y tri phrif gymhwyster oedd:

  • Dyfarniad Rhagarweiniol Lefel Mynediad City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd (Mynediad 3)
  • Tystysgrif Lefel 1 ETCAL mewn Cyflwyniad i Baratoi ar gyfer Gwasanaeth Milwrol
  • Dyfarniad Lefel 1 City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd

Ymhlith gweithgareddau dysgu eraill roedd datblygu sgiliau craidd, chwilio am swyddi a datblygu iechyd a lles personol.

Darparwyd 89% o weithgareddau dysgu Twf Swyddi Cymru+ drwy gyfrwng y Saesneg. Darparwyd yr 11% arall yn ddwyieithog, â’r mwyafrif helaeth yn defnyddio ychydig bach o ddysgu cyfrwng Cymraeg, ee i gyfathrebu ar lafar yn unig neu ar gyfer rhan fach o'r gweithgarwch dysgu; asesiad Saesneg yn unig.

Cefndir a chyd-destun

Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chefnogaeth gyflogadwyedd gyfunol ac unigol i bobl ifanc 16-18 oed sy'n cael eu hasesu’n NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar yr adeg y maent yn dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Bydd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r canlyniadau a'r ffactorau risg i bobl ifanc sy'n gysylltiedig â bod yn NEET, sy'n rhan annatod o'r Warant i Bobl Ifanc (Cymru'n Gweithio), 'Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau', y Rhaglen lywodraethu a'n hamcanion Llesiant.

Amcanion rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yw:

  • cyfrannu tuag at leihau nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n NEET
  • sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc 16 i 18 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET
  • cyfrannu at gyflawni amcanion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ddarparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n cynnig cyfle cyfartal (gan gynnwys y Gymraeg), yn hybu lles a gwaith teg, ac yn helpu i ymgorffori dulliau amgylcheddol sy'n lleihau niwed

Roedd y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2022 yn gyfnod pontio i ddysgwyr a oedd yn arfer bod ar y rhaglen Hyfforddeiaethau.

Tair elfen Twf Swyddi Cymru+ yw Ymgysylltu, Datblygu a Chyflogaeth. Mae Ymgysylltu yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddarganfod eu diddordebau cyn ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth. Mae Datblygu yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau perthnasol ar gyfer llwybr gyrfa penodol, ac mae Cyflogaeth yn cefnogi'r rhai sy'n cymryd camau i chwilio am swydd.

Canlyniadau

Caiff canlyniadau cadarnhaol eu mesur yn ôl cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru. I ddysgwyr ar y llinynnau Ymgysylltu a Datblygu, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth. I ddysgwyr ar y llinyn Cyflogaeth, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser (16 awr neu fwy yr wythnos) neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth.

I ddysgwyr anabl, mae cyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos hefyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol.

Mae gwaith gwirfoddol, dysgu pellach ar yr un lefel neu lefel is, a chyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos yn cael eu hystyried yn ganlyniadau niwtral. Caiff dysgwyr â'r canlyniadau hyn eu heithrio o'r enwadur wrth gyfrifo cyfraddau canlyniadau cadarnhaol.

Mae chwilio am waith/di-waith a phob canlyniad arall (gan gynnwys lle nad yw'r gyrchfan o fewn pedair wythnos yn hysbys) yn cael eu hystyried yn ganlyniadau negyddol.

Ffynhonnell ddata

Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Mai 2023 ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Rhaid i Gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn fisol o leiaf ar bob person ifanc a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau o dan raglen Twf Swyddi Cymru+.

Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf. Cyfrifir y canrannau ar sail y ffigurau heb eu talgrynnu.

Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Perthnasedd

Mae'r ystadegau hyn yn bwysig wrth fonitro rhaglen a chanlyniadau Twf Swyddi Cymru+ i’r rhai sy’n dilyn ei raglenni, ac mae nifer o grwpiau yn eu defnyddio, gan gynnwys:

  • gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru
  • aelodau Senedd Cymru ac ymchwilwyr y Senedd
  • deiliaid contractau Twf Swyddi Cymru+, fel offeryn rheoli i fesur eu perfformiad eu hunain a’u meincnodi yn erbyn cyfartaleddau’r sector
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion

Cywirdeb

Mae'r ffigyrau yn y datganiad hwn yn adlewyrchu sefyllfa derfynol blwyddyn academaidd 2021/22. O bryd i'w gilydd, gall diwygiadau ddigwydd oherwydd camgymeriadau yn ein prosesau ystadegol neu pan fydd cyflenwr data yn hysbysu Llywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir. Yn yr achosion hyn, gwneir penderfyniad ynghylch a yw'r newid yn ddigon sylweddol i gyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig. Lle na ystyrir bod newidiadau'n arwyddocaol, bydd ffigurau'n cael eu cywiro os ydynt yn ymddangos mewn datganiadau yn y dyfodol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddir y datganiad ystadegol hwn yn flynyddol ym mis Mehefin ac mae'n cwmpasu'r flwyddyn ariannol flaenorol.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn ei rag-gyhoeddi ac yna'i gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru. Mae'r holl ddata gwaelodol ar gyfer y datganiad hwn, ynghyd â datganiadau blynyddoedd blaenorol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ian Shipley
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 53/2023