Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ddatganiad diwygiedig y prif amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau twristiaeth domestig dros nos gan drigolion Prydain yng Nghymru a Phrydain Fawr yn 2021. Mae’r ystadegau a gyhoeddir yn y datganiad hwn yn berthnasol i’r cyfnod rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Rhagfyr 2021. Nid oes data ar gael ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2021, oherwydd cyfyngiadau teithio’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae'r datganiad hwn yn rhoi amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer yr holl fesurau a adroddwyd, gan gynnwys yr amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau dros nos yng Nghymru a Phrydain Fawr. Gwnaed dau ddiwygiad ar wahân i ddata'r arolwg. Mae'r diwygiad cyntaf wedi'i gynllunio i reoli effaith teithiau a adroddwyd gan unigolion a nodwyd eu bod yn cael effaith anghymesur ar yr amcangyfrifon cyffredinol o ran niferoedd y teithiau a gwariant.  Mae'r ail ddiwygiad yn cynnwys ail-raddnodi'r amcangyfrifon o ran nifer a gwerth ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022, oherwydd newid mewn cwestiynau arolwg a roddwyd ar waith ym mis Mai 2022. Dangosodd dadansoddiad fod y newid wedi arwain at ostyngiad sylweddol ac annisgwyl yn niferoedd y teithiau a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen. Effaith y diwygiadau hyn fu lleihau'r amcangyfrifon misol a chyfanswm ar gyfer niferoedd a gwariant teithiau a adroddwyd yn y cyhoeddiad hwn am y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Rhagfyr 2021, i'w gwneud yn gymharol ag amcangyfrifon a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen.  Pan fydd data mewn tabl neu siart wedi'i ddiwygio, nodir hyn yn nheitl y tabl neu'r siart.   

Darperir rhagor o wybodaeth am y diwygiadau hyn yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBTS.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer prif ddiben teithiau dros nos; gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a pherthnasau a theithiau busnes, gyda'r diffiniadau ar gyfer pob un o'r rhain yn yr adran berthnasol o'r adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon a manylion am deithiau dros nos yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr at ddibenion cymharu. Mae canlyniadau manwl ar gyfer Lloegr a'r Alban yn cael eu cyhoeddi gan VisitEngland a VisitScotland.

Defnyddir yr ystadegau hyn er mwyn monitro'r galw am dwristiaeth ddomestig a mesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Diben allweddol yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau'r farchnad dros amser. Mae'r newidiadau i fethodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â'r tarfu a fu i'r broses o gasglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol. Cyfeiriwch at yr adran ar gymharedd a chydlyniaeth.

Caiff yr ystadegau hyn eu labeli'n ‘arbrofol’ er mwyn galluogi gwaith profi ac addasu pellach i ddiwallu anghenion y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn awyddus i wirio bod yr ystadegau twristiaeth newydd yn diwallu anghenion y defnyddwyr ac yn eich gwahodd i roi adborth ar yr wybodaeth yn yr allbwn hwn yn: YmchwilTwristiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

Teithiau yng Nghymru

  • Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, aeth trigolion Prydain Fawr ar 6.21 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru, gan dreulio 22.67 miliwn o nosweithiau a gwario £1,231 miliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 50% o deithiau dros nos yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 29% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ac roedd 5% at ddibenion busnes.
  • Roedd tua 7% o’r holl deithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, tra bod cyfran cyfanswm nosweithiau ym Mhrydain Fawr hefyd yn 7% a chyfran y gwariant yn is ar 6%.
  • Bu cynnydd graddol yn nifer y teithiau dros nos yng Nghymru o fis Ebrill 2021 ymlaen, gyda nifer uchaf o 1.07 miliwn o deithiau ym mis Awst.
  • Cyfartaledd hyd teithiau yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd oedd 3.7 noson gyda gwariant cyfartalog o £198 fesul taith.

Teithiau ym Mhrydain Fawr

  • Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, aeth trigolion Prydain Fawr ar 86.2 miliwn o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr, gan dreulio 302.6 miliwn o nosweithiau a gwario £19.85 biliwn yn ystod y teithiau hyn.
  • Roedd 38% o deithiau dros nos ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn yn deithiau gwyliau, roedd 37% yn deithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ac roedd 6% at ddibenion busnes.
  • Roedd 85% o’r teithiau ym Mhrydain Fawr yn cynnwys aros dros nos yn Lloegr, roedd 11% yn cynnwys aros dros nos yn yr Alban ac roedd 7% yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru.
  • Bu cynnydd graddol yn nifer y teithiau dros nos ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill 2021 ymlaen, gyda nifer uchaf o 14.3 miliwn o deithiau ym mis Medi.
  • Cyfartaledd hyd teithiau ym Mhrydain Fawr yn ystod y cyfnod adrodd oedd 3.5 noson gyda gwariant cyfartalog o £230 fesul taith.

Teithiau, nosweithiau a gwariant yng Ngwledydd Prydain Fawr 2021

Tabl 1: Cyfanswm nifer y teithiau, nosweithiau a gwariant yng ngwledydd Prydain Fawr (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
 LloegrYr AlbanCymru
Teithiau (miliynau)73.299.836.21
% Teithiau ym Mhrydain Fawr85%11%7%
Nosweithiau (miliynau)246.5233.4322.67
% Nosweithiau ym Mhrydain Fawr81%11%7%
Gwariant (£ miliynau)£16,413£2,208£1,231
% Gwariant ym Mhrydain Fawr83%11%6%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Nid yw'r canrannau'n dod i gyfanswm o 100% gan fod rhai teithiau yn cynnwys ymweliadau â mwy nag un wlad.

Yn y cyfnod rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Rhagfyr 2021, aeth trigolion Prydain ar 86.2 miliwn o deithiau dros nos gyda chyfanswm o 302.6 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £19.85 biliwn. Yn ystod yr un cyfnod, roedd 6.21 miliwn o deithiau dros nos yng Nghymru gyda chyfanswm o 22.67 miliwn o nosweithiau a chyfanswm gwariant o £1.23 biliwn. Roedd tua 7% o holl deithiau domestig dros nos trigolion Prydain yn deithiau yng Nghymru, o’i gymharu ag 85% yn Lloegr ac 11% yn yr Alban.  Roedd cyfran y nosweithiau ym Mhrydain Fawr a dreuliwyd yng Nghymru yn 7%, ac roedd cyfran y gwariant yn is ar 6% yn sgil gwariant cyfartalog is ar deithiau yng Nghymru.

Tabl 2: Teithiau, nosweithiau a gwariant i Gymru a Phrydain Fawr yn ôl pwrpas yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
Pob PwrpasTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
GwyliauTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Ymweld â Ffrindiau a PherthnasauTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
BusnesTeithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Amrywiol/arall Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliwn)
Prydain Fawr86.16302.62£19,853
Cymru6.2122.67£1,231
Prydain Fawr32.58125.62£9,751
Cymru3.1313.08£763
Prydain Fawr31.62105.13£4,678
Cymru1.795.91£201
Prydain Fawr5.3527.84£1,491
Cymru0.280.80£49
Prydain Fawr16.6144.02£3,933
Cymru1.012.88£217

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru, dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 1: Cyfran y teithiau, y nosweithiau a’r gwariant yng Nghymru yn ôl prif bwrpas y daith (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far glystyrog yn dangos mai gwyliau oedd diben y mwyafrif o deithiau, nosweithiau a gwariant gan drigolion Prydain Fawr a aeth ar deithiau i Gymru.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Nid yw’r canrannau ar gyfer nosweithiau yng Nghymru yn dod i gyfanswm o 100% oherwydd mater talgrynnu.

Teithiau gwyliau oedd y gyfran fwyaf o deithiau dros nos yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021. Yn dilyn hyn, roedd teithiau ymweld â ffrindiau a pherthnasau.  Teithiau busnes oedd y gyfran isaf o deithiau dros nos i Gymru ac i Brydain Fawr yn gyffredinol. Mae teithiau at ddibenion ‘amrywiol’ yn cynnwys amrywiaeth eang o deithiau (gweler yr adran diffiniadau), ond y nifer fwyaf o deithiau amrywiol yng Nghymru oedd teithiau dramor a oedd yn cynnwys aros dros nos yng Nghymru, teithiau ar gyfer digwyddiadau personol a theithiau ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Roedd cyfran uwch o deithiau yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021 ar gyfer gwyliau (50%), o’i gymharu â Phrydain Fawr yn gyffredinol (38%). Roedd teithiau ym Mhrydain Fawr yn fwy tebygol o fod ar gyfer ymweld â ffrindiau a pherthnasau (37%) o’i gymharu â Chymru (29%) ac roedd teithiau busnes ym Mhrydain Fawr yn gyfran uwch o gyfanswm y teithiau ym Mhrydain Fawr (6%) o’i gymharu â Chymru (5%).

Nodweddion teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru

Tabl 3: Hyd arhosiad a gwariant cyfartalog ar gyfer prif bwrpas teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
Pob PwrpasPrydain FawrCymru
GwyliauPrydain FawrCymru
Ymweld â Ffrindiau a PherthnasauPrydain FawrCymru
BusnesPrydain FawrCymru
Gwariant fesul taith ££230£198
Gwariant fesul noson ££66£54
Nosweithiau fesul taith3.53.7
Gwariant fesul taith ££299£244
Gwariant fesul noson ££78£58
Nosweithiau fesul taith3.94.2
Gwariant fesul taith ££148£112
Gwariant fesul noson ££44£34
Nosweithiau fesul taith3.33.3
Gwariant fesul taith ££278£174
Gwariant fesul noson ££54£61
Nosweithiau fesul taith5.22.8

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Mae maint y sylfaen yn isel ar gyfer teithiau busnes i Gymru, dylid trin y data’n ofalus.

Roedd nifer cyfartalog y nosweithiau fesul taith i Gymru (3.7) ychydig yn uwch nag i Brydain Fawr yn gyffredinol (3.5) oherwydd cyfran uwch o deithiau gwyliau yng Nghymru a hyd cyfartalog hirach gwyliau yng Nghymru (4.2) o'i gymharu â Phrydain yn gyffredinol (3.9). Roedd hyd cyfartalog y teithiau ar gyfer ymweld â ffrindiau a pherthnasau yng Nghymru a Phrydain Fawr yn debyg.

Er gwaethaf hyd cyfartalog teithiau hirach yng Nghymru, roedd y gwariant cyfartalog ar y teithiau yng Nghymru yn is nag ym Mhrydain Fawr, gyda gwariant cyfartalog o £198 fesul taith a gwariant cyfartalog o £54 fesul noson. Roedd y gwariant cyfartalog yn is ar gyfer pob math o daith yng Nghymru. Roedd y gwariant cyfartalog fesul noson ar gyfer teithiau busnes dros nos (£61) a gwyliau (£58) yng Nghymru yn uwch o lawer na theithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau (£34).

Ffigur 2: Nifer a chyfran y teithiau i Brydain Fawr a Chymru yn ôl prif leoliad yr ymwelwyd ag ef (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart golofn glystyrog yn dangos mai teithiau i ddinasoedd mawr / trefi mawr oedd y gyfran fwyaf o deithiau ym Mhrydain Fawr, ond yng Nghymru roedd y teithiau wedi’u gwasgaru’n fwy cyfartal rhwng gwahanol fathau o leoliadau.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau i bob prif leoliad mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, roedd 1.53 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i leoliad cefn gwlad/pentref yng Nghymru.

Roedd teithiau wedi’u gwasgaru’n gyfartal i wahanol fathau o leoliadau ar draws Cymru. Roedd cyfran llawer uwch o deithiau yng Nghymru i’r ardaloedd glan môr ac arfordirol o’i gymharu â Phrydain Fawr yn gyffredinol. Gan gyferbynnu â hynny, roedd cyfran llawer is o deithiau i Gymru i ddinasoedd a threfi mawr. Mae hyn yn adlewyrchu'r gyfran uwch o deithiau gwyliau yng Nghymru, yn ogystal â chyrchfannau mwy gwledig ac arfordirol yng Nghymru.

Ffigur 3: Nifer a chyfran y teithiau a’r gwariant lle mai rhanbarth yng Nghymru yw prif leoliad yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn glystyrog yn dangos mai Gogledd Cymru oedd y rhanbarth o Gymru a gafodd y nifer fwyaf o deithiau a’r gwariant uchaf gan drigolion Prydain Fawr.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Meintiau sylfaen isel ar gyfer rhai rhanbarthau, dylid trin y data’n ofalus.

[Nodyn 2] Y rhifau yn y segmentau lliw yw nifer y teithiau yng Nghymru mewn miliynau, a'r swm a wariwyd ar deithiau yng Nghymru mewn miliynau o bunnoedd, ar gyfer pob rhanbarth o Gymru. Er enghraifft, o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 roedd 1.26 miliwn o deithiau twristiaeth undydd i Dde-orllewin Cymru.

Gogledd Cymru oedd y rhanbarth yr ymwelwyd â hi fwyaf yn 2021. Dyma’r prif gyrchfan ar gyfer 29% o’r teithiau. Mae hyn yn cymharu â De-ddwyrain Cymru, y prif gyrchfan ar gyfer 24% o’r teithiau yng Nghymru. De-orllewin Cymru oedd prif gyrchfan 20% o deithiau, a Chanolbarth Cymru oedd prif gyrchfan 11% o deithiau yng Nghymru. Roedd gweddill y teithiau yng Nghymru i gyrchfannau amrywiol lle’r oedd y prif le yr ymwelwyd ag ef y tu allan i Gymru.

Ffigur 4: Nifer a chyfran y teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl y prif fath o lety a ddefnyddiwyd (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far glystyrog yn dangos mai llety â gwasanaeth oedd y math mwyaf cyffredin o lety ar gyfer trigolion Prydain Fawr a oedd yn mynd ar deithiau ym Mhrydain Fawr ac yng Nghymru.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau yng Nghymru ac ym Mhrydain Fawr mewn miliynau, lle defnyddiwyd math penodol o lety fel y prif fath o lety. Er enghraifft, o fis Ebrill i Ragfyr 2021, llety â gwasanaeth oedd y prif fath o lety a ddefnyddiwyd ar 2.04 miliwn o deithiau i Gymru.

Roedd ymwelwyr ar deithiau i Gymru rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022 yn fwyaf tebygol o fod mewn llety â gwasanaeth neu garafán/gwersylla/glampio, er bod cartrefi preifat (gan gynnwys cartrefi ffrindiau/perthnasau ac ail gartrefi) yn cael eu defnyddio ar gyfer nifer sylweddol o deithiau. O'i gymharu â Phrydain Fawr, roedd ymwelwyr a oedd yn aros yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn aros mewn carafán ac yn gwersylla, ond roedd llai o ddefnydd o lety â gwasanaeth a chartrefi preifat. 

Proffil yr ymwelwyr a fu ar deithiau i Gymru

Tabl 4: Nifer y teithiau a chyfanswm y gwariant yng Nghymru yn ôl gwlad breswyl yr ymwelwyr (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
 Teithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)% o deithiau Cymru
Lloegr4.48£96972%
Yr Alban0.16£393%
Cymru1.57£22325%

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Maint sylfaen isel ar gyfer yr Alban, dylid trin y data’n ofalus

Roedd trigolion Prydain Fawr sy’n byw y tu allan i Gymru yn cyfrif am dri chwarter yr holl deithiau dros nos yng Nghymru, gyda thrigolion o Loegr yn cyfrif am y mwyafrif o’r teithiau a’r gwariant. Roedd trigolion Cymru yn cyfrif am 1 o bob 4 taith yng Nghymru yn 2021.

Ffigur 5: Nifer a chyfran y teithiau ym Mhrydain Fawr a Chymru yn ôl grŵp oedran (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart golofn glystyrog yn dangos mai’r grŵp oedran mwyaf o ran ymwelwyr i Gymru oedd y rheini rhwng 25 a 34 oed. Y grŵp oedran mwyaf o ran ymwelwyr i Brydain Fawr oedd y rheini a oedd yn 55 neu’n hŷn.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Y rhifau o fewn y segmentau lliw yw nifer y teithiau gan bob grŵp oedran mewn miliynau. Er enghraifft, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021, aeth ymwelwyr 45 i 54 oed ar 1.01 miliwn o deithiau i Gymru.

Roedd y teithiau i Gymru wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol grwpiau oedran, ond y rheini rhwng 25 a 34 oed oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o deithiau yng Nghymru. Roedd ymwelwyr o’r grŵp oedran 55 oed neu hŷn yn cyfrif am gyfran uwch o ymwelwyr â Phrydain Fawr nag â Chymru. Roedd nifer yr ymwelwyr â Chymru yn 3.1 o ymwelwyr ar gyfartaledd, o’i gymharu â 2.8 o ymwelwyr ar gyfer Prydain Fawr, ac roedd 37% o’r teithiau yng Nghymru yn cynnwys plant yn y grŵp o’i gymharu â 34% ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol.

Tabl 5: Nifer y teithiau dros nos, nosweithiau a gwariant ym Mhrydain Fawr yn ôl mis yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig)
 Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ebrill2.217.25£408
Mai6.0019.01£1,343
Mehefin8.4835.71£1,710
Gorffennaf10.2041.20£2,454
Awst13.2848.76£3,463
Medi14.3247.17£3,525
Hydref12.0043.94£2,846
Tachwedd8.1123.72£1,799
Rhagfyr11.5835.86£2,307

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

Ffigur 6: Nifer y teithiau i Brydain Fawr mewn miliynau yn ôl mis yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart golofn glystyrog yn dangos bod nifer y teithiau domestig ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu rhwng mis Ebrill a mis Medi, wedi gostwng rhwng mis Medi a mis Tachwedd, ac yna wedi cynyddu eto ym mis Rhagfyr.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

Roedd cynnydd graddol yn nifer y teithiau domestig dros nos ym Mhrydain Fawr o fis Ebrill 2021 ymlaen, gyda theithiau’n cyrraedd uchafbwynt ym mis Medi, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o deithiau gwyliau. Roedd nifer y teithiau’n is ym mis Hydref a mis Tachwedd, ond gwelwyd cynnydd eto ym mis Rhagfyr, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o ymweliadau misol â ffrindiau a pherthnasau.

Tabl 6: Nifer y teithiau, nosweithiau a gwariant yng Nghymru yn ôl mis yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig) [Nodyn 1]
 Teithiau (miliynau)Nosweithiau (miliynau)Gwariant (£ miliynau)
Ebrill0.190.59£20
Mai0.381.19£85
Mehefin0.773.07£155
Gorffennaf0.883.06£157
Awst1.074.72£268
Medi0.963.67£199
Hydref0.742.65£137
Tachwedd0.581.66£104
Rhagfyr0.652.06£106

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

[Nodyn 1] Meintiau sylfaen isel ar gyfer mis Ebrill, mis Mai a mis Tachwedd, dylid trin y data’n ofalus.

Ffigur 7: Nifer y teithiau i Gymru mewn miliynau yn ôl mis yr ymweliad (Ebrill i Ragfyr 2021, diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofn yn dangos bod nifer y teithiau domestig i Gymru wedi cynyddu rhwng mis Ebrill a mis Awst, wedi gostwng rhwng mis Awst a mis Tachwedd, ac yna wedi cynyddu eto ym mis Rhagfyr.

Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS), Ebrill i Ragfyr 2021

Yn debyg i'r patrwm ar draws Prydain Fawr, bu cynnydd graddol yn nifer y teithiau domestig dros nos yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen, ond roedd nifer y teithiau ar eu huchaf ym mis Awst, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o deithiau gwyliau mewn mis. Yn debyg i Brydain Fawr yn gyffredinol, roedd nifer y teithiau yn is yng Nghymru ym mis Hydref a mis Tachwedd ond gwelwyd cynnydd ym mis Rhagfyr, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o ymweliadau misol â ffrindiau a pherthnasau.

Yn debyg i’r patrwm ar draws Prydain Fawr, bu cynnydd graddol yn nifer y teithiau domestig dros nos yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen, ond roedd nifer y teithiau ar eu huchaf ym mis Awst, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o deithiau gwyliau mewn mis. Yn debyg i Brydain Fawr yn gyffredinol, roedd nifer y teithiau’n is ym mis Hydref a mis Tachwedd ond gwelwyd cynnydd ym mis Rhagfyr, pan gofnodwyd y nifer fwyaf o ymweliadau misol â ffrindiau a pherthnasau.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

I gael ei hystyried yn Daith Ddomestig Dros Nos gymwys ym Mhrydain Fawr, roedd yn rhaid iddi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Roedd y daith yn cynnwys aros am o leiaf un noson yn un neu fwy o wledydd Prydain Fawr; Cymru, Lloegr neu’r Alban.
  • Nid yw’r daith yn digwydd yn rheolaidd (yn llai aml nag unwaith yr wythnos).
  • Ar gyfer Teithiau Gwyliau Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd gwyliau, pleser neu hamdden.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos i ymweld â ffrindiau a pherthnasau ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ymweld â ffrindiau a pherthnasau, gan gynnwys teithiau i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a oedd wedi’u cyfuno â gwyliau.
  • Ar gyfer Teithiau Busnes Domestig Dros Nos ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer busnes.
  • Ar gyfer Teithiau Domestig Dros Nos Amrywiol/Eraill ym Mhrydain Fawr – prif bwrpas y daith oedd ar gyfer math arall o daith nad yw’r dosbarthiadau uchod yn ymdrin â hi, gan gynnwys digwyddiadau personol, digwyddiadau cyhoeddus, neu ar gyfer astudio, dibenion meddygol, crefyddol, neu unrhyw arhosiad dros nos ym Mhrydain Fawr fel rhan o daith dramor.

Diffiniadau eraill a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn

Nifer

Amcangyfrif o nifer y teithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn mynd arnynt os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr. Mae nifer y teithiau a adroddir yn amcangyfrif o deithiau gan unigolion, felly byddai parti teithio o ddau o bobl yn cyfrif fel dwy daith unigol.

Gwerth

Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant sy’n gysylltiedig â nifer yr ymweliadau dros nos a fyddai’n cael eu gwneud gan y boblogaeth os yw sampl yr arolwg yn gynrychioliadol o holl boblogaeth Prydain Fawr

Nifer y nosweithiau gwely

Amcangyfrif o faint o nosweithiau ar deithiau dros nos y mae’r boblogaeth yn eu treulio os yw sampl yr arolwg yn cynrychioli holl boblogaeth Prydain Fawr

Mae’r diffiniadau hyn a’r meini prawf cymhwyso cysylltiedig wedi cael eu diwygio fel rhan o’r arolwg GBTS/GBDVS cyfun newydd i gyd-fynd â safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gymaroldeb yr amcangyfrifon twristiaeth ddomestig dros nos a gyhoeddwyd ar gyfer 2021 gyda 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Methodoleg

Yn 2019, cynhaliodd Croeso Cymru, VisitScotland a VisitEngland adolygiad o’r gofynion a’r dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau twristiaeth ddomestig swyddogol Prydain Fawr, er mwyn diogelu’r dulliau casglu data yn y dyfodol, gan gynnal dibynadwyedd a chadernid yr wybodaeth a adroddir.  O ganlyniad, cyflwynwyd newidiadau sylweddol fel rhan o arolwg ar-lein cyfun newydd sy’n casglu data am deithiau domestig dros nos yn ogystal â theithiau undydd domestig. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd mae data’n cael ei gasglu ar gyfer ymweliadau dros nos, gan gynnwys newid o ddefnyddio’r dull arolwg blaenorol wyneb yn wyneb yn y cartref a dechrau defnyddio arolwg cyfun newydd ar-lein sy’n cynnwys teithiau domestig dros nos domestig a theithiau undydd domestig.

Mae’r sampl ar gyfer yr arolwg cyfun ar-lein newydd yn ddyluniad nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd a gafwyd gan 4 darparwr panel ar-lein sydd wedi’u hachredu gan ESOMAR ac mae’n cynnwys cwotâu ar gyfer newidynnau demograffig allweddol er mwyn gwneud y sampl gyfan mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Maint y sampl blynyddol targed ar gyfer yr arolwg o ymwelwyr dros nos yw 60,000 o gyfweliadau wedi’u cwblhau. Dechreuodd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg newydd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2021, a chynhaliwyd 47,008 o gyfweliadau ar gyfer trigolion Prydain Fawr, gan gynnwys 6,840 o gyfweliadau â phreswylwyr Cymru, rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2021. Nid yw pob person sy’n cael ei gyfweld wedi bod ar daith dros nos gymwys, ac felly mae meintiau’r sylfaen a ddefnyddir ar gyfer amcangyfrif teithiau yn is na nifer y cyfweliadau. Mae meintiau sylfaen yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBTS.

Fel rhan o’r newidiadau i’r arolwg, cyflwynwyd cynllun pwysoli diwygiedig i wella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychiadol â phosibl o boblogaeth Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae defnyddio sampl ar-lein nad yw’n seiliedig ar debygolrwydd yn cyfyngu i ba raddau y mae’r ymatebion i’r arolwg yn wirioneddol gynrychioli poblogaeth gyfan Prydain Fawr, sy’n gyfyngiad ar arolygon sampl tebyg ar-lein. Mae’r cynllun pwysoliad newydd yn defnyddio Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sydd wedi’i fapio i raddau cymdeithasol bras ar gyfer ystadegau poblogaeth, at ddibenion cwotâu a phwysoliad i boblogaeth Prydain Fawr. Bydd newid i ddefnyddio NS-SEC fel ffynhonnell ystadegau’r boblogaeth yn effeithio ar amcangyfrif ac adrodd ar deithiau o’i gymharu â’r adroddiadau blaenorol ar y radd gymdeithasol a ddefnyddiwyd ar gyfer GBTS yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn bwriadu cyflwyno cwestiwn newydd yn yr arolwg yn ystod 2023 sy'n cofnodi incwm aelwydydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ac adrodd ar deithiau gan fandiau incwm aelwydydd gwahanol o 2023 ymlaen.

Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i ddull yr arolwg, dylunio'r sampl, dulliau amcangyfrif ac effeithiau’r capiau a ddefnyddir ac ail-raddnodi ar gael yn ‘Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBTS’.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae ystadegau ar gyfer twristiaeth ddomestig dros nos wedi cael eu casglu mewn ffordd debyg iawn ers 1989. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym methodoleg yr arolwg a gyflwynwyd yn 2021, ynghyd â’r ymyriadau o ran casglu data oherwydd COVID-19, yn golygu nad oes modd cymharu canlyniadau a gyhoeddwyd o fis Ebrill 2021 ymlaen yn uniongyrchol â data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Fel rhan o’r arolwg, gofynnir i ymatebwyr am unrhyw deithiau dros nos maent wedi bod arnynt yn ystod y 4 wythnos lawn cyn dyddiad y cyfweliad (cyfnod cyfeirio).  Adroddir ar amcangyfrifon o deithiau a gwariant ar gyfer misoedd calendr unigol yn ogystal ag ar gyfer cyfnodau chwarterol a blynyddol. Gan nad yw cyfnodau cyfeirio’r cyfweliad yn cyfateb yn union â’r misoedd calendr, gwneir addasiad gan ddefnyddio ‘ffactor llyfnhau tymhorol’ i wella cymariaethau misol o fewn a rhwng blynyddoedd. Mae’r amcangyfrifon misol yn amodol ar gyfyngiadau ar faint y samplau ac amrywiadau tymhorol yn y teithiau yn ystod y flwyddyn. Byddai unrhyw gyfyngiadau teithio a oedd ar waith oherwydd COVID-19 ar wahanol adegau o’r flwyddyn hefyd wedi dylanwadu ar y patrwm ymweliadau misol yn 2021. Cynghorir bod defnyddwyr yn ymwybodol o’r cyfyngiadau hyn wrth gymharu o fis i fis.

Cywirdeb

Mae’r ystadegau a gynhyrchwyd o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn 2019 a’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu dynodi’n ystadegau swyddogol, sy’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu i’r safonau proffesiynol uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, fel y nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Oherwydd y newidiadau mewn methodoleg ac effaith pandemig COVID-19, mae canlyniadau’r arolwg ar gyfer 2021 wedi cael eu labelu fel ‘ystadegau arbrofol’ (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r arolwg a’r ystadegau newydd wedi dilyn rhaglen gynhwysfawr o sicrhau ansawdd gan gynnwys treialu’r arolwg, dadansoddi newidiadau i’r diffiniadau o deithiau, profi effaith y cynllun pwysoli newydd ac adolygu’r capiau a’r rheolau cyfrifyddu. Mae newidiadau i fethodoleg ac amcangyfrif yr arolwg wedi ystyried adolygiad a chyngor a ddarparwyd gan Wasanaeth Cynghori Methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gan fod yr ystadegau’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dull arolwg nad yw’n ddull tebygolrwydd, maent yn agored i’r cyfyngiadau a’r ffynonellau posibl o ragfarn a gwallau sy’n gysylltiedig ag arolygon o’r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gwall o ran cyrhaeddiad gan nad oes gan ran o boblogaeth Prydain Fawr fynediad i'r we
  • gwall samplu gan fod sampl yn cael ei defnyddio i fesur ymddygiad poblogaeth lawn Prydain Fawr
  • tuedd samplu drwy gynnwys y gwahaniaethau rhwng pobl â mynediad ar-lein ac sy'n aelodau o banel ar-lein o gymharu â phobl nad ydynt
  • gwall mesur wrth i ymatebwyr gofnodi gwerthoedd anghywir
  • gwall dim ymateb gan gynnwys pobl yn gwrthod llenwi'r arolwg a phobl yn tynnu allan a'r opsiynau ‘ddim yn gwybod’ a ‘gwell gennyf beidio â dweud’ a oedd ar gael

Caiff data'r GBTS eu pwysoli i gywiro unrhyw amherffeithrwydd yn y sampl a gyflawnwyd a allai arwain at duedd ac i unioni unrhyw wahaniaethau rhwng y sampl a phoblogaeth darged Prydain Fawr. Mae'r arolwg yn defnyddio cymysgedd o baneli ar-lein achrededig er mwyn lliniaru ar gyfer tueddiadau penodol posibl o ran paneli, ac mae'r cymysgedd o baneli yn parhau'n gyson dros amser. Defnyddir cwotâu demograffig i gysoni'r sampl â phoblogaeth Prydain Fawr. Mae sgript yr arolwg a'r trefniadau prosesu data yn cynnwys gwiriadau wedi'u teilwra er mwyn dilysu cywirdeb yr ymatebion. Defnyddir dulliau priodoli i ymdrin â data coll a defnyddiwyd capiau i leihau effaith y gwerthoedd eithafol a gofnodir. Defnyddiwyd capiau pellach ar gyfer y datganiad diwygiedig hwn, i liniaru effaith teithiau unigol a nodwyd fel rhai sy'n cael effaith anghymesur ar y nifer o deithiau, y nosweithiau gwely a’r gwariant a amcangyfrifir. Nid oes modd mesur gwallau sampl safonol gan mai sampl nad yw'n seiliedig ar debygolrwydd a ddefnyddir, ond caiff meintiau sylfaen eu nodi ar gyfer teithwyr cymwys a chynghorir defnyddwyr i ystyried y meintiau sylfaen bach ac i fod yn ofalus, yn enwedig ar gyfer data misol a daearyddiaeth lefel is, wrth iddynt lunio casgliadau o'r ystadegau.

Mae rhagor o fanylion am sicrhau ansawdd a maint sylfaen teithiau ar gael yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBTS.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn yn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro’r galw ym maes twristiaeth ddomestig ac i fesur cyfraniad ac effaith twristiaeth ddomestig ar yr economi ymwelwyr. Un o brif ddibenion yr ystadegau hyn yw datgelu gwybodaeth am dueddiadau yn y farchnad dros amser. Bydd yr amcangyfrifon a fydd yn cael eu rhyddhau ar gyfer 2021 yn rhoi cipolwg ar effaith COVID-19 ar lefelau ymwelwyr ac yn darparu llinell sylfaen i fesur perfformiad ar draws y blynyddoedd dilynol.

Cyn belled ag y bo modd, mae’r arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd yn darparu cysondeb â’r wybodaeth flaenorol a gasglwyd, ond mae cwestiynau newydd yn cynnwys gwybodaeth well am y gweithgareddau a gyflawnir, dulliau archebu a phroffiliau ymatebwyr gan gynnwys nodweddion gwarchodedig. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth ychwanegol hon o werth i wahanol ddefnyddwyr yr arolwg. Mae’r holiadur presennol wedi’i gynnwys yn Adroddiad Ansawdd Cefndir 2021 GBTS.

Mae noddwyr yr arolwg yn bwriadu ymgysylltu â defnyddwyr blaenoriaeth yr ystadegau i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth newydd am yr arolwg yn diwallu eu hanghenion ac rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i roi adborth ar y data a’r allbwn hwn yn ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw ar gyfer y calendr sydd i ddod. Hefyd, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn y datganiad ar ddiwygiadau, gwallau a gohirio. Rydym yn anelu at gyhoeddi data cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod ymchwil perthnasol. Mae tarfu ar yr arolwg GBTS a GBDVS cyfun newydd oherwydd COVID-19 a phrofion cynhwysfawr a sicrhau ansawdd yr ystadegau newydd wedi golygu bod yr adroddiadau ar ystadegau 2021 yn hwyrach na’r arfer. Rhagwelir y bydd canlyniadau Cymru yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, er mwyn sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu cefnogi gan feintiau sylfaen teithiau cadarn. Bydd amseroedd cyhoeddi penodol yn cael eu nodi ar wefan Llywodraeth Cymru, ond y nod yw cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer Cymru tua 9 i 10 wythnos ar ôl diwedd pob chwarter yn seiliedig ar gyfnod cyfeirio teithiau 4 wythnos yr arolwg ac i ganiatáu ar gyfer amserlenni adrodd a sicrhau ansawdd.

Rhagor o wybodaeth

Manylion cyswllt

Ystadegydd: David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 212/2022 (R)