Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad cyntaf y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y tripiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr ar gyfer y cyfnod Hydref i Ragfyr 2023. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys hefyd amcangyfrifon ar gyfer y cyfnod Ionawr i Ragfyr 2023. 

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cynnwys amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2023. Bydd y gyfres hon nawr yn destun adolygiad methodolegol. Yn dilyn yr adolygiad hwn, bydd amcangyfrifon a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn newid. Byddwch yn ofalus wrth ddehongli neu ddefnyddio'r amcangyfrifon a gyhoeddir yma. Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad ar adolygiad methodolegol.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer prif ddiben tripiau dros nos; gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a thripiau busnes, gyda'r diffiniadau ar gyfer pob un o'r rhain yn yr adran berthnasol o'r adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion am dripiau dros nos yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu. Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser.  Mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Mae amcangyfrifon o dripiau domestig dros nos i Gymru o fis Ebrill 2021 wedi’u cyhoeddi a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn. Darllenwch yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant. 

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Tripiau yng Nghymru

  • Rhwng Hydref a Rhagfyr 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 1.79 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 5.49 miliwn o nosweithiau a gwario £479 miliwn yn ystod y tripiau hyn.
  • Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 8.58 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 24.95 miliwn o nosweithiau a gwario £2.04 biliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Roedd 38% o’r tripiau dros nos yng Nghymru yn ystod 2023 yn wyliau, roedd 35% yn dripiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 5% at ddibenion busnes ac roedd 22% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd tua 7% o’r holl dripiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, ac roedd cyfran o gyfanswm y nosweithiau ym Mhrydain Fawr a’r gwariant hefyd yn 7%. 
  • Hyd cyfartalog tripiau yng Nghymru yn 2023 oedd 2.9 noson gyda gwariant cyfartalog o £237 y trip.
  • O'i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y tripiau yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023 1% yn is, tra bod y gwariant 6% yn uwch. Mae'r gostyngiad yn nifer y tripiau blynyddol ar gyfer 2023 yn sgil gostyngiad sydyn yn y tripiau yn ystod pedwerydd chwarter y flwyddyn.

Tripiau ym Mhrydain Fawr

  • Rhwng Hydref a Rhagfyr 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 28.12 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 74.71 miliwn o nosweithiau a gwario £7.06 biliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, aeth trigolion Prydain Fawr ar 117.28 miliwn o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 339.38 miliwn o nosweithiau a gwario £30.94 biliwn yn ystod y tripiau hyn. 
  • Roedd 32% o dripiau dros nos ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn wyliau, roedd 37% yn dripiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau, roedd 5% at ddibenion busnes ac roedd 26% at ddibenion amrywiol.
  • Roedd 85% o’r tripiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yn Lloegr, roedd 11% yn cynnwys aros dros nos yn yr Alban ac roedd 7% yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru.
  • Hyd cyfartalog tripiau ym Mhrydain Fawr yn 2023 oedd 2.9 noson gyda gwariant cyfartalog o £264 y trip. 
  • O'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, roedd nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 7% yn is, tra bod y gwariant 6% yn is. Mae'r gostyngiad yn nifer y tripiau blynyddol ar gyfer 2023 yn sgil gostyngiad sydyn yn y tripiau yn ystod pedwerydd chwarter y flwyddyn.

Tripiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Hydref i Ragfyr 2023

Tabl 1: Cyfanswm nifer y tripiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 LloegrYr AlbanCymru
Tripiau (miliynau)99.2112.628.58
% Tripiau Prydain Fawr85%11%7%
Nosweithiau (miliynau)279.8134.6224.95
% Nosweithiau Prydain Fawr82%10%7%
Gwariant (£ miliynau)£25,733£3,174£2,035
% Gwariant Prydain Fawr83%10%7%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai tripiau yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Rhagfyr 2023, aeth trigolion Prydain ar 117.28 miliwn o dripiau dros nos gyda chyfanswm o 339.38 miliwn o nosweithiau a gwario cyfanswm o £30.94 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, roedd 8.58 miliwn o dripiau dros nos yng Nghymru gyda chyfanswm o 24.95 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £2.04 biliwn. 

Roedd tua 7% o holl dripiau domestig dros nos trigolion Prydain yn dripiau yng Nghymru, o’u cymharu ag 85% yn Lloegr ac 11% yn yr Alban, ffigurau tebyg i gyfrannau’r tripiau yn 2022. Roedd cyfran cyfanswm y nosweithiau a dreuliwyd ym Mhrydain Fawr a chyfanswm y gwariant ym Mhrydain Fawr yn 7%. Mae’r ffigurau hyn yn debyg i’r cyfrannau a gofnodwyd yn 2022 (7% o gyfanswm nosweithiau Prydain Fawr a 6% o gyfanswm gwariant Prydain Fawr).

 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas1.798.58
Gwyliau 0.583.29
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau0.792.98
Busnes0.080.41
Amrywiol/eraill0.341.91

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Tabl 3: Nosweithiau yng Nghymru yn ôl pwrpas yr ymweliad mewn miliynau, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas5.4924.95
Gwyliau 1.8910.88
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau2.718.21
Busnes0.141.42
Amrywiol/eraill0.754.44

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Tabl 4: Gwariant yng Nghymru yn ôl pwrpas yr ymweliad mewn miliynau o bunnoedd, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas£479£2,035
Gwyliau £192£998
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau£154£458
Busnes£18£84
Amrywiol/eraill£114£495

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

O'i gymharu â 2022, mae nifer y tripiau dros nos yng Nghymru yn 2023 wedi gostwng 1%. Roedd gostyngiad hefyd yn nifer y tripiau gwyliau a thripiau busnes, er bod nifer y tripiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ac at ddibenion amrywiol/eraill yn uwch, o'i gymharu â 2022. Yn ogystal, gostyngodd nifer y nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 ar gyfer pob pwrpas, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022. Mae'r gostyngiad hwn yn cael ei yrru gan nifer is o nosweithiau a dreuliwyd yng Nghymru ar dripiau gwyliau. Mae'r gwariant ar dripiau a dreuliwyd yng Nghymru yn ystod 2023 ar gyfer pob pwrpas wedi cynyddu o'i gymharu â gwariant yn ystod yr un cyfnod yn 2022.

Ffigur 1: Cyfran y tripiau, nosweithiau a gwariant yng Nghymru yn ôl prif bwrpas y trip, Ionawr i Ragfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far bentyrrog yn dangos mai'r math o drip mwyaf cyffredin yng Nghymru o Ionawr i Ragfyr 2023 gan drigolion Prydain Fawr oedd gwyliau, ac yna ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

Yn 2023, tripiau gwyliau oedd y math o drip mwyaf cyffredin yng Nghymru (38%), gydag ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau’n dilyn (35%). Roedd 22% o’r tripiau at ddiben amrywiol ac roedd tripiau busnes yn cyfrif am 5% o’r cyfanswm. Roedd nifer y tripiau at bob pwrpas yng Nghymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 1% yn is nag yn yr un cyfnod yn 2022.

Tabl 5: Tripiau i Brydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad mewn miliynau, Ionawr i Ragfyr 2023
 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas28.12117.28
Gwyliau 8.0236.98
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau10.8843.01
Busnes1.836.24
Amrywiol/eraill7.3931.05

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

Tabl 6: Nosweithiau ym Mhrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad mewn miliynau, Ionawr i Ragfyr 2023
 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas74.71339.38
Gwyliau24.94130.24
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau28.08117.83
Busnes5.4718.90
Amrywiol/eraill16.2172.41

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

Tabl 7: Gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad mewn miliynau, Ionawr i Ragfyr 2023
 Hydref i Ragfyr 2023Blwyddyn hyd 2023
Pob pwrpas£7,057£30,942
Gwyliau£2,459£12,007
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau£1,851£7,375
Busnes£748£2,342
Amrywiol/eraill£1,999£9,217

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

Yn debyg i Gymru, roedd nifer y tripiau dros nos ym Mhrydain Fawr rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 yn is, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022. Er bod nifer y tripiau amrywiol/eraill ychydig yn uwch yn ystod 2023, roedd nifer y tripiau at ddibenion teithio eraill i gyd yn is, o’i gymharu â 2022. Roedd nifer y nosweithiau a dreuliwyd ym Mhrydain Fawr yn ystod 2023 yn is o’i gymharu â 2022. Roedd y nosweithiau a dreuliwyd ym Mhrydain Fawr yn is ar gyfer pob pwrpas teithio. Mae'r gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr yn ystod 2023 wedi gostwng o'i gymharu â gwariant yn ystod 2022, ar draws pob pwrpas teithio ac eithrio tripiau busnes a thripiau at bwrpas amrywiol/arall, a welodd gynnydd bach mewn gwariant.

Nodweddion tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru

Tabl 8: Gwariant cyfartalog fesul trip ar gyfer prif bwrpas tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 Prydain FawrCymru 
Pob pwrpas£264£237
Gwyliau£325£303
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau£171£154
Busnes£376£207

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Tabl 9: Gwariant cyfartalog fesul noson ar gyfer prif bwrpas tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 Prydain FawrCymru 
Pob pwrpas£91£82
Gwyliau£92£92
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau£63£56
Busnes£124£60

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Tabl 10: Nifer cyfartalog y nosweithiau fesul trip ar gyfer prif bwrpas tripiau ym Mhrydain Fawr a Chymru, Ionawr i Ragfyr 2023 [Nodyn 1]
 Prydain FawrCymru 
Pob pwrpas2.92.9
Gwyliau3.53.3
Ymweld â Ffrindiau/Perthnasau2.72.8
Busnes3.03.5

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr i Ragfyr 2023

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer tripiau busnes i Gymru – dylid trin y data’n ofalus.

Hyd cyfartalog trip yng Nghymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 oedd 2.9 noson, yn unol â chyfartaledd Prydain Fawr. At ei gilydd, mae'r gwariant fesul trip a’r gwariant fesul noson ar dripiau yng Nghymru yn is nag ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol, sy’n gyson â'r canfyddiadau ar gyfer 2022. Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, roedd y gwariant cyfartalog fesul noson ar ei uchaf ar gyfer tripiau gwyliau yng Nghymru, ond gwariant tripiau busnes oedd uchaf ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol. 

Mae'r gwariant cyfartalog fesul trip yng Nghymru yn 2023 lawer uwch nag yr oedd yn 2022, gan barhau â'r duedd gyffredinol o fwy o wariant ar dripiau. Mae hyn yn gyson o ran tripiau yng Nghymru a thripiau ym Mhrydain Fawr, ac ar draws pob math o drip, ac eithrio ar gyfer tripiau gwyliau ym Mhrydain Fawr, a welodd ostyngiad bach mewn gwariant cyfartalog fesul trip. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant. Mae hyd cyfartalog tripiau at bob pwrpas yn 2023 wedi gostwng o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2022, ar gyfer y ddau fath o drip yng Nghymru a thripiau ym Mhrydain Fawr yn ei chyfanrwydd. Mae hyd cyfartalog tripiau gwyliau yn 2023 wedi gostwng o’i gymharu â 2022, gan ostwng 10% yng Nghymru a 7% ym Mhrydain Fawr.

Tueddiadau tripiau ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr

Ffigur 2: Nifer y tripiau i Gymru mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofnau glystyrog yn dangos nifer y tripiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda’r tripiau yn naw mis cyntaf 2023 ychydig yn uwch na rhai'r un cyfnod yn 2022, ac yna’n gostwng yn ystod y pedwerydd chwarter.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Bu gostyngiad o 18% yn nifer y tripiau i Gymru rhwng Hydref a Medi 2023, gyda 1.79 miliwn o dripiau i Gymru, o'u cymharu â 2.18 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022. Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, cafodd 8.58 miliwn o dripiau eu cymryd yng Nghymru, gostyngiad o 1% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022.

Ffigur 3: Cyfanswm y gwariant ar dripiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau glystyrog yn dangos y gwariant ar dripiau yng Nghymru ar gyfer pob chwarter, gyda'r gwariant yn nhri chwarter cyntaf 2023 yn uwch nag yn yr un cyfnod yn 2022, ac yna’n is ar gyfer y chwarter olaf.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Bu gostyngiad o 22% yng ngwariant tripiau dros nos yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr 2023, gyda gwariant o £479 miliwn, o'i gymharu â gwariant o £617 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022. Roedd gwariant ar dripiau a gymerwyd yng Nghymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023 6% yn uwch o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, ar £2.04 biliwn. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant.

Ffigur 4: Nifer y tripiau dros nos ym Mhrydain Fawr mewn miliynau yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart golofnau glystyrog yn dangos nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda’r tripiau’n uwch ar gyfer ail chwarter 2023, ond yn is yn y chwarter cyntaf, y trydydd a phedwerydd chwarter yn 2023, o’i gymharu â 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Bu gostyngiad o 20% yn nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr rhwng Hydref a Rhagfyr 2023, gyda 28.12 miliwn o dripiau ym Mhrydain Fawr o'i gymharu â 35.23 miliwn yn yr un cyfnod yn 2022. Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, roedd nifer y tripiau ym Mhrydain Fawr 7% yn is o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, gydag 117.28 miliwn o dripiau wedi’u cymryd yn ystod 2023.

Ffigur 5: Cyfanswm y gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr mewn miliynau o bunnoedd yn ôl chwarter yr ymweliad, Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofnau glystyrog yn dangos y gwariant ar dripiau ym Mhrydain Fawr ar gyfer pob chwarter, gyda'r gwariant yn uwch yn ystod chwe mis cyntaf 2023, ond yn is yn ystod chwe mis olaf 2023, o’i gymharu â 2022.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ionawr 2022 i Ragfyr 2023

Bu gostyngiad o 25% yng ngwariant tripiau dros nos ym Mhrydain Fawr rhwng Hydref a Rhagfyr 2023, gyda £7.06 biliwn yn cael ei wario, o'i gymharu â £9.36 biliwn yn ystod yr un cyfnod yn 2022. Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, roedd gwariant ar gyfer tripiau ym Mhrydain Fawr 6% yn is o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2022, gyda £30.94 biliwn yn cael ei wario yn ystod 2023. Dylid ystyried y newid mewn gwariant yng ngoleuni’r cynnydd mewn costau gan nad yw’r amcangyfrifon hyn wedi’u haddasu yn unol â chwyddiant.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

I gael ei hystyried yn Daith Ddomestig Dros Nos gymwys ym Mhrydain Fawr, roedd yn rhaid iddi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Roedd y daith yn cynnwys aros am o leiaf un noson yn un neu fwy o wledydd Prydain Fawr; Cymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nid yw’r daith yn digwydd yn rheolaidd (yn llai aml nag unwaith yr wythnos).
  • Ar gyfer Teithiau Gwyliau Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd gwyliau, pleser neu hamdden.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan gynnwys teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a oedd wedi’u cyfuno â gwyliau.
  • Ar gyfer Teithiau Busnes Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer busnes.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos Amrywiol/Eraill ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer math arall o daith nad yw’r dosbarthiadau uchod yn ymdrin â hi, gan gynnwys digwyddiadau personol, digwyddiadau cyhoeddus, neu ar gyfer astudio, dibenion meddygol, crefyddol, neu unrhyw arhosiad dros nos ym Mhrydain Fawr fel rhan o daith dramor.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o nifer y teithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn mynd arnynt os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â nifer yr ymweliadau dros nos a fyddai’n cael eu gwneud gan y boblogaeth os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Nifer y nosweithiau gwely

Amcangyfrif o faint o nosweithiau ar deithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn eu treulio os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr.

Mae'r diffiniadau hyn a'r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi'u diwygio fel rhan o arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y gallu i gymharu amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos a gyhoeddwyd ar gyfer 2021, 2022 a 2023 â'r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o’r gofynion a’r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristiaeth ddomestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn diogelu’r dulliau casglu data yn y dyfodol, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a adroddir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfun newydd sy’n casglu data am deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau undydd domestig. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd mae data’n cael eu casglu ar gyfer ymweliadau dros nos, gan gynnwys newid o ddefnyddio’r dull arolwg blaenorol wyneb yn wyneb yn y cartref a dechrau defnyddio arolwg cyfun newydd ar-lein sy’n cynnwys teithiau dros nos domestig a theithiau undydd domestig.

Mae’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun ar-lein newydd yn ddyluniad nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd a gafwyd gan 4 darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Maint y sampl blynyddol targed ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 60,000 o gyfweliadau wedi’u cwblhau. Nid yw pob person sy’n cael ei gyfweld wedi bod ar daith dros nos gymwys, ac felly mae meintiau’r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau.

Fel rhan o’r newidiadau i’r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar arolygon sampl tebyg ar-lein. Mae’r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi’i fapio i raddau cymdeithasol bras ar gyfer ystadegau poblogaeth, at ddibenion cwotâu a phwysoliad i boblogaeth Prydain Fawr. Bydd newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau’r boblogaeth yn effeithio ar amcangyfrif ac adrodd ar deithiau o’i gymharu â’r adroddiadau blaenorol ar y radd gymdeithasol a ddefnyddiwyd ar gyfer GBTS yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ac ail-raddnodi ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer twristiaeth ddomestig dros nos wedi cael eu casglu mewn ffordd debyg iawn ers 1989. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym methodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â’r ymyriadau o ran casglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Mae canlyniadau o fis Ebrill 2021 ymlaen wedi’u cyhoeddi a gellir eu cymharu â’r canlyniadau yn y datganiad hwn.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir i ymatebwyr am unrhyw deithiau dros nos maent wedi bod arnynt yn ystod y 4 wythnos lawn cyn dyddiad y cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Adroddir ar amcangyfrifon o deithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio’r cyfweliad yn cyfateb yn union â’r misoedd calendr, gwneir addasiad gan ddefnyddio ‘ffactor llyfnhau tymhorol’ i wella cymariaethau misol o fewn a rhwng blynyddoedd. Mae’r amcangyfrifon misol yn amodol ar gyfyngiadau ar faint y samplau ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau yn ystod y flwyddyn.

Cywirdeb

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol, sy’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, fel y nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau’r arolwg ar gyfer 2021 wedi cael eu labelu fel ‘ystadegau arbrofol’ (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r arolwg a’r ystadegau newydd wedi dilyn rhaglen gynhwysfawr o sicrhau ansawdd gan gynnwys treialu’r arolwg, dadansoddi newidiadau i’r diffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygu’r capiau a’r rheolau cyfrifyddu. Mae newidiadau i fethodoleg ac amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a ddarparwyd gan Wasanaeth Cynghori Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg ar-lein nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd, maent yn destun cyfyngiadau a ffynonellau tuedd a gwallau posibl sy'n gysylltiedig ag arolygon o'r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r GBTS eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddir capiau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro’r galw ym maes twristiaeth ddomestig ac i fesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Un o brif ddibenion yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau yn y farchnad dros amser.

Cyn belled ag y bo modd, mae’r arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd yn darparu cysondeb â’r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cynnwys gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir, dulliau archebu a phroffiliau ymatebwyr, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i wahanol ddefnyddwyr yr arolwg. Mae’r holiadur presennol wedi’i gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir GBTS 2022.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y calendr sydd i ddod. Hefyd, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohirio. Rydym yn anelu at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod ymchwil perthnasol. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer Cymru tua 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio teithiau 4 wythnos yr arolwg ac i ganiatáu ar gyfer amserlenni adrodd a sicrhau ansawdd.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Siân Hughes
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 26/2024