Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydym wedi adnewyddu cynnwys a fformat y datganiad ystadegol hwn. Rydym yn croesawu eich sylwadau ar y newidiadau hyn i data@acc.llyw.cymru.

Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys gwybodaeth fanylach, gan gynnwys dadansoddiadau blynyddol fesul awdurdod lleol, Parc Cenedlaethol a daearyddiaethau eraill.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.

Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021

Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022

Nôl i dop y dudalen

Prif bwyntiau

Trafodiadau preswyl

  • Yn Ngorffennaf i Fedi 2023, roedd trafodiadau preswyl i lawr 19% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 31%.
  • Roedd trafodiadau cyfraddau uwch i lawr 23% o gymharu â'r un chwarter flwyddyn ynghynt.
  • Ym mhob mis hyd yn hyn yn 2023, mae nifer y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn is na'r un mis flwyddyn ynghynt. Roedd y tueddiadau hyn yn debygol o fod wedi eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.
  • Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Yn yr un modd, mae cyfraniad y trafodiadau hyn i’r dreth sy'n ddyledus wedi codi'n gyffredinol. Er enghraifft, cyfrannodd gwerthiannau eiddo preswyl dros £750,000 4% o’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill i Fehefin 2018, gan godi i 16% yng Ngorffennaf i Fedi 2023.

Trafodiadau amrheswyl

  • Yng Ngorffennaf i Fedi 2023, roedd trafodiadau amhreswyl 3% yn uwch na’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 51%
  • Yn Ebrill i Ragfyr 2022, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na'r cyfartaledd misol (a gyfrifwyd ers Ebrill 2018) y rhan fwyaf o'r amser. O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023.
  • Yng Ngorffennaf i Fedi 2023, cyfrannwyd 65% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn. Fodd bynnag, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am ddim ond 5% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn. Yn y cyfamser, cyfrannodd y 28% o drafodiadau oedd ag elfen rhent 10% o'r dreth oedd yn ddyledus.

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol yn ystod tri chwarter cyntaf 2023 yn is na phob un o’r saith chwarter blaenorol, er yn gyffredinol yn dal i fod yn uwch nag yn ystod y tair blynedd cyn hynny. Roedd y refeniw is hyd yma yn 2023 yn adlewyrchu niferoedd is o drafodiadau, yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.

“Roedd y refeniw chwarterol o drafodiadau amhreswyl yn is yng Ngorffennaf i Fedi nag ym mhob un o’r un ar ddeg chwarter blaenorol. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u llywio’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, ac rydym wedi gweld llai o’r rhain yn ddiweddar.”

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad

Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo sy’n ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Er eingraifft, yn ystod Ebrill 2022 i Fawrth 2023, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 16 Hydref 2023, oni nodir yn wahanol.

Tabl 1: Trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023, yn ôl math o drafodiad, a’r newid o ran % o’r un cyfnod blwyddyn ynghynt
Math o drafodiad Gorffennaf i Fedi 2023 [dros dro] Newid o ran % (o gymharu a Gorffennaf i Fedi 2022) [nodyn 2] 
Trafodiadau [nifer]    
Preswyl  11,800 -19%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 2,640 -23%
Amhreswyl  1,440 3%
Pob trafodiadau 13,240 -17%
Treth yn ddyledus [£ miliwn]    
Preswyl 59.5 -31%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1]  20.3 -27%
Amhreswyl 13.4 -51%
Pob trafodiadau 72.8 -36%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2022 a wnaed yn Hydref 2022.

Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Gorffennaf i Fedi 2023 gyda Gorffennaf i Fedi 2022 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 1% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 36%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 19% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 31%
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 23%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 27%
  • bu cynnydd o 2% mewn trafodiadau anhreswyl. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 51%

Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau yn Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Hydref 2023.

Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’7-Hyd’ yn 2023-24 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 7 i 13 Hydref 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 6 i 12 Hydref 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (16 Hydref 2023 yn y datganiad hwn).

Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl o Ebrill i Fedi 2023 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, er bod y bwlch yn llai ar gyfer mis Mehefin. Ers mis Ebrill 2023, roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio, gyda chynnydd mawr ym mis Mawrth 2023 ers y mis blaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[p] Mae'r gwerth ar gyfer Medi 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae'r gweth ar gyfer Mehefin i Awst 2023 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn ein datganiad ystadegol blynyddol yn dangos bod gan 44% y trafodiadau (yn dod i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023) ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Ers Ebrill 2023, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn is na’r flwyddyn flaenorol, er bod y gwahaniaeth yn llai ar gyfer mis Mehefin, sy’n debygol o fod oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Mehefin 2023.

Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2023, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir.

Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos, ers Ebrill 2023, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol. Yn Ebrill i Ragfyr 2022, roedd y dreth fisol oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r cyfartaledd misol (a gyfrifwyd ers mis Ebrill 2018) y rhan fwyaf o’r amser. O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Medi 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Awst 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Mehefin i Awst 2023 wedi’I ddiwygio hefyd.

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau.

Gostyngodd refeniw o drafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ionawr 2023 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae'n debygol bod tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo yn dylanwadu ar hyn ac amodau economaidd ehangach yn dechrau effeithio ar drafodiadau. Yn y misoedd dilynol, arhosodd y refeniw yn is na'r refeniw a welwyd yn yr un misoedd y flwyddyn flaenorol.

Roedd y refeniw amhreswyl misol yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi 2022. Roedd yn eu hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y naw mis ers hynny.

Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.

Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Felly mae unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch sydd â gwerth hyd at £180,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a mae trafodiadau cyfraddau uwch gyda gwerth rhwng £180,001 a £400,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘uwchben y trothwy cyfradd sero, hyd at a chan gynnwys £400,000’.

Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau, y trothwy cyfradd sero oedd:

  • £180,000 o 1 Ebrill 2018 i 26 Gorffennaf 2020 ac o 1 Gorffennaf 2021 i 9 Hydref 2022
  • £250,000 o 27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 (oherwydd y cyfnod gostyngiad treth dros dro)
  • £225,000 o 10 Hydref 2022 ymlaen (oherwydd newid parhaol yn y prif gyfraddau a bandiau preswyl)

Yn y cyfnodau amser pan oedd y trothwy cyfradd sero ar gyfer y prif gyfraddau’n uwch (27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 ac ers 20 Hydref 2022), dylanwadodd hyn ar nifer y trafodiadau yn y ddau gategori ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ ac ‘uwch na’r trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’.

Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £400,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd symiau’r dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 ac Ebrill i Fehefin 2022 yn y drefn honno, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn y chwarteri dilynol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 4, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.

Ar gyfer bandiau ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’, a ‘dros £750,000’ a ddangosir yn Ffigur 1.5, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ngorffennaf i Fedi 2023 oedd y gwerth uchaf a welwyd hyd yma, gyda gwerthoedd is i'w gweld ers hynny. Yn yr un modd, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y band £400,001 i £750,000 ar ei huchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 a Hydref i Ragfyr 2022 gyda gwerthoedd is i’w gweld yn fwy diweddar. Mae’r cynyddau blaenorol hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw.

Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Gorffennaf i Fedi 2023 [nodyn 1] [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos, yng Ngorffennaf i Fedi 2023, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am dair rhan o bump o’r holl drafodiadau a thua un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 16% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Dengys Ffigur 6 fod 60% o drafodiadau preswyl yng Ngorffennaf i Fedi 2023, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yng Ngorffennaf i Fedi 2023, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 11% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y pum mlynedd yn y cyfamser.

Yng Ngorffennaf i Fedi 2023, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 16% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach, tra ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).

Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 8% yng Ngorffennaf i Fedi 2023. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 35% yng Ngorffennaf i Fedi 2023.

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y ddair flynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch yn y chwe chwarteri o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r pedwar chwarteri ers neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Gorffennaf i Fedi 2023 [dros dro]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ngorffennaf i Fedi 2023, bron hanner y trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu llai nag 1% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 5% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn bron i ddwy ran o dair o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd dros y chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag un rhan o ddeg o’r dreth amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Nôl i dop y dudalen

Data pellach ar gael

Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.

Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig

Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
  • nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol.

Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Treth a dalwyd

Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig

Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo

 

Image
National statistics