Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei adroddiad blynyddol 2022-23 ar 14 Medi 2023, gan gynnwys adran yn adrodd ar berfformiad y sefydliad dros y flwyddyn (yr "adroddiad ar berfformiad"). Bwriad yr adroddiad hwn yw rhoi darlun ystadegol o'r data a ddefnyddir yn y ddogfen honno, a sicrhau bod y setiau data sylfaenol ar gael yn llawn ar gyfer cyfeirio neu ddadansoddi pellach.

Defnyddir sawl siart yn yr adroddiad hwn, yn cyflwyno data newydd ar gyfer pob un o'r gwahanol ddangosyddion perfformiad ar gyfer ACC am y cyfnod 2022-23. Mae rhai o'r rhain wedi'u cynnwys rywle yn yr adroddiad blynyddol, a chyfeirir atynt yn unol â hynny, er nad ydynt o reidrwydd yn yr un drefn. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys peth data na chyflwynir yn yr adroddiad blynyddol er mwyn rhoi darlun mwy cyflawn o'r holl ddata a ddefnyddir gan ACC wrth ddadansoddi ei berfformiad mewnol.

At ddibenion astudio’r data, weithiau mae'n haws dychmygu gwerthoedd gwrthwyneb y dangosyddion perfformiad. Er enghraifft, mae canran y ffurflenni treth a ffeiliwyd ar amser yn agos at 100% ac mae unrhyw amrywiad pan y’i gwelir ar raddfa o 0-100% yn anodd iawn i’w weld mewn delwedd statig. Yn hytrach na newid y raddfa i 97-100% dyweder, a fydd yn gorbwysleisio'r amrywiad, rydym yn hytrach yn cyflwyno'r ganran o ffurflenni nad ydynt wedi'u ffeilio ar amser, gan ddefnyddio graddfa o 0-3%. Mae hyn yn rhoi adlewyrchiad tecach o'r duedd mewn delwedd statig, a lle defnyddir y dechneg hon, mae'r data ar gyfer y mesur gwrthwyneb a'r mesur gwirioneddol ar gael yn y daenlen atodol.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad byr o bob mesur, a gallai’r darllenydd fod am ei ystyried ar y cyd â'r naratif manylach yn yr adroddiad ar berfformiad, sydd wedi’i osod yng nghyd-destun dull ac amcanion y sefydliad. Lle y bo'n berthnasol, ychwanegir llyfrnodau i rannau perthnasol yr adroddiad blynyddol o dan bob siart.

Sylwer bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiad isod yn berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), er pan fo hefyd yn berthnasol cynnwys data'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), mae’r data hynny hefyd wedi'u cynnwys yn y mesur.

Data

Siart 1: Nifer y ffurflenni TTT a gyflwynwyd i ACC, fesul mis y’u derbyniwyd

Image
Mae Siart 1 yn dangos llinell sy'n rhoi'r gyfres fisol o nifer y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd yn ystod 2021-22 a 2022-23. Roedd gostyngiadau ar ôl mis Rhagfyr yn y ddwy flynedd, gyda'r niferoedd misol a gyflwynwyd yn 2022-23 yn gyffredinol is nag ar gyfer yr un mis yn 2021-22.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Mae'r siart hwn yn nodi'r cyd-destun y dylid ystyried y mesurau perfformiad yn ei erbyn. Mae'n dangos sut mae nifer y trafodiadau TTT a dderbyniwyd ym mhob mis wedi newid yn ystod mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2023.

Mae'r siart yn dangos bod y trafodiadau trwy gydol blwyddyn ariannol 2022-23 ychydig yn is nag yn 2021-22. Cyrhaeddodd nifer y trafodiadau uchafbwynt ym mis Mehefin 2021, wrth i'r gostyngiad dros dro yn y Dreth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 2020, ddod i ben, gyda rhai trafodiadau’n cael eu dwyn ymlaen er mwyn manteisio ar y dreth ostyngol. Yna gostyngodd y niferoedd i tua 6,000 y mis dros ran olaf 2021, cyn setlo ar tua 5,500 yn ystod 2022. Gwelwyd gostyngiadau tymhorol ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021 a 2022.

Siart 2: Canran y trafodiadau nad ydynt yn cael eu prosesu'n awtomatig hyd at y taliad cychwynnol, fesul mis y’u dderbyniwyd

Image
Mae Siart 2 yn dangos llinell sy'n rhoi'r gyfres fisol o ganran y trafodiadau na symudodd ymlaen i’w cau yn awtomatig am y tro cyntaf heb i ACC weithredu yn ystod 2021-22 a 2022-23, fesul mis y cawsant eu derbyn, ochr yn ochr â llinell wastad sy'n cynrychioli targed o 2 bwynt canran. Mae'r llinell ar ei uchaf ar bron i 10% ym mis Rhagfyr 2021, gyda'r duedd gyffredinol wedyn yn ostyngiad araf, gan gyrraedd isafbwynt o 6% ym mis Mawrth 2023.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o 98% o'r trafodiadau yn cael eu prosesu’n awtomatig heb unrhyw gyffyrddiad â llaw. Mae hyn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a chyfateb yn awtomatig y taliadau a dderbynnir ar gyfer unrhyw drafodiadau lle mae atebolrwydd ariannol ac mae’n cynnwys TTT a TGT.

Mae'r siart hwn yn defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y trafodiadau na chawsant eu prosesu'n awtomatig yn gyffredinol wedi gostwng dros flwyddyn ariannol 2022-23, gan barhau â'r duedd a oedd hefyd yn amlwg yn y flwyddyn flaenorol. Mae gan y mesur hwn rywfaint o ffordd i fynd o hyd i gyrraedd targed cymharol uchelgeisiol, sy'n debygol o fod angen gwelliannau yn y cyfateb taliadau’n awtomatig sy'n cael eu hystyried gan ACC ar hyn o bryd.

Siart 3: Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd y tu hwnt i 30 diwrnod, fesul mis y daeth y trafodiadau i rym

Image
Mae Siart 3 yn dangos llinell sy'n rhoi’r gyfres fisol o ganran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd y tu hwnt i 30 diwrnod, fesul mis y daeth y trafodiadau i rym, yn ystod 2021-22 a 2022-23, ochr yn ochr â llinell wastad sy'n cynrychioli targed o 2 bwynt canran. Mae'r llinell wedi bod yn is na'r targed ers mis Mehefin 2021 ar wahân i fod ychydig dros y targed ym mis Rhagfyr 2021. Mae wedi bod ar duedd am i lawr yn fras, gan gyrraedd isafswm o ychydig o dan 1% ym mis Ionawr 2023.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o 98% mewn perthynas â derbyn ffurflenni TTT ar amser, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym.

Mae'r siart hwn yn defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y ffurflenni dreth a dderbyniwyd y tu hwnt i 30 diwrnod o'r dyddiad dod i rym wedi bod o fewn yr ystod darged ers mis Ionawr 2022, gyda thuedd gyffredinol ar i lawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn gyffredinol, gwellodd y mesur hwn yn ystod 6 mis diwethaf 2022-23, sy’n cyd-fynd â gostyngiad yn nifer gyffredinol y trafodiadau.

Siart 4: Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod, fesul mis y daeth y trafodiadau i rym

Image
Mae Siart 4 yn dangos llinell sy'n rhoi'r gyfres fisol o ganran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod, fesul mis y daeth y trafodiad i rym, yn ystod 2021-22 a 2022-23, ochr yn ochr â llinell wastad sy'n cynrychioli targed o 2 bwynt canran. Yn gyffredinol, mae'r llinell wedi gostwng dros y cyfnod o bron i 6% ym mis Ebrill 2021, gan gyrraedd y targed am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2023, gyda bowns bychan yn ôl ym mis Mawrth 2023.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o 98% mewn perthynas â derbyn taliadau yn erbyn ffurflenni TTT mewn pryd, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym.

Mae'r siart hwn yn defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad ac yn dangos bod canran y ffurflenni a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod o'r dyddiad dod i rym wedi gostwng yn gyffredinol dros y 2 flynedd ddiwethaf, i gyffwrdd â'n llinell darged ym mis Chwefror 2023. Mae'r gostyngiad hwn wedi cyd-daro ag ymdrechion ar draws y sefydliad a pharhaus i gefnogi trethdalwyr i atal a rheoli dyled.

Siart 5: Canran y dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd y tu hwnt i 30 diwrnod a 90 diwrnod, fesul mis y daeth y trafodiadau i rym

Image
Mae Siart 5 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol o ganran y dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd y tu hwnt i 30 diwrnod a thu hwnt i 90 diwrnod yn ystod 2021-22 a 2022-23, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli targed o 10 pwynt canran ar gyfer y mesur 30 diwrnod a 2 bwynt canran ar gyfer y mesur 90 diwrnod. Roedd uchafbwyntiau yn y ddau fesur ym mis Gorffennaf 2021 a mis Tachwedd 2022, fel arall yn gyffredinol mae'r llinellau wedi aros yn agos at neu'n is na'u llinellau targed priodol, heb dueddiadau clir am i fyny nac i lawr.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Ar gyfer pob trafodiad TTT sydd ag atebolrwydd ariannol nad yw'n cael ei gyflwyno a'i dalu o fewn 30 diwrnod, mae dyled yn cael ei chreu. Nod ACC yw casglu taliadau ar drafodiadau sy'n dod yn ddyled o fewn 30 diwrnod arall ac mae ganddo darged o gasglu 90% o'r dyledion hynny o fewn yr amserlen honno, yn ogystal â tharged o gasglu 98% o'r dyledion hynny o fewn amserlen 90 diwrnod. Mae trafodiadau a gaiff eu cyflwyno y tu hwnt i'r amserlenni hyn yn creu gogwydd yn y mesur hwn ac maent wedi'u heithrio o'r cyfrifiad. Yn hytrach, mae ACC yn dadansoddi'r achosion hyn ar wahân er mwyn sicrhau bod amserlenni cymharol yn cael eu cyflawni ar ôl eu derbyn.

Mae'r siart hwn yn defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad ac yn dangos bod dyledion a gasglwyd o fewn 30 diwrnod neu'n agos at yr ystod darged ar gyfer y rhan fwyaf o 2021-22 a 2022-23, gydag ambell i frig ym mis Gorffennaf 2021 a mis Tachwedd 2022 dan ddylanwad seibiannau dros dro ar gasglu a danfon post. Roedd brig mis Tachwedd 2022 yn cyd-daro â saib o ran rheoli’r post dros y Nadolig, gyda'r perfformiad yn dychwelyd yn gyflym i lefelau mwy normal fis yn ddiweddarach.

Ar gyfer y ddau fesur hyn, yn enwedig dyledion a gasglwyd y tu hwnt i 90 diwrnod, gall nifer y trafodiadau fod yn isel ac yn naturiol maent yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i ddwysau gan y gostyngiad yn y lefelau cyffredinol y dyledion a welwyd yn y siart blaenorol, ac mae'n bwysig ystyried y tueddiadau tymor hwy, sy’n weddol wastad yn y ddau achos.

Siart 6a: Nifer y diwrnodau a'r cyfartaledd i dalu ad-daliadau cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir, fesul mis y ceisiadau

Image
Mae Siart 6a yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i ddangos nifer misol ad-daliadau cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i ddangos nifer cyfartalog y diwrnodau o gyflwyno’r cais i dalu'r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos fesul mis y gofynnwyd am yr ad-daliad yn ystod 2021-22 a 2022-23. Gostyngodd y ddau fesur o uchafbwynt yn gynnar yn 2021-22 cyn sefydlogi rhwng 100-150 ar gyfer nifer yr ad-daliadau a rhwng 5-10 ar gyfer nifer cyfartalog y dyddiau a gymerwyd.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Siart 6b: Canran yr ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod a 60 diwrnod, fesul mis y ceisiadau

Image
Mae siart 6b yn dangos 2 linell sy'n rhoi'r gyfres fisol o ganran yr ad-daliadau cyfradd uwch a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod a thu hwnt i 60 niwrnod o ddyddiad y cais am yr ad-daliad, yn ystod 2021-22 a 2022-23. Ar wahân i frig ym mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2023, arhosodd y ddau fesur hyn yn agos at neu'n is na'u llinellau targed, heb dueddiadau clir am i fyny nac i lawr.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig.

Yn gyffredinol, pan fydd trethdalwr yn prynu prif breswylfa newydd heb werthu ei brif breswylfa flaenorol ar yr un pryd, maent yn ddarostyngedig i'r gyfradd uwch o TTT preswyl. Mae'r rhai sy'n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol.

Nod ACC yw talu’r ad-daliadau hyn, a elwir yn ad-daliadau cyfradd uwch, mewn modd mor amserol â phosibl, ac mewn unrhyw achos o fewn 30 diwrnod i dderbyn y cais. Bellach mae gennym werth tair blynedd o ddata ar y sail hon.

Mae'r ddau siart uchod yn dangos sut mae'r amser a gymerir i ad-dalu cyfraddau uwch wedi newid dros amser, a chyfran yr holl ad-daliadau sy'n cael eu talu o fewn 30 i 60 diwrnod.

Mae Siart 6a yn dangos bod yr amser cyfartalog a gymerwyd i brosesu ad-daliadau cyfraddau uwch wedi gostwng o uchafbwynt yn gynnar yn 2021-22, cyn sefydlogi rhwng 6 a 14 diwrnod. Roedd y sefydlogi hwn yn cyd-daro â gwelliannau i brosesau ac ad-drefnu adnoddau staff. Dangosir cyfran yr ad-daliadau y delir â nhw o fewn 30 diwrnod a 60 diwrnod yn siart 6b, sy'n defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad. Fel y gellid disgwyl, mae'r amser cyfartalog isel a gymerir i brosesu ad-daliadau yn arwain at amrywiad is yn y mesur hwn dros y 2 flynedd ddiwethaf, gyda dim ond ambell i frig. Yn gyffredinol, achosir y brigau hyn gan niferoedd bychain o achosion lle mae'r oedi yn aml oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei cheisio, ac ymateb araf y trethdalwyr.

Siart 7a: Diwrnodau cyfartalog i dalu ad-daliadau cyffredinol Treth Trafodiadau Tir, fesul mis y ceisiadau

Image
Mae Siart 7a yn dangos llinell sy'n rhoi cyfres fisol o'r diwrnodau cyfartalog i dalu ad-daliadau cyffredinol Treth Trafodiadau Tir, fesul mis y ceisiadau yn ystod 2021-22 a 2022-23. Gostyngodd y mesur hwn o uchafbwynt o bron i 100 diwrnod yn gynnar yn 2021-22, ac mae wedi sefydlogi o gwmpas 10 diwrnod ar gyfartaledd tua diwedd 2022-23.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig ond cyfeirir at y data yn yr adran Amseroldeb ad-daliadau ACC.

Siart 7b: Canran yr ad-daliadau cyffredinol Treth Trafodiadau Tir a dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod a 60 diwrnod, fesul mis y ceisiadau

Image
Mae Siart 7b yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol canran yr ad-daliadau cyffredinol a dalwyd y tu hwnt i 30 niwrnod a thu hwnt i 60 niwrnod o ddyddiad y cais am yr ad-daliad, yn ystod 2021-22 a 2022-23. Cyrhaeddodd y ddau fesur uchafbwynt ar 50% yn gynnar yn 2021-22, ond ers hynny maent wedi gostwng i amrywio rhwng 0% ac 20%, a llai na 10% tuag at ddiwedd 2022-23.

Ni ddangosir y siart hwn yn benodol yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig ond cyfeirir at y data yn yr adran Amseroldeb ad-daliadau ACC.

Roedd Cynllun Corfforaethol 2022-2025 ACC yn cynnwys ymrwymiad i ehangu ein hadrodd ar ad-daliadau i gynnwys ad-daliadau cyffredinol, ochr yn ochr ag ad-daliadau cyfradd uwch. Gallai'r ad-daliadau hyn fod yn berthnasol i daliadau dyblyg, hawliadau dilynol am ryddhad, neu ordaliad yn dilyn newidiadau yn y bandiau treth. Er mai ad-daliadau cyfradd uwch yw'r rhan fwyaf o'n had-daliadau, mae'r ad-daliadau mwy cyffredinol hyn i gyfrif am yr 20% sy'n weddill.

Mae'r adroddiad blynyddol yn esbonio pam nad ydym yn gosod targed ar gyfer yr ad-daliadau cyffredinol hyn, yn bennaf oherwydd heriau o ran cyfateb y ceisiadau am ad-daliad i'r ad-daliadau eu hunain. Fodd bynnag, rydym yn monitro'r data ac yn ei gyflwyno yma ar gyfer tryloywder.

Mae'r ddau siart uchod yn dangos sut mae'r amser a gymerir i wneud yr ad-daliadau cyffredinol hyn wedi newid dros amser (siart 7a), a hefyd y gyfran o'r holl ad-daliadau a delir o fewn 30 diwrnod ac o fewn 60 diwrnod (siart 7b, sy'n defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad).

Yn dilyn uchafbwynt yn gynnar yn 2021-22, pan oeddem yn delio â nifer hanesyddol uchel o ad-daliadau cyfradd uwch, mae canran yr ad-daliadau cyffredinol a ad-dalwyd y tu hwnt i 30 diwrnod wedi aros yn is nag 20%, gyda rhywfaint o amrywiad. Mae gwell perfformiad yn y 6 mis ers mis Hydref 2022 yn cyd-daro ag ACC yn prosesu ad-daliadau yn ymwneud â newid mewn bandiau treth, sydd fel arfer yn achosion mwy syml.

Siart 8: Canran y trafodiadau na chawsant eu talu'n gywir y tro cyntaf, fesul mis y daeth y trafodiadau i rym

Image
Mae Siart 8 yn dangos llinell sy'n rhoi cyfres fisol canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2021-22 a 2022-23. Mae'r llinell wedi bod ar duedd am i lawr yn gyffredinol drwyddi draw, gan ostwng o tua 8% i lai na 5% erbyn diwedd 2022-23.

Dangosir y siart hwn fel siart 1 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Gwasanaethau cyfrifo – cywir y tro cyntaf.

Nod ACC yw casglu mwy o wybodaeth ynglŷn â pha mor hawdd yw defnyddio ein gwasanaethau, ac mae ein Cynllun Corfforaethol 2022-2025 yn cynnwys mesur newydd er mwyn ceisio gwneud hynny. Dyma ganran y trafodiadau sy’n cael eu talu’n gywir y tro cyntaf, sy'n golygu’r rhai a delir yn llawn mewn un taliad. Rydym yn eithrio trafodiadau lle gwnaed diwygiad i'r dreth sy'n ddyledus gan ei fod yn effeithio ar nifer a lefel y taliadau am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â rhwyddineb defnyddio’n gwasanaethau.

Mae Siart 8, sy'n defnyddio'r dechneg gwrthwyneb a eglurir yn y cyflwyniad yn dangos sut mae'r achosion lle na thalwyd y trafodiadau’n gywir y tro cyntaf wedi gostwng yn gyffredinol, sy’n arwydd o gynnydd cadarnhaol yn y maes hwn.

Siart 9: Nifer y trafodiadau a chyfanswm y dreth yn risgiau TTT 1 i 5

Image
Mae Siart 9 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws risgiau treth 1 i 5, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau yn symud fwy neu lai yn gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, cyn gostwng eto yn 2022-23. Tua diwedd 2022-23 mae'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Dangosir y siart hwn fel siart 2 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Ein dull o reoli risg treth.

Gall ACC wneud dadansoddiad manwl o'r data a gynhwysir ym mhob trafodiad a dderbynnir er mwyn gwirio a yw’n cynnwys nodweddion amrywiol a allai awgrymu bod gwallau cyffredin neu risgiau yn y wybodaeth a ddarperir. Yna caiff pob un o'r 'risgiau treth' hynny eu dadansoddi ar wahân er mwyn nodi nifer y trafodiadau a’r dreth sydd mewn perygl, fel y gellir olrhain hyn dros amser. Mae’r bennod ar berfformiad yn yr adroddiad blynyddol yn esbonio mwy am ddull yr Awdurdod o reoli risgiau treth.

Rhoddwyd sylw i sawl maes risg treth ac rydym wedi adrodd ar y 5 prif risg treth yma Dangosir setiau data unigol ar gyfer pob un o'r ohonynt yn siartiau 10-14 isod, tra bod y siart hwn yn dangos cyfanrediad y data ar gyfer y 5 maes risg treth hynny hyd at a chan gynnwys data ar gyfer 2022-23. Mae data ar gael am 4 blynedd ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a’r dreth sydd mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde).

Rhennir y mesurau hyn ymhellach yn drafodiadau sy'n risgiau tebygol, lle mae gwaith wedi'i wneud i ddeall y risg bosibl, a risgiau aneglur, lle nad oes digon o wybodaeth ar hyn o bryd i benderfynu a oes risk ynghlwm â’r trafodiadau neu beidio. Gwnaed ymdrech gyson yn ystod 6 mis diwethaf 2022-23 i leihau nifer y risgiau aneglur, fel y gwelir yn y siart.

Yn dilyn cynnydd cyffredinol yn nifer y trafodiadau sydd yn y 5 risg treth hon fel y dangosir gan y llinell (echelin chwith) yn ystod 2020-21, bu i nifer y trafodiadau lefelu am y rhan fwyaf o 2021-22, ond gyda chynnydd o’r newydd yn chwarter olaf 2021-22. Yna dechreuodd y niferoedd hyn ostwng yn araf yn 2022-23, cyn gostwng yn sylweddol yn chwarter olaf 2022-23. Newidiodd gwerth cysylltiedig y dreth oedd mewn perygl yn y trafodiadau hynny a ddangosir gan y bariau (echelin dde) yn gyflymach na nifer y trafodiadau, yn bennaf oherwydd y codiadau diweddar yng ngwerth trafodiadau. Rhoddir mwy o eglurhad o’r data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Siart 10: Risg TTT 1 – cwmnïau'n prynu eiddo preswyl

Image
Mae Siart 10 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl o risg treth 1 (cwmnïau'n prynu eiddo preswyl), fesul chwarter o Ebrill 2018 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Gostyngodd nifer yr achosion, ac felly’r dreth mewn perygl, o niferoedd bach i sero yn ystod 2018-19, ac mae wedi aros yn sero ers hynny.

Siart 10a: Risg TTT 1a - gweithgaredd gweddilliol yn ymwneud â chwmnïau'n prynu eiddo preswyl

Image
Mae Siart 10a yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar gyfer gweithgarwch gweddilliol ynghylch risg treth 1 (cwmnïau'n prynu eiddo preswyl), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r mesurau hyn wedi aros fwy neu lai’n sefydlog, ac yn is nag 20 achos a £200k o risg treth y chwarter, ers iddynt ddod i'r amlwg o ddifrif yn gynnar yn 2021-22. Tua diwedd 2022-23 mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 9.

Yn dilyn gostyngiad parhaus yn 2019-20, lliniarwyd y risg gyffredinol. Fodd bynnag, mae rhywfaint o weithgarwch gweddilliol a ddechreuwyd yn 2020-21, y gellir ei briodoli i fath penodol o drafodiad, bellach yn cael ei ddangos ar wahân yn siart 10a. Gellir gweld bod y risg hon yn fach iawn yn gyffredinol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda nifer gyson o drafodiadau yn 2022-23, sy’n debyg i’r flwyddyn flaenorol, ond sy’n llai yn gyffredinol na rhai o'r risgiau eraill a gyflwynir yma.

Siart 11: Risg TTT 2 - ffurflenni treth heb eu dychwelyd

Image
Mae Siart 11 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth treth mewn perygl o risg treth 2 (ffurflenni treth heb eu dychwelyd), yn ól chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r mesurau hyn wedi parhau'n weddol sefydlog, gydag ambell fân uchafbwynt yn is na 30 achos a £300k o risg treth fesul chwarter ac ers Ebrill 2019.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 9.

Bu gostyngiad cyffredinol mewn trafodiadau yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o frig cynnar, i chwarter cyntaf 2020-21. Ers hynny, tyfodd y risg hyd chwarter cyntaf 2021-22, cyn gostwng ac yna sefydlogi dros y 2 flynedd nesaf. Effeithiwyd ar werth y dreth oedd mewn perygl gan ychydig o drafodiadau anghynrychioliadol mwy o faint dros y cyfnod a ddangosir ond mae'n olrhain nifer y trafodiadau ar gyfer y risg hon i gryn raddau. Yn gyffredinol, mae lefel y risg yn llai na rhai o'r risgiau eraill a gyflwynir yma.

Siart 12: Risg TTT 3 - anghytuno â'r gyfrifiannell TTT

Image
Mae Siart 12 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm y gwerth treth mewn perygl ar gyfer gweithgarwch gweddilliol ynghylch risg treth 3 (anghytuno â'r gyfrifiannell TTT), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r mesurau hyn wedi aros yn weddol sefydlog gydag uchafbwyntiau o lai na 30 achos a £300k o risg treth fesul chwarter. Yn ystod 2022-23 arhosodd achosion yn agos i ben isaf y raddfa a thuag at ddiwedd y flwyddyn mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 9.

Ers isafbwynt yn chwarter cyntaf 2020-21, cynyddodd yr achosion yn unol â nifer cynyddol y trafodiadau. Yn ystod 2021-22, arhosodd achosion yn weddol sefydlog ar wahân i ostyngiad bach yn chwarter 3, tra bod gwerth y dreth mewn perygl wedi cynyddu ychydig ar ddechrau 2021-22, cyn gostwng unwaith eto. Yn 2022-23, gostyngodd nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny yn y ddau chwarter cyntaf, cyn aros yn sefydlog ac yn isel dros y ddau chwarter nesaf. Yn gyffredinol, mae lefel y risg yn llai na rhai o'r risgiau eraill a gyflwynir yma.

Siart 13: Risg TTT 4 - triniaeth treth gwahanol fathau o eiddo

Image
Mae Siart 13 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl o risg treth 4 (triniaeth treth gwahanol fathau o eiddo), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau’n symud fwy neu lai’n gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf o bron i 100 o achosion a bron i £1.5m o risg treth yn chwarter olaf 2021-22. Ers hynny, bu gostyngiad amlwg yn 2022-23, a thua diwedd 2022-23 mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Dangosir y siart hwn fel siart 3 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Ein dull o reoli risg treth.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 9.

Dyma'r mwyaf o'r risgiau a drafodir o ran nifer y trafodiadau a gwerth cysylltiedig y dreth sydd mewn perygl sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hynny.

Ers y lefel isel yn gynnar yn 2020-21, bu cynnydd amlwg yn y niferoedd yn ail hanner 2020-21 a 2021-22, sy'n fwy na'r niferoedd y gellid eu disgwyl wrth i nifer cyffredinol y trafodiadau gynyddu, sy'n awgrymu cynnydd yn y risg ei hun. Dilynodd gwerth y dreth oedd mewn perygl batrwm tebyg, er bod gwerthoedd cynyddol y trafodiadau’n effeithio ar y data hefyd, gyda'r ffigur yn chwarter 4 2021-22 yr uchaf a welwyd hyd yma o gryn dipyn.

Ar ôl yr brig hwn, sefydlogodd nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus yn y risg hon ar gyfer 3 chwarter cyntaf 2022-23, cyn gostwng yn sylweddol yn y 4ydd chwarter. Roedd hyn yn cyd-daro â gostyngiad sylweddol yn nifer cyffredinol y trafodiadau, ond hyd yn oed ar ôl ystyried hynny mae lefel y risg wedi gostwng. Mae'r gostyngiad hwn mewn risg wedi cyd-daro â newidiadau a wnaed i'n system dreth er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am y trafodiadau ac ymdrechion ychwanegol i addysgu asiantau trethdalwyr.

Siart 14: Risg TTT 5 - yn ymwneud â rhyddhad penodol (rhyddhad a) 

Image
Mae Siart 14 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl o risg treth 5 (yn ymwneud â rhyddhad penodol a), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau yn symud fwy neu lai’n gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf o 50 achos a thros £0.5m o risg treth yn chwarter olaf 2021-22. Ers hynny, bu gostyngiad yn 2022-23, a thua diwedd 2022-23, mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Dangosir y siart hwn fel siart 4 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Ein dull o reoli risg treth.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 9.

Cododd nifer y trafodiadau mewn perygl ers dechrau 2021-22, yn unol yn fras â'r cynnydd mewn trafodiadau cyffredinol, er bod y cynnydd yn hanner olaf 2021-22 yn fwy serth na'r disgwyl, sy’n awgrymu cynnydd yn y risg ei hun. Yna gostyngodd y nifer yn chwarter cyntaf 2022-23, sefydlogi am gyfnod, cyn gostwng eto yn chwarter olaf 2022-23. Fel gyda'r risg flaenorol, roedd hyn yn rhannol oherwydd gostyngiad cyffredinol yn y trafodiadau, ond hefyd oherwydd gostyngiad yn y risg ei hun, oedd yn cyd-daro ag ymdrechion addysg ychwanegol gydag asiantau trethdalwyr a chasglu mwy o wybodaeth am y trafodiadau.

Mae gwerth y dreth mewn perygl yn dilyn patrwm tebyg, er bod gwerthoedd cynyddol trafodiadau’n effeithio ar y data hefyd, gyda'r ffigurau yn chwarteri 3 a 4 2021-22 a chwarter 3 2022-23 yr uchaf o gryn dipyn a welwyd hyd yma.

Siart 15: Nifer a gwerth achosion lle cafodd TTT ei ddiogelu 

Image
Mae Siart 15 yn defnyddio 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm yr achosion o TTT sydd wedi'u datrys ac achosion o TTT sydd wedi’i diogelu’n llwyddiannus, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a ddiogelwyd fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Roedd nifer yr achosion a gafodd eu datrys ac a oedd yn llwyddiannus yn debyg iawn, ac ar ôl niferoedd isel yn 2020-21 a 2021-22, cynyddodd yn sylweddol yn 2022-23 i dros 10 achos y chwarter. Roedd lefel y dreth a ddiogelwyd yn dilyn tuedd debyg, ar ei uchaf ar bron i £200,000 yn nhrydydd chwarter 2022-23.

Dangosir y siart hwn fel siart 6 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Ein dull o reoli risg treth.

Dros flwyddyn ariannol 2022-23 buddsoddodd ACC fwy o ymdrech i ddiogelu treth. Mae hyn lle mae trethdalwyr wedi cyflwyno diwygiad am i lawr i’r dreth sy'n ddyledus ar ffurflen dreth, ond lle rydym ni’n credu eu bod yn anghywir i wneud hynny. Mewn achosion o'r fath, gallwn agor ymholiad ac fel arfer rydym yn llwyddo i ddiogelu treth a fyddai fel arall wedi cael ei had-dalu'n amhriodol.

Mae gwerth treth yr achosion hyn yn aml yn amrywiol iawn ac yn cael eu heffeithio gan drafodiadau unigol mawr. Fodd bynnag, mae siart 15 yn dangos cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch yn y gofod hwn yn 2022-23, gyda bron pob achos yn arwain at ddiogelu'r TTT a gafodd ei ystyried yn ddyledus yn wreiddiol.

Siart 16: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd TTT ei adennill neu ei ddychwelyd

Image
Mae Siart 16 yn defnyddio 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y niferoedd lle cafodd TTT naill ai ei hadennill neu ei dychwelyd, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a gafodd naill ai ei hadennill neu ei dychwelyd, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae nifer yr achosion lle cafodd y deth ei hadennill, a gwerthoedd cysylltiedig y dreth wedi bod yn amrywiol ond gydag amrywioldeb is yn y chwarteri diweddarach o gwmpas cyfartaledd o 40 achos a £250-400k o dreth wedi’i hadennill ym mhob un. Roedd y mesurau'n ymwneud â threth a ddychwelwyd yn is yn gymharol, ac ar ôl bod yn gyson rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022, gwnaethant gynyddu ychydig yn 2022-23.

Dangosir y siart hwn fel siart 5 yn yr Adroddiad Blynyddol cysylltiedig, a chyfeirir at y data yn yr adran Ein dull o reoli risg treth.

Ar gyfer achosion sy'n cwympo i'r risgiau a nodwyd yn y siartiau uchod, bydd ACC yn aml yn agor ymholiad i'r ffurflen TTT, a all arwain at ddiwygiad, am i fyny fel arfer, i'r ffurflen dreth. Yn yr achosion hyn, rydym yn cyfeirio at y term adennill treth er mwyn tynnu sylw at werth y diwygiadau am i fyny hynny. Rydym hefyd yn defnyddio'r term treth a ddychwelwyd pan fydd naill ai ymholiad neu ymchwiliad llai ffurfiol yn awgrymu gordaliad treth, sydd wedyn yn cael ei ad-dalu.

Mae adennill trethi wedi bod yn amrywiol hyd yma sy'n tynnu sylw at natur amrywiol yr achosion rydym wedi gweithio arnynt ers 2019. Yn y flwyddyn gyntaf honno, buom yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion mwy amlwg o risg treth, a oedd yn gymharol hawdd i'w datrys. Ar ôl cau'r risgiau hynny ers hynny trwy ddiwygio ein system, rydym wedi canolbwyntio ar wahanol risgiau sydd wedi sefydlogi’n gyffredinol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a thua £1.2m wedi’i adennill yn 2022-23.

Bu cynnydd bychan yn y dreth a ddychwelwyd yn 2022-23, yn bennaf o ganlyniad i fynd i'r afael ag achosion lle'r oedd trethdalwyr wedi gordalu treth yn dilyn y newid yn y cyfraddau treth ym mis Hydref 2022. Cyn hynny roedd y dreth a ddychwelwyd wedi bod yn eithaf sefydlog.