Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym (Awdurdod Cyllid Cymru) yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni wedi'u derbyn erbyn 19 Mehefin 2023.

Mae Tabl 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023
  • y newid o ran canran yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (a wnaed yn Mehefin 2022)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn yr adran ‘Ynglŷn â’r ystadegau yma’ (‘Cymariaethau dros amser’). 

Tabl 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid o ran % o’r amcangyfrif blaenorol blwyddyn ynghynt [nodyn 1]
Math o drafodiad Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [dros dro] Newid o ran % (o gymharu ag Ebrilll 2021 i Fawrth 2022) [nodyn 3]
Trafodiadau [nifer]
Preswyl 53,380 -14%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 12,040 -16%
Amhreswyl 6,170 -7%
Pob trafodiadau 59,560 -13%
Treth yn ddyledus [£ miliwn]
Preswyl 287.4 1%
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 2] 92.0 -12%
Amhreswyl 95.1 -27%
Pob trafodiadau 382.5 -8%

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[Nodyn 3] Amcangyfrifon ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 a wnaed yn Mehefin 2022.

Tabl 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn ariannol y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22 2022-23
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [nodyn 1] [w] 28.2 [w] [w] [w]
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [nodyn 2] [w] 2 0 [w] [low]

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

[Note 2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

[w] Dim trafodiadau a gofnodwyd yn y categori hwn.

[low] Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0.

Gan gymharu Ebrill 2022 i Fawrth 2023 gyda Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ar sail tebyg am debyg:

  • gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 13% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 8%
  • gostyngodd trafodiadau preswyl gan 14% a chynnyddodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 1%
  • o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 16%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 12%, er y dylid bod yn ofalus wrth wneud y gymhariaeth hon. I gael mwy o wybodaeth, gweler ‘Cymariaethau dros amser’ yn yr adran ‘ynglŷn â’r ystadegau yma’ yn y datganiad hwn.
  • bu gostwng o 7% mewn trafodiadau anhreswyl. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 27%,%, y prif ffactor sy'n dylanwadu ar y gostyngiad mewn refeniw ar gyfer yr holl drafodiadau.

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Nhabl 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Nhabl 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Ar gyfer trafodiadau preswyl, y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 oedd yn ychydig uwch na’r blwyddyn flaenorol ac yn uwch sylweddol na’r tair blynedd cyn hynny. Er gwaethaf y cynnydd ymylol yn y dreth a oedd yn ddyledus, bu gostyngiad o 14% yn nifer y trafodiadau preswyl. Mae hyn yn debygol o fod wedi'i ddylanwadu gan amodau economaidd ehangach yn effeithio ar drafodiadau eiddo tua diwedd y flwyddyn ariannol..

Yn yr un modd ar gyfer trafodiadau amhreswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 gryn dipyn yn is na’r flwyddyn flaenorol er iddi aros yn uwch na’r tair blynedd cyn hynny. Dylanwadwyd ar hyn gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr o tua Mawrth 2021 i Fehefin 2022, ac rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr ers hynny.

Mae adran ‘trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn yn dangos cynnydd cyffredinol yng ngwerth eiddo preswyl. Cynyddodd canran y trafodiadau preswyl yn y ddau fand '£400,001 i £750,000' a 'Dros £750,000' ym mhob un o'r pedair blynedd diwethaf, hyd at 9% ac ychydig dros 1% yn y drefn honno yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023. O ran y dreth a oedd yn ddyledus, cynyddodd cyfraniad cyffredinol y bandiau hynny yn ystod y rhan fwyaf o’r pedair blynedd diwethaf, hyd at 36% a 14% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus, yn y drefn honno (ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023).

Ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ôl daearyddiaeth

Yn yr adran 8 o’r datganiad hwn, mae ystadegau blynyddol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn ôl awdurdod lleol yn dangos amrywiad eang rhwng awdurdodau lleol yn y dreth gyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 16% yn Nhorfaen a Sir y Fflint i 32% yng Ngwynedd, er bod hyn yn llai o amrywiad rhwng awdurdodau nag yn y blynyddoedd blaenorol. O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:

  • Gwynedd (gostyngiad o 5 pwynt canran)
  • Sir Benfro a Cheredigion (y ddau â gostyngiad o 4 pwynt canran), ac o fewn hynny, ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a oedd â gostyngiad o 12 pwynt canran
  • Ynys Môn (gostyngiad o 3 phwynt canran)
  • Sir Fynwy (cynnydd o 3 phwynt canran)

Bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol. Gallai’r rhesymau posibl am hyn gynnwys effaith amodau economaidd ehangach ar drafodiadau neu bolisïau ail gartrefi sy’n dechrau effeithio ar drafodiadau.

Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn ac hefyd mewn erthygl ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’

Nôl i dop y dudalen

Sylw'r ystadegydd

Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:

“Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac yn sylweddol uwch nag yn y tair blynedd cyn hynny. Digwyddodd y cynnydd bychan mewn refeniw er gwaethaf niferoedd is o drafodiadau tua diwedd y flwyddyn ariannol, a oedd yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.

“Roedd y refeniw o drafodiadau amhreswyl yn sylweddol is yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth nag yn y flwyddyn flaenorol, er ei fod wedi parhau’n uwch nag yn y tair blynedd cyn hynny. Dyma’r prif reswm dros y gostyngiad mewn refeniw ar gyfer yr holl drafodiadau yn y flwyddyn ddiwethaf.”

“Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, rydym wedi gweld llai o weithgarwch ar gyfer cyfraddau preswyl uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r ardaloedd gorllewinol neu ogleddol. Gallai rhesymau posibl am hyn gynnwys effaith amodau economaidd ehangach neu bolisïau ail gartrefi yn dechrau effeithio ar drafodiadau.”

Nôl i dop y dudalen

Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf 2020, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidiadd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Disgrifiwyd goblygiadau bach y newidiadau hyn ar ystadegau mewn datganiadau chwarterol blaenorol.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Gall fod wedyn yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol (Ebrill 2022 i Fawrth 2023) â data am yr un cyfnod yn y blwyddyn ynghynt.

Dylid nodi bod yn bob argraffiad o’n ystadegau Treth Trafodiadau Tir, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ebrill 2021 i Fawrth 2022 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi cael ei ddywygio eto.

Felly, yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ac
  • ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (a gyhoeddwyd gennym yn Mehefin 2022)

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Esboniad pellach o'n data, gan gynnwys yr hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ail gartrefi

Rydym yn anogu defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Bwriad yr erthygl yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Ar 20 Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru erthygl ystadegol ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’. Mae’r erthygl hon yn cynnwys esboniad pellach o ddata Treth Trafodiadau Tir a’r hyn y mae’r data’n ei ddweud ac nad yw’n ei ddweud wrthym am bryniannau ail gartrefi.

Data ar gael dros Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Gyda’r datganiad ystadegol hwn, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • Etholaeth y Senedd (trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (trafodiadau preswyl yn unig)
  • Parciau Cenedlaethol (trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (trafodiadau preswyl yn unig)

Rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegol, rydym yn esbonio’r amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Yn y datganiad hwn, rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mawrth 2023, Ionawr i Fawrth 2023, ac amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Mae rhesymau am hyn yn cynnwys:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • ymchwiliad i ffurflen dreth sy'n arwain at ddiwygio'r dreth sy'n ddyledus
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Mynediad i’n hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Defnydd o’r term ‘amhreswyl’

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Talgrynnu rhifau a gyflwynir

Drwy gydol y datganiad hwn, rydym wedi talgrynnu unrhyw ddata a gyflwynir:

  • nifer y trafodiadau i'r 10 agosaf
  • cyfanswm treth i’r £0.1 miliwn agosaf, ac eithrio trafodiadau â manylion cyfyngedig (sy’n cael eu talgrynnu i’r £1 miliwn agosaf)
  • gwerth eiddo i'r £1 miliwn agosaf

Cyfrifir unrhyw gyfansymiau a gyflwynir gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1 Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod ar eu hanterth yn Mehefin 2021 a bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau yn Rhagfyr 2021 ac yn Rhagfyr 2022. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, gyda mwy o wahaniaeth ers Ionawr 2023.

Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 130 KB)

[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ngorffennaf 2023.

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’14 Ion’ yn 2023-24 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 25 i 31 Mawrth 2023 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 26 Mawrth i 1 Ebrill 2022 (yn gynwysedig).

Mae Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (19 Mehefin 2023 yn y datganiad hwn).

Bu uchafbwynt sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r uchafbwynt yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Cyflwynwyd 2,840 o drafodiadau, sef y nifer mwyaf erioed yn ystod yr wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2021, gyda llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar 30 Mehefin 2021. Yna gostyngodd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i lefel fwy arferol o Orffennaf, ac eithrio uchafbwynt llai o 1,670 o drafodion a welwyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Medi 2021. Mae’r gostyngiad mewn trafodidau yn yr wythnos yn dechrau 16 Ebrill 2022 yn cyd-daro â gwyliau cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae trafodiadau a gyflwynwyd yn wythnosol yn 2023-24 hyd yn yn ac yn 2022-23 wedi aros yn is na’r ffigurau ar gyfer yr un wythnosau yn 2021-22, gyda mwy o wahaniaeth i’w weld ers Ionawr 2023.

Ffigur 2.2 Nifer y trafodiadau, yn ôl math o drafodiad a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod nifer chwarterol y trafodiadau preswyl yn sylweddol is yn Ionawr i Fawrth 2023 na’r blwyddyn flaenorol, er nad oedd cyfanswm y flwyddyn gyfredol ond ychydig yn is nag ym mhob un o'r ddwy flynedd cyn y pandemig coronafirws. Roedd nifer y trafodiadau amhreswyl yn is yn Ionawr i Fawrth 2023 na’r blwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

[r] Mae’r gwerthoedd perthnasol ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae’r trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.

Ar ddiwedd 19 Mehefin 2023, derbynion ni fanylion 59,560 o drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023. Mae hyn 13% yn is na’r Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (amcangyfrifwyd yn Mehefin 2022).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd gostyngiad o 14%, 16% a 13% yn y drefn honno.

Mae ein datganiadau chwarterol yn disgrifio'r tueddiadau a'r amrywiadau misol a chwarterol sydd i'w gweld yn y ffigurau hyn. Yn benodol:

  • effaith cyfnod y gostyngiad treth dros dro o fis Gorffennaf 2020 i fis Mehefin 2021 ar niferoedd misol y trafodiadau preswyl
  • o gymharu â blwyddyn ynghynt, niferoedd misol is o drafodiadau preswyl ers tua Ionawr 2023, yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach
  • y niferoedd uwch yn gyffredinol o drafodiadau amhreswyl a welir ym mis Mawrth bob blwyddyn

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl. Mae'r rhain yr un fath â'r ffigurau blynyddol ar gyfer pob un o'r 4 blynedd flaenorol.

Ffigur 2.3 Treth yn ddyledus ar drafodiadau, yn ôl math o drafodiad a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y dreth oedd ddyledus ar drafodiadau yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn is na’r blwyddyn flaenorol, er ei fod yn parhau i fod yn sylweddol uwch na phob un o'r tair blynedd cyn hynny. Yn y flwyddyn gyfredol, gwrthbwyswyd gostyngiad mewn refeniw ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn rhannol gan gynnydd bychan mewn refeniw ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ac yn gynharach ar gyfer trafodiadau preswyl, wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Yn anad dim bydd hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio, gyda data ar gyfer cyfnodau cynharach yn debygol o fod wedi'i ddiwygio i lawr am y rheswm hwn.

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 oedd £382.5 miliwn. Mae hyn yn 8% yn is na Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (amcangyfrifwyd yn Mehefin 2022). Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth yn ddyledus o breswyl, refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch preswyl, a thrafodiadau amhreswyl oedd cynnydd o 1% a gostyngiadau o 12% a 27% yn y drefn honno.

Mae ein datganiadau chwarterol yn disgrifio'r tueddiadau a'r amrywiadau misol a chwarterol sydd i'w gweld yn y ffigurau hyn. Yn benodol:

  • yr effaith ar refeniw preswyl misol a gafodd y cynnydd cyffredinol yng ngwerth eiddo, y cynnydd ym mis Rhagfyr 2020 mewn cyfraddau treth ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, a'r cyfnod o leihad treth dros dro o Oorffennaf 2020 i Fehefin 2021
  • o gymharu â’r un mis flwyddyn ynghynt, refeniw preswyl is ers tua Ionawr 2023, yn debygol o fod wedi’i ddylanwadu gan amodau economaidd ehangach
  • y lefel gyffredinol uwch o refeniw amhreswyl a welwyd o Fawrth 2021 i Fehefin 2022, dan ddylanwad nifer llai o drafodiadau amhreswyl mawr, ac ac rydym wedi gweld llai o'r rhain yn ddiweddar

Ffigur 2.4 Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod gwerth eiddo oedd yn destun Treth Trafodiadau Tir yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn is na blwyddyn flaenorol, er yn parhau yn uwch na'r gwerthoedd a welwyd yn y tair blynedd cyn hynny. Cyfrannodd y gostyngiadau yng ngwerth trafodiadau preswyl fwy na'r gostyngiad ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae unrhyw werth eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2 wedi'i hepgor.

[Nodyn 2] Gall lesoedd amhreswyl sydd wedi’u rhoi o’r newydd fod â naill ai gwerth premiwm, gwerth rhent neu'r ddau (caiff y term 'premiwm' ei ddisgrifio'n fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'). Y gwerth rhent yw gwerth net presennol (NPV) y rhenti. Yn y siart hwn, dim ond yr elfen bremiwm sy'n cael ei chynnwys yn y cyfanswm. Ni gyflwynir y gwerth rhent yn y siart hon. Ni ddylid ychwanegu'r gwerth rhent at gyfanswm gwerth yr eiddo sydd wedi’i drethu, gan eu bod yn gysyniadau gwahanol. Ceir mwy o wybodaeth am elfen rhent y trafodiadau hyn yn yr adran ‘Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth’ yn y datganaid hwn.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae gwerthoedd trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi’u diwygio am i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu hawlio.

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 oedd £15.5 biliwn. Mae hyn yn is na'r £17.0 biliwn a welwyd yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, er ei fod yn parhau'n uwch na'r 3 blynedd cyn hyn. Er, yn gyffredinol rydym wedi gweld cynnydd dros amser yng ngwerth cyfartalog yr eiddo a drethwyd.

Gweler yr adran 'trafodiadau preswyl yn ôl gwerth' y datganiad hwn am ragor o sylwebaeth.

(heb ei ddangos yn Ffigur 2.4) Ar wahân i hynny, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £1,134 miliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 yn £982 miliwn.

Ffigur 2.5 Canran y trafodiadau sydd o bob math o drafodiad, Ebrill 2022 i Fawrth 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, bod mwyafrif helaeth y trafodiadau preswyl yn drawsgludiadau neu’n drosglwyddiadau perchnogaeth. Roedd y gwerth hwn dros ddwy ran o dair ar gyfer trafodiadau amhreswyl, gyda ychydig fwy chwarter y trafodiadau amhreswyl yn lesoedd newydd yn cael eu rhoi.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn £14.5 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 94% ar gyfer trafodiadau preswyl a 70% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 26% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau o dri mis a blynyddoedd blaenorol.

Ffigur 2.6 Canran y trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt o bob diwrnod yr wythnos, yn ôl dyddiad daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2022 i Fawrth 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd ar gyfer cyflwyno’r ddau drafodiad ac i'r trafodiadau ddod i rym, gydag ond ychydig iawn ar benwythnosau. Mae hyn yn adlewyrchiad o wythnos waith arferol asiantau sy'n cwblhau ffurflenni Treth Trafodiadau Tir.

Ffynnhonnell: Dadansoddiad ffurflenni Treth Trafodiadau Tir

Mae 44% y trafodiadau i rym yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 ar ddydd Gwener. Mae hyn i lawr o 48% yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 ac mae’r ganran flynyddol wedi gostwng yn gyffredinol ers hynny.

Er bod cyfran uwch na'r cyfartaledd o'r ffurflenni treth wedi cael eu cyflwyno ar ddydd Gwener, mae'r gwahaniaeth yn llawer llai amlwg nag ar gyfer y dyddiad dod i rym. Mae hyn yn awgrymu nad yw ffurflenni'n cael eu cyflwyno’n gyffredinol ar yr un diwrnod ag y mae'r trafodiadau’n cael eu cwblhau.

Er na ddangosir hynny uchod, mae tystiolaeth yn y data hefyd bod cynnydd hyd yn oed mwy amlwg yn nifer y cyflwyniadau ar ddydd Gwener olaf pob mis.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Ffigur 3.1 Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos nifer y trafodiadau preswyl yn y band ‘hyd at a gan gynnwys trothwy cyfradd sero’ wedi gostwng yn sylweddol yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 o’I gymharu â blwyddyn flaenorol. Mae niferau blynyddol y trafodiadau yn y bandiau ‘400,001 - £750,000‘ a ‘dros £400,000’ wedi cynyddu ym mhob un o'r pedair blynedd diwethaf.

Ffigur 3.2 Canran y trafodiadau preswyl ym mhob band treth, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, ers mis Ebrill 2018, bod canran blynyddol y trafodiadau preswyl yn y ddau bandiau ‘400,001 - £750,000’ a ‘dros £400,000’ wedi cynyddu bob blwyddyn. I’r gwrthwyneb, mae canran y trafodiadau yn y band ‘hyd at a gan gynnwys trothwy cyfradd sero’ wedi disgyn yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, bellach yn sefyll ar ychydig dros hanner yr holl drafodiadau.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos tueddiadau blynyddol o ran nifer y trafodiadau preswyl, a'r canran y trafodiadau, ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.

Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Bydd unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch sydd â gwerth hyd at £180,000 yn dal i gael eu cynnwys yn y band ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’. Bydd trafodiadau cyfraddau uwch gyda gwerth rhwng £180,001 a £400,000 yn dal i gael eu cynnwys yn y band ‘uwchben y trothwy cyfradd sero, hyd at a chan gynnwys £400,000’.

Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau, y trothwy cyfradd sero oedd:

  • £180,000 o 1 Ebrill 2018 i 26 Gorffennaf 2020 ac o 1 Gorffennaf 2021 i 9 Hydref 2022
  • £250,000 o 27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 (oherwydd y cyfnod gostyngiad treth dros dro)
  • £225,000 o 10 Hydref 2022 ymlaen (oherwydd newid parhaol yn y prif gyfraddau a bandiau preswyl)

Mae Ffigur 3.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘Dros £750,000’ wedi cynyddu ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cafwyd y niferoedd uchaf o drafodiadau yn y bandiau hyd at £400,000 a welwyd hyd yma.

Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae Ffigur 3.2 yn dangos gostyngiadau yng nghanran y trafodiadau gyda gwerth hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero, a chynnydd yng nghanrannau’r trafodiadau yn y bandiau gwerth uwch. Er bod amrywiadau tymhorol yn y ffigurau hyn, a ddisgrifiwyd mewn datganiadau chwarterol blaenorol. Cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd dros 60% o drafodiadau preswyl ym mhob blwyddyn o hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero. Yn Ebrill i Fawrth 2023, roedd y ffigwr hwn yn 52%, y ganran flynyddol isaf a welwyd hyd yma.

Canran y trafodiadau gyda gwerth uwch na’r trothwy cyfradd sero hyd at ac yn cynnwys £400,000 oedd 32% yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, gan ostwng i 25% yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Yna cododd y ganran hon i 38% ym mis Ebrill 2022 hyd at fis Mawrth 2023, y ffigur blynyddol uchaf a welwyd hyd yma.

4% oedd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, gan godi i 9% yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023. Cododd canran y trafodiadau gyda gwerth dros £750,000 bob blwyddyn, i ychydig dros 1% yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Ffigur 3.3 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1] [r]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau blynyddol y dreth oedd ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch wedi cynyddu’n sylweddol yn Ebril 2021 i Fawrth 2022, dros y ddwy flynedd flaenorol, gyda chynnydd llai yn dilyn yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023. Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, y dreth oedd ddyledus yn deillio o’r band ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ oedd y gwerthoedd blynyddol uchaf a welwyd hyd yma.

Ffigur 3.4 Canran y dreth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1] [r]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mai canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r bandiau ‘£400,001 - £750,000’ a ‘dros £400,000’, oedd y gwerthoedd blynyddol uchaf a welwyd hyd yma. I’r gwrthwyneb, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, canran y dreth a oedd yn ddyledus, oedd yn deillio o’r band ‘hyd at a gan gynnwys trothwy cyfradd sero’, oedd y ffigur blynyddol isaf a welwyd hyd yma, yn cynrychioli ychydig dros degfed ran o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.

Mae Ffigurau 3.3 a 3.4 yn dangos tueddiadau blynyddol o dreth oedd yn ddyledus, a'r canran y dreth oedd yn ddyledus, ym mhob band treth. Fel gyda Ffigurau 3.1a a 3.1b yn blaenorol, rydym wedi cyfuno mae'r dau band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000. Disgrifir ystyr y ‘trothwy cyfradd sero’ a ddefnyddir yn y siartiau o dan Ffigurau 3.1 a 3.2..

Ar gyfer bandiau ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’, ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ a ddangosir yn Ffigur 3.3, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 oedd y gwerthoedd uchaf a welwyd hyd yma. Mae’r cynyddau hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw. Mae ein datganiadau blaenorol yn disgrifio amrywiadau chwarterol a misol yn y ffigurau hyn oherwydd tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo.

Dengys Ffigur 3.4 fod canran flynyddol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth dros £400,000 wedi codi yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, o 27% yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 hyd at 36% yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023. Yn debygol, mae canran flynyddol y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo gwerth dros £750,000 wedi cynnydd bob blwyddyn, o 6% yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 hyd at 14% yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Ar gyfer y categori ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’, roedd y brif gyfradd dreth ar 0% bob amser yn ystod y pum mlynedd diwethaf, er bod y trothwy ei hun wedi amrywio dros y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd y trafodiadau hyn yn dal i gyfrif am 11% o gyfanswm y dreth breswyl oedd yn ddyledus, sy’n cysylltu â chyfraddau uwch elfen breswyl y dreth. Y ffigwr cyfatebol yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 oedd 19% ac mae wedi gostwng bob blwyddyn ers hynny, ond gydag amrywiadau tymhorol yn y ganran yn ystod bob blwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.

Ffigur 4.1 Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Bu adferiad yn nifer y trafodiadau yn y flwyddyn ganlynol, a gwelwyd gostyngiadau llai yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 4.1, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ffigur 4.2 Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth blynyddol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn wedi lleihad o’r blwyddyn flaenorol, ond parhaodd yn uwch nag yn y tair blynedd cyn hynny. Ym mhob blynyddoedd, roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau blynyddol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd blynyddol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Gweler y sylwebaeth mewn datganiadau blaenorol er mwyn deall effaith coronafeirws (COVID-19) ar drafodiadau. Yn enwedig yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 ond hefyd i ryw raddau yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y categori ‘Gwerth nad yw’n rhent: £1m+’ yn arbennig o uchel. Roedd hyn oherwydd niferau fechan o drafodiadau mawr iawn.

Mae Ffigur 4.2 yn dangoes ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 85% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob blwyddyn hyd at Mawrth 2021, mae tua 10% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl. Gostyngodd y ganran hon i 6% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cyn y cynnydd i 9% yn Ebrill 2022 i Fehefin 2023. Fel y disgrifiwyd yn ein datganiadau chwarterol blaenorol, bu mwy o amrywiad yn y canrannau chwarterol na'r canrannau blynyddol a drafodir yma.

Ffigur 4.3 Canran y trafodiadau amhreswyl a’r dreth sy’n ddyledus ar yr eiddo hynny ym mhob band gwerth, Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, bod gan hanner y trafodiadau amhreswyl rhwng, werth nad yw’n werth rhent o hyd at ac yn cynnwys £250,000, a bod gan ychydig drosodd un rhan o bump werth nad yw’n werth rhent rhwng £250,001 ac £1 miliwn. Roedd gan ychydig llai chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, a gyfrannodd at y dreth yn ddyledus.

Ffigur 4.4 Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, fod bron tair rhan o bedwar o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth amhreswyl trafodiadau gwerth mwy nag £1 miliwn. Roedd llai na degfed ran o’r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus yn deillio o werth rhent y trafodiadau.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Disgrifir y term 'premiwm' yn fwy cywir fel 'cydnabyddiaeth heblaw am rent'. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y premiwm a delir ar ffurf gwerth arian parod ond gallai fod ar ffurf arall.

[Nodyn 2] Mae trafodiadau sydd â gwerth rhent a phremiwm wedi'i dalu yn cael eu cyfrif ddwywaith yn nifer y trafodiadau (yn Ffigur 4.3). Cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn unwaith (yn Ffigur 4.4).

Nôl i dop y dudalen

Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Ffigur 5.1 Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2018 i Fawrth 2023, bod nifer chwarterol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio rhwng tua 1,300 a 1,650. Roedd nifer y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau preswyl yn uwch nag ar gyfer trafodiadau amhreswyl ym mhob chwarter.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 1,500 o drafodiadau yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae data chwarterol wedi amrywio'n sylweddol, a chyflwynir dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol.

Ar gyfartaledd, ym mhob blwyddyn mae tua 400 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp yn Lloegr, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth am ansawdd.

Ffigur 5.2 Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1] [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2018 i Fawrth 2023, bod gwerth blynyddol y rhyddhadau a hawliwyd wedi amrywio’n sylweddol, rhwng tua £54 miliwn ac £79 miliwn. Ers mis Ebrill 2018, roedd gwerth chwarterol y rhyddhadau amhreswyl a hawliwyd yn uwch yn gyffredinol nag ar gyfer rhyddhadau preswyl, er eu bod wedi bod yn fwy cyfartal ers 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw rhyddhadau a allai fod wedi'i hawlio ar trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Bob blywddyn, cafodd nifer uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Ym mhob blwyddyn ers mis Ebrill 2018, roedd gwerth y rhyddhadau a hawliwyd ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r gwerth ar gyfer trafodiadau preswyl, ac eithrio yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 pan oedd gwerth rhyddhad preswyl yn uwch.

Dangosodd dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol amrywiad sylweddol ar gyfer cyfnodau o dri mis. Er enghraifft, bu rhai cyfnodau o dri mis lle cyfrannodd ychydig o drafodiadau preswyl mawr at ryddhadau preswyl sylweddol fwy na'u cymheiriaid amhreswyl.

Ffigur 5.3 Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau gyda rhyddhad anheddau lluosog a hawliwyd wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf i fod y math mwyaf cyffredin o ryddhad. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rhyddhad i elusennau oedd y math mwyaf cyffredin nesaf o ryddhad a hawliwyd.

Ffigur 5.4 Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn] [nodyn 1] [diwygiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart llinell yn dangos bod gwerth y dreth a ryddhawyd ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf yn fwy ar gyfer rhyddhad grŵp nag unrhyw fath arall o ryddhad. Ar lefel gyffredinol is, gostyngodd gwerth rhyddhad anheddau lluosog yn y flwyddyn ddiweddaraf, tra bod gwerth rhyddhadau tai cymdeithasol wedi codi i’r ffigur blynyddol uchaf a welwyd hyd yma ar gyfer y rhyddhad hwn.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

[Nodyn 1] Sylwch, ar gyfer rhyddhad anheddau lluosog yn arbennig, bod nifer y trafodiadau a ryddhawyd a swm y dreth a ryddhawyd wedi'u hadolygu i fyny ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd ein bod bellach yn gallu mesur rhyddhadau ar gyfer trafodiadau cysylltiol yn well.

[Nodyn 2] Mae siart hon yn gwahardd unrhyw rhyddhadau a allai fod wedi'i hawlio ar trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus bob blywddyn oedd rhyddhad grŵp. Roedd hyn yn cyfrif am 68% o'r dreth a ryddhawyd yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, gan ostwng i 47% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Cynyddodd gwerth y rhyddhad anheddau lluosog a hawliwyd ym mhob un o'r tair blynedd hyd at Ebrill 2021 i Fawrth 2022, gan gyfrif am 29% o werth yr holl ryddhadau yn y flwyddyn honno. Gostyngodd y ganran hon i 12% yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Nôl i dop y dudalen

Ad-daliadau cyfraddau uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 19 Mehefin 2023.

Ffigur 6.1 Nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [diwgyiedig]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar a llinell yn dangos, ar y gyfer data fesul chwarter daeth trafodiadau i rym, bod nifer yr ad-daliadau cyfraddau uwch a hawliwyd wedi gostwng yn gyffredinol bob blwyddyn, fel y gellid disgwyl. Cododd y gwerthoedd blynyddol yn raddol yn y tair blynedd hyd at Ebrill 2021 i Fawrth 2022, yna gostyngodd yn y flwyddyn ddiweddaraf oherwydd bod llai o amser wedi mynd heibio er mwyn i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio’u had-daliad.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 7,860 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill 2018 i Fawrth 2023, gyda £80.1 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Mae Ffigur 6.2 isod yn dangos ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch, gan ddefnyddio'r dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ffigur 6.2 Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a ddosbarthwyd ar gyfer trafodiadau yn dod i rym o Ebrill 2018 i Fawrth 2023, yn ôl blwyddyn y cymeradwywyd yr ad-daliad

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Cynyddodd nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a gwerth yr ad-daliadau hynny) bob blwyddyn yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Byddai disgwyl hyn, gan fod mwy o amser wedi mynd heibio i geisiadau gael eu gwneud. Gostyngodd nifer a gwerth yr ad-daliadau a gymeradwywyd wedyn yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, cyn dirywiad sylweddol pellach yn y flwyddyn anghyflawn 1 Ebrill 2023 i 19 Mehefin 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua dwy ran o dair o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

Treth a dalwyd

Ffigur 7.1 Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [£ miliwn]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos bod y swm blynyddol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd yn gymharol debyg yn y tair blynedd gyntaf o weithredu. Dilynodd cynnydd mawr yn y flwyddyn Ebrill 2021 i Fawrth 2022 cyn gostyngiad llai yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £373.0 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Dyma'r 7% yn is na'r £402.9 miliwn a dderbyniwyd yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Sylwch hefyd fod y data yn Ffigur 7.1:

  • yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol
  • yn cynnwys cosbau a dalwyd (megis ar gyfer ffeilio hwyr neu dalu'n hwyr) a hefyd llog a dalwyd ar ddyled flaenorol y Dreth Trafodiadau Tir
  • ni fydd yn cynnwys swm cymharol bach o Treth Trafodiadau Tir heb ei dalu, yr ydym yn ei reoli drwy ein prosesau rheoli dyledion

Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Gall trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir gael eu diwygio am amryw o resymau, er enghraifft yn dilyn adolygiad i'w cywirdeb, neu roi ad-daliadau cyfraddau uwch. Gan fod y data yn y datganiad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar y dyddiad y daeth y trafodiadau i rym, sydd fel arfer yn aros yr un fath, yna gall llawer o'r data a gyhoeddir yma am cyfnodau blaenorol newid o hyd.

Er y dylai bron pob trafodiad sy’n ymwneud â 2022-23 fod wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn (oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers diwedd y flwyddyn), ni fydd y data ar gyfer 2018-19 i 2022-23 wedi’i gwblhau'n llawn hyd nes bod y cyfnod ar gyfer adolygu wedi dod i ben. Yn achos ad-daliadau cyfradd uwch, gall hyn fod gyhyd â thair blynedd ar ôl y trafodiad gwreiddiol, gyda ffenestr hirach o bosibl ar gael ar gyfer rhai trafodiadau eraill, megis y rhai y mae’r Awdurdod yn dewis agor ymchwiliad iddynt.

At ddibenion cyfrifo a rhagfynegi, mae angen creu ffigur terfynol ar lefel Cymru ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus am bob blwyddyn. Er bod gwerth yr arian a dderbyniwyd yn Ffigur 7.1 yn cael ei bennu cyn gynted ag y daw pob cyfnod i ben, mae hyn yn rhy syml ar gyfer y diben hwn. Er enghraifft, nid yw Ffigur 7.1 yn nodi'r flwyddyn dreth y mae’r trafodiadau’n ymwneud â hi.

Yn hytrach, diffinnir ffigur cyfrifyddu terfynol hwn a gyfer 2022-23 drwy gynnwys trafodiadau (neu unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau) a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2023 oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2022-23. Nid yw unrhyw drafodiadau a dderbyniwyd (neu ddiwygiadau a wnaed) ers 30 Ebrill 2023, neu sydd eto i'w derbyn, wedi'u cynnwys. Mae’r data hwn wedi’i gyhoeddi’n ffurfiol fel rhan o adroddiad a chyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2022-23, fel y’u gosodwyd gerbron Senedd Cymru.

Ffigur 7.2  Refeniw a gyflwynir yn y Gyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl blwydd [£ miliwn]

Math o drafodiad

2018-19

2019-20

2020-21

2021-22

2022-23

Preswyl

155.4

163.4

152.1

271.8

277.9

Amhreswyl

72.4

96.9

58.4

130.4

94.2

Cyfanswm

227.8

260.3

210.5

402.2

372.1

Ffynhonnell: Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Mae gwahaniaeth allweddol rhwng cyfanswm y refeniw ar gyfer bob blwyddyn (Ffigur 7.2) a'n hystadegau ehangach yn ymwneud ag ad-daliadau cyfraddau uwch. Er enghraifft, bydd trafodiadau a ad-dalwyd yn ystod 2022-23 (sy'n ymwneud â thrafodiad gwreiddiol yn 2019-20, 2020-21 neu 2021-22) yn cael effaith ar werth 2022-23 yn Ffigur 7.2, ond ar werthoedd 2019-20, 2020-21 neu 2021-22 yn ein hystadegau ehangach.

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad o fewn Cymru

Data yn ôl awdurdod lleol

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (ar sail flynyddol yn unig). Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 (a echdynnwyd ym Mehefin 2023) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (a echdynnwyd ym Mehefin 2022). Disgrifir y rhesymau am hyn yn adran ‘Ynglŷn â’r ystadegau yma’ y datganiad hwn.

Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a threth sy'n ddyledus.

Hefyd, rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain.

Rydym yn croesawu barn defnyddwyr ynghylch a:

  • a ddylem ystyried cyhoeddi set gyfyngedig o ystadegau chwarterol ar gyfer awdurdodau lleol, megis nifer y trafodiadau preswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch (y gellid cyfrifo canran ohonynt)
  • ddylem yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Data ar gyfer daearyddiaethau eraill

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyfer:

  • etholaethau'r Senedd
  • Parciau Cenedlaethol
  • ardaloedd adeiledig

Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu dadansoddi yn y datganiad hwn ond maent ar gael ar y gwefan StatsCymru. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig.

Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig.

Mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint mewn achosion lle nad yw’r cod post yn cael ei ddarparu, a dyma’r achosion lle nad yw’n bosibl dyrannu’r trafodiad i ardal leol. O ganlyniad, bydd yr achosion amhreswyl sy'n weddill yn arwain at ystadegau nad ydynt yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer y daearyddiaethau hyn sy’n seiliedig ar godau post.

Cyflwyno cyfartaleddau yn yr adran hon

Lle caiff cyfartaleddau Cymru eu cyflwyno yn yr adran hon, mae'r rhain yn cyfarteledd wedi’u pwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd o drafodiadau ym mhob awdurdod lleol.

Mae ffigurau 8.1 i 8.3 a 8.5 yn rhoi cymarebau (er enghraifft, treth sy'n ddyledus fesul trafodiad neu drafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau). Mae angen y defnydd hwn o gymarebau er mwyn creu data y gellir ei gymharu ar draws yr holl awdurdodau lleol, gan y bydd y cysyniadau unigol yn aml yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol oherwydd yr amrywiaeth o ran eu maint a'u poblogaeth.

Er enghraifft, ystyriwch Ffigur 8.1. Ymhlith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â’r swm uchaf o dreth breswyl yn ddyledus a nifer uchaf y trafodiadau preswyl. Oherwydd eu maint, byddai hyn yn atal cymhariaeth ystyrlon ar draws awdurdodau lleol, ond wrth edrych ar dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl, awdurdod llawer llai (Sir Fynwy) oedd yn â’r swm uchaf, gyda'r swm cymaradwy yng Nghaerdydd y pumed fwyaf.

Ffigur 8.1 Treth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl [£ mil], yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023 [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart gwasgariad a llinell yn dangos yr amrywiad eang rhwng awdurdodau lleol yn y dreth gyfartalog oedd ddyledus fesul trafodiad preswyl yn y flwyddyn ddiweddaraf. Er bod y ffigurau hyn wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol ac eithrio un o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd y gostyngiad yng Ngwynedd a'r cynnydd lleiaf i’w gweld yn gyffredinol yn yr awdurdodau sydd yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.

Mae Ffigur 8.1 yn dangos, ar gyfer trafodiadau preswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£11,320) a Bro Morgannwg (£10,350).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£1,820) a Chastell-nedd Port Talbot (£2,190).

Ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mae trefn a dosbarthiad y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i flynyddoedd blaenorol.

Wrth ddehongli Ffigur 8.1, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r newid yn y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau o 10 Hydref 2022. Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau sy’n dod i rym o’r dyddiad hwn, newidiodd y trothwy cyfradd sero o £180,000 i £225,000. Bydd y newid hwn yn effeithio ar awdurdodau sydd â'r gwerthoedd eiddo isaf (y rhai tuag at waelod Ffigur 8.5) yn gymharol fwy nag awdurdodau eraill. Felly bydd hyn wedi lleihau'r cynnydd yn y dreth gyfartalog oedd yn ddyledus a fyddai wedi deillio o gynnydd ym mhrisiau eiddo yn yr awdurdodau hynny.

Ar gyfer bob awdurdodau lleol ac eithrio un, cynyddodd y dreth gyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 o’r blwyddyn flaenorol. Roedd y newidiadau hyn yn amrywio rhwng gostyngiad o £140 yng Ngwynedd i gynnydd o £2,110 ym Mlaenau Gwent. Roedd y gostyngiad yng Ngwynedd a’r cynnydd lleiaf i’w weld yn gyffredinol mewn awdurdodau sydd wedi’u lleoli yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru.

Fel y gellid disgwyl, bydd gwerth eiddo yn dylanwadu ar swm y dreth sy'n ddyledus. Yn gyffredinol, yr awdurdodau gyda’r cynnydd canrannol mwyaf yn y dreth breswyl gyfartalog a oedd yn ddyledus a welodd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth eiddo cyfartalog hefyd (a gyflwynir yn Ffigur 8.5). Yn yr un modd â’r dreth breswyl gyfartalog oedd yn ddyledus, rydym wedi gweld cynnydd llai yng ngwerth cyfartalog eiddo ar gyfer rhai awdurdodau yn rhan orllewinol neu ogleddol Cymru (nag ar gyfer awdurdodau eraill). Disgrifir y cynnydd cyffredinol mewn gwerthoedd trafodiadau ar lefel Cymru yn adrannau ‘Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd’ a ‘Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth’ y datganiad hwn.

Dengys Ffigur 8.4 (trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o’r holl drafodiadau preswyl) fod y bwlch rhwng yr awdurdodau sydd â’r canrannau isaf ac uchaf wedi cau. Mae Ffigur 8.4 yn dangos llai o weithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau gorllewinol neu ogleddol. Gallai esboniadau posibl am hyn gynnwys:

  • effaith trafodiadau economaidd ehangach ar drafodiadau
  • polisïau ail gartrefi yn dechrau effeithio ar drafodiadau
  • ffactorau anhysbys eraill

Er mwyn helpu i asesu newidiadau mewn trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy rheolaidd, byddwn yn ystyried a allwn gyhoeddi set gyfyngedig o ystadegau awdurdodau lleol fesul chwarter yn y dyfodol. Yn ein datganiadau chwarterol yn y dyfodol, byddwn yn diweddaru defnyddwyr ar y posibilrwydd o gyhoeddi'r data hwn.

Ffigur 8.2 Refeniw ychwanegol cyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch [£ mil], yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023 [nodyn 1] [nodyn 2]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart gwasgariad a llinell yn dangos yr amrywiad eang rhwng awdurdodau lleol yn y refeniw ychwanegol cyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad cyfraddau uwch ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf. O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gwelwyd gostyngiadau neu gynnydd bach mewn refeniw cyfartalog yn fwy cyffredin yn yr awdurdodau a leolir yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Nodwch mai dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfraddau uwch sydd yn y siart hon. Nid yw'r siart hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

Mae Ffigur 8.2 yn cyflwyno data tebyg i Ffigur 8.1, heblaw bod Ffigur 8.2 yn canolbwyntio ar y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus o drafodiadau cyfraddau uwch (nid cydran prif gyfradd y trafodiadau hynny). Cyfrifir y refeniw cyfartalog fesul y nifer o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch ym mhob awdurdod lleol.

Mae trefn yr awdurdodau lleol yn gyffredinol debyg yn Ffigur 8.1 ac 8.2, ond mae yna rai gwahaniaethau. Er enghraifft, ail uchaf yw Bro Morgannwg yn Ffigwr 8.1 ond mae’n pedwerydd uchaf yn Ffigur 8.2.

Yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, roedd y refeniw ychwanegol cyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£11,510) ac Ynys Môn (£11,410), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£4,280) a Rhondda Cynon Taf (£4,550).

Ym mhob awdurdod lleol yn eithrio chwech, cynyddodd y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023, o’r blwyddyn flaenorol. Yn gyson â'r patrwm a welir yn Ffigur 8.1, roedd yr awdurdodau oedd â gostyngiadau neu gynnydd bach wedi'u lleoli'n gyffredinol yn rhannau gorllewinol a gogleddol Cymru.

Wrth ddehongli'r siart hon, mae'n bwysig bod gan rai awdurdodau lefelau is o drafodiadau cyfraddau uwch (yr awdurdodau hynny sydd â'r canrannau isaf yn Ffigur 8.4).

Ffigur 8.3 Treth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl [£ mil], yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023 [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart gwasgariad a llinell yn dangos amrywiad eang rhwng awdurdodau lleol yn y cyfartaledd ar gyfer y dreth sy'n ddyledus fesul trafodiad amhreswyl. Mewn rhai awdurdodau, bu newidiadau mawr yn y ffigur hwn ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan ddylanwadu felly ar drefn yr awdurdodau lleol a gyflwynir yn y siart.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

Mae Ffigur 8.3 yn dangos, ar gyfer trafodiadau amhreswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Nhorfaen (£29,300).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl ar ei isaf ym Merthyr Tudful (£3,290).

Yn yr un modd â thrafodiadau preswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau unigol mewn awdurdod lleol yn amrywio'n fawr o amgylch y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru.

Wrth gymharu'r data hwn â'r siartiau ar gyfer refeniw preswyl, mae rhai gwahaniaethau clir yn nhrefn yr awdurdodau lleol rhwng y siartiau.

Ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mae’r safle gymharol yn y siart ar gyfer rhai awdurdodau lleol wedi newid yn sylweddol (o'i chymharu ag Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Er enghraifft, mae Blaenau Gwent wedi codi o'r isaf i'r nawfed uchaf, tra bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi cwympo o'r ail uchaf i'r hanner isaf y siart. Mae hyn yn dangos anwadalrwydd y data amhreswyl o flwyddyn i flwyddyn. Gall nifer fach o drafodiadau mawr iawn ddylanwadu'n sylweddol dros y cyfartaledd ar gyfer awdurdod lleol.

Dros y cyfnod hwn, gostyngodd y dreth gyfartalog flynyddol oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl yn sylweddol mewn rhai awdurdodau lleol. Yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus yn fwy nag £20,000 mewn wyth awdurdod lleol, tra bod hyn wedi digwydd mewn pedwar awdurdod lleol yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Ffigur 8.4 Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart gwasgariad a llinell yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol o ran lefel y trafodiadau preswyl cyfradd uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodiadau preswyl.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir wedi gofyn y cwestiwn yn blaenorol). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn yr adran ‘Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru’ y datganiad hwn (yn ôl amddifadedd) yn ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (32%), Merthyr Tudful (29%) ac Ynys Môn (29%).

Gwelwyd y canrannau isaf yn Thor-faen (16%) a Sir y Fflint (16%).

Ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mae trefn y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn y siart hon yn aros tebyg i flwyddyn flaenorol (data wedi’i echdynnu yn Mehefin 2022). Fodd bynnag, bu gostyngiad ym maint yr amrywiad rhwng ardaloedd. O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:

  • Gwynedd (gostyngiad o 5 pwynt canran)
  • Sir Benfro a Cheredigion (y dau â gostyngiad o 4 pwynt canran)
  • Ynys Môn (gostyngiad o 3 pwynt canran)
  • Sir Fynwy (cynnydd o 3 phwynt canran)

(ddim wedi’i gyflwyno yn Ffigur 8.4) Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:

  • Arfordir Sir Benfro: 59% i 47%, gostyngiad o 12 pwynt canran
  • Eryri: 42% i 39%, gostyngiad o 3 phwynt canran
  • Bannau Brycheiniog: 20% i 22%, cynnydd o 2 bwynt canran

Er nad yw’n bosibl nodi pa drafodiadau cyfraddau uwch oedd yn ail gartrefi ar hyn o bryd, gallai’r gostyngiadau a ddangosir uchod ar gyfer rhai awdurdodau lleol yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru awgrymu arafu yn y cyfraddau prynu ar gyfer ail gartrefi newydd neu bresennol.

(ddim wedi’i gyflwyno yn Ffigur 8.4) Rydym wedi archwilio rhai data cyfatebol i'r hyn a ddangosir yn Ffigur 8.4, ond fesul chwarter yn hytrach nag fesul blwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bod llawer o’r newidiadau canrannol mwyaf ar gyfer yr awdurdodau lleol a grybwyllwyd uchod wedi dechrau yn y chwe mis diwethaf. Fel y disgrifir o dan Ffigur 8.1, mae’n bosibl y gallai hyn ddangos bod effeithiau economaidd ehangach yn dechrau effeithio ar niferoedd trafodiadau.

(ddim wedi’i gyflwyno yn Ffigur 8.4) Dylid nodi bod nifer gwirioneddol y trafodiadau preswyl a thrafodiadau cyfraddau uwch wedi gostwng mewn llawer o awdurdodau ers y flwyddyn flaenorol. Nid yw nifer y trafodiadau yn yr awdurdod mwyaf (Caerdydd) wedi gostwng cymaint ag yn rhai o’r awdurdodau lleol llai, gan gynyddu dylanwad Caerdydd ar gyfartaledd Cymru yn y siart hwn. Mae hyn yn helpu i egluro pam mai dim ond gostyngiad bach yng nghyfartaledd Cymru a welir yn Ffigur 8.4, tra ar yr un pryd, bod nifer o awdurdodau lleol yn dangos gostyngiadau mawr yn y siart hwn.

Ffigur 8.5 Gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl [£ mil], yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2021 i Fawrth 2023 [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart gwasgariad a llinell yn dangos yr ystod eang o werthoedd eiddo preswyl cyfartalog ar draws Cymru a bod y gwerthoedd hyn wedi cynyddu yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 ym mhob awdurdod lleol. Mae cyfradd y cynnydd wedi amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda’r cynnydd canrannol llai i’w weld yn gyffredinol yn yr awdurdodau sydd wedi’u lleoli yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Mae unrhyw werth eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2 wedi'i hepgor.

Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£358,600) a Bro Morgannwg (£321,300), ac yr isaf ym Mlaenau Gwent (£143,700) a Merthyr Tudful (£155,600).

Mae'n rhy syml trin y ffigurau uchod fel prisiau eiddo cyfartalog ynddynt eu hunain, neu er mwyn canfod twf prisiau mewn awdurdod lleol penodol. Bydd rhai trafodiadau mawr yn bresennol a all achosi tuedd yn y data hyn ac efallai na fydd cyfansoddiad y trafodiadau mewn unrhyw gyfnod penodol yn gynrychioliadol o'r stoc gyfan, na'r newid yn y stoc. Yn hytrach dylid defnyddio'r data i nodi tueddiadau ehangach ym mhrisiau tai ledled Cymru, ac ym mhle yng Nghymru mae'r prisiau isaf neu uchaf yn gyffredinol. Gweler ein gwybodaeth allweddol am ansawdd lle gwnaethom ychwanegu gwybodaeth o'r blaen am gymariaethau rhwng ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir a Mynegai Prisiau Tai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Fel y gwelwyd mewn tueddiadau ehangach yn y farchnad eiddo, mae gwerth cyfartalog eiddo preswyl wedi’i drethu wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol yn Ebrill 2022 i Fawrth 2023 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol. Roedd y cynnydd yn amrywio rhwng £5,560 yng Ngwynedd a £25,800 ym Mro Morgannwg. Yn gyffredinol gwelwyd cynnydd llai mewn awdurdodau yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gallai hyn awgrymu bod prisiau ail gartrefi neu dai haf yn tyfu ar gyfradd arafach na mathau eraill o eiddo preswyl. Cyfeiriwch at y sylwebaeth o dan Ffigur 8.1 ynglŷn â’r tueddiadau yn y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny.

Ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i flynyddoedd blaenorol.

Nôl i dop y dudalen

Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Yn yr adran hon o’r datganiad, rydym yn dadansoddi Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos lefel y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer ardaloedd MALlC ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r ardal MALlC. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd MALlC nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer ardaloedd MALlC.

Beth yw MALlC a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae MALlC wedi'i gynllunio er mwyn nodi’r ardaloedd bychain hynny o Gymru sydd fwyaf difreintiedig. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol faes (neu fath) o amddifadedd. Mae pob maes wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion. Yr wyth maes yw incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd ffisegol a thai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we MALlC.

Pan fo wedi’i gofnodi, rydym wedi cysylltu'r cod post o’r ffurflen dreth i tua 1,900 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Caiff yr ardaloedd bychain hyn eu rhestru gan MALlC o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u rhannu'n ddeg band cyfartal eu maint o'r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig (a elwir yn 'ddegfedau').

Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf am yr amser cyntaf yn yr argraffiad 2021 o’r datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn dwy flynedd yn ôl, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.

Lle caiff cyfartaleddau eu cyflwyno yn yr adran hon, mae hwn yn gymedr wedi’i bwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd y trafodiadau ym mhob degfed MALlC.

Mae'n bwysig nodi mai mesuriad ar sail ardal yw MALlC. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, nid yw pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn ddifreintiedig. Yn yr un modd, gall rhai o'r boblogaeth sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fod yn ddifreintiedig.

Mae’n bwysig nodi bod MALlC yn canolbwyntio ar amddifadedd cymharol yn unig, felly nid yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fydd y rhai mwyaf cefnog o reidrwydd. Dylai cyfeiriad y symudiad a nodir yma gael ei ystyried fel y symudiad o’r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig ac nid o’r difreintiedig i’r cefnog.

Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o'r amrywiad o ran amddifadedd i'w weld yn y degfedau mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth (mewn amddifadedd cymharol) rhwng y degfed mwyaf difreintiedig a'r ail fwyaf difreintiedig yn fwy nag ydyw ym mhen arall y dosbarthiad.

Ffigur 9.1 Nifer y trafodiadau, yn ôl degfed MALlC, Ebrill 2022 i Fawrth 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart gwasgariad a llinell yn dangos bod cyfanswm y trafodiadau preswyl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn sylweddol is na rhan ganol ac olaf y dosbarthiad. Roedd nifer y trafodiadau cyfraddau uwch ar eu hisaf yn gyffredinol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru, nag ar gyfer rhannau eraill y dosbarthiad.

Ffigur 9.2 Treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau (£ miliwn), yn ôl degfed MALlC, Ebrill 2022 i Fawrth 2023 [nodyn 1]

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart gwasgariad a llinell yn dangos bod y dreth breswyl oedd yn ddyledus yn tyfu’n sylweddol drwy’r ystod o ardaloedd, o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig i’r lleiaf difreintiedig. Roedd y refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfraddau uwch ar ei isaf ar gyfer yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac ardal amddifadedd ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

[Nodyn 1] Sylwch fod y siart hon yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Nhabl 1.2.

[Nodyn 2] Nodwch mai dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfraddau uwch sydd yn y golofn hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.

Gan fod pob un o'r degfedau hyn o faint tebyg o ran poblogaeth, gallwn ddadansoddi'r data heb eu graddio ar gyfer eu maint , fel yr oedd yn angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol (gweler y blwch llwyd yn yr adran ‘Dadansoddiad o fewn Cymru’ yn y datganiad hwn). Mae hyn yn ein galluogi i ystyried nifer y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus ar wahân yn hytrach na'r gymhareb rhwng y ddwy eitem a ddadansoddwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae Ffigur 9.2 yn dangos, fel y gellid disgwyl, bod cyfanswm y dreth breswyl sy'n ddyledus yn tyfu'n sylweddol drwy'r ystod o ardaloedd (o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig). Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaethau tebygol yng ngwerth eiddo yn yr ardaloedd hyn.

Fodd bynnag, mae Ffigur 9.1 hefyd yn dangos fod nifer y trafodiadau preswyl ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt tua chanol a thug at ran olaf y dosbarthiad. Mae hyn yn awgrymu bod amddifadedd nid yn cysylltu â’r prisiau ond hefyd i’r lefel y gweithgaredd yn y farchnad dai yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae'r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch hefyd yn tyfu o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyd at ddiwedd y dosbarthiad, er bod rhywfaint o amrywiad ymhlith yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn gyson â gostyngiadau yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er bod gostyngiadau wedi bod yn nifer y trafodiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae'r patrwm a welir yn Ffigurau 9.1 a 9.2 yn debyg yn fras i ddata Ebrill 2021 i Fawrth 2022 a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022.

Ffigur 9.3 Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfed MALlC, Ebrill 2022 i Fawrth 2023

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart bar a llinell yn dangos bod cyfran y trafodiadau preswyl a oedd ar y cyfraddau uwch yn gyffredinol wedi gostwng ar gyfer yr ystod o ardaloedd, wrth fynd o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl ardal amddifadedd a math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigur 9.3 yn dangos canran y trafodiadau cyfraddau uwch o fewn cyfanswm y trafodiadau preswyl ar gyfer pob degfed MALlC. Yn gyffredinol, mae cyfran y trafodiadau preswyl sy'n cael eu trethu ar y cyfraddau uwch yn disgyn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (gyda rhai eithriadau).

Fel y nodwyd yn yr adran ‘Dadansoddiad o fewn Cymru’ yn y datganiad hwn, mae amryw o resymau am godi’r cyfraddau treth uwch, dau o'r rhain yw pryniant eiddo prynu-i-osod a phrynu ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae Ffigur 9.3, ynghyd â ffigur 9.1 (sy'n dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch rhwng degfedau MALlC), yn gallu rhoi cipolwg ar y cydbwysedd rhwng y ddwy eitem hyn.

Gan dybio bod eiddo prynu-i-osod yn fwy tebygol o gael ei brynu mewn ardaloedd mwy difreintiedig, tra bod ail gartrefi neu dai gwyliau yn fwy tebygol o gael eu prynu ymhellach i fyny'r dosbarthiad, yna ynghyd â mewnwelediadau o ddata arall y mae gennym fynediad ato, gallwn ddod i gasgliad bod eiddo prynu-i-osod o leiaf mor gyffredin ag ail gartrefi neu gartrefi gwyliau fel ffactor sy'n nodi pam y codir y cyfraddau treth uwch. Mae'n bwysig, felly, peidio â thybio mai unrhyw ffactor unigol yw achos codi’r gyfradd uwch.

Ffigur 9.4 Nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfraddau uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau yn dod i rym yn Ebrill 2018 i Fawrth 2023, yn ôl degfed MALlC

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart gwasgariad yn dangos tuedd gynyddol ar gyfer nifer yr ad-daliadau a gwerth yr ad-daliadau a gymeradwywyd, wrth ystyried yn eu tro yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a symud ymlaen i’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar ad-daliadau cyfraddau uwch ardal amddifadedd a dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.4 yn dangos data yn ôl degfed MALlC ar ad-daliadau cyfraddau preswyl uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn ystod y pum mlynedd Ebrill 2018 i Fawrth 2023. Disgwylir gwneud rhagor o ad-daliadau yn y dyfodol. ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn y cyfnod hwn. Cyflwynir dadansoddiadau eraill o ad-daliadau yn ôl dyddiad dod i rym yn Ffigur 6.1 yn gynharach yn y datganiad hwn.

Mae Ffigur 9.4 yn dangos cymharol ychydig o ad-daliadau, a gwerth yr ad-daliadau hynny, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn gryfhau’r casgliad bod pryniadau prynu-i-osod yn ffactor o ran pam y codir cyfraddau treth uwch.

O Ffigur 9.4, mae hefyd yn bosibl dod i’r casgliad bod pontio rhwng eiddo (prynu prif breswylfa newydd cyn gwerthu’r brif breswylfa flaenorol) yn fwy tebygol yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Nôl i dop y dudalen

Atodiad: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Ionawr 2023. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 27 Ebrill 2023, yr ail amcangyfrif ar 19 Mai 2023 a'r trydydd amcangyfrif ar 23 Mehefin 2023.

Ffigur A1 Nifer y trafodiadau: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o niferoedd trafodiadau misol wedi amrywio rhwng tua 1% a 4%. Rhwng Ebrill 2022 ac Ebrill 2023, amrywiodd y ffigwr cyfatebol i raddau llai, rhwng tua 1% a 3%.

Ffigur A2 Treth yn ddyledus: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart bar yn dangos, rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, fod y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif o dreth fisol wedi amrywio rhwng tua 0% a 3%, ac eithrio Mehefin 2021, Hydref 2021 ac Ebrill 2023 a welodd newidiadau mwy.

Ffynhonnell: Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (Taenlen Dogfen Agored, 130 KB) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Awst 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau ers Ebrill 2021 oedd:

  • mis Mehefin 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • mis Hydref 2021 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 8%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Fel y dadansoddwyd mewn datganiadau blaenorol, roedd diwygiadau’n gyffredinol uwch yn ystod y misoedd ar ôl mis Ebrill 2018 pan ddechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data, er y bydd angen rhagor o ddata arnom dros y blynyddoedd nesaf er mwyn asesu hyn.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau A1 a A2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Gweler yr adran ‘ad-daliadau cyfraddau uwch’ yn y datganiad hwn am ddadansoddiad pellach.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo