Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Mae'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni (yr Awdurdod) wedi'u derbyn erbyn 20 Ionawr 2020.

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd y Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Hydref i Ragfyr 2019:

  • 16,610 o drafodiadau a £68.4 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma’r amcangyfrif cyntaf uchaf o werth chwarterol y dreth sy’n ddyledus ers cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ym mis Ebrill 2018. Mae hyn wedi’i achosi i raddau helaeth gan refeniw uwch o drafodiadau preswyl, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2018.
     
  • 15,140 o drafodiadau preswyl gyda £48.4 miliwn o dreth yn ddyledus
    • o'r rhain, £18.7 miliwn o refeniw ychwanegol ei godi o gyfraddau uwch y dreth breswyl
       
  • 1,480 o drafodiadau amhreswyl, gan arwain at £19.9 miliwn o dreth yn ddyledus

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal i fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Rhagfyr 2019. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i’r Awdurdod.

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gwneud hyn yn bennaf.

Data ar gael dros LTT

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddon ni setiau data manwl newydd ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • Awdurdod lleol
     
  • Etholaethau’r Cynulliad (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • Lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
     
  • Ardaloedd adeiledig, cyhoeddwyd ym mis Hydref 2019 (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)

Ar gyfer data ar lefel Cymru, rydym yn rhoi dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Rhagfyr 2019 a'r chwarter o Hydref i Ragfyr 2019. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn fwyaf arbennig, oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
     
  • Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn ystod 2018-19. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft yn ystod 2018-19, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3.5% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.1 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Ionawr 2020, derbynion ni manylion o 16,610 drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019. Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl derbyn manylion o nifer fechan o drafodiadau pellach ar gyfer y cyfnod hwn.

Yn Hydref i Ragfyr 2019, roedd 91% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 9% yn rhai amhreswyl. Mae’r rhain yn canrannau tebyg i gyfnodau tair-mis blaenorol.

Mae Ffigur 2.2 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 20 Ionawr 2020, roedd £68.4 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Hydref i Ragfyr 2019.

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref. Gwelir yr effeithiau hyn hefyd yn lefelau'r trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus. Felly gall cymharu data Hydref i Ragfyr 2019 gyda’r un cyfnod yn 2018 fod o gymorth.

O gymharu data Hydref i Ragfyr 2019 gyda'r un cyfnod yn 2018, bu cynnydd 7% yng nghyfanswm y dreth sy'n ddyledus, gan arwain at y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Mae hyn wedi'i achosi i raddau helaeth gan gynnydd mewn refeniw o drafodiadau preswyl.

Fodd bynnag, yn ein hystadegau misol a chwarterol, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Hydref i Ragfyr 2018 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer 2019 wedi cael ei ddywygio eto. Yn y dyfodol, bydd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i ffigur 2019 oherwydd trafodiadau hwyr. Gan ganiatáu ar gyfer hyn, ein hamcangyfrif gorau o'r newid yr ydym yn disgwyl ei weld rhwng y ddau gyfnod yw cynnydd o tua 3%.

Mae Ffigur 2.3 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl, a ffigurau ar wahân ar gyfer gwerth rhentu ar gyfer lesoedd amhreswyl a roddwyd o’r newydd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Hydref i Ragfyr 2019 oedd £3.4 biliwn. Roedd yn ychydig yn llai na’r un cyfnod yn 2018.

Ar wahân i hynny, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £333 miliwn yn Hydref i Ragfyr 2019. Mae’n uwch nag yn yr un cyfnod yn 2018.

Mae Ffigur 2.4 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Rhagfyr 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Mae nifer y trafodiadau yn ôl y mis y daeth y trafodiadau hynny i rym wedi amrywio'n fawr ers mis Ebrill 2018. Gwelwyd niferoedd uwch yn gyffredinol yn ail hanner 2018, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Tachwedd 2018. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Tachwedd 2018 (Mae Ffigur 10.8 yn adran 10 o'r ein datganiad blynyddol yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener).

Ym mis Mawrth 2019, cafwyd cynnydd ers y mis blaenorol mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn i’w ddisgwyl, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae nifer misol y trafodiadau wedi bod yn weddol sefydlog yn ail hanner 2019.

Mae Ffigur 2.5 yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Rhagfyr 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Fel y gellir disgwyl, mae tueddiadau tebyg i’w gweld yn y dreth oedd yn ddyledus yn fisol ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau.

Fodd bynnag, mae'r gymhariaeth hon yn fwy anwadal wrth ystyried trafodiadau amhreswyl yn unig.

Mae'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus na’r gyfran o nifer y trafodiadau. Mae'r un peth yn wir am y refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Mae swm misol y dreth oedd yn ddyledus ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 yn uwch nag mewn unrhyw fis blaenorol (yn seiliedig ar amcangyfrifon cyntaf).

Sylwer fod nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2019 gyda threth uchel wedi’i hadrodd arnynt heb eu cynnwys ar hyn o bryd. Mae hyn yn goruchaf arbenigol mewn perthynas â thrafodiadau arall yn y mis hynny. Byddwn yn cynnwys y trafodiadau hyn mewn rhifynnau o'r ystadegau hyn yn y dyfodol, unwaith y byddwn ni wedi gwneud gwaith bellach i asesu’r effaith ar y defnyddioldeb o’r set ddata gyfan.

Mae Ffigur 2.6 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Hydref i Ragfyr 2019 yn £3.3 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.6).

Roedd trawsgludo neu drosglwyddo perchenogaeth i gyfrif am y rhan fwyaf o’r trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd yn Hydref i Ragfyr 2019. 94% oedd y ffigur hwn ar gyfer trafodiadau preswyl a 69% ar gyfer trafodiadau amhreswyl

Rhoddwyd les newydd mewn ychydig dros un rhan o bedwar o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer cyfnodau tri-mis blaenorol.

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

 

Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydyn wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Gellir gweld tueddiadau tebyg ar gyfer y bandiau treth o ran nifer y trafodiadau a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae'r rhan fwyaf o'r bandiau treth yn dangos cynyddu o trafodiadau a’r dreth oedd yn ddyledus yn Hydref i Ragfyr (o gymharu â Gorffennaf i Fedi).

Fodd bynnag, mae mwy o ansefydlogrwydd yn y tueddiadau wrth ystyried y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn y bandiau gwerth uwch. Ar gyfer eiddo a brynwyd am fwy na £400,000, y dreth oedd yn ddyledus rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2019 oedd y gwerth chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Roedd hyn hefyd yn wir am eiddo a brynwyd am rhwng £250,000 a £400,000.

Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Hydref i Ragfyr 2019.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Roedd tri ran o bump o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am oddeutu saithed ran o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 5% yn unig o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 35% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn a'r chwarter yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos roedd 1,480 o drafodiadau amhreswyl mewn grym yn Hydref i Ragfyr 2019, gyda threth o £19.9 miliwn yn ddyledus. Mae'r gwerth ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019 hefyd wedi'i ddiwygio am i fyny’n sylweddol ers ei gyhoeddi ddiwethaf. Mae hyn oherwydd bod ychydig o hysbysiadau hwyr i gyfrif am swm mawr o dreth sy'n ddyledus.

Ym mhob cyfnod o dri mis ers Ebrill 2018, mae tua 50% i 70% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob cyfnod o dri mis, mae tua 10% i 30% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Hydref i Ragfyr 2019.

Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Hydref i Ragfyr 2019.

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Hydref i Ragfyr 2019, 6% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 68% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 30% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 14% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

5. Rhyddhadau

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • I sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • Neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol

Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 5.1 yn dangos bod 380 o drafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol yn Hydref i Ragfyr 2019 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Dyma'r nifer chwarterol uchaf a welwyd hyd yma.

Ar gyfartaledd, ym mhob cyfnod o dri mis mae tua 100 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Mae'r enghraifft hon hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Rydyn ni’n disgwyl mwy o addasiadau yn y dyfodol ac felly rydym yn disgwyl diwygio'r eitem olaf hon yn Ffigur 5.1 yn y dyfodol.

Cyn ein datganiad chwarterol nesaf, rydym yn bwriadu dadansoddi'r trafodiadau cysylltiol a’r trafodiadau a gafodd ryddhad arnynt ymhellach. Yn dibynnu ar y canlyniadau, rydym yn gobeithio cynnwys rhywfaint o fanylion amdanynt yn ein ffigurau 5.1 a 5.2.

Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 5.2 yn dangos fod cyfanswm gwerth y rhyddhadau a gafodd eu hawlio yn Hydref i Ragfyr 2019 ar gyfer trafodiadau nad oedd yn drafodiadau cysylltiol yn £10.0 miliwn. Mae hyn yn llai nag yr un cyfnod o dri mis yn 2018.

Ar gyfer pob cyfnod o dri mis rhwng Ebrill a Mehefin 2018, cafodd niferoedd uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Fodd bynnag, ym mhob cyfnod o dri mis ac eithrio un, trafodiadau amhreswyl gyfranodd fwyaf (oddeutu 70% i 90%) i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd.

Mae rhagor o ddata ar ryddhadau, gan gynnwys data chwarterol yn ôl math o ryddhad, ar gael ar StatsCymru drwy'r ddolen uwchod.

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod hyd at a chan gynnwys 20 Ionawr 2020.

Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod 1,370 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19, gyda £10.4 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr. Mae'r gwerthoedd hyn wedi'u diwygio i fyny ers ein datganiad ystadegol blaenorol ym mis Hydref 2019.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd y data hwn ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad). Ond rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Data ychwanegol ar ad-daliadau cyfradd uwch

Ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch yw defnyddio'r dyddiad pan gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo gan yr Awdurdod. Gellir gweld set ddata sy'n defnyddio'r dyddiadau hyn, a dyddiad dod i rym y trafodiad gwreiddiol, ar wefan StatsCymru ar y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, yn Nhabl 6a o'n hystadegau misol a chwarterol.

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

7. Treth a dalwyd

Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fedi 2019.

Yn 2018-19, derbyniodd yr Awdurdod £220.2 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Mae'r ffigurau hyn yn llai na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.2 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i dablau cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd yr Awdurdod gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Y derbyniadau o £30.6 miliwn ym mis Rhagfyr 2019 yw'r ffigur misol uchaf a welwyd hyd yma.

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn edrych yma ar effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Hydref 2019. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 22 Tachwedd 2019, yr ail amcangyfrif ar 20 Rhagfyr 2019 a'r trydydd amcangyfrif ar 30 Ionawr 2020.

Mae Ffigur A1 yn dangos y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, fesul mis dod i rym. Dangosir canrannau ar gyfer y newid yn nifer y trafodiadau a'r newid yn y dreth oedd yn ddyledus.

Mae Ffigur A1 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd yr Awdurdod gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data. Fodd bynnag, mae’r ffigwr o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (10%). Yr esboniad yw nad oedd yr Awdurdod wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill).

Mae Ffigur A1 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod rhwng 0 a 3%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • Mis Mehefin 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus i fyny 9% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif.
     
  • Mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni treth yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at yr Awdurdod dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar y data. Er enghraifft, diwygion ni mwy ar amcangyfrifon mis Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas. Fodd bynnag, nid ydym yn gweld unrhyw batrymau tymhorol amlwg yn y data ar gyfer 2019 hyd yn hyn. Ond, bydd angen i ni gael o leiaf flwyddyn arall o ddata i asesu unrhyw faterion tymhorol sy’n gysylltiedig â’r data.

Gwnaed diwygiad am i lawr i'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus ar gyfer mis Ebrill 2019 (rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail). Cafodd trafodiad amhreswyl a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019 ei nodi'n anghywir fel yn rhy mawr a chafodd ei ddiwygio’n ddiweddarach.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir er mwyn cyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydyn ni’n diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Logo Awdurdod Cyllid Cymru