Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.

Maent yn cynnwys niferau misol ar:

  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus
  • trafodiadau yn ôl math
  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
  • ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch

Sylwer:

  • diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Newidiadau cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19) a newidiadau dilynol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 a 22 Rhagfyr 2020. Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a’r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod gwahanol rannau o 2020-21, gyda chwymp sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n rhannol gan godiadau amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Dylid cofio hyn wrth edrych ar newidiadau rhwng y cyfnodau amser a gynhwysir yma, ac unrhyw ffigurau cyfatebol flwyddyn ynghynt.

Image
Mae siart yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng Ebrill 2019 a Chwefror 2022. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2022.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 89 KB

ODS
89 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 422 KB

ODS
422 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 0300 025 4729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.