Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Ruth Glazzard

Rwy'n falch iawn o gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022 hyd 23.

Deuthum yn Gadeirydd ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn a hyd yn oed yn yr amser byr hwnnw rwyf wedi cael fy synnu gan faint o newid rydym wedi'i weld fel sefydliad ac yn yr economi’n ehangach. Mae ymrwymiad a gwaith caled holl dimau ACC hefyd wedi creu argraff ddofn arnaf mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus. Diolch i'm rhagflaenydd, Kathryn Bishop, mae ACC ar seiliau cadarn. Yn sgil arweinyddiaeth Kathryn, datblygodd ACC i fod yn sefydliad arloesol, cydweithredol, a charedig. Roeddwn i’n awyddus i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod ei chyfraniad fel ein Cadeirydd cyntaf.

Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio a dathlu'r cynnydd a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hefyd yn ein helpu i ystyried rhai o'r cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o lwyddiant parhaus ACC dros y flwyddyn sydd i ddod.

Ruth Glazzard 
Cadeirydd ACC

Adroddiad ar Berfformiad: Trosolwg y Prif Weithredwr

Image
Dyfed Alsop

Ar ddiwedd 2022 hyd 2023 fe wnaethom basio’r garreg filltir o 5 mlynedd. Mae'n anodd credu ein bod wedi bod yn gweithredu am gyhyd! 2022 hyd 2023 hefyd oedd y flwyddyn gyntaf o gyflawni ein cynllun corfforaethol newydd. Mae'r 2 beth yma’n arwydd ein bod yn aeddfedu fel sefydliad; yn sefydlog, ac yn dal i esblygu a gweithio ar bethau newydd.

Wrth i ni symud ymlaen o COVID-19, mae ein cyd-destun wedi parhau i fod yn heriol mewn ffyrdd annisgwyl. Mae'r argyfwng costau byw wedi ei gwneud yn bwysicach nag erioed i ni fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill. A fel ceidwaid arian cyhoeddus, mae’n bwysig ein bod yn parhau i reoli ein cyllidebau'n effeithiol. Rwy'n falch o adrodd ein bod wedi rheoli ein cyllideb o fewn llai nag 1% o danwariant o'n dyraniad y cytunwyd arno y llynedd, sef ein perfformiad gorau hyd yma. Rydym hefyd wedi gwneud gwelliannau i'n proses ddyledion, wedi darparu gwell cefnogaeth i'r rhai sydd mewn dyled, ac wedi gweithio i ddod o hyd i ffyrdd o atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae’n wych gweld bod ein pobl yn dal i deimlo bod ACC yn lle da i weithio, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn ein bod yn dal i fod yn un o’r 3 sefydliad sydd â’r sgôr uchaf yn Arolwg Pobl Gwasanaeth Sifil y DU.

Rydym yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth, ac yn cydweithio â threthdalwyr ac asiantau ar draws Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Treth Gwarediadau Tir (TGT). Mae'r cymorth rydym yn ei roi, a'r newidiadau rydym yn eu gwneud i'n systemau a'n prosesau i gyd yn helpu i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu, y tro cyntaf. Allwn ni ddim gwneud i'r system weithio'n effeithiol ar ein pen ein hunain a dyna pam ein bod ni mor falch o weld cynnydd yn y defnydd o'n gwasanaeth opiniwn treth eleni. Rydym yn croesawu'r ymgysylltiad hwn â threthdalwyr ac asiantau sy'n dod â'n hegwyddor 'Cadarnhau' yn fyw.

Fe wnaethom barhau i ddatblygu ein prosiect profi a dysgu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y defnydd o’r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi TGT. Rydym wedi cyrraedd cerrig milltir sylweddol eleni, gan gynnwys codi a chasglu treth o'n hachosion cyntaf, a phob un wedi'i anelu at newid ymddygiad ynghylch gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Rwy'n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad hwn a dysgu mwy amdanom ni. Rwy’n edrych ymlaen at 2023 hyd 2024, wrth i ni barhau i ddarparu system dreth deg i Gymru a chefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu trethi a gwasanaethau refeniw newydd.

Dyfed Alsop, 
Prif Weithredwr ACC

Amdanom ni

Rydym yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru a ffurfiwyd yn 2017.

Rydym yn sefydliad bychan a medrus sy’n cyflogi dros 80 o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol, ac rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig:

  • Telir TTT pan fyddwch yn prynu neu'n prydlesu adeilad neu dir am fwy na phris penodol
  • Telir TGT pan waredir gwastraff mewn safle tirlenwi neu rywle arall

Drwy gydweithio â threthdalwyr a’u cynrychiolwyr, gyda sefydliadau partner a’r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu'n deg, yn effeithlon ac yn effeithiol.

Ein hamcanion strategol

Yr amcanion canlynol sy’n sail i’n Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025:

  • ei gwneud hi'n hawdd talu'r dreth gywir
  • sicrhau ein bod yn deg
  • datblygu ein gallu
  • bod yn effeithlon

Mae ein cynllun corfforaethol yn egluro sut rydym wedi gwella'n barhaus er mwyn datblygu ein mesurau llwyddiant. Mae llywio’r tensiynau sydd rhwng ein 4 amcan yn cael ei gefnogi gan ein ffordd Gymreig o drethu, a hynny mewn partneriaeth, ac er budd pobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

Ein pobl

Mae ein diwylliant cydweithredol, arloesol a charedig yn ennyn lefelau uchel o ymgysylltu, o ddysgu parhaus ac o gynhwysiant. Mae cael pobl alluog sy’n mwynhau eu gwaith yn arwain at ragoriaeth yn ein gwasanaethau o ddydd i ddydd ac yn creu atebion sydd yn addas ar gyfer y dyfodol. Trwy weithio gyda'n gilydd fel gweithwyr proffesiynol sydd ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol, rydym mewn sefyllfa wych i gyflawni amcanion beiddgar ac uchelgeisiol er budd ein rhanddeiliaid.

Ein dull: cydweithio

Mae defnyddio dull sy’n cael ei arwain gan bartneriaethau yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Mae ‘Ein Dull’ gweithredu yn ffordd Gymreig o drin treth. Dyma beth sy’n llywio popeth a wnawn.

Drwy gydweithio’n agored gyda'n holl randdeiliaid rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu a'u rheoli mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg ac sy'n sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae ein hamcanion ac Ein Dull yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Crynodeb o berfformiad

Crynodeb o berfformiad ACC 2022 i 2023
Dangosydd perfformiadAmcanTarged/Nod 2025Perfformiad 2022-2023
Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni

Hawdd

Teg

Medrus

Bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethauMae ychydig o dan 92% o bobl yn ei chael hi’n hawdd defnyddio ein gwasanaethau.
Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir

Hawdd

Teg

Effeithlon

Bod pobl yn cael eu trethi'n gywirRoedd bron i 98% o'r trafodiadau yn gywir y tro cyntaf, gostyngiad bychan o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Lleihau'r posibilrwydd o risgiau treth

Hawdd

Teg

Effeithlon

Lleihau pob risg treth yn unigolBu gostyngiad yn nifer yr achosion risg treth yn ystod y flwyddyn ariannol, gyda gostyngiad sylweddol o'r brig a welwyd ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

Amseroldeb:

a) Ffeilio

b) Talu

c) Ad-daliadau

Effeithlon

Haws

Teg

a) 98%

b) 98%

(c) 95% (100%) wedi'u prosesu mewn 30 (60) diwrnod neu lai

a) Bron i 99%, uwchlaw’r targed ar gyfer y flwyddyn gyfan, gyda chynnydd bychan tua’r diwedd.

b) Bron i 97%, cynnydd ffiniol dros y flwyddyn ariannol, gan agosáu at yr ystod darged, ac yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ar y cyfan.

c) Cafodd dros 95% o achosion eu prosesu o fewn 30 diwrnod, ac mae’r ffigwr wedi bod yn agos i, neu’n uwch na, 95% dros y 2 flynedd ariannol ddiwethaf, gan amlygu bod sefydlogrwydd hirdymor o ran y mesur hwn.

Cafodd dros 99% o achosion eu prosesu o fewn 60 diwrnod, gyda chynnydd bychan dros y flwyddyn gyfan.

Amseroldeb o ran trin dyledionTeg90% o ddyledion wedi’u talu o fewn 30 diwrnod i'w creu, a 98% o fewn 90 diwrnod

Talwyd bron i 91% o'r trafodiadau a oedd mewn dyled o fewn 30 diwrnod iddynt fynd i ddyled, gan amrywio o gwmpas yr ystod darged yn ystod y flwyddyn.

Talwyd bron i 97% o'r trafodiadau a aeth yn ddyled o fewn 90 diwrnod.

Taliadau yn gywir y tro cyntafHawddCynyddu’r nifer o daliadau a wneir yn gywir y tro cyntafRoedd bron i 95% o'r taliadau a wnaed yn gywir y tro cyntaf, ychydig yn uwch dros y 2 flynedd ddiwethaf.
Y graddau y ceir awtomeiddioEffeithlon98% o'r trafodiadau wedi’u cwblhau heb fod angen ymyrraeth â llawNid oedd angen ymyrraeth ar dros 92% o'n trafodiadau, gyda thuedd gadarnhaol drwy'r flwyddyn.
Sut mae ein pobl yn teimloMedrusYn y 25% uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiadRoeddem yn y 3 uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr yn 2022.
Ein cymysgedd sgiliauMedrusCynnal ehangder ein proffesiynau a datblygu ein sgiliau Cymraeg

Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi pobl o 14 o wahanol broffesiynau.

Mae 80% yn gallu rhywfaint o Gymraeg o leiaf.

14% yn rhugl neu'n agos at fod yn rhugl.

AmrywiaethMedrusBod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi pobl ac yn eu cynnwys, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadauYn ein Harolwg Pobl blynyddol, dywedodd 93% o'n pobl ein bod yn sefydliad teg a chynhwysol - y sgôr uchaf a gofnodwyd yn 2022 ar gyfer y Gwasanaeth Sifil.

Rydym wedi parhau i harneisio ein ffyrdd llwyddiannus o weithio trwy gynnal lefelau ymgysylltu uchel â’n gweithwyr, trwy hyrwyddo triniaeth gyfartal a thrwy gefnogi ein pobl i fod yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol, fel yr eglurir yn ein dadansoddiad o berfformiad ac yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a phobl.

Fel y nodwyd yn ein cynllun corfforaethol, rydym yn adolygu trefniadau gweithio hybrid, yn datblygu ein mesurau o amgylch sgiliau, ac yn parhau i ddysgu, gwneud penderfyniadau ystyriol a dod yn fwy cynaliadwy.

Mae ein datganiad data TTT blynyddol yn cynnwys y data manwl (cyfredol a hanesyddol) ar gyfer y dangosyddion mwy cymhleth.

Dadansoddiad o berfformiad

Eleni, roedd nifer y trafodiadau a oedd yn ddarostyngedig i’r DTT yn is na’r cyfartaledd, gydag ychydig llai na 60,000 ohonynt. Mae hyn yn adlewyrchu’r gostyngiad a welwyd yng ngwerthiant tai yn chwarter olaf y flwyddyn, yn dilyn y cynnydd sylweddol a welwyd y flwyddyn flaenorol, wrth i'r farchnad adfer yn sgil pandemig COVID-19.

O ran TGT, gwaredwyd dros 1 miliwn tunnell o wastraff mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru, ychydig mwy na’r flwyddyn flaenorol. Cafodd ychydig llai na hanner hyn ei waredu ar gyfradd is y DGT, gyda thraean arall wedi’i waredu ar y gyfradd safonol, a’r gweddill wedi’i waredu o dan rhyw fath o ryddhad.

Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o drethdalwyr eisiau talu'r swm cywir ar yr adeg iawn. Ein dull yw cydweithio â threthdalwyr ac asiantau er mwyn creu amgylchedd sy’n galluogi pobl i wneud hyn.

Eleni, fe wnaethom adolygu ein dull o ymdrin â risg treth. Cafwyd gwybodaeth o’r adolygiad sydd wedi arwain at wella effeithlonrwydd, a nodwyd meysydd yr ydym yn awyddus i’w datblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf. Casgliad yr adolygiad oedd y dylem barhau i ddilyn ein dull gweithredu.

Buddsoddi adnoddau er mwyn lliniaru risg treth

Mae ein gwaith i liniaru risg treth yn darparu cymorth ac addysg sy’n helpu trethdalwyr ac asiantau i gael eu trethi’n gywir ar y cynnig cyntaf.

Roeddem yn gweld bod mwy a mwy o drethdalwyr yn dod atom yn uniongyrchol ar gyfer rhyddhad anheddau lluosog (MDR) yn hytrach na defnyddio asiant. Felly bu i ni ddiwygio’r iaith yn ein ffurflenni a chynnwys testun cymorth er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch.

Gan fod MDR yn faes lle'r oedd pobl yn gwneud camgymeriadau, rydym wedi gwneud y newidiadau canlynol er mwyn lliniaru hyn:

  • newid y system dreth a'r ffurflen diwygio MDR er mwyn gofyn mwy o gwestiynau ac i ddarparu mwy o destun cymorth. Mae hyn yn helpu trethdalwyr i asesu eu hunain er mwyn gweld a ydynt yn gymwys i gael MDR neu ddim.
  • datblygu cyfrifiannell MDR er mwyn helpu trethdalwyr ac asiantau i gyfrifo treth
Image
Eicon o gyfrifiannell glas gyda thestun: ‘Mae ein cyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog (MDR) wedi cael ei gyrchu dros 26,000 o weithiau eleni yn barod.’

Roedd tua chwarter yr hawliadau MDR yn anghywir, a hynny oherwydd nad oedd y trethdalwr yn gymwys i dderbyn MDR. Hefyd, roedd yr hawliadau hyn yn anodd eu gwirio oherwydd diffyg gwybodaeth, ac yn aml roedd angen mwy o wybodaeth er mwyn gwirio'r hawliad. Roedd hyn yn faich ar y trethdalwr ac arnom ninnau. Bellach, llai nag 1 rhan o 5 o hawliadau a diwygiadau MDR sydd yn anghywir, ac nid oes angen i ni fynd yn ôl ac ymlaen er mwyn cael mwy o wybodaeth pan fyddwn yn gwneud gwiriadau. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy effeithlon i drethdalwyr ac i ninnau hefyd.

Rydym wedi parhau i feithrin ein gallu o fewn meysydd risg treth eraill ein pobl, ein trethdalwyr a’n hasiantau. Er enghraifft, rydym wedi cynhyrchu canllawiau cyflym, wedi mireinio ein harweiniad ac wedi rhoi mwy o gymorth testun yn ein ffurflenni a'n ffurflenni treth er mwyn cyfeirio trethdalwyr ac asiantau yn well.

Rydym yn siomedig na lwyddom i ailgychwyn gweminarau a'r fforymau treth eleni fel yr oeddem wedi gobeithio, a hynny oherwydd adnoddau. Fodd bynnag, gwnaethom sefydlu 6 gweminar ym mis Ebrill 2023. Byddwn yn defnyddio'r rhain i ofyn am adborth gan ddefnyddwyr o ran pa bynciau eraill yr hoffent gael hyfforddiant ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio a chefnogi trethdalwyr ac asiantau eto yn y modd hwn.

Mae ein desg gymorth ddwyieithog yn parhau i gynnig gwasanaeth lefel uchel i gwsmeriaid, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chyfarwyddyd yn hyderus er mwyn cyfeirio cwsmeriaid at yr offer a'r arweiniad perthnasol. Pan fo trafodiadau angen rhagor o gyngor technegol, mae llwybrau uwchgyfeirio amlwg tuag at arbenigwyr treth. Bu 61 uwchgyfeiriad o'r ddesg gymorth at arbenigwyr technegol TTT rhwng mis Tachwedd 2022 (pan ddechreuom gasglu'r data hwn) ac Ebrill 2023.

Rydym yn falch o fod wedi rhoi sawl opiniwn treth yn ystod y flwyddyn, ac rydym yn croesawu'r defnydd o'r gwasanaeth hwn. Mae'r defnydd hwn o'n desg gymorth a'n gwasanaeth opiniwn treth yn enghraifft dda o drethdalwyr ac asiantau yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn cael treth yn gywir.

Image
Eicon o dŷ gwyrdd gyda thestun: ‘Roedd bron i 98% o'r trafodiadau TTT yn gywir y tro cyntaf, a chyflawnwyd hynny trwy gydweithio â threthdalwyr ac asiantau.’

Defnyddir dull tebyg gyda'r DGT. Ond oherwydd bod llai o drethdalwyr, ac oherwydd natur gylchol ein perthynas â nhw, rydym yn neilltuo Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) pwrpasol i weithio'n agos gyda'r Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi. Mae ein partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn golygu ein bod ni a’r Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi yn derbyn y cymorth gorau o ran gwastraff arbenigol yn ogystal â’u harbenigedd amgylcheddol.

Rydym yn falch iawn o fod wedi ailddechrau ein hymweliadau safle ar gyfer Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi eleni gan nad oeddem wedi gallu gwneud hyn yn ystod COVID-19. Mae'r rhain wedi llwyddo i dynnu sylw at broblemau posibl ac wedi caniatáu i ni fynd i'r afael â nhw a’u datrys gyda’r Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi yn y fan a’r lle.

Dywedodd un o'n Rheolwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid:

"Mae wedi bod yn wych cael mynd yn ôl allan eto i glywed y diweddaraf, i weld beth sydd wedi bod yn digwydd gyda'r safle, ac i ddod i adnabod personél newydd. Mae hyn oll wedi ein helpu i ddeall y problemau posib ac mae wedi ailfywiogi ein perthynas gyda'r Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi".

Gwasanaethau cyfrifo – cywir y tro cyntaf

Dim ond un rhan o’r darlun yw cael trafodiadau ariannol yn gywir y tro cyntaf. I gwblhau’r llun, mae angen cyflwyno'r ffurflen dreth ar yr adeg gywir a thalu’r dreth ddyledus ar yr adeg gywir.

Image
Eicon o gloc gwyrdd gyda thestun: ‘Mae prydlondeb ffeilio wedi aros yn uwch na'r targed o 98% trwy gydol y flwyddyn hon, gyda bron i 99% o ffurflenni treth wedi’u derbyn o fewn 30 diwrnod ar gyfartaledd.’

Mae amseroldeb taliadau wedi aros yn agos at y targed o 98%, er ychydig islaw’r targed ar y cyfan, ond gyda thuedd ar i fyny o fis Mehefin 2022. Ar gyfartaledd, cafodd bron i 97% o'r ffurflenni treth eleni eu talu o fewn 30 diwrnod.

Yn unol â'n cynllun corfforaethol, rydym hefyd wedi datblygu dangosydd newydd ar gyfer mesur ein nod o gynyddu’r nifer o daliadau sy’n gywir y tro cyntaf.

Mae'r dangosydd hwn yn mesur pa gyfran o’r ffurflenni TTT sydd wedi’u setlo ac a oedd ond angen taliad.

Mae Siart 1 yn cyflwyno hyn fel canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf, gan ei bod yn haws gweld yr amrywiad fel hyn. Mae’n dangos tuedd tuag at i lawr dros 2021-2022 a 2022-2023 o ran trafodiadau sydd ddim yn cael eu talu’n gywir, gyda chyfartaledd o ychydig dros 5% ddim wedi’u setlo mewn un taliad yn ystod 2022-2023.

Siart 1: Canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Image
Mae Siart 1 yn dangos llinell sy'n rhoi cyfres fisol canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2021-22 a 2022-23. Mae'r llinell wedi bod ar duedd am i lawr yn gyffredinol drwyddi draw, gan ostwng o tua 8% i lai na 5% erbyn diwedd 2022-23.

Dyled

Pan na dderbynnir taliad TTT o fewn 30 diwrnod i'r trafodiad, bydd yn troi’n ddyled. Yn ystod 2022 i 2023, casglwyd ychydig dros 90% o'r dyledion hyn yn llwyddiannus o fewn 30 diwrnod arall, gyda'r ffigwr yn uwch na 90% mewn 7 o'r 12 mis. Cafodd bron i 97% o'r dyledion hyn eu casglu o fewn 90 diwrnod iddynt ddod yn ddyled.

O bryd i'w gilydd, disgynnodd y gyfradd gasglu fisol yn is na 90%, ac yn is na 80% ar un achlysur, a hynny oherwydd ataliwyd y prosesau casglu dros y Nadolig. Dychwelodd perfformiad at lefelau mwy arferol ym mis Ionawr.

Yn gyffredinol, gostyngodd nifer yr achosion o ddyled y mae’r dangosydd yma’n mesur yn ei erbyn tua diwedd y flwyddyn.

Mae hyn yn dilyn amseriad cyflwyno ein gwelliannau i osgoi achosion yn mynd i ddyled yn y lle cyntaf. Er y dylid croesawu’r datblygiad hwn, mae’n debygol y bydd yn arwain at fwy o amrywiad yn nhueddiadau'r dyfodol oherwydd effeithiau nifer fach.

Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi ymrwymo adnoddau sylweddol er mwyn:

  • gwella'r broses ddyledion
  • darparu gwell cefnogaeth i'r trethdalwyr hynny sydd mewn dyled
  • dod o hyd i ffyrdd o atal dyledion rhag digwydd yn y lle cyntaf

Er nad oedd canran fawr o’n trethdalwyr mewn dyled, roeddem yn awyddus i helpu trethdalwyr i osgoi mynd i ddyled trwy:

  • fapio'r broses ddyledion a nodi pa brosesau a y gellid eu symleiddio er mwyn gwella pethau ar gyfer y trethdalwr
  • parhau i gydnabod lle mae angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol ar drethdalwyr bregus, a defnyddio hyn i addasu ein harddull cyfathrebu i sicrhau eu bod yn deall y sefyllfa a beth oedd angen iddynt ei wneud
  • sefydlu prosesau clir i'w wneud yn haws i arwain trethdalwyr trwy’r broses ddyledion
  • awtomeiddio sut yr ydym yn cyfrifo llog ar ddyledion. Mae hyn yn darparu ffigwr dyled sy’n gywir a’n gyfredol i drethdalwyr a’u hasiantau trwy wasgu botwm.

Enghreifftiau o sut rydym wedi gwella ein proses ddyledion

Ar ôl darganfod y gallai nifer o’r llythyron a ddanfonwyd i drethdalwyr fod wedi achosi dryswch, gwnaethom ddiwygio ein llythyrau a'n prosesau. Er enghraifft, i ddanfon un llythyr i bob cartref (os ydynt yn byw yn yr un cyfeiriad) yn hytrach na danfon sawl llythyr ynghylch y ddyled at nifer o wahanol bobl.

Dechreuon ni alw’r trethdalwr yn gynharach (ar ddiwrnod 31, pan fo’r atebolrwydd treth yn troi’n ddyled). Mae hyn yn galluogi trethdalwyr i dalu ac i leihau'r llog sy'n ddyledus. Ers cyflwyno hyn rydym wedi gweld bod trethdalwyr wedi bod yn talu'n gynharach yn y broses.

Cafodd llythyr 'diwrnod 22' ei dreialu hefyd gyda’r nod o atal dyled. Gwelwyd bod hyn yn annog trethdalwyr i dalu ar amser, o fewn 30 niwrnod. Ein nod yw cyflwyno hyn dros 2023 i 2024.

Amseroldeb ad-daliadau ACC

Ochr arall y geiniog i ddyled yw pa mor gyflym yr ydym yn gwneud ad-daliadau.

Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan nad yw eiddo a brynir gennych yn dod yn brif breswylfa i chi yn syth, rydych yn talu cyfradd uwch o TTT. Os byddwch yn gwerthu eich prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd ac mae’r eiddo newydd yn dod yn brif breswylfa i chi, fel arfer gallech hawlio ad-daliad o elfen cyfraddau uwch y dreth a dalwyd. Ein nod yw lleihau faint o amser y mae'n ei gymryd i wneud ad-daliadau ar ôl eu cymeradwyo.

Eleni gwnaethom dalu dros 95% o’r ad-daliadau cyfradd uwch o fewn 30 diwrnod o dderbyn yr hawliad. Mae hyn o fewn ein hystod darged o 95% i 100%. Dros y cyfnod hwnnw, yr amser a dreuliwyd ar gyfartaledd oedd 7 diwrnod.

Gostyngodd y perfformiad ychydig yn is na 95% mewn 3 o'r 12 mis, ond mae'n werth nodi bod o leiaf 98% o achosion wedi'u talu o fewn 60 diwrnod ar gyfer pob un o'r 12 mis. Yn y rhan fwyaf o achosion lle na chafodd y targed ei gyrraedd, roedd hynny’n aml oherwydd ein bod yn aros am ragor o wybodaeth gan y trethdalwr. Oherwydd hyn, credwn fod yr agwedd hon ar ein gwasanaeth ad-dalu yn gweithio'n effeithlon ac yn deg.

Ad-daliadau eraill

Mae ein Cynllun Corfforaethol 2022 hyd 2025 yn cyfeirio at berfformiad ar bob ad-daliad, nid y rhai sy'n gysylltiedig â chyfraddau uwch yn unig. Er mai’r cyfraddau uwch sy’n cyfrif am oddeutu 80% o'r holl ad-daliadau, mae'r 20% arall o achosion yn bwysig i ni hefyd.

Mae’r 20% o ad-daliadau yn amrywiol iawn. Er enghraifft:

  • gellir ad-dalu treth os darganfyddir gwall sy’n arwain at leihau’r dreth ar drafodiad
  • weithiau bydd taliad dwbl am drafodiad
  • weithiau derbynnir arian a oedd i fod ar gyfer corff arall, fel CThEM

O ganlyniad, rydym yn agor achosion o wahanol fathau er mwyn ymdrin ag ad-daliadau. Weithiau bydd sawl ad-daliad gwahanol i un trethdalwr, ac mae angen i ni agor achos ar gyfer pob ad-daliad. Ar adegau eraill, bydd llawer o wahanol achosion ar agor ar gyfer un trafodiad penodol, a gallent ymwneud â phethau y mae angen i ni archwilio, nid yn unig ad-daliadau.

Mae hyn yn ei wneud yn anodd iawn gwirio’r amser a gymerir i wneud yr ad-daliadau unigol hyn. Nid yw’r her yma’n bodoli ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch gan mai un math o achos sydd, a hynny’n caniatáu i ni uno’r data.

Gallwn greu sampl o drafodiadau sydd ag un achos ac un ad-daliad yn bresennol. Gellid defnyddio hyn i fesur amseroedd cyfartalog ar gyfer pob achos o ad-dalu sydd ddim yn un cyfradd uwch.

Gwnaethom hyn ac mae ein sampl yn cynnwys tua 2 ran o 3 o'r ad-daliadau, ac o leiaf 40% o unrhyw fis penodol. Felly mae'n addas ar gyfer monitro mewnol er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn effeithlon ac yn deg yn ein dull. Gyda hyn rydym wedi cynnwys adolygiad o’n cwynion i sicrhau ein bod yn cwrdd â’r disgwyliadau ynghylch amserau ad-dalu. Er tryloywder, rydym wedi cynnwys y sampl yn ein hatodiad.

O ystyried y duedd yn y sampl hon a bod rhai mathau o achosion yn gallu bod yn symlach nag eraill, a’u bod yn digwydd mewn sypiau ar wahanol adegau, mae'n annhebygol y bydd unrhyw newid yn y dangosydd hwn o fis i fis yn gynrychiadol. Rydym wedi dod i'r casgliad na fyddai cyhoeddi cymhariaeth o’r data hwn yn erbyn targed yn ddefnyddiol, ac y byddai’n digwydd ar draul ein nod i gadw amseroedd ad-dalu'n isel ar gyfer pob math o achos.

O ganlyniad, rydym yn symud oddi wrth ymestyn y targed er mwyn cwmpasu’r achosion ad-daliadau hynny nad ydynt yn rhai cyfradd uwch. Yn hytrach, byddwn yn defnyddio’r sampl data ar gyfer achosion ad-daliadau nad ydynt ar gyfradd uwch i ddarparu dangosydd er mwyn llywio ein penderfyniadau mewnol.

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth fanwl am yr ad-daliadau a wneir bob mis wrth ystyried y mesur hwn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a thegwch parhaus.

Ein dull i reoli risg treth

Rydym yn gweithio o safle o ymddiriedaeth ac yn cydweithio â threthdalwyr ac asiantau i geisio atal risg treth ar draws y DTT a'r DGT. Ond rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai trethdalwyr ac asiantau yn gwneud camgymeriadau. Ac efallai y bydd ambell un yn ceisio efadu neu osgoi talu'r swm cywir o dreth.

Eleni, rydym wedi gweithio i wella sut rydym yn:

  • adnabod ac yn asesu risg treth, ac wedi gwneud cynnydd da gyda'n prif broffiliau risg treth ar gyfer TTT
  • nodi risgiau newydd posibl y byddwn yn dechrau gweithio arnynt ac yn eu datblygu dros 2023 i 2024
  • cynnal dros 40 o adolygiadau annibynnol. Mae’r rhain yn adolygiadau o benderfyniadau treth rydym wedi eu gwneud ar gosbau ac asesiadau sy’n cael eu ceisio gan y trethdalwr o dan ein proses adolygu ac apelio.

Canlyniad hyn oedd cadarnhau ein penderfyniad ar dros 25 o achosion, amrywio ein penderfyniad ar rai achosion a thynnu'r gosb yn ôl mewn 11 achos ar ôl i'r trethdalwr ddarparu gwybodaeth newydd i'r adolygwr.

Eleni rydym wedi gweld 4 achos yn dod i wrandawiad terfynol yn y tribiwnlys treth. Roedd hwn yn gam cadarnhaol wrth brofi'r ddeddfwriaeth. Rhoddodd well dealltwriaeth i ni o'n prosesau ac mae'n ein helpu i greu system dreth decach. Rydym wedi cael llwyddiant mewn tribiwnlys, ac rydym hefyd wedi gweld achos lle cafodd rhan o apêl y trethdalwr ei gadarnhau gan y tribiwnlys.

Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol gan y tribiwnlys. Dywedodd un barnwr fod yr hysbysiad cau yn eglur iawn, a’i fod yn disgrifio pob cosb yn benodol ac yn glir yn ogystal â’r hyn yr oedd angen i’r trethdalwr ei wneud. Aeth y barnwr ymlaen i ddweud fod ein llwybrau archwilio yn ystod yr ymchwiliad yn fanwl iawn, a bod pob agwedd o'r achos wedi'i gofnodi'n dda.

Rydyn ni wedi dysgu o'n profiadau yn y tribiwnlys ac wedi gwella ein prosesau. Er enghraifft, erbyn hyn rydym yn gofyn yn gynharach os rydym yn ystyried esgus rhesymol mewn achosion cosb.

Gwella sut yr ydym yn adnabod ac asesu risg treth

Rydym yn defnyddio ein data yn fwy effeithiol wrth ddatblygu a mireinio nodweddion o ran y risgiau treth a welwn. Mae hyn yn ei wneud yn haws ac yn fwy effeithlon i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu.

O ran TGT, rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o'r data a gesglir ar y ffurflen dreth newydd a gyflwynwyd y llynedd. Rydym wedi defnyddio'r data er mwyn gwella sut mae risgiau’n cael eu hadnabod a sut mae cwsmeriaid yn symud rhwng safleoedd tirlenwi.

O ran TTT, rydym wedi adnabod dros 600 o achosion sydd yn ein proffiliau risg treth. Mae hyn wedi amrywio yn ôl chwarter, fel y dangosir yn y siart isod.

Yn siart 2 isod, mae’r llinell oren yn cynrychioli cyfanswm yr achosion sydd mewn perygl o fewn y proffil hwn, a'r llinell goch yn dangos y niferoedd o fewn y cyfanswm lle mae’r risg yn fwy pendant, cânt eu mesur ar yr echel chwith. Mae'r bariau'n dangos y symiau cyfatebol o dreth mewn perygl, cânt eu mesur ar yr echel dde. Mae’r gwahaniaeth rhwng y 2 linell a chyfran oren y bariau yn cynrychioli achosion lle nad yw’r risg mor sicr.

Eleni, buom yn ymdrechu i gael mwy o sicrwydd ynghylch risg treth trwy newid ein proses risgio. Gwnaethom hyn drwy weithio gyda threthdalwyr ac asiantau i gasglu gwybodaeth ymlaen llaw er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r trafodiad ac i asesu'r risg. Mae hyn wedi arwain at agor ymholiadau lle mae gennym fwy o sicrwydd bod risg neu gamgymeriad wedi digwydd. Mae hyn yn lleihau’r baich arnom ni, ar asiantau ac ar drethdalwyr. Mae'r siart yn dangos y llwyddiant hwn, yn enwedig yn 2 chwarter olaf 2022-2023.

Siart 2: Nifer y trafodiadau a chyfanswm y dreth yn risgiau TTT 1 i 5

Image
Mae Siart 2 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl ar draws risgiau treth 1 i 5, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau yn symud fwy neu lai yn gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, cyn gostwng eto yn 2022-23. Tua diwedd 2022-23 mae'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Gwneud cynnydd da gyda'n prif broffiliau risg treth

O ystyried nifer y trafodiadau TTT a gyflwynwyd eleni, mae’r lefel gyffredinol o risg ar draws ein prif broffiliau risg treth TTT wedi gostwng ychydig o'i gymharu â'r llynedd. Fodd bynnag, mae amrywiad diddorol i’w weld o chwarter i chwarter a rhywfaint o gymhlethdod wrth ystyried y darlun cyfan, fel y nodir isod.

Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ein prif risgiau treth. Mae'r siart uchod yn dangos, ddiwedd y llynedd, y bu cynnydd amlwg mewn achosion risg uchel a gyrhaeddodd frig hanesyddol, mae’r cynnydd gwirioneddol mewn risg yn egluro hyn yn rhannol, ynghyd â’r cynnydd yn y nifer o drafodiadau wrth i'r farchnad dai adfer o effeithiau COVID-19. Ond yn 2 chwarter cyntaf eleni, gostyngodd lefel y risg o’r brig hwnnw. Ni fu gostyngiad yn chwarter 3, a bu gostyngiad sylweddol yn y pedwerydd chwarter i gyrraedd yr isafbwynt 2 flynedd.

Mae'n bwysig nodi bod rhywfaint o'r gostyngiad hwn wedi digwydd oherwydd y gostyngiad cyffredinol mewn trafodiadau o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig yn chwarter 4. Er hynny, mae’r gostyngiad dros y flwyddyn yn parhau i fod yn sylweddol o'i gymharu â thrafodiadau.

Mae'r gostyngiad hwn mewn risg treth yn adlewyrchu'r gwaith rydym wedi'i wneud i gefnogi ein trethdalwyr i gael y dreth yn gywir, yn ogystal â gwaith asiantau a threthdalwyr i sicrhau bod eu materion treth yn gywir. Drwy weithio gyda'n gilydd mae bron i 98% yn gywir ar y cynnig cyntaf.

Mae’r ffigwr ‘cywir y tro cyntaf’ ychydig yn is na ffigwr y llynedd, sef 98.2%. Roedd y ffigwr hwn yn is oherwydd eleni gwnaethom adnabod a chysylltu â bron i ddwywaith mwy o drethdalwyr nag y byddwn mewn blwyddyn arferol er mwyn diwygio eu ffurflenni treth tuag i lawr. Canfu’r gwaith hwn bod rhai trethdalwyr wedi gordalu DTT mewn camgymeriad, yn dilyn newidiadau i'r cyfraddau yn Hydref 2022. Dyma enghraifft ohonom yn ymdrechu i gael y swm cywir o dreth (hyd yn oed os yw hynny'n golygu nad yw'n gywir y tro cyntaf). Mae hyn yn cyd-fynd ag ein dull o drethu.

Mae'r data ar gyfer sawl proffil risg wedi'i gynnwys yn y siart yn yr adran flaenorol sy'n dangos cyfanswm y dreth sydd mewn perygl. Mae cyfres debyg yn bodoli ar gyfer yr holl risgiau treth sy'n cyfrannu, ac yma rydym yn dangos y 2 fwyaf. Rydym yn cyhoeddi canlyniadau tebyg ar gyfer ein holl broffiliau allweddol mewn atodiad i'n datganiad ystadegol blynyddol, sy’n cwmpasu ein holl fesurau perfformiad.

Y risg fwyaf yw sut y caiff gwahanol fathau o eiddo eu trin o ran treth, a hyn sy'n cyfrif am dros hanner y cyfanswm. Er hyn, mae amrywiadau bach yn y patrymau y mae pob risg yn eu cyflwyno, fel y mae’r siart isod yn ei ddangos.

Siart 3: Risg TTT 4 – triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo

Image
Mae Siart 3 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl o risg treth 4 (triniaeth treth gwahanol fathau o eiddo), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau’n symud fwy neu lai’n gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf o bron i 100 o achosion a bron i £1.5m o risg treth yn chwarter olaf 2021-22. Ers hynny, bu gostyngiad amlwg yn 2022-23, a thua diwedd 2022-23 mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Gan fod y risg treth hon yn gymhleth, gallai trethdalwyr ac asiantau ei chael hi'n anodd dangos y sefyllfa dreth gywir. Er mwyn gwneud pethau'n haws, rydym wedi:

  • gwella ein canllawiau a diweddaru ein System Rheoli Treth
  • meithrin gallu yn ein timau er mwyn iddynt roi gwell cefnogaeth i drethdalwyr ac asiantau lle bo angen
  • gweithio gydag asiantau i wella eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth mewn achosion lle’r ydym wedi nodi camgymeriadau

Mae'r ail risg fwyaf yn ymwneud â rhyddhad penodol (rhyddhad a). Mae'r siart isod yn dangos sut mae hyn wedi amrywio fesul chwarter, ac er bod cwymp tebyg ar y cyfan, bu cynnydd yn chwarter 3 cyn cwymp sylweddol iawn yn chwarter 4. Mae'r ffigur ar gyfer chwarter 3 yn ddiddorol, a’r hyn sy’n bennaf gyfrifol yw’r cynnydd sylweddol mewn achosion a gyflwynwyd lle hawliwyd y rhyddhad, yn hytrach na’r risg ei hun. Ni ddigwyddodd yr un peth yn chwarter 4, gyda chyfanswm yr hawliadau i lawr, o ran achosion dilys a’r rhai â risg.

Siart 4: Risg TTT 5 – mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)

Image
Mae Siart 4 yn defnyddio llinellau ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y trafodiadau mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth mewn perygl o risg treth 5 (yn ymwneud â rhyddhad penodol a), fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae'r siart hwn hefyd yn gwahanu llinellau a bariau yn ôl trafodiadau sydd â "risg debygol" a "risg aneglur", gyda'r rhan fwyaf o'r gwerth yn y categori "risg debygol". Mae'r bariau a'r llinellau yn symud fwy neu lai’n gyfochrog, gyda gostyngiad graddol yn y ddau fesur ar draws 2019-20, cyn cynyddu'n raddol i uchafbwynt dros y ddwy flynedd ariannol nesaf o 50 achos a thros £0.5m o risg treth yn chwarter olaf 2021-22. Ers hynny, bu gostyngiad yn 2022-23, a thua diwedd 2022-23, mae'r llinellau a'r bariau yn cynnwys achosion "risg debygol" bron yn gyfan gwbl.

Mae hyrwyddo ein hoffer a'n canllawiau wedi helpu wrth reoli a lliniaru risgiau. Pan fo ymholiadau ynghylch y meysydd hyn, mae ein desg gymorth yn sicrhau bod gan drethdalwyr ac asiantau'r holl wybodaeth y maent ei angen i asesu'r dreth yn gywir. Mae ein desg gymorth yn gwneud hyn drwy holi a ydynt yn ymwybodol o'r help sydd ar gael a thrwy roi cyngor ar sut y gallai’r offer a'r canllawiau eu helpu. Mae Bwrdd Diweddaru Gweithredol ar ein System Rheoli Treth a gall pob trethdalwr ac asiant cofrestredig gael mynediad ato. Rydym yn diweddaru hyn mewn amser real pan welwn risg yn dod i’r amlwg, er mwyn gwybod pryd i ddarparu help ac arweiniad.

O ran TGT, rydym wedi gwneud cynnydd yn erbyn risgiau fel disgownt dŵr ac adfer safleoedd. Er enghraifft, eleni rydym wedi bod yn mireinio ein dull o ran y disgownt dŵr, ac rydym yn parhau i weld llwyddiant cynyddol gydag Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi yn bodloni amodau eu disgownt dŵr. Rydym yn falch o fod ar flaen y gad yn rhywfaint o'r gwaith hwn, ac rydym yn rhannu ein profiadau gydag awdurdodau treth eraill.

Adennill treth - TTT

Adennill treth yw'r broses o adfer y diffyg pan fo hunanasesiad o dreth yn anghywir ac mae mwy o dreth yn ddyledus. Rydym yn olrhain hyn drwy ychwanegu gwerthoedd treth diwygiedig at achosion adfer treth caeedig ac yn crynhoi'r rhain fesul chwarter pan fo’r diwygiad yn cael ei wneud. Nid oes rhaid i hyn gyd-fynd â'r chwarter pan fo'r risg yn cael ei gwireddu, ac mae’n annhebygol o ddigwydd.

O bryd i'w gilydd, bydd achos risg yn arwain at ffigur treth is. Yn yr achosion hyn, rydym yn gwahanu a chofnodi’r dreth rydym yn ei dychwelyd i'r trethdalwr. Mae'r olaf yn cynnwys achosion sy'n cyd-fynd â phroffil risg lle mae’n ymddangos fel pe bai gormod o dreth yn cael ei dalu ar y cychwyn, neu lle daw gwybodaeth newydd i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad sy’n arwain at leihau’r dreth.

Yn olaf, mae rhai achosion lle mae ffurflen dreth yn cael ei chyflwyno, a daw cais yn ddiweddarach i ddiwygio'r dreth a’i lleihau. Pan ddaw’r cais am ddiwygiad i'r ffurflenni o fewn blwyddyn i'w chyflwyno gyntaf, mae'n ofynnol i ni wneud y gwelliant ac, os oes angen, holi ynghylch ei ddilysrwydd. Mae hyn yn effeithio ar ystadegau arferol ar gyfer risg treth ac adennill treth.

Pan fo hawliad am ordaliad treth yn cael ei wneud flwyddyn neu fwy ers y cyflwyniad, os nad ydym o’r farn fod yr hawliad yn ddilys, gallwn ei wrthod drwy agor ymholiad i hawliad y trethdalwr. Pan fyddwn yn gwrthod yr hawliad, ni fydd unrhyw dreth yn cael ei had-dalu. Rydym yn cyfeirio at y dreth hon fel treth a ddiogelwyd. Rydym yn mesur faint o dreth a ddiogelwyd ar ôl i'r ymchwiliad gael ei gau. Mae hyn yn cefnogi ein dull o 'gwirio yn gyntaf, talu wedyn'. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu ar yr adeg gywir, gan greu system deg i bawb.

Mae Siart 5 yn dangos yr amrywiad o ran adennill a dychwelyd treth fesul chwarter, tra bod siart 6 yn dangos treth a ddiogelwyd.

Siart 5: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd TTT ei hadennill neu ei dychwelyd

Image
Mae Siart 5 yn defnyddio 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm y niferoedd lle cafodd TTT naill ai ei hadennill neu ei dychwelyd, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a gafodd naill ai ei hadennill neu ei dychwelyd, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Mae nifer yr achosion lle cafodd y deth ei hadennill, a gwerthoedd cysylltiedig y dreth wedi bod yn amrywiol ond gydag amrywioldeb is yn y chwarteri diweddarach o gwmpas cyfartaledd o 40 achos a £250-400k o dreth wedi’i hadennill ym mhob un. Roedd y mesurau'n ymwneud â threth a ddychwelwyd yn is yn gymharol, ac ar ôl bod yn gyson rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2022, gwnaethant gynyddu ychydig yn 2022-23.

Mae Siart 5 yn dangos gweithgarwch sylweddol i adfer treth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda dros £5 miliwn wedi’i adfer ers 1 Ebrill 2019 ar draws 750 o achosion. Nid yw'n syndod bod swm y dreth a ddychwelir yn llawer llai, ond er hynny mae’n arwyddocaol ac yn bwysig yn ein nod i fod yn deg ac i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu.

Mae'r proffil adennill treth dros amser yn cael ei gymhlethu gan y ffaith y gallai ffocws y proffiliau unigol amrywio o ran pa mor anodd yw hi i wneud achos am gymhwyso'r ffigur treth uwch. Er enghraifft, yn 2019-2020, roedd y rhan fwyaf o'r gweithgaredd yn ymwneud â risgiau symlach a gafodd eu cau wedyn. Ers hynny, mae llawer o'r achosion adennill wedi bod yn fwy cymhleth. Er gwaethaf hyn, roedd cyfanswm yr adferiad treth eleni bron i £1.2 miliwn, dros 170 o achosion.

Siart 6: Nifer a gwerth yr achosion lle diogelwyd TTT

Image
Mae Siart 6 yn defnyddio 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm yr achosion o TTT sydd wedi'u datrys ac achosion o TTT sydd wedi’i diogelu’n llwyddiannus, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a ddiogelwyd fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2023. Roedd nifer yr achosion a gafodd eu datrys ac a oedd yn llwyddiannus yn debyg iawn, ac ar ôl niferoedd isel yn 2020-21 a 2021-22, cynyddodd yn sylweddol yn 2022-23 i dros 10 achos y chwarter. Roedd lefel y dreth a ddiogelwyd yn dilyn tuedd debyg, ar ei uchaf ar bron i £200,000 yn nhrydydd chwarter 2022-23.

Mae Siart 6 yn dangos y bu mwy o weithgarwch i ddiogelu trethi eleni, gyda dros 40 o achosion wedi’u cau, gan ddiogelu bron i £350,000 o dreth. Mae llawer o'r achosion yn ymwneud â honiadau bod eiddo yn adfeiliedig pan y’i prynwyd, ac os profir hynny byddai’n caniatáu i'r cyfraddau amhreswyl rhatach gael eu cymhwyso ar yr eiddo preswyl. Weithiau, bydd rhesymau llai penodol eraill hefyd yn berthnasol.

Rydym yn defnyddio proses 'gwirio gyntaf, talu wedyn'. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau dilysrwydd yr hawliad drwy gynnal diwydrwydd dyladwy a thrwy adolygu'r wybodaeth a dderbynnir fel rhan o'r hawliad. Byddwn ond yn ad-dalu treth pan fyddwn yn fodlon bod yr hawliad yn ddilys. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn diogelu treth ac nad oes rhaid i ni adennill treth lle gwelwn yn ddiweddarach fod yr hawliad yn anghywir.

Rydym wedi diweddaru ein prosesau risg er mwyn cael mwy o sicrwydd ynghylch lefel risg achosion sy'n cael eu canlyn er mwyn adfer trethi. Gall adfer trethi fod yn gymhleth yn aml, ond mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio i:

  • fireinio proffiliau
  • deall y risg a'r ymddygiad
  • creu system dreth sy’n deg i bob trethdalwr

Nid ydym yn goddef osgoi nac efadu o gwbl. Mae cosbau anghywirdeb yn cefnogi'r dull hwn, lle penderfynir bod yr ymddygiad yn gamgymeriad oherwydd diffyg gofal rhesymol, ei fod yn ddiofal neu'n fwriadol. Mae swm y gosb yn dibynnu ar ymddygiad y trethdalwr a'r asiantau. Gellir lliniaru’r gosb trwy ein helpu gyda'r ymholiad, trwy ddweud wrthym beth sydd wedi digwydd a thrwy gynnig y wybodaeth yr ydym ei angen i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.

Adennill treth - TGT

Mae ein proses hawlio wedi diogelu dros £1 miliwn mewn treth, ac rydym wedi casglu dros £200,000 trwy adfer trethi.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi ar rai achosion anodd a chymhleth. O ganlyniad, rydym yn gweld rhai ohonynt yn gweithio eu ffordd drwy'r broses apelio. Rydym yn falch o gydweithio'n gynhyrchiol â’n Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi, hyd yn oed pan nad ydym yn cytuno ar y swm cywir o dreth, er mwyn mynd drwy'r prosesau cyfreithlon i ddatrys hyn. Mae hyn yn rhan o'n hymroddiad ni i 'Ein Dull': Cydweithio, Cadarnhau a Chywiro.

Pan fyddwn eisiau gweithredu newidiadau, rydym wedi gweithio gyda Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi er mwyn deall yr effaith ar eu busnesau. Enghraifft o hyn yw pan oeddem am newid ein hysbysiad Colled wrth Danio (LOI). Roeddem ni’n awyddus i Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi anfon samplau a gymerwyd ar gyfer profion LOI i labordy o fewn 3 diwrnod gwaith, gan sicrhau bod canlyniadau'r profion yn cael eu derbyn gan y labordy o fewn 14 diwrnod i gasglu’r sampl. Pe na wneir hyn, byddai'n cael ei ystyried fel prawf a fethwyd oni bai bod gan y Gweithredwr Safleoedd Tirlenwi esgus rhesymol.

Trwy gasglu adborth gan ein Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi, fe ddysgon ni y byddai'n anodd iawn iddynt fodloni’r gofyniad hwn gan nad oes ganddynt reolaeth dros ba bryd y mae’r canlyniadau’n cael eu derbyn. Fe wnaethon ni wrando ar ein Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi ac ni wnaethom fwrw ymlaen â'r newidiadau.

Eleni, gwnaethom gynnydd sylweddol gyda'n gwaith ar gyfradd TGT ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi. Gwarediadau heb eu hawdurdodi yw pan fo gwastraff yn cael ei ddodi y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig yn anghyfreithlon. Trwy broses profi a dysgu rydym wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i:

  • ddatblygu polisïau ac atgyfeirio achosion
  • cyhoeddi hysbysiadau rhagarweiniol
  • cynnal ymchwiliadau manwl

Rydym wedi canolbwyntio ar yr achosion sy'n achosi'r niwed amgylcheddol mwyaf neu’r rhai sy’n tanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon. Rydym wedi codi'r gyfradd TGT ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi yn llwyddiannus mewn 2 achos eleni. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith.

Yn dilyn hyn, byddwn yn adolygu ein gweithdrefnau a'n polisïau fel rhan o'r broses profi a dysgu a byddwn yn ymchwilio rhagor o achosion. Trwy ddechrau codi’r gyfradd hon y flwyddyn nesaf, byddwn yn newid ymddygiad ac yn creu system dreth decach i drethdalwyr.

Awtomatiaeth

Mae'n bwysig bod y ffordd rydym yn gwneud pethau a’r ffordd rydym yn gweithio gyda threthdalwyr ac asiantau yn cynnig gwerth am arian. Mae'r ffocws y mae 'Ein Dull' yn ei roi ar liniaru yn enghraifft wych o sut rydym yn cefnogi pobl i fod yn gywir ac yn gwella effeithlonrwydd ar gyfer pawb. Mae ein mesur ar awtomeiddio hefyd yn bwysig yma.

Rydym yn mesur awtomeiddio yn ôl nifer y trafodiadau a dderbynnir yn ddigidol, a delir yn electronig, gyda'r taliad yn cael ei baru â’r trafodiad yn awtomatig gan ein systemau. Mae dros 92% o'n trafodiadau wedi bodloni'r meini prawf hyn eleni. Mae hwn yn fesur pwysig i ni oherwydd ei fod yn gwella effeithlonrwydd i ni, i’n trethdalwyr ac i asiantau.

Prif achos y gwelliannau a wnaed o ran awtomeiddio dros y blynyddoedd diwethaf yw’r gostyngiad mewn trafodiadau a delir gyda sieciau ers COVID-19. Ers Chwefror 2023, rydym wedi rhoi'r gorau i dderbyn taliadau siec yn gyfan gwbl. Mae'n debyg ein bod wedi gwneud yr holl enillion sy’n ymarferol bosibl o ran ffeilio a thalu yn ddigidol. Bydd angen gwelliannau pellach i'n prosesau talu presennol, gan gynnwys newidiadau i baru taliadau’n awtomatig, er mwyn cyrraedd ein targed cyffredinol o 95% neu uwch ar gyfer y mesur hwn.

Adborth ar ein gwasanaethau

Rydym wastad yn awyddus i dderbyn adborth ar ein gwasanaethau. Rydym yn croesawu adborth oherwydd ei fod yn ein galluogi i adnabod yr hyn sy'n gweithio, ac i adeiladu ar hynny, yn ogystal â’r hyn sydd ddim yn gweithio, fel y gallwn ei gywiro. Diolch i bawb a dreuliodd amser yn cysylltu â ni a rhoi adborth eleni. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau.

Y llynedd, er enghraifft, derbyniwyd adborth gan drethdalwyr a oedd yn dweud nad oeddem wedi’i gwneud yn ddigon amlwg mai eu cyfrifoldeb hwy yw taliadau treth a chosbau. Mewn llawer o achosion, mae asiant yn gweithredu ar ran y trethdalwr. Fe wnaethon ni wrando ar yr hyn a ddywedwyd, ac rydym wedi gwella ein canllawiau. Rydym wedi nodi 3 maes lle byddai mwy o wybodaeth yn ddefnyddiol ac wedi’u diweddaru er mwyn amlinellu'r cyfrifoldebau ynghylch cosbau a threth.

Image
Eicon bawd i fyny gyda thestun: ‘Y flwyddyn hon, roedd bron i 92% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg o'r farn ei bod yn hawdd defnyddio ein gwasanaethau.’

Gyda’r ffigur yn amrywio rhwng 85% a 100%, yn dibynnu ar ba wasanaeth oedd testun yr adborth. Mae tuedd amlwg i’w weld yn y mesur cyffredinol dros y flwyddyn, gyda'r data dros 85% bob mis.

Llwyfan data

Eleni, gwnaethom barhau i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu llwyfan data tir ac eiddo ar gyfer Cymru. Y nod oedd asesu sut y byddai llwyfan data yn cefnogi’r posibiliad o drethi tir ac eiddo sy’n amrywio yn ddaearyddol yng Nghymru, megis newidiadau arfaethedig i gyflwyno TTT rhanbarthol.

Roedd y gwaith a wnaed yn y camau cyntaf yn amlygu'r cyfleoedd y gallai platfform data tir ac eiddo ei gynnig. Cofnodwyd hyn mewn cyfres o flogiau yn ystod y prosiect llwyfan data a gwnaethom ddarparu enghreifftiau o’r gwasanaethau y gellid eu datblygu gyda’n prototeipiau ar gyfer y llwyfan data.

Hanner ffordd drwy'r flwyddyn, yn anffodus daethom i'r casgliad bod angen i ni ail-flaenoriaethu, a chafodd y gwaith hwn ei roi i’r neilltu oherwydd y pwysau ariannol a oedd yn datblygu’n gyflym yr oeddem i gyd yn ymgodymu a'r ansicrwydd a ddaeth yn sgil hynny.

Fodd bynnag, rydym wedi dysgu llawer o'r prosiect hwn, gan gynnwys sut y gellid gweithredu unrhyw amrywiadau rhanbarthol yn y DTT ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau (sy'n cael ei ystyried), a’r budd ehangach y gallai'r platfform hwn ei gynnig i bolisïau ac i wasanaethau cyhoeddus eraill y llywodraeth y tu hwnt i ACC.

Ein hadolygiad o’n siarter

Fe wnaethom adolygu ein siarter eleni er mwyn gweld a oedd y gwerthoedd y dewisom 5 mlynedd yn ôl yn parhau i fod yn berthnasol.

Gwnaethom ymgysylltu ag ystod o bobl er mwyn casglu barn ar ein siarter, yn bennaf i holi p'un a yw'n addas i'r diben ac a oes unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.

Rydym wedi siarad â:

  • holl staff ACC
  • Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol ACC
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Senedd Cymru
  • rhanddeiliaid allweddol fel Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel, Cymdeithas y Gyfraith, Sefydliad Siartredig Trethiant
  • trethdalwyr

Er na wnaeth yr un trethdalwr gwblhau’r arolwg cyflym ar ein siarter, rydym yn falch o'r lefel gyffredinol o ymgysylltiad. Arweiniodd y canfyddiadau at wneud newidiadau bychain yn unig a chadarnhau bod llawer o’r gwerthoedd yn berthnasol i ni a’n partneriaid.

Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu system dreth deg i Gymru

Byddwn yn gweithio gyda threthdalwyr, eu cynrychiolwyr a'r cyhoedd er mwyn darparu system dreth deg i Gymru. Rydym wedi gweithio gyda chi i ddatblygu siarter sy'n nodi gwerthoedd, ymddygiadau a safonau a rennir gennym, sy'n ein galluogi i gydweithio.

Perfformiad Siarter ACC 2022 i 2023
GwerthoeddYr hyn a wnaethom
Diogel: gwarchod gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd.
  • Gweler yr adran ar ‘Reoli Gwybodaeth’ a ‘Seiberddiogelwch’ yn ein datganiad Llywodraethiant i gael rhagor o fanylion.
Cefnogol: darparu cymorth pan fyddwch yn gofyn am help. Creu gwasanaethau digidol effeithiol sy’n hawdd eu defnyddio.
  • Parhau i wella ein canllawiau, ein ffurflenni a’n gwasanaethau digidol, gan ddiwygio iaith er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch, a datblygu cyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog (MDR).
  • Ailddechreuwyd ymweliadau safle â'n Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi.
  • Gwella ein gwasanaeth dyled drwy wella'r broses ddyledion, rhoi gwell cefnogaeth i drethdalwyr sydd mewn dyled, a dod o hyd i ffyrdd o atal dyled.
Teg: bod yn onest wrth ddelio â'n gilydd. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi trethi, defnyddio pwerau’n gyson ac yn gymesur.
  • Parhau i reoli risg treth a datblygu proffiliau risg, gan sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth, gan gynnal dros 40 o adolygiadau annibynnol. Pan welwn fod pobl wedi talu gormod o dreth, byddwn yn rhoi gwybod iddynt.
  • Cefnogi pobl i unioni pethau pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud. Lle ceisiodd pobl efadu neu osgoi talu'r swm llawn, rydym wedi nodi'r achosion hyn ac wedi cymryd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu er mwyn diogelu refeniw. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda'n gwaith ar warediadau anawdurdodedig.
Ymgysylltiol: cefnogi pobl i ddeall trethiant datganoledig a gweithio gyda'n gilydd i'w ddatblygu er budd Cymru.
  • Parhau i wella canllawiau ac i ymgysylltu â phobl.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth mewn cynadleddau a digwyddiadau rhithwir, gan sicrhau dealltwriaeth o’n safbwynt a'r cyfleoedd a ddarparwn o ran datganoli trethi.
Ymatebol: gwrando ar ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch.
  • Mae gwrando ar adborth ac ymateb iddo yn parhau i fod yn bwysig o ran datblygu a gwella ein gwasanaethau. Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran adroddiad ar Berfformiad.
  • Ystyried llesiant ein pobl a'r cymorth sydd ei angen i ganiatáu defnydd hyblyg o’n staff i ddiwallu anghenion newidiol y sefydliad. Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ar Berfformiad.
Dwyieithog: bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Parhau i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Parhau i gynnig ein gwasanaethau digidol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Annog ein staff i ddefnyddio'r Gymraeg, ac wedi rhoi amser i staff ymgymryd â hyfforddiant wedi'i ariannu.
Manwl Gywir: cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, rhannu data a gwybodaeth gywir, gan gymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir.
  • Mae ein hadroddiad Perfformiad yn egluro mwy am ein gwaith i reoli risgiau treth a sut y gwnaethom helpu pobl i wneud llai o gamgymeriadau gyda MDR a sut rydym yn darparu gwasanaethau desg gymorth ac opiniwn treth. Roedd bron i 98% o'r trafodiadau TTT yn gywir ar y cynnig cyntaf.
Effeithlon: ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni treth a phrosesu ceisiadau yn brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth.
  • Mae ein hadroddiad ar Berfformiad yn egluro mwy am sut rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau effeithlon; er enghraifft, telir dros 95% o ad-daliadau cyfradd uwch o fewn 30 diwrnod, a'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn meysydd fel awtomeiddio.

Rydym wedi parhau i gymhwyso ein siarter yn gyson ac rydym yn hyderus ei bod yn parhau i fod yn hawdd i bobl ei ddarllen, a’i fod yn nodi’r gwerthoedd, yr ymddygiadau a’r safonau sy'n ein galluogi i gydweithio'n hawdd.

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Ein Bwrdd

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd Anweithredol (tan fis Hydref 2022)
  • Ruth Glazzard, Cadeirydd Anweithredol (o fis Hydref 2022)
  • Jocelyn Davies, Dirprwy Gadeirydd Anweithredol (o Ebrill 2023)
  • Dyfed Edwards, Dirprwy Gadeirydd Anweithredol (tan fis Chwefror 2023)
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol (ers mis Ionawr 2022)
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu (tan fis Medi 2022)
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu (o fis Medi 2022)
  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (tan fis Awst 2022)
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Tîm Arwain

  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithredu (tan fis Medi 2022)
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth (o fis Medi 2022)
  • Robert Jones, Prif Swyddog Cyllid 
  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (tan fis Awst 2022)
  • David Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth Dros Dro (o fis Medi 2022)
  • Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (o fis Tachwedd 2022)
  • Jo Ryder, Pennaeth y Staff 
  • Einion Dafydd, Pennaeth Staff Dros Dro (Medi 2022 i Ionawr 2023)

Adroddiad ariannol

Cyfrifon adnoddau

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein cynllun corfforaethol, wedi'u rhannu'n swyddogaethol i'r meysydd eang canlynol:

  • costau staff, gan gynnwys dysgu a datblygu
  • costau gweithredol casglu'r trethi, camau gorfodi a chudd-wybodaeth am ddata
  • costau rhedeg corfforaethol, megis adnoddau dynol (AD), technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol
  • newid busnes i sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol i gefnogi prosesau newydd a newid deddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i’n sefydliad ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod.

Cyllid a ddyrannwyd ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru
Ffrwd CyllidDyraniad
Cyllid
2022-23
£000
Cyllid a Dynnwyd 
2022-23
£000
Dyraniad Cyllid
2021-22
£000
Cyllid a Dynnwyd
2021-22
£000
Refeniw6,9426,9416,4966,226
Cyfalaf1191156565
Cyfanswm y Dyraniad Cyllid7,0617,0566,5616,291
 
Gwariant ar gyfer 2022 i 2023
 2022-23
£000
2021-22
£000
Costau staff5,1574,536
Costau eraill sy’n gysylltiedig â staff11382
Costau gweithredu eraill1,5741,440
Dibrisiant4531
Amorteiddiad5663
Gwariant gweithredu net6,9456,152

Yn ystod y flwyddyn, cododd ACC drethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

Trethi datganoledig
 2022-23
£000
2021-22
£000
2020-21
£000
Treth Trafodiadau Tir372,106402,245210,510
Treth Gwarediadau Tirlenwi42,01445,33431,719
Cyfanswm y trethi a’r refeniw414,120447,579242,229

Cyfrifon blynyddol ACC 2022 i 2023

Prosesodd ACC ychydig dros 59,500 o ffurflenni TTT (2021 i 2022: 69,000).

O’r ffurflenni hyn:

  • arweiniodd 59% at rwymedigaeth a oedd angen ei dalu (2021 i 2022: 56%)
  • cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £372.106 miliwn mewn TTT ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2021 i 2022: £402.24 miliwn).
 
Casglodd ACC y symiau arian parod net canlynol yn llwyddiannus
 2022-23
£000
2021-22
£000
Arian net a gasglwyd418,600446,121
Arian Parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru422,000440,500

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a’i dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifo ACC, mae gan y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, gyfrifoldeb personol am:

  • warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • gweithrediadau a rheolaeth yr Awdurdod o ddydd i ddydd
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

O dan adrannau 29 (1) (b) a 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddynt yn enwedig:

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn FReM neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • cadarnhau bod yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol a'r dyfarniadau sy'n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Yn ogystal, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn:

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall; unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau:

  • fod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol;
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth a sylwadau ac wedi ceisio sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach
  • rwyf wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
13 Medi 2023

Datganiad llywodraethu

Mae DCRhT 2016 yn fy nynodi'n Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu i’w cael yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Trosolwg

[Insert Governance diagram CY]

Y Swyddog Cyfrifyddu yw'r Prif Weithredwr (Prif Swyddog Gweithredol) hefyd, ac mae:

  • yn gyfrifol am gyflawni’r amcanion a blaenoriaethau y cytunwyd arnynt gyda Gweinidogion Cymru, fel yr adlewyrchir yn ein cynllun corfforaethol y cytunwyd arno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • ar hyn o bryd â chyfrifoldeb uniongyrchol am Adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • yn Aelod o'r Bwrdd

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn cynnwys mwy o aelodau anweithredol nac aelodau gweithredol, ac mae'n cynnwys y Prif Weithredwr a’r Aelod Staff Etholedig.

Mae'r Bwrdd ar y cyd yn atebol am ACC ac maent yn darparu arweinyddiaeth er mwyn sicrhau safon effeithiol o lywodraethu: 

  • mae'r swyddogaethau ar gyfer y trethi datganoledig a reolir gennym yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr
  • mae'r Prif Weithredwr yn dirprwyo trwy strwythur pwyllgor gweithredol, gan wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun corfforaethol
  • mae'r Bwrdd yn darparu her a chyngor ar ein strategaeth, ein gallu a'n perfformiad ac mae, ynghyd â’r Swyddog cyfrifyddu, yn cael ei gefnogi gan:
    • ARAC (Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg)
    • Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth

ARAC

Mae ARAC yn craffu ar lywodraethu, gwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli ac uniondeb yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon.

Nifer y cyfarfodydd yn 2022 i 2023: 5

Cadeirydd: Jocelyn Davies

Aelodau: 3 aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd). Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd.

Ymgynghorwyr ARAC:

  • Prif Weithredwr
  • Prif Swyddog Cyllid
  • Prif Swyddog Gweithredu
  • Cynrychiolydd Archwilio Mewnol
  • Ysgrifenyddiaeth Archwilio a Risg

Mae mynychwr o Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Archwilio Cymru hefyd yn mynychu cyfarfodydd ARAC yn rheolaidd.

Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Sefydlwyd y pwyllgor hwn (y Pwyllgor Pobl gynt) i roi sicrwydd ac i graffu ar effeithiolrwydd cynllunio olyniaeth, recriwtio a chydnabyddiaeth ariannol.

Nifer y cyfarfodydd yn 2022 i 2023: 3

Cadeirydd: Dyfed Edwards (hyd at fis Mawrth 2023) Ruth Glazzard (Dros Dro o fis Mawrth 2023)

Aelodau: 3 aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) ac:

  • Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Prif Weithredwr
  • Pennaeth Adnoddau Dynol

Presenoldeb yng nghyfarfodydd y bwrdd a'r pwyllgor

Attendance 2022 to 2023
AelodauBwrdd [1]ARACPwyllgor Pobl 
Aelodau anweithredol: 
Aelodau gweithredol:
Aelod staff etholedig:
Nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd0
Kathryn Bishop (Cadeirydd – Bwrdd tan Hydref 2022)
Ruth Glazzard (Cadeirydd – Bwrdd o Hydref 2022)
Jocelyn Davies (Cadeirydd – ARAC)5 
Dyfed Edwards (Is-gadeirydd – Bwrdd, Cadeirydd – Pwyllgor Pobl)
Mary Champion (ers mis Hydref 2020)
Rheon Tomos (ers mis Hydref 2020)
Jim Scopes (ers mis Ionawr 2020)
Dyfed Alsop
Sam Cairns (tan fis Medi 2022)
Rebecca Godfrey (o fis Medi 2022)
Melissa Quignon-Finch (tan fis Awst 2022)
Karen Athanatos (from October 2021)
Nodiadau

[1] Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn chwarterol

Risg strategol: rolau

  • Mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn ymdrin â rheoli risg ac adrodd.
  • Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy a’u bod yn darparu arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir.
  • Mae’r ARAC yn edrych ar reoli risg ac yn rhoi cyngor. Mae hefyd yn cynorthwyo ac yn craffu ar y Tîm Arwain.

Sut rydym yn adolygu risgiau corfforaethol

Mae Tîm Arwain yn monitro ac adolygu risgiau corfforaethol yn reolaidd yn unol â’n datganiad archwaeth risg. Mae’r polisi risg yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Rydym yn dilyn egwyddorion Y Llyfr Oren o ran ei ddull o adnabod risgiau corfforaethol, arfarnu ac adrodd. Mae risgiau corfforaethol newydd yn cael eu hadnabod gan y Tîm Arwain fel rhan o adolygiadau strategol cyson. Caiff risgau mewnol eu huwchgyfeirio a’u dad-uwchgyfeirio gan weithdrefn newydd a sefydlwyd gyda ein Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (GACG). Caiff risgau corfforaethol eu hadrodd yn y gofrestr risg corfforaethol a’u craffu gan yr ARAC a’n Bwrdd.

Rheolaeth fewnol

Bob blwyddyn, mae’r uwch-reolwyr yn rhoi hunanasesiadau i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg.

Llwyddom gynnal lefelau sicrwydd cyffredinol. Gwnaed gwelliannau nodedig o ran caffael, gwerthuso a rheoli prosiectau o ganlyniad i’r defnydd o weithio ystwyth.

Rydym yn parhau i gael sicrwydd o ran llywodraethu ein pwerau dirprwyedig. Ond mae meithrin cysylltiadau agosach â Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner yn parhau i fod yn bwysig i ni wrth i ni gefnogi'r Rhaglen Lywodraeth o ran trethi datganoledig.

Ni nododd yr adolygiad unrhyw feysydd o wendid.

Archwiliad mewnol

Yn ystod 2022 i 2023, cyhoeddodd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) 5 adroddiad, darparwyd cyngor ar ddiogelu data ganddynt, a gwnaethant fynychu holl gyfarfodydd yr ARAC.

Rhoddodd y Cynllun Archwilio farn eang ar y trefniadau rheoli risg, rheoli a llywodraethu:

“Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio'n briodol a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.”

Archwilio allanol

Rydym yn cael ein harchwilio gan Archwilio Cymru, sy'n gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd y cyfrifon ariannol.

Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i’r ARAC a'r Bwrdd. Mae eu hadroddiad ar gyfer y flwyddyn i'w weld yn y Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Sut rydym yn rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

  • Bod yn weithredol wrth hyrwyddo diwylliant o arfer gorau mewn rheoli data a gwybodaeth.
  • Rhannu diweddariadau rheolaidd gyda’n pobl ynghylch rheoli gwybodaeth a diogelwch.
  • Adolygu ac adnewyddu ein gweithdrefnau a'n canllawiau.
  • Ymdrechu i sicrhau arfer gorau o ran llywodraethiant gwybodaeth ac i fesur ein hunain yn erbyn Fframwaith Atebolrwydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, bu’n pobl yn gweithio o bell, ond wrth i’r flwyddyn barhau gwelwyd cymysgedd mwy hybrid. Arweiniodd hyn at heriau o ran cynnal ein safonau uchel gyda staff presennol ac wrth hyrwyddo'r safonau hynny gyda recriwtiaid newydd.

Rydym wedi datblygu perthynas dda gyda'r ICO ac yn ymgynghori â nhw yn ôl yr angen.

Yn ystod y flwyddyn, ni chafodd y Swyddog Diogelu Data na'r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw gwynion am ein defnydd o ddata personol.

Y 3 risg uchaf rydyn ni'n eu rheoli'n weithredol:

  • diogelwch a gwydnwch seiber
  • negeseuon e-bost gwe-rwydo
  • mynediad anghyfreithlon at swmp data

Roedd cynnydd mewn achosion a fu bron â digwydd (mân ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth) lle na ddatgelwyd unrhyw ddata personol. Mae achosion a fu bron â digwydd yn cael eu cofnodi. Nid ydynt yn cynrychioli mynediad anghyfreithlon at ddata mewn gwirionedd, ond mae eu cofnodi yn helpu i atal mynediad anghyfreithlon at ddata yn y dyfodol. Gwelwyd cynnydd i 16 o achosion a fu bron â digwydd.

Cawsom 10 achos o fynediad anghyfreithlon at ddata, gwelliant sylweddol ers y llynedd (17). Gan nad oedd yr un ohonynt yn achosion mawr, nid oedd yn rhaid cyfeirio unrhyw at yr ICO oherwydd y risg isel i destunau’r data.

Gwall dynol oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'n hachosion o fynediad anghyfreithlon at ddata. Gwelwyd tuedd amlwg o ddigwyddiadau a mynediad anghyfreithlon at ddata o ganlyniad i wybodaeth anghywir yn cael ei ddarparu i ni mewn ffurflenni treth.

Hyn oedd yn gyfrifol am 2 o'r achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata a 5 o'r achosion a fu bron â digwydd. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol er mwyn lleihau hyn.

Rydym yn cadarnhau bod mesurau priodol ar waith i ddangos ein bod yn cydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.

Seibergadernid

  • Er mwyn amddiffyn trethdalwyr a'n pobl, rydym yn gwella ein seibergadernid trwy’r amser.
  • Gwnaethom barhau i weithredu ein strategaeth seibergadernid, sy'n ymwneud â’n gallu i wrthsefyll digwyddiadau seiber ac i adfer yn gyflym os achosir niwed.
  • Rydym yn dilyn canllawiau'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ynghylch seilwaith TG, dyfeisiau, data a chymwysiadau.
  • Rydym yn cadw at safonau ac egwyddorion diogelwch ISO27001 ac ISO27002 sydd wedi’u halinio â Llywodraeth Cymru. Mae trydydd partïon ardystiedig Llywodraeth Cymru a NCSC wedi rhoi sicrwydd o’n gweithrediadau diogelwch. 

Er mwyn cryfhau ein seibergadernid ymhellach, gwnaethom: 

  • brofi diogelwch ein holl seilwaith digidol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol achrededig gan NCSC
  • rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch i holl bobl newydd a phresennol ACC
  • adnewyddu ein hardystiad Cyber Essentials Plus
  • cyflwyno llythyr safonau Seiberddiogelwch ar gyfer pob darpar gyflenwr
  • cynnal sesiwn friffio ar gyfer aelodau'r bwrdd ac uwch reolwyr ar destun y bygythiadau seiber sy’n datblygu a sut i ymateb iddynt
  • penodi cwmni trydydd parti sy’n arbenigo mewn ymateb i ddigwyddiadau seiber ac sydd ag ardystiad NCSC i'n cynorthwyo pe bydd ddigwyddiad mawr
  • cynnal 4 sesiwn gyda’r bwrdd yn meincnodi ACC yn erbyn nodau seiberddiogelwch ar gyfer Byrddau NCSC
  • cynnal ymarfer sicrwydd llawn ynghylch llywodraethiant diogelwch ac wedi gwneud newidiadau o ganlyniad iddo
  • trefnu i’n pobl TG allweddol dderbyn hyfforddiant trin digwyddiadau fforensig
  • derbyn ardystiadau seiberddiogelwch sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol
  • parhau i brofi staff drwy gynnal ymarferion gwe-rwydo rheolaidd yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth seiber

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym wedi derbyn 3 cais Rhyddid Gwybodaeth. Atebwyd pob un yn brydlon.

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwythu'r chwiban

Mae ein polisi a’n canllawiau ar Chwythu'r Chwiban yn rhoi manylion clir i staff am sut i grybwyll unrhyw bryderon. Mae swyddog enwebedig i dderbyn unrhyw ddatgeliadau.

Rydym hefyd yn berson rhagnodedig ar gyfer trethi datganoledig Cymru. Mae hyn yn golygu y gall person mewn unrhyw sefydliad sydd â phryder sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru wneud datgeliad gwarchodedig i ni os ydynt am chwythu’r chwiban. Mae gwybodaeth i chwythwyr chwiban allanol o ran sut i gysylltu â ni a’r ffordd y byddwn yn ymateb i unrhyw ddatgeliadau ar gael ar ein gwefan.

Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau yn ystod y flwyddyn.

Safonau’r Gymraeg

Rydym yn cydymffurfio'n wirfoddol â Safonau Llywodraeth Cymru lle bo hynny’n briodol ac yn gymesur.

Rydym wedi parhau i weithredu ein Strategaeth Iaith Gymraeg a gytunwyd yn 2020. Rydym yn canolbwyntio ar ddiwylliant, dysgu a datblygu, ac ar greu cyfleoedd i'n pobl a'n cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Rydym yn ymroddedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Nid ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar hyn o bryd.

Mae Ein Dull (sy'n llywio popeth a wnawn) yn rhannu ysbryd ac ymdeimlad y ddeddf. Hefyd, mae’r gwaith y gofynnwyd i ni ei wneud gan Weinidogion Cymru yn cefnogi nodau'r ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant.

Gallaf gadarnhau fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi'r sefydliad.

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Medi 2023

Adroddiadau cydnabyddiaeth ariannol a phobl

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol

Cytundebau gwasanaeth

Mae ein cyflogeion yn weision sifil.

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o'r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae'r egwyddorion recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi pa benodiadau y gellir eu gwneud fel arall. Mae'r uwch swyddogion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy'n benagored, naill ai gyda ni yn uniongyrchol, neu â'u hadrannau gwasanaethau sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai'r unigolyn yn cael iawndal yn unol â'r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw'r SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â'r rheolau a blynyddol a gynhyrchir gan Swyddfa Cabinet y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB).

Wrth lunio eu hargymhellion, mae'r SSRB yn ystyried:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a dyrchafu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu cyfrifoldebau
  • yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffeithiau ar recriwtio, cadw, a dyrchafu staff
  • polisïau'r Llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad i gyrraedd y targedau allbwn o ran darparu gwasanaethau adrannol
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth, a tharged chwyddiant y llywodraeth
  • Y dystiolaeth y mae’r SSRB yn ei dderbyn ynglŷn ag ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd eu hargymhellion

Gallwch ddysgu mwy am yr SSRB trwy fynd i wefan SSRB.

Mae ein Pwyllgor Pobl, dan gadeiryddiaeth aelod anweithredol, yn gyfrifol am:

  • argymell penderfyniadau tâl uwch swyddogion yn flynyddol, neu yn ôl yr angen
  • sicrhau bod tâl yn cael ei oruchwylio'n deg ac yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet

Mae'r Pwyllgor wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â’r hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa'r Cabinet. Er enghraifft, nid wnaethom unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau'r SCS yn ystod 2021 i 2023.

Mae'r gydnabyddiaeth ariannol i’n cyflogeion sydd islaw'r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth gweler Polisi Cyflog Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau anweithredol ein Bwrdd yn derbyn ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfraddau dyddiol ffioedd aelodau anweithredol
 Cyfradd ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol400
Is-gadeirydd Anweithredol350
Aelodau anweithredol300

Mae’r costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn yn cael eu had-dalu hefyd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r canlynol yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn aelodau Bwrdd ACC. Mae hyn yn cynnwys aelodau anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod staff etholedig y Bwrdd.

Mae'r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae'n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill os ydynt yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu daliadau yn ôl disgresiwn. Nid yw ad-daliadau ar gyfer treuliau cyfreithlon yn cael eu cynnwys yn y cyflog. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gennym ni.

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gennym ac y mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy.

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, rydym yn tueddu i adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 (er enghraifft £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth Ariannol Anweithredol

Ffioedd a dalwyd i aelodau anweithredol
Aelod anweithredol2022-23
£000
2021-22
£000
Kathryn Bishop
Cadeirydd Anweithredol (tan 18 Hydref 2022)
5-1010-15
Ruth Glazzard
Cadeirydd Anweithredol (o 19 Hydref 2022)
5-10Amherthnasol 
Dyfed Edwards
Dirprwy Gadeirydd anweithredol
10-155-10
Jocelyn Davies
Aelod Anweithredol
5-105-10
Mary Champion
Aelod Anweithredol
5-100-5
Rheon Tomos
Aelod Anweithredol
5-100-5
Jim Scopes
Aelod Anweithredol
5-100-5

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â'u ffioedd, mae aelodau anweithredol yn cael eu had-dalu am gostau teithio a threuliau eraill o dan ein Polisi Teithio a Chynhaliaeth. Rydym yn talu rhwymedigaeth treth yr ad-daliad.

Nid yw aelodau anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn cael buddion pensiwn.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn uwch swyddogion

Ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion
Uwch swyddogionCyflog
mewn bandiau
o £5,000
Buddion
pensiwm
i'r £1000
agosaf
Cyfanswm
mewn bandiau
o £5,000
2022-232021-222022-232021-222022-232021-22
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
100-105100-10511,00028,000110-115125-130
Sam Cairns
Prif Swyddog Gweithredu (tan 30 Medi 2022) 
40-4580-85-6,00032,00030-35110-115
Rebecca Godfrey 
Prif Swyddog Strategaeth
45-5030-357,00011,00055-6040-45
Melissa Quignon-Finch 
Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (tan 31 Awst 2022) 
30-3545-5033,00020,00065-7065-70

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau

  • Roedd buddion mewn nwyddau yn sero yn 2022 i 2023 ac yn 2021 i 2022.
  • Ni thalwyd unrhyw fonysau yn 2022 i 2023 na 2021 i 2022.
  • Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi'i luosi â 20, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw'r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd o ganlyniad i chwyddiant neu unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn.
  • Roedd Rebecca Godfrey ar gyfnod mamolaeth am ran o'r flwyddyn yn 2022 i 2023 ac yn 2021 i 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd i fod yn aelod o staff ond nid oedd yn gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei chyflog cyfwerth ag amser llawn ar gyfer 2022 i 2023 wedi bod yn £80,000-85,000 (2021 i 22: £80,000-85,000).
  • Penodwyd Melissa Quignon-Finch ym mis Medi 2021 a gadawodd yn Awst 2022. Byddai ei chyflog cyfwerth ag amser llawn ar gyfer 2022 i 2023 wedi bod yn £75,000-80,000 (2021 i 2022: £75,000-80,000)
Buddion pensiwn uwch swyddogion
Uwch swyddogionPensiwn Cronedig ar oedran pensiwn ar 31/03/23 a chyfandaliad perthnasolCynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwnCETV ar
31/03/23
CETV ar
31/03/22
Gwir gynnydd mewn CETV
£000£000£000£000£000
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
35-40 plus a lump sum of 45-500-2.5 plus a lump sum of 0509461-4
Sam Cairns
Prif Swyddog Gweithredu (tan 30 Medi 2022)
20-250228223-5
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Gweithredu / Cyfarwyddwr Gwasanaethau
25-300-2.5297276-1
Melissa Quignon-Finch
Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu (tan 31 Awst 2022)
10-150-2.5887312

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. * CETV = Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod.

Staff eraill

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy'n hafal i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod neu 65 os yw'n uwch. O'r dyddiad hwnnw ymunodd pob gwas sifil newydd a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth gydag alffa. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae 4 adran i'r PCSPS: 3 sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu glasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy'n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65.

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy'n daladwy o dan clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha yn flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol y PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i'w hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Newidiodd y rhai hynny a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o'u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 i alpha rhywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Gan fod y Llywodraeth yn bwriadu dileu’r gwahaniaethu a nodwyd gan y llysoedd yn y ffordd y cyflwynwyd diwygiadau pensiwn 2015 ar gyfer rhai aelodau, disgwylir, maes o law, y gallai aelodau cymwys sydd â gwasanaeth perthnasol rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 fod â hawl i wahanol fuddion pensiwn mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw (a gall hyn effeithio ar y Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gywerth ag Arian Parod a ddangosir yn yr adroddiad hwn – gweler isod). Mae holl aelodau'r cynllun pensiwn bellach yn y cynllun alffa ers 1 Ebrill 2022. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sydd wedi newid i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun). Gall Aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai'r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfraniad diffiniedig (prynu arian) gyda chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha. Mae buddion clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol ar adeg ymddeol. Mae buddion premiwm yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i clasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig.

Mae clasurol plws yn ei hanfod yn gymysgedd o’r ddau, gyda buddion am wasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo'n fras fel rhai clasurol, a buddion am wasanaeth ers Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel rhai premiwm. Gyda nuvos, bydd aelod yn cronni pensiwn ar sail yr enillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y bydd yn aelod o'r cynllun.

Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff y cyfrif pensiwn y mae’r aelod wedi’i gronni ei gredydu â 2.3% o'i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno'r cynllun a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â deddfwriaeth cynyddu pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond â chyfradd cronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o'r Mastertrust Legal & General. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes yn yr oedran pensiwn neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond noder y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun.

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes a allai fod yn ddyledus pan fydd pensiwn cymerir budd-daliadau.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg

Mae'r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae'n rhaid i gyrff adrodd ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf chydnabyddiaeth ariannol gweithlu'r sefydliad.

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod pensiynau. Ni thalodd ACC unrhyw dâl neu fonysau a oedd yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2022 i 2023 na 2021 i 2022.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 oedd £100,000-105,000 (2021-2022: £100,000-105,000). Roedd hyn 2.3 gwaith yn uwch na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £43,660 (2021 i 2022: £40,100). Gan ddefnyddio pwynt canol yr ystod gyflog wedi’i fandio ar gyfer y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf, nid oedd cynnydd yng nghyflog y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf.

Cynyddodd cyflog cyfartalog y sefydliad gan 0.5%.

Rhwng 2022 a 2023 a 2021 i 2022, ni dderbyniodd unrhyw staff gydnabyddiaeth ariannol uwch na'r cyfarwyddwr â'r cyflog uchaf. Roedd y tâl yn amrywio o £23,880 i £102,500 (pwynt canol band) (2021 i 2022: £21,300 i £102,500 (pwynt canol band)).

Cydnabyddiaeth ariannol staff chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf
BlwyddynCyflog 25ain canraddCymhareb gyflog 25ain canraddCyflog canolrifolCymhareb gyflog canolrifolCyflog 75ain canradCymhareb gyflog 75ain canradd 
2022-2330,6103.3:143,6602.3:163,9001.6:1
2021-2229,4303.5:140,1002.6:157,1901.8:1

Adroddiad pobl

Costau pobl
2022-23
£000
2022-23
£000
2022-23
£000
2021-22
£000
  
 Staff
a gyflogir yn barhaol
Staff
contract ac asiantaeth
CyfanswmCyfanswm 
Cyflogau3,627763,7033,305
Costau nawdd cymdeithasol4217428347 
Costau pensiwn eraill1,008181,026884 
Cyfanswm5,0561015,1574,536 

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r rhai a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys pobl sydd ar fenthyg i ni gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Mae'r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU.

Cynllun pensiwn

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all yr Awdurdod nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016.

Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2022 i 23, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £934,928 yn daladwy i'r PCSPS (2021 i 2022: £878,107) ar 1 o 4 cyfradd o fewn yr ystod 26.6-30.3% (yn 2022 i 2023 a 2021 i 2022) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae Actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad y cynllun.

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £6,665 (2021 i 2022: £6,298) i 1 neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8 - 14.75% (yn 2022 i 2023 ac yn 2021 i 2022) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3 % o dâl pensiynadwy.

Nid oedd unrhyw un (naill ai yn 2022 i 2023 nac yn 2021 i 2022) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

SCS yn ôl band cyflog

Nifer yr aelodau SCS yn ôl band cyflog
Band cyflog31 Mawrth 202331 Mawrth 2022
SCS 211
SCS 123

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ar raddau SCS3 neu SCS4.

Nifer y bobl a gyflogir

Personau a gyflogir (gan gynnwys SCS) - cyfwerth ag amser llawn (FTE) ar gyfartaledd
 2022-232021-22
Staff parhaol7667
Staff ar fenthyg33
Staff cyfnod penodol23
Cyfanswm8173

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd pobl cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel cyflenwi ar gyfer pobl bresennol oherwydd absenoldeb rhiant neu amser arall o’r gwaith, neu pan mai dim ond dros dro yr oedd angen y rôl.

Yn ogystal â phobl gyflogedig fel yr uchod, y CALl ar gyfer pobl asiantaeth oedd:

Staff asiantaeth - cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd (CALl)
 2022-232021-22
Staff asiantaeth01

Cyfansoddiad pobl

Gan ein bod wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion triniaeth gyfartal, rydym yn:

  • cadw ac adolygu gwybodaeth cydraddoldeb ein pobl er mwyn llywio ein penderfyniadau
  • gweithredu polisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac rydym yn ystyried yr effaith ar unigolion a grwpiau sydd â nodweddion wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw)
  • sicrhau bod ein Bwrdd a'n Tîm Arwain yn goruchwylio cydraddoldeb
  • cyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2023, sy’n ymdrin â'r cyfnod 2021 i 2022
Personau a gyflogir yn ôl rhywedd
 Ar 31 Mawrth 2023Ar 31 Mawrth 2022
 MenywodDynionMenywodDynion
SCS1222
Pobl eraill45394431

Roedd y pethau a wnaethom i hyrwyddo triniaeth gyfartal yn cynnwys:

  • Achrediad cyflogwr Cyflog Byw
  • hyrwyddo ein hymrwymiad 'Hapus i Drafod Gweithio Hyblyg' ar ein tudalennau recriwtio, gan hysbysebu pob rôl fel rhai sydd ar gael yn hyblyg
  • Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
  • cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol rôl
  • ceisiadau recriwtio sy’n ‘cuddio enwau’ i ddileu cyfeiriadau at fanylion personol ac enwau sefydliadau addysgol
  • gofyn i bob ymgeisydd a ydynt angen addasiadau neu ddewisiadau amgen yn ystod unrhyw broses recriwtio
  • paneli recriwtio â chymysgedd rhywedd sydd i gyd wedi cwblhau hyfforddiant
  • hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i'r holl staff
  • darparu gwasanaethau Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a Chymorth i Weithwyr i bobl sy'n mynd yn sâl
  • Grŵp Llesiant gweithredol i gefnogi'r Strategaeth Lesiant, gan drefnu ystod eang o ddigwyddiadau llesiant i’n pobl
  • darparu gliniaduron i’n holl bobl er mwyn caniatáu iddynt weithio gartref
  • Asesiadau offer sgrin arddangos (DSE) ar gyfer ein holl bobl er mwyn nodi unrhyw addasiadau ac offer sydd eu hangen i weithio gartref yn ddiogel yn ystod y cyfnodau clo
  • absenoldeb arbennig i weithwyr sy’n ofalwyr neu’n rhieni ac yn wynebu aflonyddwch oherwydd COVID-19.

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel Dyddiau Gwaith a Gollwyd yn Flynyddol (AWDL):

AWDL fesul blwyddyn staff = cyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn / cyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl.

Mae hyn yn well cynrychiolaeth o'r diwrnodau a gollir yn wirioneddol o gymharu â ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint. Mae defnyddio cyfanswm blynyddoedd hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i bobl ran-amser, ymgeiswyr newydd, a'r rhai sy'n gadael.

Er enghraifft, byddai rhywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn o 0.5.

Roedd lefel ein habsenoldeb salwch yn 5.88 AWDL ar gyfer 2022 i 2023. Mae hyn yn llawer is na'r ffigwr Gwasanaeth Sifil diweddaraf sydd ar gael, sef 7.9 AWDL ar gyfer 2021 i 2022.

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn 2 ffordd:

  • Trosiant = staff sy’n gadael y Gwasanaeth Sifil yn ei gyfanrwydd
  • Trosiant adrannol = staff sy'n gadael y Gwasanaeth Sifil neu gyflogwr penodol

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael â chyfartaledd y bobl sydd mewn swydd.

Yn 2022 i 2023, roedd y trosiant yn 0.01% a’r trosiant adrannol yn 0.02%.

Roedd y rhan fwyaf o'r trosiant yn ymwneud â’r rhai a oedd yn ymuno â chyflogwyr eraill o fewn y gwasanaeth sifil, yn aml oherwydd dyrchafiad, yn ogystal â symudiadau ochrol, benthyciadau i adrannau eraill, a chontractau cyfnod penodol yn dod i ben.

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Arolwg ymgysylltu â chyflogeion trawslywodraethol yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Bob blwyddyn, mae tua 300,000 o weision sifil o dros 100 o sefydliadau yn cymryd rhan.

Mae'n defnyddio Mynegai Ymgysylltu sy'n gyfartaledd o'r ymatebion i'r 5 cwestiwn hyn sy'n ddangosyddion cryf o ymgysylltiad gweithwyr:

  • Rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC
  • Byddwn yn argymell ACC fel lle gwych i weithio
  • Mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy swydd
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘anghytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘gytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn.

Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ACC
 20222021
Mynegai ymgysylltu77%78%

Mae ein sgoriau ni yn dangos lefel uchel o ymgysylltiad â chyflogeion ac maent yn sylweddol uwch na chanolrif y Gwasanaeth Sifil o 65% yn 2022 a 66% yn 2021.

Image
Eicon o rhosglwm melyn gyda thestun: ‘Roeddem yn y 3 uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr yn 2022.’

Mae ein canlyniadau llawn ar gyfer pob blwyddyn i'w gweld ar ein gwefan: Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Costau ymgynghori yn ystod y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Costau ymgynghori317155

Pan fo angen sgiliau arbenigol, caiff y gwaith hwn ei wneud naill ai gan unigolion arbenigol neu dimau o sefydliadau ymgynghori.

Bu cynnydd yn y defnydd o sefydliadau ymgynghori arbenigol yn 2022 i 2023. Roedd hyn oherwydd bod prosiect a ddechreuodd yn 2020 i 2021 wedi parhau i 2022 i 2023. Roedd y prosiect yn edrych ar y potensial i ni gefnogi'r gwaith o ddatblygu trethi eiddo sy’n amrywio yn ddaearyddol yn y dyfodol, gan ddefnyddio dull platfform data. Roedd costau ymgynghori eraill ar gyfer sgiliau arbenigol mewn seiberddiogelwch, gwasanaethau rhwydwaith a dadansoddiad o'n diwylliant corfforaethol.

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn gymwys i unigolion sydd naill ai'n hunangyflogedig, yn gweithredu trwy gyfryngwr neu gwmni gwasanaeth yn hytrach na chael eu cyflogi'n uniongyrchol gennym ni. O 6 Ebrill 2017, arweiniodd diwygiadau i’r ddeddfwriaeth (a elwir yn IR35) at newid y rheolau ar gyfer pobl oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus. Symudwyd y rhwymedigaeth i benderfynu ar statws treth o’r contractwr i'r cyflogwr.

Mae pob ymgysylltiad oddi ar y gyflogres wedi bod yn destun asesiad IR35 er mwyn pennu natur y trefniadau gweithio ac i sicrhau tryloywder a chydymffurfiaeth â rheoliadau treth.

 
Ymrwymiadau gweithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2023, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y gweithwyr oddi ar y gyflogres yn ôl eu hamser gyda ni2
O'r rhain:
Nifer am lai na 1 flwyddyn 0
Nifer rhwng 1 a 2 flynedd 0
Nifer rhwng 2 a 3 blynedd0
Nifer rhwng 3 a 4 blynedd1
Nifer am 4 blynedd neu fwy 1
Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a ymgysylltwyd â hwy yn ystod y flwyddyn0
O'r rhain:
Nifer a aseswyd nad oeddent yn ddarostyngedig i deddfwriaeth oddi ar y gyflogres 0
Nifer a aseswyd eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod o fewn cwmpas IR350
Nifer a aseswyd eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR350
Nifer a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn0
Nifer a welodd newid statws IR350
Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol
Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol0
Nifer yr aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd ar, ac oddi ar, y gyflogres ac sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol11

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

Mae'r tabl isod yn dangos cyfanswm nifer y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac sydd wedi’u cyfrif:

 
Nifer y diswyddiadau a'r ymadawiadau cytunedig eraill yn ystod 2022 i 2023 a 2021 i 2022 oedd dim
 Nifer y diswyddiadau gorfodolNifer yr ymadawiadau eraill y cytunwyd arnyntCyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band costCyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost
2022-232022-232022-232021-22
<£10,0000000
£10-000 - £25,0000000
£25,000 - £50,0000000
£50,000 -£100,0000000
£100,000 - £150,0000000
£150,000 - £200,0000000
Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael0000

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Telir costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS) o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Pe byddwn yn cytuno i ymddeoliadau cynnar, ni fydd yn talu’r costau ychwanegol yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd afiechyd yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y tabl.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
13 Medi 2023

Adroddiad archwilio – Cyfrifon adnoddau

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Rwy'n ardystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 o dan  Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys y y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol sydd wedi’i gymhwyso wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw'r gyfraith gymwys a’r Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol sydd wedi’u mabwysiadu yn y DU fel y'u dehonglir a'u haddasu gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob agwedd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2022] ac o'i gostau gweithredu netam y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw;
  • wedi cael eu paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol sydd wedi’u mabwysiadu gan y DU fel y'u dehonglir a'u haddasir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
  • wedi eu paratoi'n briodol yn unol â  chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae'r incwm a'r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar gyfer Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio yn adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae fy staff a minnau'n annibynnol o’rcorff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i fy archwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i fy marn.

Casgliadau'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o'r adeg y mae'r datganiadau ariannol wedi'u hawdurdodi i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn cysylltiad â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mabwysiadir sail busnes gweithredol o gyfrifyddu ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy'n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol lle rhagwelir y bydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn parhau i'r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i’r datganiadau ariannol a rhannau eraill o'r adroddiad sy'n cael eu harchwilio a’m hadroddiad  archwilydd ar hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â'r datganiadau ariannol neu'r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu yn ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei cham-ddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysondebau perthnasol o'r fath neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith rwyf wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod yr wybodaeth arall honno wedi’i cham-ddatgan yn berthnasol, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, mae'r rhan o'r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i'w harchwilio wedi ei pharatoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:

  • mae’r rhannau o'r Adroddiad Atebolrwydd sy'n destun archwiliad wedi'u paratoi'n briodol yn unol â  chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
  • mae'r wybodaeth a roddir yn y Adroddiad Perfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion yr wyf yn adrodd amdanynt drwy eithriad

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn  y Adroddiad Perfformiad na'r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf ddim i'w adrodd mewn cysylltiad â'r materion canlynol yr wyf yn adrodd i chi amdanynt os, yn fy marn i y mae’r canlynol yn berthnasol:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu os na chafwyd ffurflenni cyfrifyddu digonol ar gyfer fy archwiliad oddi wrth y canghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
  • nid yw'r datganiadau ariannol a'r rhan o'r Adroddiad Atebolrwydd a archwiliwyd yn gyson â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu;
  • ni ddatgelwyd gwybodaeth a nodir gan Gweinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodiadion eraill;
  • nid yw rhai datgeliadau o gydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi’u gwneud neu nid yw rhannau o'r Adroddiad Cydnabyddiaeth ariannol a Staff sydd i'w harchwilio yn cyd-fynd â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw'r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

  • Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am y canlynol:
  • cynnal cofnodion cyfrifyddu priodol.
  • paratoi'r datganiadau ariannol a’r Adroddiad Blynyddol yn unol â'r fframwaith adrodd ariannol perthnasol a bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun gwir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • rheolaethau mewnol y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r gwaith o baratoi datganiadau ariannol sydd heb gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu wall;
  • asesu gallu’r Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu oni bai fod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p‘un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo’n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os yn unigol neu gyda’i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwy'n llunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn cysylltiad ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau yn cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr, yr achwilwyr mewnol a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru ynghylch y canlynol:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a ph’un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i risgiau o dwyll a ph’n a oedd ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig;
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais y posibilrwydd o dwyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, cydnabod gwariant, postio dyddlyfrau ariannol anarferol;
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdodaeth Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru
  • Cael dealltwriaeth o berthnasoedd partïon cysylltiedig.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau yn y datganiad ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a chynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll yn sgil rheolwyr yn gwrthwneud rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ariannol ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg fusnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i fusnes arferol;

Fe wnes i hefyd gyfleu cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau posibl o dwyll i bob aelod o'r tîm archwilio gan barhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae'r anhawster cynhenid o ran canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn effeithio ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau'r Awdurdod Cyllid Cymru a natur, amseriad a graddau’r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o adroddiad fy archwilydd.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae'n ofynnol i mi gael tystiolaeth ddigonol i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Rwy'n cyfathrebu â'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ynghylch cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol ymhlith materion eraill, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru

1 Cwr y Ddinasf
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

13 Medi 2023

 

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Cyfrifon adnoddau

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Costau staff 25,1574,536
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff211382
Costau gweithredu eraill21,5741,440
Dibrisiant3.14531
Amorteiddiad3.25663
Gwariant gweithredu net 6,9456,152
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn 6,9456,152
Datganiad o Sefyllfa Ariannol
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Asedau anghyfredol
Asedau cyfredol
Rhwymedigaethau cyfredol
Ecwiti trethdalwyr
Peiriannau ac Offer3.116494
Asedau anniriaethol3.22783
Cyfanswm asedau anghyfredol 191177
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall4104116
Arian parod a chyfwerth ag arian parod5966868
Cyfanswm asedau cyfredol 1,070984
Symiau masnach a symiau taladwy eraill6(894)(909)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (894)(909)
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol 367252
Cronfa gyffredinol 367252

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Medi 2023
 

Datganiad o Lifau Arian Parod
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Llifau arian parod o weithgareddau gweithredol
Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn rhai arian parod
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Gwariant gweithredu net (6,945)(6,152)
Gostyngiad/(cynnydd) mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill (12)(4)
(Gostyngiad)/cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill (15)45
Dibrisiant ac amorteiddiad3.1, 3.210194
Arian parod net (all-lif) sy'n deillio o weithgareddau gweithredu (6,847)(6,017)
Ychwanegu peiriannau ac offer3.1(115)(56)
Ychwanegu asedau anniriaethol3.20(9)
Arian parod net (all-lif) sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi(115)(65)
Cyllid gan Lywodraeth Cymru 7,0606,291
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod598209
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod5868659
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod5966868
Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr
 Cronfa Gyffredinol
£000
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2021-22
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2022-23
Balans ar 31 Mawrth 2021 113
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru6,226
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru65
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn(6,152)
Balans ar 31 Mawrth 2022252
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru6,941
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru119
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn(6,945)
Balans ar 31 Mawrth 2023367

Nodiadau i'r cyfrifon Adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29 (1) (b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EM
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol. 

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Cyfrifwyd am wariant ar sail croniadau. Mae cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn AP1.7.

1.3 Busnes Gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail "busnes gweithredol" gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei gyllid refeniw ganddynt i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir rhagweld.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Y Gweinidog yn unig sy'n cyfarwyddo'r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i'w ddefnyddio.

1.5 Cronni Gwyliau Blynyddol

Caiff croniadau gwyliau blynyddol Staff eu cyfrif o fewn costau staff eraill. Dim ond y symudiad yn ystod y flwyddyn sy'n cael ei godi. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn.

1.6 Treth Ar Werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEM.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ddyraniad grant) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r Gronfa Gyffredinol. Mae'r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Dim ond y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth a gynhwysir yn Arian parod a chyfwerth ag arian parod.

1.9 Adrodd segmentau

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae'r Awdurdod yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adroddiadau ychwanegol.

1.10 Lesau

Ar gyfer 2022/23, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les fel prydleswr neu lesddeiliad o dan IFRS 16.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog.

1.12 Asedau Anghyfredol

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei gario ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn.

Mae’r holl gyfarpar a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC ac a oedd yn costio £5,000 neu fwy wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel y dangosir isod.

Expected useful life of equipment
Categori offerOes ddefnyddiol ddisgwyliedig
Gosodiadau a Ffitiadau10 mlynedd
Cyfarpar TGCh3 i 5 blynedd
Cyfarpar Arall5 mlynedd
Asedau Anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd eu natur benodol, caiff asedau anniriaethol eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth, dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl i'r ased gael ei gaffael fel y nodir isod.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig asedau anniriaethol
Categori o Ased AnniriaetholOes ddefnyddiol amcangyfrifedig
Trwyddedau a meddalwedd3 blynedd

2. Gwariant

Gwariant yn ystod y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Staff a chostau cysylltiedig
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff
Costau gweithredu eraill
Cyflogau3,7033,232
Costau pensiynau1,026884
Costau nawdd cymdeithasol428347
Costau asiantaeth073
 5,1574,536
Hyfforddi a datblygu8982
Teithio a chynhaliaeth184
Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion [1]6(4)1
 11382
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill7461
Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig6942
Ffi archwilio allanol3431
Costau sy'n gysylltiedig â TGCh1,111987
Ffi archwilio mewnol1416
Costau proffesiynol eraill272303
 1,5741,440
Amorteiddiad a Dibrisiant10194
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn6,9456,152

Mae dadansoddiad pellach o gostau staff a chostau cysylltiedig i'w gael yn yr adroddiad Pobl.

Nodiadau

[1] Dangosir hyn fel credyd yn 2021 i 2022 oherwydd bod y symudiad yng nghroniad budd-daliadau gweithwyr yn ostyngiad a arweiniodd at y ffigur hwn yn gredyd.

3. Asedau anghyfredol

 
3.1 Cyfarpar
 Cyfarpar TGCh
£000
Peiriannau ac Offer
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 202221511226
Ychwanegiadau5560115
Ar 31 Mawrth 202327071341
Dibrisiant
Dibrisiant ar 1 Ebrill 20221248132
Tâl am y flwyddyn43245
Ar 31 Mawrth 202316710177
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202291394
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202310361164
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 202115911170
Ychwanegiadau56056
Ar 31 Mawrth 202221511226
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2021956101
Tâl am y flwyddyn29231
Ar 31 Mawrth 20221248132
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202164569
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202291394
 
3.2 Asedau anniriaethol
 Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2022642,5402,604
Ychwanegiadau00
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 2023642,5402,604
Amorteiddiad
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2022342,4872,521
Tâl am y flwyddyn233356
Gwarediadau000
Ar 31 Mawrth 2023572,5202,577
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2022308683
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202372027
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 20211302,5312,661
Ychwanegiadau099
Gwarediadau(66)0(66)
Ar 31 Mawrth 2022642,5402,604
Amorteiddiad
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2021792,4452,524
Tâl am y flwyddyn214263
Gwarediadau(66)0(66)
Ar 31 Mawrth 2022342,4872,521
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 20215186137
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2022305383

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall104116
Balans ar 31 Mawrth104116

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Balans ar ddechrau'r cyfnod868659
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod98209
Balans ar 31 Mawrth966868

Mae'r holl falansau'n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

Symiau masnach a symiau taladwy eraill ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Symiau masnach taladwy(746)(730)
Symiau taladwy eraill(148)(179)
Balans ar 31 Mawrth(894)(909)

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol. 

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig. Trafodiadau materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru:

  • derbyniwyd cyllid refeniw o £6.94 miliwn yn ystod y flwyddyn (2021 i 2022 £6.23 miliwn)
  • y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn oedd £119,000 (2021 i 2022 £64,500)
  • gwnaed taliadau o £5.31 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2022 i 2023 yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres (2021 i 2022 £4.7 miliwn)

Ni ymgymerodd unrhyw aelodau o'r Bwrdd, uwch swyddogion na phartïon cysylltiedig, ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2023.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2023.

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Adroddiad archwilio – Datganiad treth

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Rwy'n ardystio fy mod wedi archwilio Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Mae'r Datganiad Treth yn cynnwys Datganiad Refeniw, Incwm a Gwariant Eraill, Datganiad Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lifau Arian a nodiadau cysylltiedig, nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifo sylweddol. 

Mae'r fframwaith adrodd ariannol sydd wedi'i gymhwyso wrth baratoi yn gyfraith berthnasol ac mae'r DU wedi mabwysiadu safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglir a'u haddasu gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM.

Yn fy marn i ym mhob agwedd faterol, mae'r datganiadau ariannol:

  • rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2023 ac o'r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifeg rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y DU fel y'u dehonglir a'u haddasu gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM; ac
  • wedi eu paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ystyr berthnasol, mae'r gwariant a'r incwm a gofnodwyd yn y Datganiad Treth wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodiadau ariannol a gofnodir yn y Datganiad Treth yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae fy staff a minnau'n annibynnol ar Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barn.

Casgliadau'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r Datganiad Treth, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail gyfredol o gyfrifo wrth baratoi'r Datganiad Treth yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu gyda'i gilydd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu sail cyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o'r adeg y mae'r datganiadau ariannol wedi'u hawdurdodi i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â phryder yn yr adrannau perthnasol o'r dystysgrif hon.

Mabwysiadir sail gynyddol cyfrifyddu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Llywodraeth Trysorlys EM, sy'n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu sail gynyddol cyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol lle y rhagwelodd y bydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn parhau i'r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ac eithrio'r Datganiad Treth a’m hadroddiad archwilydd ar hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall. Nid yw fy marn ar y Datganiad Treth yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r Datganiad Treth neu'r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu fel arall yn ymddangos ei bod wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y Datganiad Treth ei hun. Os byddaf i, yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd am y ffaith honno.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r Datganiad Treth yn cael ei baratoi ar ei chyfer yn gyson â'r Datganiad Treth a'r Adroddiad Perfformiad yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru.

Materion yr wyf yn adrodd amdanynt drwy eithriad

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Perfformiad na'r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol yr wyf yn eu hadrodd i chi os, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • nid yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi'u cadw neu ni dderbyniwyd ffurflenni cyfrifyddu sy'n ddigonol ar gyfer fy archwiliad gan ganghennau nad ymwelwyd â hwy gan fy nhîm;
  • nid  yw'r datganiadau ariannol a'r rhan a archwiliwyd o'r Adroddiad Atebolrwydd yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifeg;
  • ni ddatgelir gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru ynghylch tâl a thrafodion eraill;
  • rhai datgeliadau o gydnabyddiaeth ariannol a bennir gan Llawlyfr Adrodd Ariannol Llywodraeth Trysorlys EM yn cael eu gwneud neu nid yw rhannau o'r Adroddiad Cydnabyddiaeth a Phobl sydd i'w harchwilio yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw'r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifeg, mae'r Swyddog Cyfrifeg yn gyfrifol am:

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'r Adroddiad Blynyddol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed yno o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi barn wir a theg;
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn ei gyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • mae rheolaethau mewnol fel y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn eu diwygio fel y bo'n briodol yn penderfynu yn angenrheidiol er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad;
  • asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, datgelu fel y bo'n berthnasol, materion sy'n ymwneud â phryder parhaus a defnyddio sail barhaus cyfrifyddu oni bai bod y Swyddog Cyfrifeg yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn i.

Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu gamgymeriad ac fe'u hystyrir yn ddeunydd os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n dylunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau yn cynnwys y canlynol:

  • ymchwilio i reolwyr, yr archwilwyr mewnol a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy'n ymwneud â:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithirau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth neu honedig; ac
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
    • ystyried fel tîm archwilio sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, cydnabyddiaeth gwariant, postio cyfnodolion anarferol a (ychwanegu fel sy'n briodol i'r archwiliad);
  • cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru; a
  • chael dealltwriaeth o berthnasoedd partion cysylltiedig.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy gweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu'r datganiadau ariannol a phrofion i ddogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodwyd uchod;
  • holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a chynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a posibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a'r Bwrdd; ac
  • wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll trwy wrthdroi rheolaeth rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i gwrs busnes arferol; a

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau a nodwyd yn berthnasol a risgiau posibl i dwyll i bob aelod o'r tîm archwilio a pharhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae'r graddau y mae fy ngweithdrefnau'n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn cael ei effeithio gan yr anhawster cynhenid wrth ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseru a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o adroddiad fy archwilydd.

Cyfrifoldebau archwilydd eraill

Mae'n ofynnol i mi hefyd gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm a gofnodwyd yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodir yn Natganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Rwy'n cyfathrebu â'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu ynghylch cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio sylweddol ymhlith materion eraill, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton 
Archwilydd Cyffredinol Cymru      

1 Cwr y Ddinasf
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

13 Medi 2023

 

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Datganiad treth

Datganiad o Refeniw, Incwm Arall, a Gwariant
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Refeniw
Trethi a thollau
Incwm arall
Gwariant
Treth Trafodiadau Tir (TTT)2.1372,106402,245
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)2.242,01445,334
Cyfanswm trethi a thollau 414,120447,579
Cosbau2.3420503
Llog2.310786
Cyfanswm cosbau a llog 527589
Cyfanswm y refeniw 414,647448,168
Llog a dalwyd 3.1(218)(120)
Colledion refeniw3.2(546)(248)
Cyfanswm y gwariant (764)(368)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 413,883447,800

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt mewn man heblaw am y Datganiad Refeniw, Incwm, a Gwariant Arall uchod.

Datganiad o Sefyllfa Ariannol
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Asedau cyfredol
Rhwymedigaethau cyfredol
Symiau derbyniadwy4.12,2803,106
Trethi cronedig derbyniadwy4.116,57219,600
Arian parod59,53512,935
Cyfanswm asedau cyfredol 28,38735,641
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif6536110
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys71,5511,114
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol 2,0871,224
Cyfanswm yr asedau net 26,30034,417
Cynrychiolir gan
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru926,30034,417

Dyfed Alsop
Chief Executive and Accounting Officer
13 Medi 2023

Datganiad o Lifau Arian Parod
 Nodyn2022-23
£000
2021-22
£000
Llif arian net o weithgareddau gweithredolA418,600446,121
Arian parod a dalwyd i'r Gronfa Gyfunol (422,000)(440,500)
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwnB(3,400)5,621

Nodiadau ar y Datganiad o Lifau Arian Parod

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net
 2022-23
£000
2021-22
£000
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru413,883447,800
Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod3,854(2,114)
(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau 426(679)
(Gostyngiad)/cynnydd mewn darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau4371,114
Llif arian net o weithgareddau gweithredol418,600446,121
B: Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net
 2022-23
£000
2021-22
£000
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn(3,400)5,621
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc)12,9357,314
Arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol)9,53512,935

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EM
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn mewn nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol. 

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Datganiad Treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau.

1.3 Cydnabod refeniw

Trethiant

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan:

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru.
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfraddau uwch, eu cydnabod yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol.

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan:

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifiad:

pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth.

  • pan gaiff cosb ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC
  • pan fo cosb, oherwydd apêl neu am resymau cyfreithiol eraill, yn cael ei chanslo

Lle ystyrir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddir mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw'r hyn a ddangosir uchod, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad yr ystyrir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y Datganiad Treth. Dyma'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir. Y rhwymedigaeth treth ddamcaniaethol hon yw’r dreth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn dilyn llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith).

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fydd gan trafodiad tir sawl cam o bennu prisiau prynu ac phan fo 1 neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio; cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio.

Ymholiadau a Thribiwnlysoedd

Yn unol â’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, nid yw refeniw treth ynghyd ag ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o achosion ymholiad neu dribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy'n ymwneud ag ymholiadau neu dribiwnlysoedd.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

  • mae datgelu rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch TTT yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a'u dyfarniadau. Nid oes gennym ddata digonol ar gael eto er mwyn modelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-dalu yn y dyfodol.

1.5 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, Offerynnau Ariannol, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid oes unrhyw amlygiad i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn dangos unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y Datganiadau Ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.

1.7 Symiau derbyniadwy

Nid yw'r FReM yn ei gwneud yn ofynnol i ACC benderfynu ar amhariadau yn unol ag IFRS 9: Offerynnau Ariannol, gan fod y safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract, fodd bynnag, mae namau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y rhagosodiad o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a chan ystyried y tebygolrwydd o gasglu.

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd i benderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath yn bodoli, adroddir ar y gwerthoedd yn y Datganiad o Sefyllfa Ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu.

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae'r mwyafrif llethol yn cael eu gyrru gan ansolfedd unigol a busnesau. Daw colledion refeniw o ollyngdod a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadfer ond fod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadfer pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled.

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol.

2. Refeniw ac incwm arall

2.1 Treth Trafodiadau Tir
 2022-23
£000
2021-22
£000
Preswyl277,938271,822
Amhreswyl [1]94,168130,423
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir372,106402,245

[1] Mae hyn yn cynnwys trafodiadau defnydd cymysg o £11.38 miliwn yn 2022-23 a £13.37 miliwn yn 2021-22.

Ar 30 Ebrill, roedd y ffigur hwn wedi'i ostwng er mwyn cyfrif am ad-daliadau cyfradd uwch o £20.33 miliwn (2021-22 £24.23 miliwn) sydd bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ad-daliad. 

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn 3 blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol. Caiff y rhain eu hadnabod pan fydd trethdalwr neu’r asiant yn cyflwyno hawliad sy’n creu digwyddiad sy’n creu rhwymedigaeth a lle fo gwerthiant y preswylfa yn digwydd o fewn, neu cyn, y flwyddyn ariannol yr adroddiad arni.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
 2022-23
£000
2021-22
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi42,01445,334
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi42,01445,334

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi a chaiff ei gyfrifo yn ôl y pwysau a’r math o wastraff.

2.3 Cosbau a llog
Penalty
£000
Interest
£000
Penalty
£000
Interest
£000
  
 2022-232021-22 
Treth Trafodiadau Tir42010550385
Treth Gwarediadau Tirlenwi0201 
Cyfanswm cosbau a llog42010750386 

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, os bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd
 2022-23
£000
2021-22
£000
Treth Trafodiadau Tir(218)(120)
Treth Gwarediadau Tirlenwi00
Cyfanswm y llog a dalwyd(218)(120)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw
Amhariad ar y Dreth
£000
Dyled wedi'i Dileu
£000
Amhariad ar y Dreth
£000
Dyled wedi'i Dileu
£000
  
 2022-232021-22 
Treth Trafodiadau Tir(544)(2)(233)(15)
Treth Gwarediadau Tirlenwi0000 
Cyfanswm y colledion refeniw(544)(2)(233)(15) 

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad ar dreth (gweler nodyn 4.2).

Dilëir dyledion pan, ar ôl cymryd pob cam rhesymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus, nad oes modd eu hadennill.

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy

 
4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus
 2022-232021-22
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000
Treth Trafodiadau Tir3,1739,5603,4599,359
Treth Gwarediadau Tirlenwi07,012010,241
Cyfansymiau cyn Amhariad3,17316,5723,45919,600
Heb yr Amhariad 
(nodyn 4.2)
(893)0(353)0
Cyfanswm2,28016,5723,10619,600

Symiau derbyniadwy yw rhwymedigaethau trethdalwyr lle mae’r symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog a ysgwyddwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond ni dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Refeniw cronedig derbyniadwy yw’r symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth lle mae'r rhwymedigaeth treth wedi'i phrofi ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen.

4.2 Darpariaeth amhariad
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
  
 2022-232021-22 
Ar 1 Ebrill35301190
Cynnydd mewn amhariad54302340 
Defnydd o amhariad(3)000 
Balans ar 31 Mawrth89303530 

Gwneir darpariaeth amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir y dreth neu’r cosbau sy'n ddyledus yn llawn. Amhariad yw gwerth dyled sydd, yn ein barn ni, yn debygol o fod yn anadferadwy yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y Datganiad ar y Sefyllfa Ariannol ar ôl didynnu gwerth amcangyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth amhariad yn seiliedig ar lawer o ffactorau, megis sefyllfaoedd pan, yn anffodus, mae trethdalwr ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cymryd. 

5. Arian parod

 
Balans arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth9,53512,935
Balans ar 31 Mawrth9,53512,935

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth.

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Treth Trafodiadau Tir536110
Treth Gwarediadau Tirlenwi00
Cyfanswm536110

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn cynnwys ad-daliadau treth, cosbau neu log sy’n ddyledus, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch.

7. Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys

Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys ar ddiwedd y cyfnod
 2022-23
£000
2021-22
£000
Treth Trafodiadau Tir10
Treth Gwarediadau Tirlenwi1,5501,114
Cyfanswm1,5511,114

Fel y nodwyd ym mholisi cyfrifyddu 1.3, nid yw refeniw sy'n ymwneud ag achosion tribiwnlys yn cael ei gydnabod yn y cyfrifon hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad neu'r dyfarniad. Sefydlwyd y ddarpariaeth i gydnabod bod ACC wedi derbyn taliadau pan fo'r trethdalwr wedi apelio i dribiwnlys mewn perthynas â'r dreth sy'n ddyledus.

8. Rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiadau preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae'n rhaid i'r trethdalwr anfon cais er mwyn cael yr ad-daliad.

Dangosir yr ad-daliad posibl hwn o dreth cyfraddau uwch fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y Datganiad Treth oherwydd ansicrwydd yr ailhawliadau a'u hamseriadau. Ar gyfer 2022 i 2023, yr amcangyfrif yw £24.2 miliwn (2021 i 2022 £20.0 miliwn) a gyfrifwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

9. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

 2022-23
£000
2021-22
£000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill34,41727,117
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru413,883447,800
Ar ôl tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru(422,000)(440,500)
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru26,30034,417

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw'n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo; er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan y Senedd ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol ddiriaethol.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EM ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y Llywodraeth yn defnyddio'r rhain fel sail eu paratoadau ar gyfer eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy'n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sydd angen eu talu i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.