Neidio i'r prif gynnwy

Data ar deithiau dros nos drigolion Prydain â chyrchfannau ledled Prydain ar gyfer 2021.

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolwg ar-lein cyfunol newydd sy'n disodli Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn cael eu cynnal tan ddiwedd 2019. Darperir rhagor o wybodaeth yn adran methodoleg ac ansawdd y cyhoeddiad hwn ar newidiadau i'r arolwg sy'n cyfyngu ar y gallu i gymharu â'r amcangyfrifon cyhoeddedig ar gyfer 2019 a blynyddoedd blaenorol.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer yr holl fesurau a adroddwyd, gan gynnwys yr amcangyfrifon ar gyfer nifer a gwerth y teithiau dros nos yng Nghymru a Phrydain Fawr. Gwnaed dau ddiwygiad ar wahân i ddata'r arolwg. Mae'r diwygiad cyntaf wedi'i gynllunio i reoli effaith teithiau a adroddwyd gan unigolion a nodwyd eu bod yn cael effaith anghymesur ar yr amcangyfrifon cyffredinol o ran niferoedd y teithiau a gwariant.

Mae'r ail ddiwygiad yn cynnwys ail-raddnodi'r amcangyfrifon o ran nifer a gwerth ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Ebrill 2022, oherwydd newid mewn cwestiynau arolwg a roddwyd ar waith ym mis Mai 2022. Dangosodd dadansoddiad fod y newid wedi arwain at ostyngiad sylweddol ac annisgwyl yn niferoedd y teithiau a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen. Effaith y diwygiadau hyn fu lleihau'r amcangyfrifon misol a chyfanswm ar gyfer niferoedd a gwariant teithiau a adroddwyd yn y cyhoeddiad hwn am y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Rhagfyr 2021, i'w gwneud yn gymharol ag amcangyfrifon a adroddwyd o fis Mai 2022 ymlaen.  Pan fydd data mewn tabl neu siart wedi'i ddiwygio, nodir hyn yn nheitl y tabl neu'r siart.

Cyswllt

David Stephens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.