Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi, a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 21 safle. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth. Diben y dreth yw lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi.

Gellir rhannu Treth Gwarediadau Tirlenwi yn:

  • warediadau awdurdodedig (ar y gyfradd is neu safonol)
  • gwarediadau anawdurdodedig (gwarediadau trethadwy a wneir y tu allan i safleoedd tirlenwi awdurdodedig)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cyfraddau treth. Ar gyfer y gyfraddau is a safonol, mae wedi’u cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer bob blynyddoedd ariannol hyd at 2024 to 2025. Yn 2025 to 2026, parhaodd y gyfradd safonol i gyd-fynd â'r cyfraddau yng ngweddill y DU tra bod Llywodraeth Cymru wedi gosod y gyfradd is ar 5% o'r gyfradd safonol. Arweiniodd hyn at gynnydd bach yn y gyfradd is o'i gymharu â gweddill y DU.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi. Mae gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi rôl bwysig yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni allyriadau sero net

Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Gwarediadau Tirlenwi i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r eirfa yn diffinio termau perthnasol a ddefnyddir yn y datganiad hwn ac mae wedi'i diweddaru yn y rhifyn hwn o'r datganiad. Mae ein gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Ar gyfer achosion gwarediadau anawdurdodedig sydd wedi’u cwblhau, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi casglu £0.3 miliwn mewn treth fel ar Fai 2025. Er bod nifer yr achosion sydd wedi’u cwblhau yn fach ar hyn o bryd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwnaethpwyd cryn dipyn o waith i ddatblygu polisïau, ymchwilio a phrofi pwerau Awdurdod Cyllid Cymru ar amrywiaeth o fathau o achosion. 

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i dderbyn achosion gwarediadau anawdurdodedig newydd ac i ddatblygu achosion sy’n bodoli eisoes. Yn flynyddol yn ein hystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi (nesaf ym mis Mai 2026), byddwn yn ystyried a yw'n bosibl cyhoeddi data pellach ar warediadau anawdurdodedig.

Ar gyfer gwarediadau awdurdodedig mewn safleoedd tirlenwi yn Ebrill i Fehefin 2025

  • Bu 228 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 5% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2024.
  • O fewn y cyfanswm hwn, roedd 71 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn ychydig yn is na data ar gyfer yr un chwarteri yn 2023 a 2024 (77 mil tunnell ac 81 mil tunnell yn y drefn honno), er ei fod yn sylweddol is na'r uchafbwyntiau a welwyd yn 2021 a 2022. Rydym wedi parhau i weld patrymau tymhorol yn lefelau'r gwastraff a waredwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chyfeintiau uwch yn gyffredinol ym misoedd yr haf a chyfeintiau is ym misoedd y gaeaf.
  • Cynyddodd gwarediadau cyfradd is o 30% i 144 mil tunnell, wedi'i ddylanwadu'n bennaf gan gynnydd ar gyfer y categori 'concrit, briciau, teils a serameg'.
  • O ganlyniad i’r gwarediadau hyn roedd £9.7 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn 10% yn uwch na'r dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer yr un cyfnod yn 2024. Ar gyfer 2025 to 2026, roedd cynnydd yng nghyfraddau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi uwchlaw'r chwyddiant a ragwelwyd. Cynyddodd Llywodraeth Cymru'r gyfradd is hefyd i 5% o'r gyfradd safonol. Er gwaethaf y gostyngiad ym mhwysau’r gwarediadau cyfradd safonol a ddisgrifir o dan Ffigur 1, roedd cynnydd o £0.4 miliwn neu 4% yn y dreth a oedd yn ddyledus. Cynyddodd y dreth a oedd yn ddyledus o’r gyfradd is hefyd o £0.4 miliwn i £0.9 miliwn.
  • Cyfrifodd gronynnau mân am 24% o bwysau'r gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is. Roedd pridd a cherrig i gyfrif am 32% ac roedd 'cyfradd is arall' i gyfrif am 25%.
  • Roedd 5 gweithredwr safle tirlenwi yn cyfrif 93% yr holl dreth yn ddyledus gyda'r canrannau cyfatebol ar gyfer y 6 chwarter blaenorol hefyd yn uwch na 90%. Cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%.

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

Yn Ebrill i Fehefin, roedd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi o £9.7 miliwn a oedd yn ddyledus 10% yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae hyn oherwydd cynnydd yn y cyfraddau treth a godwyd yn 2025 i 2026. Gyda’r gyfradd dreth is bellach wedi cynyddu i 5% o’r gyfradd safonol, cynyddodd y dreth cyfradd is ddyledus £0.5 miliwn y chwarter hwn, tra bod y dreth cyfradd safonol ddyledus wedi cynyddu £0.4 miliwn.

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad

Gwarediadau heb eu hawdurdodi

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn casglu a rheoli treth sy'n ymwneud â’r cyfradd gwarediadau anawdurdodedig o Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Er bod nifer yr achosion treth a gwblhawyd yn fach, ym mis Mai 2025 rydym wedi cyhoeddi ffigur ar gyfanswm y dreth a gasglwyd ar gyfer yr achosion hyn a ddaeth i ben. Am y cyfnod tair blynedd (2022-23 i 2024-25), rydym wedi casglu £0.3 miliwn o achosion treth wedi'u cwblhau.

Crëwyd y tîm gwarediadau anawdurdodedig i godi treth ar warediadau anawdurdodedig, sef gwarediadau trethadwy a wneir y tu allan i safleoedd tirlenwi awdurdodedig. Ers ei ffurfio, mae'r tîm wedi bod yn datblygu polisïau ac yn ymchwilio ac yn profi ein pwerau ar amrywiaeth o fathau o achosion. 

Fel ar Mai 2025, mae'r tîm gwarediadau anawdurdodedig wedi cwblhau ymchwiliadau ar 16 achos, ac o'r rhein:

  • cafodd 8 eu cau gyda threth yn ddyledus
  • mewn rhai o'r achosion hyn, talwyd y dreth yn llwyr (a rydym yn diffinio isod fel ‘achosion treth wedi'u cwblhau’)
  • mewn achosion eraill, mae'r dreth yn di-dal neu dalwyd yn rhannol
  • derbyniodd 3 achos lythyrau rhybuddio
  • ymchwiliwyd i 5 achos a'u cau heb unrhyw gamau pellach 

Mae ‘achosion treth wedi'u cwblhau’ yn is-set o achosion wedi’u cau gyda threth yn ddyledus, a gysyniad nad ydym wedi cyhoeddi ystadegau ar ei gyfer o'r blaen. Yma, rydym yn cyfyngu ein hystadegau i dreth wedi’u casglu o achosion wedi'u cwblhau gan fod hwn yn faes newydd o dreth sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad llai cydymffurfiol. Ar gyfer rydym yn diffinio fel achosion sydd wedi’u cwblhau:

  • mae'r dreth yn cael ei thalu'n llawn i Awdurdod Cyllid Cymru
  • nid yw swm y dreth yn cael ei apelio gan y trethdalwr

Felly rydym wedi o'r farn bod y data hwn yn addas i'w gyhoeddi.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i dderbyn achosion gwarediadau anawdurdodedig newydd ac i ddatblygu achosion sy’n bodoli eisoes. Yn flynyddol yn ein hystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi (rhifyn Ionawr i Fawrth a gyhoeddir bob mis Mai), byddwn yn ystyried a yw'n bosibl cyhoeddi data pellach ar warediadau anawdurdodedig.

Gwarediadiau awdurdodedig

Mae'r dadansoddiad yn y datganiad hwn yn cynnwys rhai cywiriadau ystadegol sydd wedi'u cymhwyso. Mae’r rhesymau pam ein bod yn gwneud cywiriadau ystadegol yn cynnwys:

  • pan fyddwn yn gwybod bod gwybodaeth ar ffurflen dreth yn anghywir a’n bod yn aros i ddiwygiad y trethdalwr gael ei gyflwyno i ni
  • pan fo diwygiad y trethdalwr yn cael ei adolygu gan dîm gweithrediadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i weld a yw'n ddilys, gallwn wneud cywiriadau ystadegol er mwyn dadwneud effaith y diwygiad yn ein hystadegau

Mae Tabl 1 isod yn dangos newidiadau canrannol ar gyfer y chwarter diweddaraf yn erbyn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Mae rhai newidiadau canrannol yn fawr gan eu bod yn seiliedig ar niferoedd bach, felly mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw newidiadau canrannol mawr a ddangosir.

Tabl 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
 Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Ebr i Meh 2024Pwysau a waredwyd [mil tunnell] - Ebr i Meh 2025 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol8171-13%
Cyfradd is, o'r rhain:11114430%
Deunydd gronynnau mân
[nodyn 1] 
323510%
Priddoedd a cherrig
[nodyn 2] 
384618%
Teils, brics, concrid, a serameg
[nodyn 2] 
828232%
Cyfradd is arall 
[nodyn 2] 
323510%
Rhyddhad neu ddisgownt
[nodyn 3] 
2614-48%
Cyfanswm2182285%
Tabl 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi a’r newid o ganran o’r gwerth blaenorol blwyddyn ynghynt
 Treth yn ddyledus [£ miliwn] Ebr i Meh 2024Treth yn ddyledus [£ miliwn] Ebr i Meh 2025 [dros dro]Newid o ran %
Cyfradd safonol8.48.84%
Cyfradd is0.40.9128%
Cyfanswm8.89.710%
Swm y dreth a ryddhawyd
[nodyn 4] 
0.10.1-7%
Tabl 3: Treth ddyledus [mewn £ miliynau] ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl blwyddyn cafwyd gwared a wastraff
Blwyddyn ariannolCyfradd isCyfradd safonolCyfanswmSwm y dreth a ryddhawyd 
[nodyn 4] 
2018 i 2019 1.547.148.60.9
2019 i 20201.336.037.30.2
2020 i 2021 1.630.432.00.3
2021 i 2022 1.843.345.10.3
2022 i 2023 1.840.442.10.7
2023 i 20241.927.629.50.6
2024 i 2025 [r]1.829.531.30.3
2025 i 2026 [hyd yma] [p]0.98.89.70.1

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler yr eirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[Nodyn 3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[Nodyn 4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.

Ffigur 1: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.


Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos yn y 5 mlynedd diwethaf, bod amrywiadau tymhorol wedi’u gweld yn gyffredinol ym mhwysau chwarterol gwarediadau cyfradd safonol, gyda lefelau uwch o warediadau yn gyffredinol yn Ebrill i Fehefin a Gorffennaf i Fedi na'r 2 chwarter arall mewn blwyddyn. Amrywiodd gwarediadau cyfradd is, gan ymddangos fel pe na bai'n dilyn unrhyw batrwm gosodedig, tra bod gwarediadau wedi’u rhyddhau a’u disgowntio’n gyffredinol isel ers Ebrill 2020 ac eithrio’r niferoedd cyffredinol uwch a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2022 ac yn ystod 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Mae Tabl 1 yn dangos bod yn Ebrill i Fehefin 2025, roedd 228 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 5% yn uwch na'r un cyfnod yn 2024. 

O fewn y cyfanswm hwn, roedd 71 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn ychydig yn is o’i gymharu â data ar gyfer yr un chwarteri yn 2023 a 2024 (77 mil tunnell ac 81 mil tunnell yn y drefn honno), ond yn sylweddol is na’r uchafbwyntiau a welwyd yn 2021 a 2022. Rydym wedi parhau i weld patrymau tymhorol yn lefelau’r gwastraff a waredir yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chyfeintiau uwch yn gyffredinol ym misoedd yr haf a chyfeintiau is ym misoedd y gaeaf.

Roedd y 144 mil o dunelli a waredwyd ar y gyfradd is 30% yn uwch nag yn Ebrill i Fehefin 2024. Mae'r esboniad o dan Ffigurau 3 and 4 yn dadansoddi'r categorïau o fewn data cyfradd is sy'n cyfrannu at y duedd hon, yn enwedig cynnydd ar gyfer concrit, briciau, teils a serameg.

Yn Ebrill i Fehefin 2025, roedd y 14 mil tunnell o warediadau wedi’u rhyddhau neu disgowntio oedd y gwerth chwarterol isaf a welwyd hyd yma. Mae lefel y gwastraff sydd wedi ei ryddhau neu ei ddisgowntio wedi amrywio'n fawr dros amser. Er enghraifft, pan ddaw cell dirlenwi’n llawn, gallai fod lefel uwch dros dro o ryddhad adfer safle yn cael ei hawlio gan y gweithredwr ar gyfer deunyddiau i gapio'r gell. Felly, nid yw'n syml pennu a fydd symiau tebyg o wastraff wedi'i ryddhau neu ddisgowntio yn codi neu'n gostwng yn y dyfodol.

Ffigur 2: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl cyfradd treth a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.


Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod treth chwarterol oedd ddyledus o warediadau cyfradd safonol yn dilyn tuedd dymhorol debyg i bwysau’r gwarediadau a ddangosir yn y siart blaenorol. Roedd y dreth a oedd yn ddyledus o warediadau cyfradd is yn £0.8 miliwn y chwarter hwn, gan fod y gyfradd dreth is wedi dyblu bron ar gyfer 2025-26 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn blaenorol, roedd y dreth a oedd yn ddyledus o warediadau cyfradd is amrywio rhwng £0.3 miliwn a £0.5 miliwn bob chwarter. 

Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025 at £9.7 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae hyn 1% yn iuwch na'r un cyfnod yn 2024. Ar gyfer 2025-26, roedd cynnydd yng nghyfraddau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi uwchlaw'r chwyddiant a ragwelwyd. Dylanwadodd y newidiadau hyn yn y cyfraddau ar swm y dreth oedd yn ddyledus y chwarter hwn. Er gwaethaf y gostyngiad ym mhwysau’r gwarediadau cyfradd safonol a ddisgrifir o dan Ffigur 1, roedd cynnydd o £0.4 miliwn neu 4% yn y dreth a oedd yn ddyledus. Cynyddodd y dreth a oedd yn ddyledus o’r gyfradd is hefyd o £0.4 miliwn i £0.9 miliwn.

Ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025, roedd y 5 gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 97% yr holl dreth a dalwyd, ffigwr is na'r 5 chwarter blaenorol. Hyd at Gorffennaf i Fedi 2023, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80% a 90%. Ar ôl Hydref i Ragfyr 2023 mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 90% a 97%.

Nid yw’r swm treth a ryddhawyd yn cael ei ddangos ar y siart ond mae wedi amrywio o ychydig iawn hyd at £0.3 miliwn bob chwarter. £0.1 miliwn oedd y gwerth hwn yn Ebrill i Fehefin 2025.

Diwygiadau i bwysau’r gwastraff a warediwyda’r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025

Fel y disgrifir yn adran Dulliau'r datganiad hwn, mae ein prosesau amcangyfrif yn arwain at ddiwygio amcangyfrifon dros dro a wnaethpwyd ar gyfer y chwarter diweddaraf fel mater o drefn yn rhifyn nesaf y datganiad ystadegol. Fel arfer, mae'r diwygiadau hyn yn gymharol fach.

O’i gymharu ag amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn ein datganiad ystadegol blaenorol, rydym wedi diwygio data Ionawr i Fawrth 2025 fel a ganlyn:

  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd safonol wedi'i ddiwygio i lawr o 56 mil tunnell i 55 mil tunnell
  • pwysau gwastraff a waredwyd ar y gyfradd is wedi'i ddiwygio i fyny o 144 mil tunnell i 149 mil tunnell
  • cyfanswm y dreth a oedd ddyledus wedi aros yn ddigyfnewid ar £6.3 miliwn

Ffigur 3: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.


Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos bod, cynyddodd ychydig pwysau’r deunydd gronynnau mân a waredwyd yn y 2 chwarter diwethaf, ar ôl gostwng am 4 chwarter yn olynol cyn hynny. Mae pwysau priddoedd a cherrig a waredwyd wedi gostwng yn y 3 chwarter diwethaf o'r lefel uchaf a welwyd yn Ngorffennaf i Fedi 2024 er bod y chwarter cyfredol yn parhau i fod yn uwch na'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Yn gyffredinol, mae ‘cyfradd is arall’ wedi tyfu dros y tair blynedd diwethaf o gyfraniad bychan a dymar’r ail gategori uchaf o ychydig y chwarter hwn, tra bod 'concrit, brics, teils a serameg' yn parhau i fod y categori isaf.

Ffigur 4: Pwysau o wastraff cyfradd is a waredwyd i safleoedd tirlenwi, yn ôl math o wastraff a chwarter

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.


Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill i Fehefin 2025, bod canran y pwysau cyfradd is a gyfrifwyd fel deunydd gronynnau mân wedi cynyddu am 3 chwarter yn olynol, ond ei fod yn parhau i fod yn is na phob cyfnod cyn hynny. Prioedd a cherrig a ‘chyfradd is arall’ pob i gyfrif am bron i draean a chwarter y gwarediadau cyfradd is, yn y drefn honno. Arhosodd ‘concrit, brics, teils a serameg’ ar bron i un rhan o bump o'r gwarediadau cyfradd is, y ffigwr chwarterol uchaf a welwyd hyd yn hyn.

Ffynnhonnell: Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru

[Nodyn 1] Darnau mân o ddeunydd a gynhyrchir gan broses fecanyddol o drin gwastraff yw gronynnau mân. Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni er mwyn i'r deunydd gael ei drin fel gronynnau cymwys ar y gyfradd dreth is. Gweler y tudalen geirfa am ragor o wybodaeth.

[Nodyn 2] Mae’r data ar gyfer y categorïau hyn yn cynrychioli deunyddiau gronynnau mân nad ydynt yn gymwys, wedi'i grwpio yn ôl cod y Rhestr Wastraffoedd (LoW). Mae’r grwpiau a ddefnyddir ar gyfer y tri chategori hyn i’w gweld ar ein tudalen geirfa.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025 yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2025 wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Roedd Tabl 1 yn gynharach yn y datganiad yn dangos bod 35 mil tunnell o ddeunydd gronynnau mân wedi'i waredu Ebrill i Fehefin 2025 ar y gyfradd dreth is. Mae hyn 10% yn uwch na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Rydym yn disgwyl fod o leiaf rhywfaint o'r lefel isel yn y 3 chwarter blaenorol mewn deunydd gronynnau mân yn effaith dros dro mewn rhai safleoedd.

Ers Ebrill 2021, mae Ffigur 4 yn dangos bod canran chwarterol y gwastraff cyfradd is sy’n ronynnau mân yn amrywio o 15% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2024 ac Ebrill i Fehefin 2021 yn y drefn honno. Y gwerth yn y chwarter hwn oedd 24%.

Ers Ebrill 2021, roedd canran chwarterol y gwastraff cyfradd is oedd yn briddoedd a cherrig yn amrywio o 19% i 48%. Gwelwyd y gwerthoedd isaf ac uchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 a Gorffennaf i Fedi 2024 yn y drefn honno. Y gwerth yn y chwarter hwn oedd 32%.

Cododd yn ngyffredinol canran y gwarediadau cyfradd is a ddosbarthwyd fel ‘arall’ o 3% yn Ebrill i Fehefin 2021 i 34% yn Ngorffennaf i Fedi 2024 gan ostwng yn gyffredinol yn y chwarteri dilynol i 25% yn Ebrill i Fehefin 2025. Mewn datganiadau yn y dyfodol, mae’n debygol na fyddwn yn gallu rhoi mwy o fanylion am y categori hwn. Mae hyn oherwydd heriau o ran datgelu gwybodaeth posibl am weithredwyr unigol.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi sylwi ar unrhyw amrywiadau tymhorol yn y data cyfradd is ond byddwn yn parhau i fonitro hyn mewn datganiadau yn y dyfodol.

Tabl 4: Canran y deunydd gronynnau mân cyfradd is a dderbyniwyd o dan bob cod Rhestr Wastraffoedd (LoW) perthnasol, Ebrill 2021 i Fehefin 2025
Cod Rhestr WastraffoeddDisgrifiadCanran
19 12 12 Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 1180%
19 12 09Mwynau (e.e. tywod, cerrig)20%
17 05 04Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 030%

Yn blaenorol, rydym wedi derbyn cais i ddadansoddi data ar gyfer deunydd gronynnau mân cyfradd is yn ôl cod Rhestr Wastraffoedd. Yna gwnaethom ddechrau cyhoeddi’r tabl hwn yn rhifyn Hydref i Ragfyr 2022 y datganiad hwn. Yn y datganiadau ers, rydym wedi diweddaru'r canrannau bras hyn i gynnwys data ar gyfer y chwarter diweddaraf, ni arweiniodd hyn at unrhyw newid yn y canrannau. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r canrannau hyn mewn modd debyg yn y dyfodol.

Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Hefyd, rydym yn cyhoeddi data derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar StatsCymru. Mae data hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau. 

Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru

Mae'r data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. 

Yn gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol. Bydd data derbyniadau arian:

  • yn cynnwys symiau bach iawn o gosbau a llog a dalwyd mewn perthynas â Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • ni fydd yn cynnwys swm bach o Treth Gwarediadau Tirlenwi heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi

Yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y dudalen bigion, mae Tabl 3 yn cynnwys manylion yr addasiadau a wnaed er mwyn adlewyrchu gwastraff a waredwyd mewn un flwyddyn ond y rhoddwyd cyfrif amdano mewn blwyddyn wahanol yng nghyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn diweddaru Tabl 3 yn flynyddol yn rhifyn y datganiad sy'n dilyn cyhoeddi cyfrifon ariannol Awdurdod Cyllid Cymru, sef y rhifyn hwn.

Gall gwahaniaethau rhwng blynyddoedd gwaredu a blynyddoedd cyfrifo ddigwydd pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn rhoi gwybod am welliant trethdalwr i’r gwarediadau. Mewn rhai sefyllfaoedd gall y gwelliannau hyn gael eu derbyn, neu arwain at ymholiad, ac wedi hynny gellir eu cadarnhau, eu gwrthod neu wrthdroi'r gwelliant (os oedd wedi'i dderbyn yn flaenorol). Gall yr holl senarios hyn arwain at addasiadau cyfrifyddu. Gall y sefyllfa gael ei chymhlethu ymhellach gan apêl I’r tribiwnlys ac at oedi pellach o ran cyfrifyddu. Gellir gwneud addasiadau cyfrifyddu pan fo ansicrwydd a fydd treth yn ddyledus yn y pen draw, cyn i ganlyniad unrhyw apêl i’r tribiwnlys gael ei benderfynu.

Addasiadau cyfrifo sydd wedi'u gwneud mewn blwyddyn wahanol i'r un y gwaredwyd y gwastraff ynddi (Taenlen Ddogfen Agored, 16 KB)

Nôl i dop y dudalen

Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn

Amcangyfrifon ar gyfer gweithredwyr sydd â chyfnodau cyfrifyddu ansafonol

Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd. 

Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.

Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:

  • mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
  • mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru
  • mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
     
Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.


Mae'r diagram yn dangos llinell amser y ffurflen flaenorol a’r ffurflen ddiweddaraf ar gyfer Gweithredwyr 1 a 2. Mae llythrennau A, B ac C yn dynodi rhannau o'r ffurflen flaenorol a’r diweddaraf ar gyfer Gweithredwr 2 a sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

[A + B] Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.

[C] Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.

Rhyddhad a disgowntiau

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym yn disgrifio sut y gwnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd o Ebrill 2021. Yn y ffurflen newydd, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi unrhyw wastraff wedi'i ryddhau ac unrhyw ddisgownt dŵr mewn rhannau ar wahân o'r ffurflen. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyfuno’r ddau gategori hyn i gyflwyno categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’.

Yn y ffurflen dreth flaenorol, byddai gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cofnodi gwastraff wedi’i ryddhau fel gwastraff cyfradd is i ddechrau ac yna'n ei dynnu i ffwrdd mewn rhan ddiweddarach o'u ffurflen. Fodd bynnag, byddai ein datganiadau blaenorol yn adrodd am wastraff wedi’i ryddhau o fewn y categori ‘wedi’i ryddhau neu’i ddisgowntio’ ond nid fel rhan o’r categori cyfradd is, felly nid yw hyn wedi golygu newid yng nghyflwyniad y data dros amser.

Yn ein gwybodaeth am ansawdd, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd am y rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y data o ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi a data a’r data a gesglir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff i mewn ac allan o safleoedd gwastraff trwyddedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer gwastraff wedi'i ryddhau.

Ansolfedd cwsmer 

Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.

Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn. 

Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.

Gwarediadau esempt

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.

Nôl i dop y dudalen

Manylion cyswllt

Ystadegydd Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
logo ystadegau swyddogol achrededig