Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn rhoi lefel uwch o fanylion, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru.

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn cynnwys:

  • datganiad ystadegol blynyddol yn rhoi sylwadau ar dueddiadau blynyddol Treth Trafodiad Tir, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru. Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.
  • esboniwr yar gyfer ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Diweddarwyd data ychwanegol sy'n dadansoddi trafodiadau cyfraddau uwch (gweler yr adran Data). Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.

Anogir defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Mae hyn yn bwriad yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Roedd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir yn newid ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Cyflwynir dadansoddiad o effeithiau'r newidiadau hyn yn y datganiad hwn.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a chwarterol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol. Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2022 i Mawrth 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 130 KB

ODS
130 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data a ddefnyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru wrth adrodd ar berfformiad o 2022 hyd 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 46 KB

ODS
46 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Eglurhad o ystadegau ardaloedd lleol 2022 i 2023 Awdurdod Cyllid Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 38 KB

ODS
38 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.