Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.

Maent yn cynnwys diweddariadau misol ar y nifer o:

  • trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd a’r dreth sy’n ddyledus
  • trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd yn ôl math
  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
  • ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch

Sylwer:

  • diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.

Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu yn ystod y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Rhagfyr 2020), fe ymddengys mai dim ond effaith fach a gafodd y rhain ar nifer y trafodiadau a'r adferiad y cyfeiriwyd ato uchod. Roedd newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020.

Yn ein datganiad chwarterol ar Hydref i Ragfyr 2020, gwnaethom gyflwyno’r nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awrdurdod Cyllid Cymru. Ar y tudalen hon, rydym wedi diweddaru’r siart o’r datganiad hwn (hyd at yr wythnos yn dechrau 6 Chwefror). Gwelwch y datganiad chwarterol ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2020 am sylwebaeth ac eglurhad o’r siart.

Image
Mae siart yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mai 2021. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Mai 2021.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2021 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 488 KB

XLSX
488 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 830 KB

XLSX
830 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.