Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer chwarter 1, Ebrill i Mehefin 2018.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf. 

Pwyntiau allweddol yn codi o'r datganiad ystadegol hwn

O ran deunydd a waredwyd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi rhwng mis Ebrill a mis Mehefin:

  • bu 407 mil o dunelli o warediadau awdurdodedig, ac o'r rhain trethwyd 127 mil o dunelli ar y gyfradd safonol; 154 mil o dunelli ar y gyfradd is; a’r gweddill wedi derbyn rhyddhad neu ddisgownt
  • roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £11.7m o dreth yn daladwy, £11.3m o warediadau ar y gyfradd safonol a £0.4m ar y gyfradd is
  • gwaredwyd 126 mil o dunelli o ddeunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt, gan olygu rhyddhad treth o £0.3m

Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, roedd 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Adroddiadau

Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Ebrill i Mehefin 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 706 KB

PDF
706 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol