Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 4, Ionawr i Fawrth 2019, ac y flwyddyn Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 4 ac y flwyddyn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.

Pwyntiau allweddol

O ran deunydd a waredwyd i safleoedd tirlenwi am y cyfnod:

Ionawr i Fawrth 2019

  • Bu 337 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, yn is na’r chwarter blaenorol.
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £9.4 miliwn o dreth yn ddyledus, lleihad o 7% ers y chwarter blaenorol.

2018 i 2019

  • Bu 1,431 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, ac amcangyfrifir bod £44.6 miliwn o dreth yn ddyledus am y flwyddyn.
  • Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif oddeutu pump rhan o chwech yr holl dreth yn ddyledus.
  • Roedd 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle yn weithredol dros y flwyddyn. Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan ACC.

Adroddiadau

Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Ionawr i Fawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.